Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes

Adolygiad o’r Iaith Gymraeg: Ymateb S4C

1. Cyflwyniad 1.1 Mae’r papur hwn yn cyflwyno ymateb S4C i’r adolygiad o’r iaith Gymraeg sy’n cael ei gynnal gan Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad. Mae’n ceisio adeiladu ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod 2001 mewn ymateb i’r adolygiad cyffelyb sy’n cael ei ymgymryd gan y Pwyllgor Diwylliant. Tynnodd y dystiolaeth flaenorol sylw at y cyfraniad y mae teledu Cymraeg yn ei wneud dros ystod eang o bolisïau sy’n cefnogi’r iaith. Y rôl bwerus y mae teledu yn gallu ei wneud i gefnogi’r holl sectorau addysg yw un o’r pwysicaf. Cred S4C y gall, trwy weithio mewn partneriaeth, wneud cyfraniad hyd yn oed mwy pwerus yn y dyfodol. 2. Cyfraniad S4C2.1 Prif gyfrifoldeb S4C yw cyflawni mor effeithiol ag y bo modd ei orchwyl fel darlledwr cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ddarlledu ystod eang o raglenni teledu o safon uchel gyda’r diben o addysgu, hysbysu a diddanu. Wrth gyflawni’r dyletswydd hwn mae S4C yn ymwybodol, fodd bynnag, o’r cyfraniad sylweddol iawn mae teledu yn ei wneud i gefnogi polisïau ehangach y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer hyrwyddo ac atgyfnerthu’r iaith Gymraeg. 2.2 Mae’r buddiannau ehangach y mae teledu yn cyflwyno i’r byd addysg yn cynnwys: (i) yr hyn mae’n ei olygu ar gyfer statws yr iaith yn gyffredinol, ac ar gyfer canfyddiad pobl ifanc o’r iaith yn benodol, fod y Gymraeg yn agwedd flaenllaw a sefydlog yn y cyfrwng cryfaf sïwr o fod ym mywyd pob dydd pobl. Mae presenoldeb S4C ar bob un o’r llwyfannau digidol yn cynnig y gobaith y bydd gwasanaeth estynedig yn dod â mwy fyth o fuddiannau yn y dyfodol.(ii) mae gwasanaeth isdeitlo S4C yn darparu ffordd bwysig i mewn i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig i’r di-Gymraeg a’r rheiny sydd â diddordeb mewn dysgu’r iaith. I lawer o bobl, teledu Cymraeg fydd eu prif os nad eu hunig gyfle i glywed yr iaith Gymraeg. Mae nifer cynyddol y di-Gymraeg sy’n mwynhau rhaglenni Cymraeg yn galondid i S4C. Yn ystod wythnos arferol bydd mwy nag 700,000 o bobl yng Nghymru yn gwylio o leiaf rhan o’n gwasanaeth. Mae S4C hefyd yn gallu cael ei derbyn gan ryw 60,000 o unigolion tu allan i Gymru.(iii) mae teledu hefyd yn gwneud cyfraniad economaidd pwysig. Mae rhyw 85% o wariant S4C ar raglenni yn cael ei wario yng Nghymru a 41% yn yr ardaloedd Amcan 1. Dangosodd adroddiad diweddar Uned Ymchwil Economi Cymru fod S4C yn gyfrifol am ryw 2,000 o swyddi’n gyfan gwbl. Mae canran sylweddol o’r swyddi sgiliau uchel wedi’u lleoli yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith draddodiadol. Mae teledu Cymraeg, felly, yn un o’r enghreifftiau gorau o ddiwydiant lle gall pobl ifanc gyda’r sgiliau gofynnol ddilyn eu gyrfâu trwy gyfrwng y Gymraeg.2.3 Er hynny, o bersbectif adolygiad presennol y Pwyllgor, y mae’n fwy defnyddiol efallai i ganolbwyntio ar effaith uniongyrchol teledu ar addysg Gymraeg. Mae rhaglenni S4C ar hyn o bryd yn cynnig buddiannau mewn perthynas â phlant ac oedolion: (i) mae ein rhaglenni cyn-ysgol yn cynrychioli adnodd pwysig ar gyfer rhieni di-Gymraeg sy’n ceisio cyflwyno’r iaith i’w plant gartref. Mae’r rhaglenni ar gyfer plant yr oed yma hefyd yn cynnig adnodd gwerthfawr sy’n cefnogi ac yn atgyfnerthu’r syniad o ddysgu trwy chwarae mewn nifer o sefyllfaoedd blynyddoedd cynnar. (ii) ar gyfer yr oedran 5-16 mae rhaglenni sy’n fywiog a llawn dychymyg yn gallu ychwanegu at ymdrechion ysgolion ac athrawon i ddysgu’r iaith. Fel y mae’r rhwydwaith 'ICT’ sydd ar gael mewn ysgolion yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, gall ddatblygu deunydd rhyngweithiol, sydd o bosib yn cynnwys cymeriadau teledu adnabyddus sy’n gallu cael eu cyflwyno dros rwydweithiau bandlydan, cynnig adnodd pwerus newydd i gefnogi athrawon. Bydd gan yr adnoddau rhyngweithio newydd hyn rôl cefnogi dysgu’r Gymraeg ac mewn perthynas â’r holl bynciau sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. (iii) rydym yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant y fenter Welsh in a Week a lansiwyd yn ystod 2001. Mae Now You’re Talking, a’r cyfresi a ddatblygwyd yn flaenorol ar y cyd gyda Acen eisoes wedi dangos pa mor effeithiol yw teledu fel cyfrwng i gynorthwyo oedolion i ddysgu Cymraeg. Yr hyn y mae Welsh in a Week wedi tanlinellu yw bod gan teledu hefyd rhan i’w chwarae wrth greu diddordeb mewn dysgu o’r cychwyn cyntaf. Mae S4C yn anelu at adeiladu ar lwyddiant y llynedd yn ystod 2002.(iv) mae potensial gan deledu digidol i chwarae rôl bwerus wrth gefnogi polisïau dysgu gydol oes ehangach y Cynulliad Cenedlaethol. Mae ein profiad gyda’r Coleg Digidol, er hynny, yn dangos y bydd cyfraniad teledu yn debyg o gael ei gyfyngu i’r meysydd lle y mae gan y colegau agenda ar y cyd. Os yw datblygiad pecynnau dysgu o safon uchel a deunydd cwricwlwm eraill yn rhan o’r agenda dysgu yng Nghymru, cred S4C fod y Coleg Digidol yn fodel sy’n cynnig modd i sicrhau bod y fath gynnwys ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Yr hyn sydd hefyd yn glir yw y bydd cynnwys o safon uchel dim ond yn cael ei gynhyrchu os yw arian digonol yn cael ei glustnodi ar gyfer y pwrpas hwn. 2.4 Mae rhaglenni S4C yn cynnig adnodd dysgu gwerthfawr felly. Er hynny, gan bod y rhaglenni hynny yn gallu cael eu cynnig mewn fformat digidol, rydym hefyd yn ymwybodol y gallent adlewyrchu ffynhonnell o ddeunydd craidd gwerthfawr y gellid ei hail-becynu yn y dyfodol i ddarparu adnoddau dysgu o fath newydd. Mae S4C yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill i archwilio’r posibiliadau hyn yn y dyfodol.2.5 Wrth dynnu sylw at y cyfraniad gwerthfawr y mae teledu Cymraeg yn gallu ei wneud wrth gefnogi dysgu, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc, cred S4C ei bod hi’n holl bwysig i bwysleisio mai’r elfen hanfodol yn ein cyfraniad yw taw nid cyfrwng addysg ydym, ac nid ydym yn cael ein gweld fel hynny chwaith. Nid adnodd ar gyfer dysgu iaith yw rhaglenni S4C. Yn gyntaf oll, maent yn adlewyrchu’r ffaith mai cyfrwng creadigol yw teledu sy’n ceisio diddanu (yn ogystal ag addysgu a chynnig gwybodaeth). I’r graddau fod gan rhaglenni S4C gwerth addysgiadol, felly, rhan health o’r gwerth hynny yw’r ffaith eu bod yn diddanu ac yn hwyl i’w gwylio. Tra efallai fod yna gyfle mwy eang i weithio’n agosach gyda’r sustem addysg, mae’n hanfodol nad yw’r agwedd nodweddiadol hyn o’n cyfraniad yn cael ei golli. Ffordd arall, y peryg yw y gall teledu Cymraeg gael ei weld fel gwasanaeth clodwiw o natur Y Brifysgol Agored, yn hytrach na chyfrwng dychmygol hanfodol sy’n adlewyrchu agweddau mwy cyfoesol, awchus y diwylliant Cymreig.3. Edrych i’r Dyfodol  3.1 Mae ein sylwadau olaf yn berthnasol i’r cyfraniad y mae S4C yn credu bod addysg yn gallu gwneud at barhad ei llwyddiant. Mae teledu yn rhoi pob arwydd y bydd yn parhau fel y cyfrwng grymus sydd wedi datblygu dros yr 50 mlynedd diwethaf. Credwn ein bod wedi llwyddo, ar y cyd â’r BBC ac eraill, i sicrhau fod grym teledu yn ymestyn i ddarlledu yn y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Mae S4C yn credu hefyd, hyd y gellir rhagweld, y bydd gan deledu Cymraeg ran bwysicach fyth i’w chwarae o ran cefnogi’r iaith Gymraeg. Tra bo cymunedau Cymraeg eu hiaith draddodiadol yn dal o dan fygythiad bydd gallu’r teledu gorau i dynnu pobl ynghyd, yn enwedig gyda chefnogaeth cyfryngau rhyngweithiol newydd, yn dod yn fwy, yn hytrach nag yn llai, pwysig. Ond bydd yr her o gyflwyno ein gwasanaeth craidd yn tyfu fwy fyth fel y bydd darlledu yn mynd yn fwyfwy cystadleuol, gyda nifer y sianelau Saesneg yn ehangu o hyd. Gyda’r buddsoddiad angenrheidiol, mae S4C yn hyderus fod ganddi’r strategaeth gywir ar gyfer amgylchedd aml-sianel. Ond bydd ei llwyddiant yn rhannol ddibynnol ar lif parhaol o dalent ac ar gryfder creadigol y cwmnïau sy’n cyflenwi rhaglenni. 3.2 Mae sylwadau pellach S4C mewn ymateb i adolygiad y Pwyllgor Diwylliant, yn cael eu cyfeirio’n benodol at y cyfraniad rydym yn credu fod rhaid i’r system addysg a hyfforddiant ei wneud er mwyn ein galluogi i ymateb i’r her yma ac er mwyn sicrhau bod yna gyflenwad digonol o dalent greadigol ifanc y gallwn alw arno. Os yw teledu i barhau i fod yn arf pwerus sy’n gallu cefnogi’r iaith Gymraeg, cred S4C:((i) y dylai’r angen i ganiatáu i bobl ifanc fynegi a datblygu eu dawn greadigol yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg fod yn elfen fwy pwysig byth o bolisïau addysg y Cynulliad Cenedlaethol. Dylid anelu at feithrin ystod eang o weithgareddau creadigol a diwylliannol yn y ddwy iaith. Gall y rhain gynnwys ymestyn y cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a pherfformio; cynnal ac ehangu, y cyfleoedd yn ystod ac o amgylch ein gwyliau ac eisteddfodau cenedlaethol; a gwneud mwy o ddefnydd bwrsariaethau a chymhellion eraill sy’n cael eu darparu gan Gyngor y Celfyddydau, Cyrff Lotri ac eraill;(ii) y dylai anghenion sgiliau y diwydiannau clyweledol a chreadigol yng Nghymru fod yn brif flaenoriaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru. Mae’r sectorau hyn eisoes yn elwa o fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol. Maent yn sectorau sy’n cefnogi’r iaith ac sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr i bobl ifanc gyda sgiliau dwyieithog. Er mwyn i hyn gael ei gryfhau ymhellach, dylai’r Cynulliad Cenedlaethol adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi cychwyn sy’n cynnwys ELWa a Skillset Cymru (y corff cyflogaeth ar gyfer y sector clyweledol) i sicrhau bod y buddsoddiad hyn yn cael ei dargedu er mwyn sicrhau’r effaith economaidd fwyaf.(iii) cred S4C hefyd dylai polisïau addysg y Cynulliad roi pwyslais cynyddol ar ddatblygu cynnwys a sgiliau mewn perthynas ag agweddau Cymraeg y cyfryngau electronig newydd. Dylai hyn gynnig buddiannau i’r iaith ac i’r economi Cymreig. Rydym eisoes wedi gweld sut y mae ychwanegu gwasanaethau rhyngweithiol newydd i gefnogi rhaglenni yn gallu cyfoethogi profiad gwylwyr a gwella ar allu teledu i weithredu mewn cefnogaeth i’r iaith Gymraeg. Mae datblygiad gwasanaethau bandlydan newydd yn y dyfodol yn debygol o ddod â buddiannau gwell byth. Fel rydym wedi gweld yn natblygiad teledu a chyn hynny mewn radio, fe fydd y rhain, er hynny, yn ddibynnol ar sicrhau bod Cymru a’r Gymraeg yn sicrhau modd cynaliadwy o ddatblygu cynnwys ar gyfer y cyfryngau newydd. Mae hyn yn ei dro yn gofyn bod camau cynnar yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn berchen ar y sgiliau technegol a chreadigol angenrheidiol a bod pob cyfle yn cael ei roi iddynt i ddatblygu’r cynnwys yma yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.  S4CMawrth 2002

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help