Pwyllgor Rhanbarth y De-orllewin (Gorffannaf 1999 - Ebrill 2003)

Croeso i Bwyllgor Rhanbarth y De-orllewin - oddi wrth Val Lloyd, A.C., Cadeirydd Ym 1999 sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bedwar pwyllgor rhanbarth. Mae Pwyllgor Rhanbarth y De-orllewin yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Rôl y pwyllgorau rhanbarth yw cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar y canlynol:
- materion sy'n effeithio ar y rhanbarthau;
- effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny; a
- gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.
