Pwyllgor Cyfle Cyfartal (Mehefin 1999 - Ebrill 2003)

Mae'n rhaid i'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal sicrhau bod gan y Cynulliad drefniadau effeithiol i hyrwyddo'r egwyddor o gyfle cyfartal i bawb tra'n cyflawni ei swyddogaethau a thra'n gwneud ei waith. Mae'r Pwyllgor yn awyddus iawn i sicrhau bod trafodaethau'n digwydd ar bob lefel o'r Cynulliad gyda grwpiau sy'n cynrychioli buddiannau'r lleiafrifoedd a phobl sy'n dioddef anfantais. I helpu i gyflawni hyn, mae gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a'r Comisiwn dros Hawliau'r Anabl wahoddiad parhaol i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor fel ymgynghorwyr. Mae'r Pwyllgor yn rhoi sylw arbennig i'r angen sy'n bodoli i'r Cynulliad osgoi gwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu anabledd. Mae hefyd yn rhoi sylw i wahaniaethu a dieithrio cymdeithasol ar seiliau eraill gan gynnwys oedran, credoau crefyddol a thueddiadau rhywiol. Fel rhan o'i waith bydd y Pwyllgor yn cyfarfod unwaith y mis yn ystod y tymor. Gellir cael gwybodaeth am ddyddiadau'r cyfarfodydd drwy glicio ar un o'r penawdau ar y chwith.
