Cyflwyniad a Chrynodeb

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cychwyn arei waith gyda gorchwyl penodol o hyrwyddo datblygiad cynaliadwy. Bydd cynlluniau anturus, newydd ac ymarferol ym maes cludiant yn allweddol o safbwynt cyrraedd y nod hwn. Mae atebion o'r fath yn debygol o godi o bartneriaethau creadigol rhwng y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdodau Ileol a sefydliadau arbenigol sydd a hanes o hyrwyddo cludiant cynaliadwy.Gallai Sustrans, yr elusen amgylcheddol a chludiant, chwarae rhan allweddol mewn partneriaeth o'r fath. Mae wedi sefydlu cysylltiadau agos gyda'r holl sefydliadau perthnasol drwy Gymru. Mae ei ddull neilltuol o weithio a chefnogaeth eang y cyhoedd ynghyd a chefnogaeth polisi gan y Ilywodraeth a help ymarferol gan sefydliadau statudol yn creu grym effeithiol er mwyn gweithredu. Mae'r pwerau newydd a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran sefydlu polisiau cludiantyng Nghymru yn gyfle perffaith i adeiladu ar waith Sustransyn y blynyddoedd diweddar, i gryfhau eu presenoldeb yng Nghymru, ac i helpu i osod Cymru ar y blaen o ran arfer da mewn materion cludiant ac amgylcheddol.Mae'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol, cynllun Safe Routes to Schools, cynlluniau Cludiant Gwyrdd a chynlluniau tebyg eisoes wedi cael effaith yng Nghymru o safbwynt poblogeiddio cerdded a beicio, gwella mynediad i gludiant cyhoeddus a lleihau'r ddibyniaeth ar geir preifat. Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol hefyd yn cynhyrchu incwm sylweddol ac yn creu swyddi yng Nghymru, ac mae'r Grwp Ymgynghorol ar Gludiant a'r WLGA wedi argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn adeiladu ar y llwyddiant hwn. Os caiff argymhellion fel rhain eu mabwysiadu, yna mae gan Sustrans ran allweddol i'w chwarae o ran helpu i weithredu strategaeth cludiant cynaliadwy i Gymru.Mae'r strategaeth yn anelu i ddarparu dull cost-effeithiol o gyflawni amcanion.y Ilywodraeth ar gludiant, hygyrchedd, adfywio economaidd, iechyd a lleihau damweinau, cynhwysiad cymdeithasol ac amddifyn yr amgylchedd trwy gyfrwng mesurau sydd eisoes a chefnogaeth eang iddynt.Cyd-destun PolisiMae gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfle i adeiladu ar amrediad eang o gynlluniau polisi sy'n cysylltu materion cynaladwyedd mewn cludiant gyda'r agenda sy'n codi ar gyfer iechyd, cynhwysiad cymdeithasol, adfywio economaidd ac amddiffyn yr amgylchedd. Mae yna gred gynyddol fod oblygiadau yr angen i wella mynediad a symudoldeb yng Nghymru, a'r angen ileihau bygythiad cynyddol dibyniaeth ar gar a phroblemau tagfeydd, Ilygredd a niwed Pr amgylchedd a ddaw yn ei sgil, yn ymestyn y to hwnt i bolisi cludiant yn unig. Felly er bad swyddogaeth Sustrans yng Nghymru yn debygol o fod fwyaf perthnasol i waith y Pwyllgor Llywodraeth Leal a Chynllunio, mae'r materion yn bwysig ar draws amrediad o feysydd polisi, gan gynnwys:
    • lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae i batrymau cludiant oblygiadau pwysig i iechyd a lies cymdeithasol y genedl. Mae cynyddu'r lefelau beicio a cherdded yng Nghymru yn allweddol o ran cynyddu ffitrwydd a Ileihau costau iechyd a marwolaethau o ganlyniad i afiechyd [cyf Lechyd Gwell: Cymru Well]. Mae lleihau damweiniau a gwelliannau o ran diogelwch yn cysylltu'n agos iawn o safbwynt rhoi sylw i'r cydbwysedd rhwng gwahanol ddefnyddwyr y ffordd. Mae gwell cysylltiadau gyda chludiant cyhoeddus a defnydd ehangach o feiciau yn allweddol i gynyddu symudoldeb a chynhwysiad cymdeithasol i'r 33% o gartrefi yng Nghymru sydd heb ddefnydd uniongyrchol o gar, ac i'r rhai hynny nad ydynt yn gyrru (plant yn enwedig).
    • Datblygiad Economaidd
Wrth i'r cyfyngiadau ar adeiladu ffyrdd fel modd i greu twf economaidd ddod yn fwy eglur [cyf SACTRA: Transport & The Economy, Awst 1999], mae'r angen i wella hygyrchedd trwy gludiant cyhoeddus, cerdded a beicio yn hanfodol i ddyfodol economaidd Cymru. Bydd datrys problemau tagfeydd, gwella mynediad i ganolfannau busnes, a gwneud Cymru yn fwy deniadol i ymwelwyr yn dibynnu ar ddod o hyd i ddulliau cludiant cynaliadwy.
    • Amaethyddiaeth a'r Economi Gwledig
Bydd y newidiadau mewn amaethyddiaeth yn galw am fesurau i ddenu ffynonellau incwm newydd i gynnal cymunedau gwledig. Bydd hyn yn dibynnu ar bolisiau cludiant sy'n gwella hygyrchedd oddi mewn a rhwng pentrefi gwledig, ar bolisiau cynllunio'r defnydd o dir, yn ogystal ag ar allu Cymru wledig i elwa ar y twf mewn Twristiaeth Werdd.
    • Addysg
Mae lleihau dibyniaeth ar gar ymysg plant ysgol yn thema ganolog mewn polisiau cludiant presennol. Ceir cefnogaeth gref yng Nghymru i'r rhaglen LLwybrou Diogel Pr Ysgol, yn deillio o waith y Grwp Ymgynghorol ar Gludiant yng Nghymru. Gyda chymorth Sustrans, cyhoeddwyd canllawiau newydd gan DER a'r DfEE wrth hyrwyddo cynlluniau teithio ysgolion. Mae Ilwyddiant cynlluniau peilot Sustrans yn y maes hwn yn deillio o gysylltiadau rhwng awdurdodau addysg ac adrannau priffyrdd yn ymrafael a'r mater allweddol hwn trwy weithio gydag ysgolion a chymunedau Ileol ac integreiddio'r pwnc yng nghwricwlwm yr ysgol.Mae'r profiad gan Sustrans i gynorthwyo Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu amrediad eang o amcanion polisi trwy ddatblygu dewisiadau eraill yn hytrach na'r car preifat. Y prif bolisiau yn eu cyd-destun yw: -
    • Y Papur Gwyn ar Gludiant
Mae'r ddogfen allweddol hon yn gosod y fframwaith ar gyfer datblygu polisi cludiant integredig. Ystyrir cerdded, a beicio yn enwedig, yn ganolog i leihau dibyniaeth ar y car preifat ac annog defnydd o gludiant cyhoeddus. Mae'r polisi yn ategu ac yn adeiladu ar y Strategaeth Beicio Cenedlaethol.
    • Datganiad Polisi ar Gludiant yng Nghymru
Mae hwn yn ymestyn y Papur Gwyn gan roi sylw Fr materion penodol sy'n wynebu Cymru. Mae'n gosod pwyslais arbennig ar ehangu'r cynlluniau LLwybrau Diogel i'r Ysgol, ac yn pwysleisio pwysigrwydd y Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol fel elfen allweddol yn y seilwaith cludiant i'r dyfodol.
    • Y Grwp Ymgynghorol ar Gludiant yng Nghymru
Yn rhan o'i argymhellion i'r Cynulliad Cenedlaethol i ddatblygu polisiau cludiant integredig sy'n gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol ac economaidd, argymhellodd y grwp y dylid cwblhau'r Rhwydwaith Beiciau yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2005, yn gam canolog i greu diwylliant Ilai dibynnol ar geir.
    • Argymhellion Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru
I ddatblygu rhwydwaith cludiant modern, effeithiol i Gymru, sy'n cefnogi'r economi, yn hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiad cymdeithasol, yn cefnogi iechyd a diogelwch cymunedau ac yn Ileihau niwed i'r amgylchedd, argymhellodd WLGA y dylid hyrwyddo beicio a cherdded yn agweddau allweddol.
    • Cynadleddau Rio a Kyoto
Mae'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Prydain yn ymroddedig i gyflawni'r her o gyrraedd targedau i leihau nwyon sy'n achosi effaith ty gwydr. Bydd i'r targedau hyn oblygiadau pwysig o safbwynt polisiau i leihau lefelau COZ mewn traffig ar y ffyrdd.
    • Lechyd Gwell: Cymru Well
Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu'r gwahaniaethau o ran iechyd yng Nghymru ac yn nodi'r cysylltiad allweddol rhwng patrymau cludiant a lefelau ffitrwydd. Nodir fod annog cerdded a beicio yn wyneb y duedd i ni fod ormod ar ein heistedd, yn ffordd bwysig o godi lefelau ffitrwydd ac o leihau lefelau anhwylder y galon a mathau eraill o salwch.
    • Strategaeth Genedlaethol ar Ddiogelwch Ffyrdd
Bydd yr adolygiad sydd ar y gweill yn anelu i leihau'n sylweddol y nifer o ddamweiniau i gerddwyr a beicwyr, a chynyddu nifer y bobl hynny ar yr un pryd. 
    • Deddf Lleihau Traffig ar y Ffyrdd (1997)
0 Gymru y daeth y galw ar i awdurdodau Ileol adolygu lefelau presennol traffig ar y ffyrdd ac i gynnig ffyrdd o'i leihau. Mae'r ffaith fod bron i dri chwarter o bob siwrnai yn Ilai na phum milltir o hyd yn tanlinellu'r potensial i symud oddi wrth y defnydd o geir.
    • Y Strategaeth Genedlaethol ar Feicio
Fe amlinellodd hyn yr agwedd tuag at ailsefydlu swyddogaeth y beic yn ffordd o deithio, a gosodwyd targedau cenedlaethol i ddyblu nifer teithiau ar feic erbyn 2002, a'i ddyblu eto erbyn 2012. Mae Sustrans yn gweithredu fel ymgynghorwyr i'r Fforwm Beicio Cenedlaethol.
    • Strategaeth Genedlaethol ar Gerdded
I'w gyhoeddi yn y dyfodol agos, bydd y strategaeth hon yn gosod targedau cyffelyb ar gyfer cynyddu teithiau cerdded byr, ac mae'n debygol o roi cryn bwyslais ar gerdded i'r ysgol.
    • Targedau Ansawdd Aer
Cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol ar Ansawdd Aer, gan osod targedau penodol ar gyfer gwella safonau ansawdd aer, ym Mawrth 1997, ac mae datblygiad ar y strategaeth hon ar gyfer Cymru yn yr arfaeth.
    • Cynlluniau Cludiant Lleol
Mae Sustrans yn cydweithio'n agos gydag amryw o awdurdodau unedol i helpu i ddatblygu Cynlluniau Cludiant Lleol mewn ymateb i gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd rhain yn cynnwys strategaethau ar gyfer beicio a cherdded ac i leihau'r defnydd o geir, hyrwyddo cynlluniau teithio i ysgolion a LLwybrau Diogel Pr Ysgol, ac yn debygol o ddod yn sylfaen ar gyfer cyflwyno polisiau cludiant integredig yng Nghymru.
    • Twristiaeth Yfory, 1999
Mae Bwrdd Croeso Cymru yn datblygu fframwaith polisi yn seiliedig ar y strategaeth twristiaeth a chludiant cenedlaethol, fydd yn adeiladu ar y targedau allweddol ar gyfer annog twristiaeth beicio wedi'i gyfuno gyda chludiant cyhoeddus.
    • Agenda Lleol 21
Mae awdurdodau Ileol yn datblygu cynlluniau i ddangos sut y byddant yn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i ymroddiad y Llywodraeth i ddatblygiadau cynaliadwy, ac i'r egwyddor na ddylem ni adael amodau amgylcheddol gwaeth i'r cenedlaethau i ddod.Os yw'r amrediad eang hwn o gynlluniau polisi i fod o fudd i Gymru, bydd y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau Ileol yn elwa o bartneriaeth gyda sefydliad sydd A chefnogaeth gyhoeddus eang ac yn ymroddedig i gyflwyno atebion ymarferol. Mae Sustrans mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaeth o'r fath. SustransMae Sustrans (sydd a'i enw yn deillio o "sustainable transport") yn elusen gofrestredig. Bu'n weithredol ers ugain mlynedd, yn gweithio ar brosiectau ymarferol i leihau'r ddibyniaeth ar geir trwy annog pobl i gerdded a beicio mwy. Mae Sustrans yn gweithredu ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop, gyda swyddfeydd rhanbarthol wedi'u cydlynu o'i bencadlys ym Mryste. Mae Sustrans yn cefnogi awdurdodau Ileol a chyrff statudol arfesurau i warantu rhaglenni cludiant cynaliadwy. Ceir dros 38,000 o gefnogwyr ledled y Deyrnas Unedig a cheir cysylltiadau agos gyda sefydliadau tebyg ar draws Ewrop ac yng Ngogledd America.Fe gyfrannodd Sustrans i waith y Grwp Ymgynghorol ar Gludiant yng Nghymru, a helpodd i lawniso'r rhaglen Llwybrau Diogel Fr Ysgol yng Nghymru, a fu'n Ilwyddiannus iawn. Ei brif brosiect ers 1995 fu cydlynu datblygiad y Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol gyda chefnogaeth ariannol gan Gomisiwn y Mileniwm. Mae Sustrans hefyd wedi datblygu amrediad o gynlluniau wedi'u hanelu at leihau dibyniaeth ar geir, hyrwyddo cerdded a beicio, a gwella mynediad i gludiant cyhoeddus. Mae'n gweithio gydag Awdurdodau Unedol, Parciau Cenedlaethol a'r cyrff statudol a gwirfoddol allweddol i addasu cynlluniau a pholisiau cludiant yn wyneb yr agenda newydd ar gludiant.Yn ystod y blynyddoedd diweddar, Ilwyddodd Sustrans: 
    • i sefydlu partneriaethau rhwng y Swyddfa Gymreig, awdurdodau unedol, asiantaethau datblygu a marchnata ac amrediad o sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill;
    • sicrhau cyllid o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd, y sector preifat, cronfeydd adfywio, datblygwyr a'r cynllun treth tirlenwi
    • datblygu record dda o weinyddu grantiau
    • darparu cyngor technegol ar gynllunio ac adeiladu ffyrdd a llwybrau i gerddwyr, beicwyr a phobl mewn cadeiriau olwyn
    • cynorthwyo'r Grwp Ymgynghorol Cymreig i ddatblygu ei ddogfen ymgynghorol i fusnesau ar lunio Cynlluniau Cludiant Gwyrdd
    • trafod a gosod ynghyd gytundebau tir er mwyn darparu cysylltiadau allweddol
    • cofnodi a mapio llwybrau hyd safon uchel er mwyn sicrhau parhad a chyfanrwydd Ilwybrau ar draws ffiniau awdurdodau unedol, gan gysylltu gyda'rArolwg Ordnans i gynnwys Ilwybrau yn eu cyfres mapiau Landranger.
    • Hyrwyddo Cymru yn Ewrop yn rhan o'r prosiect Eurollelo.
Yr allwedd i strategaeth Sustrans am y pum mlynedd nesaf fydd sefydlu swyddfa genedlaethol yng Nghaerdydd i weithio'n agos gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, ac i gryfhau ei bresenoldeb mewn swyddfeydd rhanbarthol bach yng Ngogledd, Canolbarth, Gorllewin a De Cymru. Er y bydd hyn yn galw am gefnogaeth ariannol i gymryd Ile'r cyllid craidd a ddarparwyd gan Gomisiwn y Mileniwm, byddai cam o'r fath yn ffordd gost-effeithiol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflawni'r mesurau angenrheidiol ym maes cludiant a meysydd eraill perthynol, i gyflwyno dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru. Bydd yn caniatau cwblhau'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol ac yn gwneud defnydd o'r momentwm sydd y to of i fesurau ymarferol megis LLwybrau Diogel i'r Ysgol, paratoi Cynlluniau Cludiant Gwyrdd, a chynlluniau i wella mynediad i gludiant cyhoeddus a thwristiaeth werdd.Y Rhwydwaith Beiciau CenedlaetholY Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol, sy'n darparu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau i bob rhan o'r Deyrnas Unedig, yw r seilwaith unigol pwysicaf yn y wlad ar hyn o bryd o ran hyrwyddo cerdded a beicio. Gyda chynlluniau i fynd drwy ganol dinasoedd, trefi a phentrefi ac i gysylltu pentrefi a chefn gwlad ac i ddarparu mynediad i orsafoedd cludiant cyhoeddus, mae'r Rhwydwaith yn tynnu miloedd o brosiectau Ileol ynghyd i greu un fframwaith cydlynol. Bwriedir y Rhwydwaith i roi hyder i rai sy'n dechrau beicio, ac i ymestyn y ddarpariaeth yn sylweddol i gerddwyra phobl ag anableddau. Fe'i bwriedirargyfercymudwyr, siopwyr, plant ysgol, teuluoedd thwrisitiaid, ac yn symbol cofiadwy a gweledol o'r newid mewn blaenoriaethau cludiant. Pan yn gyflawn, bydd y rhwydwaith 8,000 o filltiroedd yn cynnig Ilwybrau diogel, deniadol ac o ansawdd uchel o fewn cyrraedd hwylus i 20 miliwn o bobl.Bydd rhan gyntaf y Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol yng Nghymru - tua 800 kilometr (500 milltir) o lwybrau wedi'u cwblhau i raddau helaeth erbyn Mehefin 2000, pan agorir hwy yn rhan o ddathliadau "Reidio'r Rhwydwaith" y mileniwm. Mae'r Ilwybrau hyn yn ffurfio asgwrn cefn y rhwydwaith sy'n gwasanaethu Cymru, ac yn cynnwys y tri "Llwybr Mileniwm":
    • Lon Las Cymru (Llwybr 8), Llwybr Cenedlaethol Cymru yn croesi Cymru o Gaergybi i Gaerdydd a Chas-gwent.
    • Lon Geltaidd (Llwybr 4), o Gas-gwent i Gydweli, ynghyd a changen o Lanelli i Erddi Botanegol Cymru yn Middleton Hall - y rhan gyntaf o'r estyniad gorllewinol i Ddoc Penfro ac Abergwaun.
    • 1 Llwybr Arfordir Gogledd Cymru yn cysylltu Caergybi a Bangor gyda Chaer (Llwybr 5).
Eisoes, codwyd tua £17.5 miliwn o wahanol ffynonellau i ddatblygu'r cam cyntaf hwn o'r prosiect, gyda £7.5 miliwn i'w godi ymhellach.Mae tua hanner y Ilwybrau yn y Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol yn cynnwys ffyrdd trefol sydd wedi'u distewi o ran traffig a llwybrau distaw presennol, ac mae mwyafrif y gweddill yn dilyn Ilwybrau heb draffig, e.e. hen lwybrau rheilffyrdd a man lwybrau hynafol. Mae Ilawer o welliannau i wneud y llwybrau'n fwy diogel ac yn fwy deniadol unai wedi'u cynllunio neu ar waith. Yn ogystal, mae yna raglen o gerfluniau, cerrig milltir a nodweddion neilltuol mewn Ilaw er mwyn tanlinellu natur arbennig y cymunedau ar hyd y daith.Datblygu’r Rhwydwaith - 2000 i 2005Nid yw'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol yn ddiben ynddo'i hun. Mae'n ganolbwynt i ymdrechion y Ilywodraeth ac awdurdodau Ileol i addasu'r seilwaith cludiant i wasanaethu anghenion beicwyr, cerddwyr a phobl ag anableddau. Yn ychwanegol at y llwybrau Mileniwm, mae 650 cilomedr ymhellach (400 milltir) o lwybrau beic cenedlaethol wedi'u cynllunio gan awdurdodau Ileol gyda chefnogaeth Sustrans. Mae'r gwaith o adeiladu amryw o'r llwybrau hyn wedi dechrau eisoes, gyda thros 100 kilometr wedi'u cwblhau'n barod. Mae rhain yn cynnwys:-
    • Cydweli a Middleton Hall i Ddoc Penfro ac Abergwaun (Llwybr 4)
    • Amwythig a Chroesoswallt i Lanidloes ac Aberystwyth (Llwybr 81)
    • Abertawe i Lanfair-ym=Muallt (Llwybr 43)
    • Casnewydd i'r Fenni trwy Frynmawr a Blaenau'r Cymoedd (Llwybr 46)
    • Llwybr Dyffryn Gwy yn cysylltu Cas-gwent a Henffordd (Llwybr 41)
Amcangyfrifir fod cost dechreuol adeiladu'r llwybrau hyn oddeutu £15 miliwn.Yn ychwanegol at y Ilwybrau cenedlaethol hyn, mae yna gyfres o lwybrau rhanbarthol wedi'u cynllunio ac yn cael eu datblygu er mwyn darparu rhwydwaith cynhwysfawr ar draws Gymru. Mae rhai o'r Ilwybrau rhanbarthol hyn eisoes yn eu Ile, and mae Ilawer mwyyn rhan o Gynlluniau Cludiant Lleol a strategaethau beicio Ileol. Yn Ne Cymru, er enghraifft, mae yna gyfle i ddatblygu Rhwydwaith i gwmpasu pob un o'r prif gymoedd, gyda Ilwybrau ar draws y cymoedd yn cysylltu'r holl brif atyniadau twristaidd a gorsafoedd cludiant. Ceir milltiroedd lawer o reilffyrdd segur yng Nghymru, y gellir eu defnyddio, gyda chefnogaeth Awdurdod Datblygu Cymru, i ddatblygu'r rhwydweithiau Ileol hyn.Yn ogystal a chefnogaeth dechnegol, mae Sustrans yn cynnig r61 gydlynol i sicrhau cysondeb yn safonau y rhwydwaith cyfan. Dangosodd Ilwyddiant Consortiwm Llwybrau Beicio De Cymru i ddenu arian sylweddol beth yw gwerth sefydliad yn cyfuno ymdrechion sefydliadau i sicrhau newid ar raddfa fyddai'n amhosibl i awdurdodau Ileol ei gyflawni ar eu pennau eu hunain. Mae'n arbennig o bwysig i ddatblygu mapiau strategol ac i sicrhau dilyniant o lwybrau ar draws ffiniau awdurdodau unedol.Ni fydd y rhwydwaith fyth yn aros yn ei unfan. Bydd Ilwybrau presennol yn cael eu gwella'n barhaus wrth i gyfleoedd newydd godi ac wrth i ragor o arian ddod ar gael. Er enghraifft, mae Cynllun Cludiant Gogledd Eryri yn dibynnu ar ddatblygu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau i ddarparu mynediad di-geir i'r Parc Cenedlaethol. Mae Strategaeth Beicio Bannau Brycheiniog hefyd erbyn hyn yn tynnu at ei gwblhau. Mae Cynllun Parciau Cynaliadwy yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd pwysig i ddatblygu rhwydweithiau o'r fath.MarchnataBydd marchnata effeithiol yn allweddol i lwyddiant y Rhwydwaith yn yr hirdymor. Mae Consortiwm Llwybrau Beicio De Cymru eisoes wedi sefydlu prosiect marchnata ar gyfer y On Geltaidd, wedi'i ariannu gan Ewrop, y Swyddfa Gymreig, Bwrdd Croeso Cymru, awdurdodau Ileol a Chomisiwn y Mileniwm (hyd at 2000). Nid yn unig y bydd hyn yn hyrwyddo defnydd o'r Rhwydwaith, and bydd hefyd yn estyn manteision a chyfleoedd i fusnesau Ileol trwy gyfrwng, datblygiad cyflym twristiaeth feicio yng Nghymru. Ystyrir y cynilun hwn yn enghraifft arloesol ar gyfer marchnata cludiant cynaliadwy a thwristiaeth, ac mae'n fodel ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig.Cynnal a RheoliMae Sustrans bellach wedi datblygu cyfoeth o arbenigedd o ran helpu i sefydlu trefniadau rheoli a chynnal gydag awdurdodau Ileol a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau safon y Ilwybrau yn yr hirdymor. Mae Consortiwm Llwybrau Beicio De Cymru wedi Ilunio canllawiau manwl ar Cynllun 'Route Ranger' Sustrans gynnal a chadw Ilwybrau, sydd i'w gyhoeddi'n fuan. Sefydlwyd cronfa gynnal a chadw gan Sustrans Ile bo'n briodol ar gyfer tir sy'n aros o clan ei berchnogaeth.Fel elusen gofrestredig, mae Sustrans yn defnyddio niferfawr o wirfoddolwyr a chefnogwyr Ileol. Mae ei raglen "Route Ranger" yn cynnig hyfforddiant, cydlyniad a strwythur ffurfiol i wirfoddolwyr Ileol gynorthwyo awdurdodau Ileol i gynnal a chadw a monitro Ilwybrau yn eu hardaloedd. Mae'r rhaglen hon yn arbennig o boblogaidd ar hyd a lied Cymru a'r Deynnas Unedig drwyddi draw, ac yn annog perchnogaeth a balchder yn y Ilwybrau ymhlith y gymuned leol.CrynodebMae'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol yn amcanu i fod yn brosiect arweiniol ym maes cludiant cynaliadwy yng Nghymru. Mae'r cam cyntaf bron a'i gwblhau, a hynny'n Ilwyddiannus. Bydd yn gyfrwng i godi proffil beicio mewn ffordd na allai unrhyw gynllun unigol arall ei gyflawni. Mae manteision economaidd y Rhwydwaith yn sylweddol. Yn ogystal a theithiau wedi'u trefnu, bydd y Rhwydwaith yn denu tua 3.7 miliwn o deithiau hamdden. Amcangyfrifir y bydd hyn yn cynhyrchu dros £30 miliwn y flwyddyn mewn incwm o dwristiaeth, gyda'r mentrau Ilai mewn ardaloedd gwledig gwasgaredig yn elwa fwyaf. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at greu bron i 1,500 o swyddi yn y sectorau twristiaeth ac adwerthu. Mae dros 4,000 o swyddi yn debygol o gael eu creu yn ystod yr adeiladu, Ilawer ohonynt yn swyddi sy'n gofyn am lefel isel o sgiliau ac yn addas i ddenu pobl ifanc i'r gweithlu. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dewis cefnogi datblygiad y Rhwydwaith, bydd angen iddo gael cefnogaeth sefydliad sydd a'r arbenigedd a'r cefndir sydd gan Sustrans er mwyn cydlynu a hyrwyddo'r prosiect.'Llwybrau Diogel i’r Ysgol Prosiect a ddatblygwyd gan Sustrans yw LLwybrau Diogel i'rYsgol, i annog plant i gerdded a beicio i'r ysgol. Mae nifer y plant sy'n mynd i'r ysgol ar gefn beic wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, i gymaint graddau fel nad yw'r genhedlaeth sydd ohoni bellach yn ymwybodol o botensial y ffurf hon ar deithio. Mewn gwrthgyferbyniad, mae teithio i'r ysgol mewn car wedi dyblu mewn deng mlynedd, gan gynhyrchu tua 20% o draffig oriau brig. Mae'r tagfeydd, y llygredd a'r peryglon o ran diogelwch yn dwysau'r broblem, gan wneud cerdded a beicio yn Ilai atyniadol. Ar yr un pryd, mae yna bryder cynyddol am ffitrwydd a iechyd plant ysgol yn y dyfodol.Mae prosiectau LLwybrau Diogel i'rYsgol yn annog ac yn galluogi plant i gerdded a beicio i'r ysgol trwy whanol gyfryngau. Mae rhain yn golygu gwneud addasiadau o amgylch ysgolion, agor Ilwybrau diogel a chysylltiadau gyda'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol, a mesurau I godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd a chludiant ymysg disgyblion, rhieni ac athrawon. Mae'r prosiectau Ilwyddiannus hyn wedi golygu bod Sustrans wedi hyrwyddo dinasyddiaeth trwy ddwyn ynghyd safbwyntiau plant ac adnoddau gwasanaethau addysg a phriffyrdd awdurdodau Ileol.Da ngosodd y Swyddfa Gym reig ei gefnogaeth i ddatblygu LLwybrau Diogel Fr Ysgol trwy glustnodi £800,000 ar gyfer 1999/2000 tuag at 14 o brosiectau ar draws Cymru. Mae ymrwymiad o'r fath yn adlewyrchu'r lefel diddordeb eithriadol gan awdurdodau Ileol, ysgolion a'r cyhoedd.Chwaraeodd Sustrans ran amlwg with sefydlu'r rhaglen yng Nghymru gyda chefnogaeth lawn y Swyddfa Gymreig. Bu'n gymorth i'r llywodraeth gyda Ilunio'r canllawiau "School Travel Strategies and Plans": Yn ogystal, mae Sustrans wedi gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i ddatblygu cysylltiadau gyda'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol ac i ddatblygu ffyrdd o wella diogelwch. Mae ysgol Tre-gwyr yn Abertawe yn un enghraifft amlwg. Cynhaliodd Sustrans y gynhadledd genedlaethol ar LLwybrau Diogel Pr Ysgol, yn ogystal a'r gynhadledd i lawnsio'r rhaglen yng Nghymru, a chynhyrchwyd amrediad o ganllawiau ar y pwnc yn ddwyieithog. Mae'n aelod o grwp STAG y llywodraeth (National Travel Advisory Group).Os bydd cynllun LLwybrau Diogel Pr Ysgol yn parhau i ehangu yng Nghymru, yna mae yna achos cryf dros sefydlu strwythur a allai fod yn adnodd i'r Cynulliad Cenedlaethol, i awdurdodau Ileol ac i ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau fod y cvnllun cost-effeithiol a nhobloaaidd hwn yn parhau i fod yn Ilwyddiannus.Cynlluniau Cludiant GwyrddMae'r cynnydd mewn tagfeydd ar y ffyrdd yn golygu cost sylweddol i gyflogwyr. Mae'r Conffederasiwn Diwydiant Prydeining yn amcangyfrif fod y gost ar hyn o bryd yn £1.8 biliwn y flwyddyn. At hyn, mae cwmniau yn dod yn fwy ymwybodol o fanteision hyrwyddo ffitrwydd ymhlith eu gweithwyr (mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn amcangyfrif y gall beicio 20 milltir yr wythnos haneru'r perygl o drawiad ar y galon). Mae nifer gynyddol o gyflogwyr erbyn hyn yn paratoi "Cynlluniau Cludiant Gwyrdd" i leihau'r ddibyniaeth ar geir i gymudo ac ar gyfer busnes.Mae Sustrans mewn sefyllfa dda i gynorthwyo yn y maes pwysig hwn, ac y mae eisoes wedi datblygu prosiectau peilot gyda 45 o gwmniau sylweddol o blith y 114 o fusnesau y cysylltwyd a hwy yn Ne Cymru (ar hyd Lwybr 4 y Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol). Mae cysylltiadau agos hefyd yn cael eu datblygu gyda rhai o'r cyflogwyr mwyaf ar y rhan hon o'r Rhwydwaith, megis Ysbyty Singleton a Phrifysgol Cymru Abertawe, Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd a Solutia and Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd.Dylai awdurdodau Ileol a'r Cynulliad Cenedlaethol roi cefnogaeth gref i waith gan sefydliadau ar Gynlluniau Cludiant Gwyrdd er mwyn Ileihau'r defnydd o geir. Mae'r prosiectau peilot a baratowyd gan Sustrans yn awgrymu fod yna gefnogaeth eang i gynlluniau o'r fath gan gwmniau a chyflogwyr, ac unwaith eto mae gan Gymru gyfle i arwain y ffordd o ran troi egwyddorion a pholisiau yn fesurau ymarferol i newid pethau.Cysylltiadau gyda GorsafoeddGellir sicrhau mwy o ddefnydd o gludiant cyhoeddus mewn ffordd gost-effeithiol trwy wella mynediad i feiciau i orsafoedd cludiant, yn enwedig i orsafoedd rheilffyrdd. Mae cysylltiadau o'r fath yn rhan allweddol o'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol, ac ynddynt eu hunain yn ffordd ddefnyddiol o arwyddo newid mewn blaenoriaethau cludiant. Mae Sustrans yn gweithio gyda Railtrack ac amryw o gwmnfau tren eraill ar orsafoedd sy'n agos i'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol. Er enghraifft, mae'r gwaith o adfer ac ailagor traphont Hengoed yng Nghaerffili wedi'i gwneud yn Ilawer haws i bobl sy'n byw ar ochr arall Cwm Rhymni i gyrraedd Gorsaf Ystrad Mynach.Mae gwella'r integreiddiad rhwng defnyddio beic a'r rhwydwaith trenau yn ganolog i waith Sustrans. Lawnsiwyd cynllun CycleMark gan Sustrans mewn partneriaeth gyda'r Cyclists'Touring Club ac eraill er mwyn annog cwmniau trenau i roi sylw i'r prif rwystrau rhag gwell integreiddio.Mae Sustrans wedi gweithio gyda Bwrdd Croeso Cymru i edrych ar y potensial i gynyddu'r defnydd o feiciau a threnau ar gyfer ymwelwyr a Chymru. Mae Ilawer eto i'w wneud er mwyn gwneud y gorau o botensial y fath integreiddio, and mae'n amlwg fod yma gyfle i gyfuno cludiant cyhoeddus, cerdded a beicio yn ddewis deniadol a phoblogaidd yn hytrach na defnyddio ceir preifat.Y Ffordd YmlaenMae Cynulliad Cenediaethol Cymru yn wynebu rhai penderfyniadau anodd o safbwynt blaenoriaethau ar gyfer cludiant a materion cysylltiedig ym meysydd iechyd, lies cymdeithasol a datblygiad economaidd. Fodd bynnag, mae'r fframwaith polisi o 'r papur Gwyn ac argymhellion y Grwp Ymgynghorol ar Gludiant yng Nghymru yn cyflwyno fframwaith cydlynol er mwyn gweithredu, yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy.Mae gwaith Sustrans yn y cyd-destun hwn wedi dangos y modd y gall sefydliad gwirfoddol fod yn gatalydd argyfer gweithredu gan lywodraeth genedlaethol, ranbarthol a Ileol. Dangosodd sut y gall cynlluniau cludiant ddenu arian i Gymru o ffynonellau amrywiol er mwyn newid barn y cyhoedd ynghylch y potensial i newid. Dangosodd sut y gellir hyrwyddo cynlluniau o'r fath er mwyn denu cefnogaeth gyhoeddus eang.Wrth drefnu ei raglen ar gyfer y pum mlynedd nesaf, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfle i gyflwyno camau penodol a fyddai'n adeiladu ar gynlluniau o'r fath. Gallai rhain gynnwys:
    • Cwblhau'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol yng Nghymru erbyn 2005
    • Ehangu'r rhaglen LLwYbrau Diogel i'r Ysgof i gwmpasu pob awdurdod addysg yng Nghymru, gan ehangu erbyn 2005 i gynnwys pob ysgol dros faint penodol.
    • Pob prif gyflogwr yng Nghymru i sefydlu Cynlluniau Cludiant Gwyrdd.
    • Cwblhau'r rhaglen i wella mynediad i gerddwyr a beicwyr i bob gorsaf reilffordd sy'n gwasanaethu Cymru yn rhan o Gynlluniau Cludiant Lleol pob awdurdod unedol.
    • Cynllun Cymru-gyfan i farchnata twristiaeth feicio gyda'r holl bartneriaid perthnasol
Byddai rhaglen o'r fath, y gellid ei hymestyn i gwmpasu cynlluniau tebyg i leihau'r defnydd o geir, yn syrthio i mewn yn dda gyda chyfrifoldebau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas a chynaladwyedd. Ond byddai angen cyfraniad sefydliad megis Sustrans i weithio gyda'r Cynulliad, Ilywodraeth leol a phartneriaid eraill ar ei gyflwyno. Bydd parhau gwaith Sustrans yng Nghymru yn galw am gefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol i ysgwyddo costau craidd y sefydliad. Bydd cyllid craidd o'r fath yn cynrychioli cost bychan i sicrhau fod gan y Cynulliad Cenedlaethol yr adnoddau a'r arbenigrwydd i weithredu ei bolisiau cludiant. Bydd yn golygu y bydd modd i Gymru elwa ymhellach ar ei lwyddiant i ddenu cyllid Ewropeaidd ac o ffynonellau eraill tuag at gynlluniau cludiant cynaliadwy. Yn fwy na dim bydd yn golygu nad ydym yn colli momentwm y misoedd diwethaf o ran creu newid.Anogir y Cynulliad Cenedlaethol yn gryf i gynorthwyo Sustrans i gryfhau ei bresenoldeb yng Nghymru drwy sefydlu swyddfa ranbarthol fechan yng Nghaerdydd. Byddai hyn yn caniatau mewnbwn parhaus ar faterion polisi a chydlynu swyddogaeth cynlluniau cludiant cynaliadwy yng Nghymru. Yn ogystal, byddai presenoldeb parhaus Sustrans yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sicrhau fod Ilwyddiant De Cymru yn cael ei ailadrodd mewn rhanbarthau eraill. Yn olaf, mae rol allweddol marchnata a datblygu'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol yn galw am gefnogaeth barhaus i waith y tim bychan sy'n adeiladu ar waith Consortiwm Llwybrau Beiciau De Cymru.Llwyddodd Sustrans, gyda chefnogaeth Comisiwn y Mileniwm ac adnoddau elusennol, i wneud cyfraniad pwysig i gludiant, i dwristiaeth, ac i'r amgylchedd yng Nghymru. Mae cyfle i'r Cynulliad Cenedlaethol wahodd cynlluniau i sicrhau y gall y gwaith hwn barhau ac ehangu yng Nghymru yn y ganrif newydd.Cyfeiriadaulechyd Gwell, Cymru Well, Y Swyddfa Gymreig, 1998 (Cm 3922)Gwell Ansawdd Bywyd: Strategaeth ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy ar gyfer y DU, DETR, Mai 1999Beiciau ar Drenau: Amser i Newid. Adroddiad ar gyfer Bwrdd Croeso Cymru. Gwasanaeth Ymgynghorol TRACKS. Gorffennaf 1997Cyfleoedd Beicio: Gwneud y Gorau o'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol. Sustrans. Les Lumsdon. Medi 1996Deddf Llywodraeth Cymru 1998, Adran 121Cludiant Integredig -Agenda Llywodraeth Leol i Gymru. WLGA, 1999Strategaeth Farchnata ar gyfer y Llwybr Celtaidd. Gwasanaeth Ymgynghorol TRACKS, Ebrill 1998. Swyddfa Farchnata Llwybr Celtaidd (01792 781212)Cynhadledd Genedlaethol ar Ddatblygiad Cynaliadwy. Y Swyddfa Gymreig. Adroddiad Cynhadledd 15 Chwefror 1999Y Strategaeth Beicio Cenedlaethol. Adran Gludiant 1996Yr Arolwg Teithio Cenedlaethol, 1994 - 1997Bargen Newydd i Gludiant: Gwelliant i Bawb. Papur Gwyn y Llywodraeth ar Ddyfodol Cludiant. DETR, Gorffennaf 1998Llwybrau i Ffyniant - Agenda Economaidd Newydd i Gymru. Y Swyddfa Gymreig, 1998Cludiant ar y Ffyrdd ac lechyd: Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, 1997SACTRA: Cludiant a'r Economi, Awst 1999Teithio i'r Ysgol; Strategaethau a Chynlluniau. DETR/DfEE, Mehefin 1999Camu Allan: Strategaeth i Annog Cerdded. DETR, 1999Twristiaeth Yfory: Strategaeth y Llywodraeth ar gyfer Twristiaeth. Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 1999Etifeddiaeth Cludiant yng Nghymru: Y Grwp Ymgynghorol Cymreig ar Gludiant, Mawrth 1999Cludo Cymru i'r dyfodol: Datganiad Polisi ar Gludiant yng Nghymru. Y Swyddfa Gymreig, 1998

Partneriaid a Help