Cyfraniad CYDAG i drafodaeth Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad ar ei Bolisi Addysg Gymraeg

7 Chwefror 2002

Croesawn y cyfle hwn i fynegi ein sylwadau i’r pwyllgor dylanwadol hwn. Mae’r egwyddor sylfaenol o ddaparu cyfle i bawb yng Nghymru i fod yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ganolog i’r pwyllgor hwn fel ag y mae i CYDAG a’i haelodau. Yn yr un modd, rydyn ni’n coleddu y ddau brif ddimensiwn:
  • ceisio gwella hyfedredd siaradwyr yn y ddwy iaith;
  • meithrin ymwybyddiaeth o gyfraniad dwyieithrwydd yn y broses o godi safonau.
Mae’r cyfraniad hwn yn canolbwyntio ar faterion sy’n codi o’ch papur chi.

Y Continwwm Iaith a Hyfedredd Dwyieithog

Fel y gwelir mewn sawl agwedd o’r sylwadau sy’n dilyn, mae’r ffaith bod y Gymraeg yn cael ei hystyried fel 'ail-iaith’ mewn ambell sefyllfa, ac fel 'iaith gyntaf’ dro arall yn gyfrwng i gymylu llawer mater. Mae’r ffaith bod yr iaith yn bwnc sylfaen yn mwyafrif ysgolion Cymru, ac yn bwnc craidd yn yr ysgolion Cymraeg neu Dwyieithog hefyd yn ffactor sy’n drysu’r darlun.Bellach mae angen adolygu’r trefniadau cwricwlaidd ac asesu o safbwynt y Gymraeg. Dylid edrych unwaith eto ar ryngberthynas y rhaglenni astudio ar gyfer dysgu Cymraeg fel ail iaith a iaith gyntaf. Dylid gwir fynd i’r afael â’r continwwm ieithyddol sy’n rhychwantu’r rhaglenni hyn, y profiadau iaith a gaiff plant, a’r ystod o gyrhaeddiad a gyflawnir gan blant. Mae angen sicrhau datblygiad pellach ar sail y llwyddiannau a’r buddsoddiad a wnaed hyd yn hyn.Hefyd, dylid ar fyrder, mynd i’r afael a datblygu dulliau asesu deuol a fyddai’n mesur cyrhaeddiad plentyn ar raddfa ail iaith a’i gyrhaeddiad cyfatebol ar y raddfa iaith gyntaf. Cynigir y gellid ffocysu ar gyrhaeddiad o ganol yr ystod cyrhaeddiad ail iaith i fyny.

Llythrennedd Ddeuol

Yn y blynyddoedd diweddar, cafodd y sgiliau uwch o drawsieithu eu cydnabod fel sgiliau sydd angen eu cydnabod a’u datblygu. Mae llawer o bobl sy’n gweithio mewn cyd-destun dwyieithog yn arfer y sgiliau hyn bron heb feddwl, ac eto mae tystiolaeth gynyddol bod y sgiliau hyn yn gallu bod yn gyfrwng i ddyfnhau dealltwriaeth yr unigolyn. Credwn bod angen datblygu’r agwedd hon o addysgu o fewn ein hysgolion. Yn hyn o beth mae angen cydnabod sgiliau dwyieithrwydd ym mhob maes addysgol, gan gynnwys y sgiliau allweddol cyfathrebu yn benodol.

 

Normaleiddio Iaith / Iaith yn y Gymuned

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, daeth y Mentrau Iaith yn sefydliadau llawer mwy amlwg a niferus yng Nghymru. Mae iddynt sawl swyddogaeth, ond mae 'normaleiddio’r’ Gymraeg yn rhan sylfaenol i bob un ohonynt. Ystyr hyn yw gwreiddio’r iaith yn y gymuned y mae ein plant a’n pobl ifanc yn rhan ohoni. Yn ardaloedd mwyaf seisnigedig ein gwlad mae hyn yn gryn her, ond yn her y mae’n rhaid ei hwynebu, trwy godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sy’n bodoli i arfer a dysgu’r iaith, yn ogystal â hysbysebu’r syniad bod dwyieithrwydd yn fantais ym myd addysg ac ym myd gwaith. 

Addysg dan 5:

Mae CYDAG yn llawenhau yn y twf sydd wedi bod ym maes Addysg Dan 5 drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Trwy weithio ar y cyd gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin mae cyfle i blentyn dderbyn addysg Feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ardal o Gymru.Yn y blynyddoedd diweddaraf gwelsom dwf yn narparthiaeth Addysg Feithrin gan yr Awdurdodau lleol. Mae hyn i'w groesawu. Yn anffodus, rydym nawr mewn sefyllfa lle na fedr yr Ysgolion Cymraeg ddiwallu'r gofyn am y ddarpariaeth yma. Nid oes cyfle cyfartal yn bodoli ym mhob rhan o Gymru. Ceir sefyllfaoedd lle mae darpariaeth Addysg Feithrin ar gael gan yr Awdurdodau drwy gyfrwng y Saesneg, a heb fod ar gael yn Gymraeg. Y dewis i rieni yw Addysg Feithrin Saesneg yn rhad ac am ddim, neu dalu am Addysg Feithrin Gymraeg rhan amser. Ni all hwn fod yn deg. Mae'r Cynulliad wedi codi'r ymwybyddiaeth o bwysigrwydd addysg ddwy-ieithog - rhaid nawr sicrhau'r ddarpariaeth honno i'r rhai sy'n dymuno. 

Addysg 5 i 16

Mae patrymau amrywiol iawn yn perthyn i ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog ar draws Cymru. Mae’r ddarpariaeth yn aml yn adlewyrchu natur y cymunedau lle y lleolir yr ysgolion yn ogystal â phroffil ieithyddol yr ardal. Amrywia’r ddarpariaeth o’r ysgolion cynradd 'naturiol Gymraeg’, dau athro yng nghefn gwlad y Gorllewin a’r Gogledd, i ysgolion trefol a dinesig mawr, lle gall fod dros 90% o’r disgyblion yn dod o aelwydydd lle mai Saesneg yw’r cyfrwng. Rhwng y ddau eithaf hwn mae pob cyfuniad y gellir ei ddychmygu. Yr amrywiaeth hwn yw cryfder y drefn i raddau mawr, ond mae agweddau o’r gwasanaeth sydd angen eu cryfhau, a hynny’n fater brys mewn sawl cyfeiriad.

Colli Tir wrth symud o CA2 i CA3

Yn naturiol mae’r colli tir hwn yn bryder. Gan mai’r ysgolion Cymraeg yw prif arf y Cynulliad i ddysgu a hyrwyddo’r iaith, mae’n ofid cynyddol i lawer o aelodau CYDAG. Mae’n ofid hefyd bod cynifer o ddisgyblion ac/neu eu rhieni yn dewis mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn CA3 ar ôl i’r disgyblion dreulio eu blynyddoedd cynradd yn dysgu Cymraeg, ac yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi trosglwydd i’r ysgol Saesneg ei chyfrwng, go brin y bydd darpariaeth i gynnal safon y Gymraeg yn CA3. Dyma un sefyllfa, ac efallai yr unig sefyllfa yn y gyfundrefn addysg statudol, lle mae’r gyfundrefn honno yn cefnogi gostwng safonau. Yn ychwanegol at hyn, nid yw’r gostyngiad hwn mor amlwg oherwydd y rhaniad Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith. Credwn y gall AALl wneud llawer mwy i sicrhau nad yw’r symudiadau hyn yn digwydd heb i rieni ddeall y medrai safon gwaith eu plentyn yn y Gymraeg ddioddef. Yma, yn wir, mae angen 'meithrin ymwybyddiaeth o gyfraniad dwyieithrwydd yn y broses o godi safonau’.Ar y llaw arall, os ydym am wireddu gweledigaeth y Cynulliad, dylid sicrhau, trwy’r Gorchymyn ar gyfer y Gymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, bod yn rhaid i blentyn a astudiodd y rhaglen astudio iaith gyntaf yng Nghyfnod Allweddol 2 barhau i astudio’r rhaglen iaith gyntaf yn y sector uwchradd. Dylid sicrhau bod ysgolion uwchradd yn gorfod darparu ar gyfer hynny.

Colli tir CA4 ac ar ôl 16.

Mae ystadegau Bwrdd yr Iaith Gymraeg (BIG) yn dangos yn glir bod colli tir pellach wrth i ddisgyblion symud o CA3 i CA4, ac wedyn wrth iddynt symud i addysg ôl 16, boed hynny mewn chweched dosbarth ysgolion, colegau Addysg Bellach, neu drwy asiantaethau hyfforddi eraill. Mae’r diffyg cyfle mewn Addysg Uwch yn bryder ychwanegol. Mae’n hanfodol bod y Cynulliad ac ELWa yn sicrhau pob cefnogaeth, o ran egwyddor ac adnoddau, i ysgolion a cholegau sy’n darparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ôl 16. Yn yr un modd rhaid ysgogi rhagor o sefydliadau i gynnig cyrsiau cyfrwng Cymraeg. 

Ehangu’r Ddarpariaeth / Hwyr Ddyfodiaid

Dywed papur safiad y Cynulliad ar Addysg Cyrfwng Cymraeg bod gwersi i’w dysgu o brofiadau’r 'Model Ffrangeg Craidd Dwys’. Ar y llaw arall, mae profiad helaeth yn y Gogledd Ddwyrain o ddarparu ar gyfer disgyblion sy’n dymuno newid i’r sector Cyfrwng Cymraeg yn 11 oed. Dros 25 o flynyddoedd, gall Ysgol Maes Garmon yn benodol hawlio iddi fynd â dros mil o blant trwy ddarpariaeth debyg. Mae ein ffigyrau presennol yn amrywio rhwng 10 ac 20 yn flynyddol - a’r pryder mwyaf yw nad yw pob rhiant yn sylweddoli bod y ddarpariaeath unigryw hon ar gael i’w plant. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg (BIG) wedi cydnabod llwyddiant y cynllun hwn trwy gynnwys yr athro a fu’n gyfrifol am y cwrs hwn dros y pymtheg mlynedd diwethaf ar eu panel ymgynghorol. Gwnaed gwaith ymchwil pwysig a dadlennol gan Cen Williams, CPGC, Bangor. Er gall yr 'Model Ffrangeg Craidd Dwys’ gynnig gwersi defnyddiol, rwy’n siwr, ni ddylid diystyru profiad athrawon a disgyblion Cymru! Croesawn y bwriad i sefydlu peilot a fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion tua diwedd Blwyddyn 6 i gael gwersi dwys i’w paratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. 

Addysg ôl-16

Wedi sefydlu’r consortia lleol (CCET) a’r Cyngor Cenedlaethol (ELWa), bu CYDAG yn pwyso am Gonsortiwm Rhithiol lle byddai’r elfennau cyfrwng Cymraeg yn cael sylw. Yn anffodus, ni ddatblygwyd hwn hyd yma, er bod sefydlu Sgiliaith yn gam i’r cyfeiriad cywir. Serch hyn, y peryg yw y bydd y ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn mynd yn angof o fewn rhai CCETs. O sefydlu CCET rhithiol Cyfrwng Cymraeg i wasanaethu Cymru gyfan, gellir rhwydweithio ar draws holl sefydliadau Cyfrwng Cymraeg. Mae’r weledigaeth a’r arbenigedd gennym yn CYDAG i hyrwyddo cyd-weithio o’r fath. Yr angen mawr yw i greu swyddi i wasanaethu’r weledigaeth hon. 

Anghenion Addysgol Arbennig

Mae sawl mater o bwys yma:
  • Bu achosion o seicolegwyr addysg yn dadlau bod disgyblion sydd â phroblemau iaith (megis sillafu, ysgrifennu, darllen) yn cael anawsterau penodol mewn addysg cyfrwng Cymraeg gan ei fod yn ail iaith iddynt. Yr argymhelliad sy’n dilyn hyn, yn aml, yw y byddai’n well i’r disgyblion hyn ddilyn cwrs addysg cyfrwng Saesneg. Ein safbwynt ni yw y dylid cydnabod eu anawsterau fel anghenion addysgol arbennig (AAA), gan sicrhau’r adnoddau priodol i’r ysgol allu ymateb i’r angen hwnnw.

    Mae sawl maes arall yn achos pryder:
  • Mae prinder affwysol o arbenigwyr sy’n cefnogi’r gwasanaeth AAA - seicolegwyr (a phrinder cyfle i’w hyfforddi yng Nghymru - Caerdydd yw’r unig leoliad, a dim ond tua 20 lle sydd ar gyfer yr holl fyfyrwyr fyddai am wneud cais); therapyddion lleferydd, seiciatryddion plant, athrawon cefnogi ymddygiad, swyddogion sir sy’n gweithio yn y maes, ymgynghorwyr.
  • Mae prinder adnoddau i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg teilwng ar gyfer disgyblion sydd â diffygion clyw a golwg.
  • Mae diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg i blant sydd ag anghenion arbennig oherwydd eu hymddygiad.
Nid mater hawdd yw ymateb i’r diffygion hyn. Serch hynny, hoffem weld y Cynulliad, a’r AALl, yn chwilio am ddatrysiadau creadigol. Un ystyriaeth fyddai sicrhau mwy o hyblygrwydd i arbenigwyr weithio ar draws ffiniau sirol ac ardal.Mae angen rhagor o adnoddau, rhagor o gyfleoedd i hyfforddi ac ail-hyfforddi, a chymhelliad positif i sicrhau bod ein pobl ifanc yn dewis aros yng Nghymru i fanteisio ar eu gallu i siarad yr iaith. 

Recriwtio Athrawon, Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol

Fel y gwyddom, mae prinder cyffredinol o athrawon. Gymaint mwy yw’r anawsterau wrth chwilio am athrawon cyfrwng Cymraeg. Gwyddom oll am enghreifftiau lle mai dim ond un ymgeisydd sydd ar gyfer swydd, ac enghreifftiau eraill lle na cheir ymateb o gwbl. Yn ychwanegol at hyn, mae athrawon llanw yn hynod o brin, ac mae’n amhosib bron cael athrawon sy’n gallu llenwi bwlch yn bynciol. Yn ein hysgolion Saesneg eu cyfrwng, mae prinder athrawon ail-iaith Gymraeg yn bryder mawr, ac yn llesteirio addysgu da yn yr ysgolion hynny.Does dim ateb hawdd i hyn, ond mae angen chwilio am bob cyfle i annog ein graddedigion ifanc i ystyried dysgu fel gyrfa gwerth chweil. Mae angen hyn ar draws Cymru a Lloegr, ond gymaint mwy felly trwy gyfrwng y Gymraeg.

Hyfforddi Athrawon

Dros y blynyddoedd diweddar, bu i CYDAG gynnig sawl cwrs i’r sector uwchradd, a nifer llai, ond nifer cynyddol o gyrsiau i’r cynradd. Daw’r cyrsiau hyn o ofynion ysgolion am gyfleoedd gwirioneddol i drafod meysydd penodol o fewn cyd-destun ysgolion Cymraeg a Dwyieithog. Yn wir, mae CYDAG weid llwyddo’n wych i lenwi bylchau oedd yn bod, gan sicrhau rhwydwaith proffesiynol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Mae llawer o waith i’w wneud eto i gynnwys pob ysgol yn y cyrsiau hyn, ond mae’r mwyafrif yn mynychu cyrsiau HMS CYDAG, ac mae ymateb cadarnhaol i’w cynnwys a’u gwerth.

Cefnogaeth i Ysgolion

Amrywiol iawn yw gallu darparwyr gwasanaethau i ysgolion i gynnig darpariaeth Cymraeg. Mae hyn ar sawl lefel, o’r Cyfarwyddwr Addysg i’r swyddogion addysg, o’r gwasanaeth seicolegol i gefnogaeth cwricwlaidd. Credwn bod angen meddwl yn ehangach ac yn fwy creadigol am y materion hyn, a gweld i’r graddau y gall sefydliadau fel CYDAG gynnig gwasanaethau ar draws Cymru.Eisoes dangosodd Estyn ddiddordeb yn y cysyniad o asiantaeth Cymru gyfan i wasanaethu a chefnogi anghenion y sector Cymraeg a Dwyieithog.

Adnoddau

Mae ar y gwasanaeth addysg angen parhaus am adnoddau. Yn benodol, mae’r angen am werslyfrau a thaflenni gwaith yn ddiddiwedd, a hynny oherwydd bod anghenion y gwasanaeth mewn cyflwr o newid parhaus. Yn ystod y cyfnod presennol, rydym yn wynebu newidiadau sylfaenol mewn cyrsiau ôl-16, ac mae angen ar bob un ohonynt hwy am adnoddau cyfredol. Mae meysydd llafur TGAU yn newid ar hyn o bryd, ac mae gwybodaeth bellach gymaint mwy hygyrch trwy ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth a’r rhyngrwyd. ACCAC yw’r corff cenedlaethol sydd yn gyfrifol am sicrhau adnoddau i ysgolion. Mae gweithdrefnau ACCAC yn boenus o araf yn cynhyrchu ac yn cyfieithu. Ar y llaw arall, mae ansawdd yr adnoddau yn aml o’r radd flaenaf. Serch hyn, mae datblygiadau technolegol yn camu ymlaen, ac adnoddau Cymraeg yn cael eu dal yn ôl. Mae angen
  • rhyddhau deunyddiau addysgol Saesneg o’u hawlfraint i bwrpas (anfasnachol) sicrhau adnoddau Cymraeg, a dewis o adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • datblygu adnoddau TGCh trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • sicrhau bod ACCAC yn datblygu gweithdrefnu mwy effeithlon er mwyn sicrhau adnoddau cyfrwng Cymraeg mor fuan â bo modd.
Nid ydym am fod yn afresymol, gan hawlio y dylai holl gynnwys Saesneg y rhyngrwyd gael ei gyfieithu i’r Gymraeg. Byddai hynny’n wirion! Yn wir, credwn bod manteision o gael adnoddau eang yn Saesneg yn unig, gan bod hyn yn cryfhau gafael dwyieithog ein plant a’n pobl ifanc ar y maes astudiaeth. Wrth iddynt wisgo het asesu eu cyfrifoldeb, galwn ar ACCAC i gydnabod sgiliau uwch y disgybl dwyieithog sy’n gallu defnyddio deunyddiau o un iaith (Saesneg fel arfer) i ymateb trwy gyfrwng yr iaith arall - sgiliau trawsieithu a llythrennedd deuol. Byddwn yn edrych ymlaen gyda diddordeb mawr i weld arweiniad Estyn ar y maes hwn. Cawsom ragflas eisoes, ac mae’n ddogfen dylai fod yn ddylanwadol ar bob un o’n hysgolion wrth i’r agenda dwyieithrwydd fynd rhagddo.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help