CYDAG
ADOLYGIAD O’R IAITH GYMRAEG MEWN ADDYSG A HYFFORDDIANT
TYSTIOLAETH I’R PWYLLGOR ADDYSG A DYSGU GYDOL OES
CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
Un o brif themâu addysg Gymraeg erbyn heddiw ywshift ieithyddol. Hoffem gyfeirio at ddwy wedd ar y shift sydd yn creu paradocs, a hwnnw yn baradocs arswydus o ran dyfodol yr iaith Gymraeg.Ar yr ochr bositif, dros yr hanner can mlynedd diwethaf gwelwyd cynnydd arwyddocaol yn y nifer o ysgolion Cymraeg a dynodedig dwyieithog, ac wrth gwrs yn y nifer o ddisgyblion a addysgir yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe welwch o ystadegau blynyddol CBAC fod y nifer pynciau a arholir trwy gyfrwng y Gymraeg mewn arholiadau allanol hefyd yn tyfu.Prif batrwm yr ysgolion uwchradd cynnar yn y Fflint a Wrecsam oedd addysgu tua hanner y pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg a thua hanner yn Saesneg. Pan agorodd Rhydfelen yn 1962, 'roedd pob pwnc ac eithrio Mathemateg a Gwyddoniaeth trwy’r Gymraeg. Sefydlwyd Ysgol Cwm Rhymni yn y Bargod yn 1981 fel yr ysgol uwchradd gyntaf a addysgai pob pwnc yn Gymraeg. Hon hefyd oedd yr ysgol gyntaf lle 'roedd bron pob disgybl yn dod o gartref di-Gymraeg, 95% ohonynt. Dilynodd nifer o ysgolion newydd ei phatrwm hi, a phob un ohonynt yn y de-ddwyrain. Bellach mae gweddill ysgolion y de-ddwyrain wedi troi neu yn y broses o droi i addysgu pob pwnc yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.Yn yr ardaloedd gorllewinol y gwelir y paradocs: ysgolion uwchradd yn awyddus i addysgu pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, ond nifer o rieni ac o athrawon yn ofnus ac yn betrusgar. Credwn fel cymdeithas fod yr iaith Gymraeg yn mynd i oresgyn, ond bod amodau ar hynny: er enghraifft, rhaid iddi fod yn iaith fyw, ddeinamig, esblygol, a hynny ar gyfer pob agwedd ar fywyd.Yr un pryd ag y mae’r iaith yn ffynnu yn y dwyrain, fe’i gwelir yr edwino yn y gorllewin, yn arbennig y gostyngiad yn y nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg yn naturiol yn eu cymunedau. Yn y gorllewin hefyd gwelir colled arwyddocaol yn y nifer disgyblion sydd yn rhoi’r gorau i’r iaith Gymraeg fel cyfrwng wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r uwchradd. Ni chredwn fod yr ynni a’r aberth personol a amlygwyd yn nwyrain ein gwlad yn medru cael ei ail fyw yn y gorllewin, gan fod gwlad yn gorfod cael
critical masso siaradwyr er mwyn i iaith y lleiafrif oresgyn.
Ni chredwn felly fod brwydr yr iaith wedi’i hennill, a chynigiwn y strategaeth ganynol ar gyfer sicrhau buddugoliaeth. Rydym wedi crynhoi ein syniadau o dan chwe thema:
- Gweithredu cyfle cyfartal
- Cryfhau a datblygu llwyddiannau
- Darparu adnoddau dynol a methodolegol
- Rhesymoli’r ddarpariaeth bresennol
- Ehangu gorwelion
- Sicrhau cyllid er mwyn goresgyn argyfwng
1. Gweithredu cyfle cyfartal
- Sicrhau cyfle cyfartal i’r iaith Gymraeg, boed yn bwnc ar y cwricwlwm, yn gyfrwng addysgu neu yn gyfrwng cyfathrebu beunyddiol i’r holl gymunedau yng Nghymru
- Sicrhau darpariaeth addysg feithrin yn Gymraeg ledled Cymru; hynny yw, ymateb i’r galw cynyddol amdano a dileu’r ddarpariaeth anghyfratal sydd yn bodoli mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd: cyfrwng Saesneg yn unig ar gael
- Sicrhau cyfle cyfartal o ran darpariaeth, boed adeiladau, adnoddau addysgu, dogfennaeth gynhaliol neu offerynnau asesu
- Sicrhau cytundeb rhwng ACCAC a’r byrddau arholi fod pob pwnc a maes galwedigaethol yn cael ei arholi drwy gyfrwng y Gymraeg, gan osgoi’r brwydro blynyddol gan ysgolion ar fater iawnderau sylfaenol disgyblion, athrawon a rhieni yng Nghymru
2. Cryfhau a datblygu llwyddiannau
- Cadw’r Gymraeg yn orfodol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a datblygu modelau cynllunio ac asesu ar gontinwwm ieithyddol
- Cryfhau deddfwriaeth er mwyn rhoi grym go iawn mewn Deddf Iaith a fynnai fod Cynghorau Lleol yn gweithredu eu cynlluniau Addysg Gymraeg. Ar hyn o bryd, gall Cyngor ddadlau nad oedd eu cyllid yn caniatáu gweithredu. Credwn fod hyn yn annerbyniol.
- Hybu dilyniant a pharhâd yn y sector Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer myfyrwyr sydd wedi derbyn eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg, a chesio cymhathu myfyrwyr rhugl eu Cymraeg ynghyd â dysgwyr da a dderbyniodd eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Saesneg, yn llwyr neu yn bennaf
- Gwella safon cyrsiau a threfniadau trosglwyddo athrawon uwchradd Cymraeg eu hiaith o ysgolion cyfrwng Saesneg i ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Hybu ymhellach fentrau iaith
- Hybu ymhellach Gymraeg i Oedolion
3. Darparu adnoddau dynol a methodolegol
- Cydweithio gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru er mwyn gwella’r cyflenwad athrawon: credwn ein bod mewn argyfwng. Er enghraifft, yn y flwyddyn 1999-2000, hyfforddwyd 105 o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion ar gyfer ysgolion uwchradd. Roedd 37 ohonynt ar gyfer y Gymraeg fel pwnc. Dim ond 68 oedd yn weddill ar gyfer yr holl ystod pynciau yn ysgolion uwchradd Cymraeg/ddwyieithog Cymru, ychydig yn fwy nag un athro ar gyfer pob yn o’r 52 ysgol sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- 'Doedd dim un myfyriwr yn Ffiseg, Astudiaethau Busnes na Dylunio a Thechnoleg. Er fod naw ar gyfer Addysg Grefyddol, mae prinder profiad yn y maes: er enghraifft, hysbysebodd un ysgol Gymraeg yn y cymoedd bum gwaith yn ddiweddar am Bennaeth Adran Crefydd.
- Nid oedd arolwg diweddar y Cyngor Addysgu ar gyflenwad athrawon wedi darparu adran ar gyfer cyfrwng Cymraeg, camgymeriad mawr yn ein barn ni.
- Cynyddu’r
deunyddiau addysgu cyfrwng Cymraeg ar draws yr ystod oedran, gallu a mathau o adnoddau. Yn ogystal, credwn fod angen diwygio mecanweithiau ACCAC er mwyn cyflymu’r prosesau adnabod anghenion, golygu ac argraffu. [Gweler ymateb CYDAG i’r
Wlad sy’n Dysgu,
par.2.10] - Datblygu adnoddau Technoleg Gwybodaeth ar frys: diwylliant sy’n tyfu yn gyflym yw TG, a phan nad oes nemor ddim meddalwedd ar gael yn y Gymraeg, gall y ddelwedd angywir ddatblygu drwy awgrymu nad yw hi yn iaith ar gyfer y ganrif newydd. Mae angen buddsoddaid sylweddol yn datblygu meddalwedd.
4. Rhesymoli’r ddarpariaeth bresennol
- Ystyried rhesymoli’r gwasanethau addysg mewn gwlad fechan: llai o gynghorau ac Awdurdodau Addysg Lleol, arfarnu rôl cyrff megis ACCAC, CBAC, BIG ac ESTYN. Credwn fod gennym dalent ar gyfer anghenion Cymru, ond bod cyfrifoldebau gwahanol gyrff yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn gwastraffu adnoddau dynol prin.
- Paratoi yn ganolog gynllun rhagweithiol ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a fyddai’n medru anwybyddu ffiniau cynghorau lleol. Gall twf ysgolion Cymraeg gael ei lesteirio gan anawsterau lleol pan fo prosiectau cyfalaf yn cael eu hystyried gan gynghorau llleol. Credwn y dylid clustnodi cyllid yn ganolog ar gyfr ehangu’r rhwydwaith o ysgolion Cymraeg.
- Datblygu strategaeth mewn cydweithrediad ag ELWa ar gyfer dysgu ac addysgu gydol oes, a gofalu fod tactegau cydweithio a rhesymoli a dysgu o hirbell yn cyd-fynd â strategaeth hybu addysg gyflawn disgyblion a myfyrwyr
- Mabwysiadu broceriaeth neu wasanaeth cenedlaethol i gynnal athrawon cyfrwng Cymraeg ar lawr yr ystafell ddosbarth. Ar hyn o bryd, nid yw llawer o athrawon ysgolion cyfrwng Cymraeg yn derbyn cynhaliaeth yn yr iaith.
5. Ehangu gorwelion
- Cyfeirio canolog o ran datblygu addysg Gymraeg, gan sicrhau fod datblygiadau y tymor byr, y tymor canol a’r tymor hir yn ategu ei gilydd ac yn gydlynus.
- Trefnu yn ganolog astudiaeth ac arfarniad o batrymau ysgolion dwyieithog gwledydd eraill
- Sicrhau cyhoeddusrwydd effeithiol i fanteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, a datblygu’r ddelwedd mai dwyieithrwydd, nid unieithrwydd yw’r norm byd-eang
- Creu
seiat ddoethion [
think-tank
] ieithyddol, ac iddi statws cenedlaethol o’r radd flaenaf. Y syniad yw casgliad o feddylwyr heb faglau stadud gwlad a chyllid, ond blaengynllunwyr ar gyfer yr hir dymor. Medrai deilliannau o’r grwp hwn arwain at feddwl cyd-lynus, cynllunio cyd-lynus a gweithredu cydlynus. Eisoes daw addysgwyr a gwleidyddion lluosog o wledydd ar draws y byd i weld ein gwaith ni yn yr ysgolion Cymraeg. Dylem adeiladu ar y llwyddiant cynnar hyn. - Creu modelau damcaniaethol yn y man cyntaf ar gyfer dysgu Cymraeg i hwyr ddyfodiaid, ac yna eu treialu mewn nifer bychan o ysgolion. Er enghraifft, gweithio ar fodel trochiad iaith ddechrau Blwyddyn 6, ar gyfer trosglwyddo i ysgol uwchradd Gymraeg y flwyddyn ganlynol.
- Sefydlu
adran sylweddol, hwyrach yn y Brifysgol, wedi’i modelu ar yr
Académie française
, er mwyn bathu termau technegol a geirfa bob dydd, a’u cylchredeg drwy ddulliau electronig a phapur. Mae tîm bychan o academyddion ym Mangor yn gweithio yn y maes hwn, ac mae hynny yn ddechrau addawol; mae’r sialens yn hawlio rhagor o adnoddau.
Sicrhau cyllid er mwyn goresgyn argyfwng
- Gosod cynllunio hir-dymor y tu mewn i baramedrau cyllidol, er mwyn hyrwyddo datblygu realistig, gwerth-am-arian, a rhoi gwell cyfle i benaethiaid a Llywodraethwyr a’r Cynghorau Lleol i ganolbwyntio fwy ar safonau dysgu ac addysgu
- Gwneud y gyfundrefn gyllidol yn dryloyw, er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau ymenyddol yn dadlau uwchben y mater
- Ystyried
cynyddu cyflog sylfaenol athrawon yn sylweddol er mwyn osgoi’r argyfwng staffio presennol. Mae enghreifftiau o
mis-match
yn cuddio ystadegau anghyfforddus yn ysgolion Cymru ar hyn o bryd. Hynny yw, nid yw’r ystadegyn sydd yn dangos y nifer o swyddi heb eu llenwi yn rhoi’r darlun cywir. - Ystyried cynnig lwfans prifddinas i athrawon ar batrwm Llundain a de-ddwyrain Lloegr, gan fod prisiau tai yng Nghaerdydd yn codi ymhlith y cyflymaf yn y DU
- Cynyddu yn sylweddol y gwariant ar addysg yng Nghymru
CloiCredwn fod yn rhaid datblygu ar sawl ffrynt yr un pryd: y weledigaeth fawr, y continwwm iaith, y modelau gwahanol, yr adnoddau, a’r cyllid priodol. Yn aml bydd datblygu yn cael ei lesteirio gan y galw am flaenoriaethu. Ffordd wag ymlaen fyddai anwybyddu unrhyw un o’r camau a nodwyd gennym, gan fod pob un ohonynt yn gyd-ddibynol.Yn ein barn ni, mae’r iaith Gymraeg, er yn ffynnu, eto i gyd mewn argyfwng. A dyna’r paradocs.Ni allwn laesu dwylo.
Atodwn gopi o ymateb y Gymdeithas i’r Ddogfen Y Wlad sy’n Dysgu. Hoffem pe baech yn cyfeirio at Adran 3, Cyfle Cyfartal, ac Adran 4, Cydweithio.WAG-Dyfodol y Gymraeg
