Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Adolygiad polisi: Cyfraniad y celfyddydau a chwaraeon at adfywio cymunedol
Cyfraniad
y Celfyddydau Gwirfoddol i Adfywio Gymunedau
Does dim dadl bod weithgareddau diwylliannol, megis y celfyddydau, yn rhan annatod o’r gymuned Gymreig ac
yn sylfaenol i’w barhad. Mae’r Eisteddfodau a’r Urdd yn fwy arwyddocaol o iechyd ein hiaith a’n etifeddiaeth na unrhyw bencampwriaeth chwaraeon a’r Sea Scouts, dwedwch. A mudiadau ydi’r rhain sydd yn
dibynnu bron yn llwyr ar wirfoddoli. Yn wir, ymhlith y llawr wlad mae’r syniad o unigolyn yn cael ei ariannu i hyrwyddo weithgareddau celfyddydol yn eu cymunedau o hyd yn rhywbeth estron ac annaturiol. Oherwydd cyfranogi yn y celfyddydau a chwaraeon
yw gymuned iddynt, nid rhywbeth sydd angen ei ddiffinio gan asiant allanol. Mae 'proffesiynoleiddio’ felly yn aml yn ymddangos yn fygythiad i draddodiad. Yn y diwedd ydi’r loteri wedi cyfnerthu ein diwylliant Cymreig? Oes yna unrhyw beth
wedi digwydd na fysa’i wedi digwydd heb yr arian loteri? Ac os, ar y cyfryw, yr ateb yw 'na’ - pam felly poeni fod y ffynhonnell yna yn sychu’n grimp ac anialwch cyllidol ddiffaith o’n blaenau?Efallai
adroddiad y Pwyllgor Addysg dros 16 ar y celfyddydau yng Nghymru oedd y cyntaf i gydnabod yn swyddogol mai cryfder diwylliannol ac nid problem yw amrywiaeth poblogaeth Cymru. Meddylfryd calonogol yn sicr ac un sydd wedi ysbrydoli gwaith Celfyddydau Cymunedol
erioed. Ond y realaeth yw mae yna cryn dipyn o waith i wneud i berswadio poblogaeth Cymru mae rheswm i ddathlu ac nid i wawdio yw gwahaniaeth. Fel un sydd wedi bod yn gweithio yn y Celfyddydau Cymunedol am dros 10 mlynedd - fel cyfarwyddwr 'Theatr Fforwm Cymru’
a phrosiect theatr labrinth 'Cynefin’, prif amcan a chanlyniad cyson y gwaith hwn ydi datguddio ein hunaniaeth cyd-dynol tra’n hyrwyddo mynegiant unigryw yr unigolyn.Dwi
wedi hen alaru ar yr 'cliché’ bychanus fod y celfyddydau cymunedol yn hybu hunan hyder - wrth gwrs eu bod, mae’r fyddin yn gwneud yr un peth i’w 'aelodau’. Ond y cwestiwn pwysig yw sut ac i ba bwrpas? Gyda phob
parch, ar yr un llaw, i’r lli o wirfoddolion sy’n cynal ein traddodiadau, ac ar y llaw arall, y rhai sydd yn gweithio yn y celfyddydau proffesiynol, llafur cariad unigryw yw’r maes 'Celfyddydau Cymunedol’. Yr hyblygrwydd
i ymateb i anghenion gymunedau; yn codi sgiliau celfyddydol; yn ennyn parch at ein gilydd; ond yn sylfaenol yn gwneud defnydd o’r celfyddydau i ddychmygu’r dyfodol hoffem fod yn rhan ohono, yn hytrach na aros iddo ddigwydd i ni. Mae’r
sgiliau i hyrwyddo’r math waith yn costio. Ond hebddo does dim gobaith creu Cymru greadigol sydd yn dathlu ei amrywiaeth diwylliedig, ac mae pob un o’r diwylliannau yn dioddef trwy hynny.Iwan
BriocCyafrwyddwrCynefinDwyfor