Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth
Environment, Planning and Transport Committee
Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
Annwyl Gyfaill,1 Gorffennaf 2002
ADOLYGIAD O GAMAU BIOAMRYWIAETH LLEOL
Mae Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru â diddordeb mewn clywed eich barn ar y camau sydd eu hangen ar lefelau cenedlaethol a lleol i gynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Cylch gorchwylAdolygu’r cynnydd a sicrhau bod Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAPs) wedi’u sefydlu ym mhob ardal yng Nghymru, a nodi’r camau pellach sydd eu hangen ar lefelau cenedlaethol a lleol i gefnogi gweithredu LBAP trwy bartneriaethau.Themâu ymgynghoriMae diddordeb gennym yn eich barn ar y themâu canlynol:
(i) Cynnydd
- Adroddiadau gan y partneriaethau LBAP yn amlinellu cynnydd o ran llunio a gweithredu LBAPs
(ii) Arferion gorau
- Awgrymiadau gan bartneriaid LBAP ac eraill ar arferion gorau y gellir eu mabwysiadu ledled Cymru
(iii) Materion allweddol
- Rhwystrau i gynnydd wrth lunio a gweithredu LBAPs, gan gyfeirio'n benodol at:
- Effeithiolrwydd partneriaethau LBAP a rôl y partneriaid wrth lunio a gweithredu LBAPs
- Cyd-drefniant rhwng lefelau lleol a chenedlaethol (mudiadau a chynlluniau), yn enwedig o ran cytuno ar dargedau a blaenoriaethau gweithredu
- Yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r gwaith o baratoi a gweithredu LBAPs
- Y canllawiau sydd ar gael i bartneriaid LBAP ac eraill
- Trefniadau ar gyfer cynnwys grwpiau amrywiol o fewn cymunedau lleol
- Mynediad i wybodaeth ar fioamrywiaeth
- Mynediad i wybodaeth arbenigol
- Trefniadau ar gyfer arolygu ac adrodd
(iv) Camau pellach
- Camau pellach sydd eu hangen ar y lefelau lleol a chenedlaethol i gefnogi partneriaethau LBAP
- Cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad, a lle mae’n berthnasol pwy rydych yn ei gynrychioli;
- Trefnu eich sylwadau o dan yr un penawdau â’r themâu ymgynghori;
- Cynnwys crynodeb o’ch sylwadau os ydynt yn fwy na thri thudalen;
- Dweud os nad ydych am i’ch ymateb gael ei gyhoeddi. (Mae'n bosibl y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion ymgynghori sy'n ein cyrraedd yn electronig ar ein gwefan, ac yn rhoi copïau caled yn ein llyfrgell o'r atebion a geir trwy'r post, oni bai fod y rhai yr ymgynghorir â hwy yn gofyn yn benodol am gyfrinachedd. Caiff yr holl ymatebion eu cynnwys mewn crynodebau ystadegol neu grynodebau eraill o’r canlyniadau.)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caerdydd
CF99 1NARhagor o wybodaethCeir gwybodaeth am yr adolygiad ar ein gwefan www.cymru.gov.uk o dan Swyddfa’r Llywydd/Pwyllgorau’r Cynulliad/Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth/Adolygiadau Polisi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod eich ymateb cyn ei ddanfon atom, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor, Siwan Davies ar 029 2089 8501 neu drwy e-bost siwan.davies@wales.gsi.gov.ukCamau nesafCaiff ymatebion a dderbynnir erbyn y dyddiad cau eu dadansoddi a chaiff crynodeb ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor yng nghyfarfod cyntaf tymor yr hydref. Cynhelir sesiynau tystiolaeth gyda grwpiau lleol a chenedlaethol ac ymweliadau canfod ffeithiau yn gynnar yn y tymor, ac eir ati i ddadansoddi’r materion allweddol ac ystyried argymhellion drafft tua diwedd y tymor.Edrychaf ymlaen at glywed gennych.Yn gywir, Dr Richard Edwards AC
Cadeirydd, Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth
