CANLLAWIAU AR FATERION GWEDDUSTER WRTH DRAFOD GWAITH ACHOS CYNLLUNIO YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
CÔD YMDDYGIAD AR GYFER AELODAU’R CYNULLIAD
1. Mae’r nodyn hwn yn darparu cyngor am y materion gwedduster sy’n codi wrth gyflawni swyddogaethau’r Cynulliad o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref. Bydd ystyriaethau tebyg yn gymwys lle bydd y Cynulliad yn arfer swyddogaethau lled-farnwrol tebyg eraill. Mae’n darparu cyngor a chanllawiau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys aelodau o Gabinet y Cynulliad, y gallent fod â buddiant mewn achos cynllunio penodol neu faterion cysylltiedig, er eu bod heb fod yn gyfrifol am wneud y penderfyniad.2. Yr amcan yw sicrhau gwneud pob penderfyniad yn gywir ac osgoi’r perygl o her gyfreithiol lwyddiannus.
Mae’n nod gennym sicrhau ymdrin yn deg , yn gyfiawn ac yn agored â’r partïon sydd â rhan mewn achosion cynllunio; sicrhau ystyried yr holl dystiolaeth yn llawn a seilio penderfyniadau ar ystyriaethau cynllunio perthnasol y mae’r holl bartïon wedi cael mynediad iddynt.Mae’r gyfraith yn amddiffyn yr egwyddorion hyn ac mae modd herio penderfyniadau yn y Llysoedd os na ddilynir mohonynt.
3. Gan hynny, rhaid gwneud penderfyniadau cynllunio yn unol ag egwyddorion cyfiawnder naturiol. Mae hyn yn golygu bod gan yr holl bartïon i achos cynllunio sydd i’w benderfynu gan y Cynulliad hawl i gyflwyno eu hachos iddo, a gweld achosion partïon eraill a gwneud sylwadau arnynt.
Rhaid peidio â seilio’r penderfyniad ar unrhyw dystiolaeth arall (gan gynnwys sylwadau preifat), ac eithrio polisïau cyhoeddedig y Cynulliad, y bydd modd cymryd eu bod yn hysbys i’r partïon.Dylid gwneud pob ymdrech i osgoi rhoi unrhyw reswm dros amau bod y cyfryw sylwadau preifat wedi’u gwneud ac wedi’u cymryd i ystyriaeth.
Os bydd tystiolaeth newydd, a fyddai’n effeithio ar y modd y gellid gwneud y penderfyniad, yn cael ei gyflwyno wrth i benderfyniad gael ei wneud, rhaid ei rhannu â’r partïon iddynt wneud sylwadau arni os byddant yn dymuno gwneud hynny. Bydd unrhyw wyro oddi wrth yr egwyddorion hyn yn gadael y penderfyniad yn agored i her gyfreithiol.
Rôl y Penderfynydd
4. Mae swyddogaethau lled-farnwrol y Cynulliad o dan ddeddfwriaeth gynllunio yn ymwneud, gan mwyaf, â phenderfynu apelau cynllunio a cheisiadau cynllunio 'adferedig’ sydd wedi cael eu 'galw i mewn’ i’r Cynulliad eu penderfynu, yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol. (Bydd y rhan fwyaf o apelau yn cael eu penderfynu gan Arolygwyr Cynllunio yn gweithio ar ran y Cynulliad ond caiff achosion pwysig eu hadfer i’r Cynulliad eu penderfynu).
5. Y Cynulliad yn ei gyfanrwydd sy’n gyfreithiol gyfrifol am benderfyniadau a wneir ganddo o dan y Deddfau Cynllunio a Deddfau eraill. Mewn achos penodol, caiff y Cynulliad ddirprwyo gwneud y penderfyniad i Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio, neu i’r Prif Ysgrifennydd neu, drwyddo yntau, i Ysgrifennydd Cynulliad, neu i un o swyddogion y Cynulliad. Lle bydd penderfyniadau yn cael eu dirprwyo i Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio, rhaid i bob un o’i aelodau gael eu rhwymo gan yr egwyddorion hyn. Ym mhob achos dylai’r penderfynydd, boed yn aelod o Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio, yn aelod o Gabinet y Cynulliad neu’n swyddog, wneud y canlynol:
• gweithredu, fel bod modd gweld eu bod yn gweithredu, yn deg6. Mae’r canlynol yn dilyn o hyn:
ac yn amhleidiol, drwy ystyried y mater â meddwl diduedd,
annibynnol, wedi’i gyfeirio yn gywir, ac;
• er mwyn dangos amhleidioldeb, ac ym mhlaid cyfiawnder
naturiol, sicrhau trefnu i’r holl dystiolaeth sy’n berthnasol i
benderfyniad, ac sy’n cael ei chymryd i ystyriaeth, fod wedi bod
ar gael i’r holl bartïon sydd â buddiant yn y penderfyniad.
Ni ddylai penderfynwyr gymryd rhan mewn penderfyniadau cynllunio y. Mae
mae ganddynt, neu y gellid canfod bod ganddynt, fuddiant preifat,
buddiant etholaethol neu fuddiant rhanbarth etholiadol ynddo
hyn yn cynnwys penderfyniadau ynglyn â materion y’u cysylltid â hwy
ar un adeg - fel Aelodau Cynulliad, AS neu aelodau o awdurdodau
lleol, neu’n breifat. Ni ddylent wneud dim sy’n effeithio ar y
penderfyniad ychwaith, heblaw cyflwyno sylwadau ar ran ei etholwyr
neu ei hetholwyr (gweler isod a pharagraffau 11 a 12).
Oherwydd y gofyniad hwn, ni chaiff penderfynwyr wneud
penderfyniadau ar achosion cynllunio o fewn eu hetholaethau neu o
fewn eu rhanbarthau etholiadol nac ar achosion sy’n effeithio yn
uniongyrchol ar eu hetholaethau neu ar eu rhanbarthau etholiadol.
Ni ddylai penderfynwyr drafod achosion ag unrhyw bartïon â buddiant.
Gan hynny dylent wrthod ceisiadau am gyfarfodydd ag Aelodau
Cynulliad eraill, AS, dirprwyaethau o bobl leol, partïon i’r apêl neu’r
cais, carfanau pwyso neu unrhyw barti arall sy’n dymuno cyflwyno
sylwadau am yr achos. Mae’r un egwyddor yn gymwys i ffurfiau eraill
ar gyfathrebu â phartïon sydd â buddiant, gan gynnwys galwadau ffôn.
7. Mae ystyriaethau tebyg yn gymwys i arfer pwerau disgresiynol y Cynulliad o dan y Deddfau Cynllunio. Mae’r rhain yn cynnwys penderfyniadau ar roi cyfarwyddyd i awdurdodau cynllunio lleol, megis cyfarwyddyd i addasu cynllun datblygu (er enghraifft, er mwyn sicrhau ei fod yn unol â pholisi’r Cynulliad), neu i alw i mewn y cyfan neu ran o gynllun datblygu neu gais datblygu i’r Cynulliad wneud penderfyniad amdano. O gofio’r angen am weithredu’n deg ac yn ddiduedd, a’r angen am i hynny gael ei weld, dylai’r penderfynydd osgoi trafod materion sy’n berthnasol i’r penderfyniadau hynny ag unrhyw barti sydd â buddiant.
Cabinet y Cynulliad
8. Oherwydd eu cyfrifoldebau mewn cysylltiad â pholisi, mae’n bosibl y bydd aelodau Cabinet y Cynulliad â buddiant mewn project datblygu (gweler paragraff 11 mewn cysylltiad â buddiannau etholaethol).
Wrth ymweld â phrojectau neu wrth drafod cymhwyso polisi’r Cynulliad i broject, bydd angen iddynt sicrhau eu bod yn esbonio nad oes ganddynt unrhyw ran mewn unrhyw benderfyniad cynllunio, ac nad ydynt yn cael trafod â’u cydweithwyr agweddau ar y cynnig sy’n ymwneud â chynllunio. Ni ddylent roi’r argraff y bydd ystyried materion cynllunio gan y Cynulliad yn ganlyniad rhagweladwy.Buddiannau Etholaethol
9. Mae’n bosibl y bydd aelodau o’r Cynulliad am leisio eu barn, neu farn eu hetholwyr, wrth awdurdod cynllunio lleol, neu wrth Arolygydd Cynllunio, neu wrth benderfynydd yn y Cynulliad.
10. Mae Ysgrifenyddion Cynulliad yn ddarostyngedig i’r Côd Ymddygiad ar gyfer Ysgrifenyddion Cynulliad; mae paragraff 4.9 yn cyfeirio yn glir at achosion cynllunio.
11. Rhwydd hynt i aelodau Cynulliad gyflwyno sylwadau am gais cynllunio i’r awdurdod cynllunio lleol sy’n ei ystyried. Cânt gyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio lle bydd apêl yn cael ei phenderfynu gan Arolygydd Cynllunio. Yn ogystal â hyn, bydd modd cyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth mewn achosion lle y bydd cais wedi cael ei alw i mewn neu apêl wedi cael ei hadfer, i’r Cynulliad ei benderfynu neu ei phenderfynu,
ond cyn i’r ymchwiliad a gynhelir gan yr Arolygydd Cynllunio gau. Rhaid cyflwyno’r holl sylwadau o’r fath yn agored a chan gymryd y trefnir iddynt fod ar gael i’r holl bartïon sydd â buddiant. Wrth ymdrin â’r awdurdodau cynllunio lleol mewn cysylltiad â materion cynllunio yn eu hetholaethau, dylai aelodau o’r Cynulliad geisio sicrhau nad ydynt yn rhoi’r argraff eu bod â dylanwad arbennig. Dylid gwneud yn glir hefyd na fyddant yn cymryd unrhyw ran mewn gwneud penderfyniad.
12. Lle bydd yr ymchwiliad wedi cau, ni roddir sylw i sylwadau ychwanegol ond mewn achosion eithriadol. Os bydd aelod yn credu y dylid caniatáu’r cyfryw sylwadau, wedyn dylid eu cyflwyno mewn ysgrifen
yn unigi Bennaeth yr Adran Gynllunio.
Ni ddylai aelodau o’r Cynulliad, fel arall, geisio dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau ar ôl i’r ymchwiliad gau. Os bydd Pennaeth yr Adran Gynllunio yn barnu bod sylw ar ôl yr ymchwiliad yn codi tystiolaeth newydd a fyddai’n effeithio ar y penderfyniad, bydd ef neu hi yn ceisio barn y partïon ac, os bydd rhaid, bydd yn trefnu i’r ymchwiliad gael ei ailagor.
Cynghorwyr Arbennig
14. Gall parti i achos cynllunio gysylltu â chynghorydd arbennig (er enghraifft, drwy anfon llythyr neu ffonio). Dylid cyfeirio unrhyw beth o’r fath at Bennaeth yr Adran Gynllunio. Ni ddylai cynghorwyr roi’r argraff y bydd unrhyw gyngor penodol (ganddynt hwythau neu gan unrhyw swyddogion eraill) yn dylanwadu ar y penderfyniad. Lle bydd cynghorwyr arbennig â buddiant yn yr achos, rhaid iddynt beidio â chymryd rhan yn ei benderfynu.
