Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon

Adolygiad polisi: Cyfraniad y celfyddydau a chwaraeon at adfywio cymunedol

Urdd Gobaith Cymru

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a ChwaraeonMae Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, gyda dros 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed, yn cytuno’n gryf fod gan ddiwylliant a chwaraeon rhan i’w chwarae wrth adfywio cymunedau Cymru. Yn dilyn darllen y gwahoddiad i gyfrannu at Adolygiad Polisi: Cyfraniad y Celfyddydau a Chwaraeon at Adolygiad Cymunedol, hoffem ymateb i’r 4 pwynt a godwyd fel a ganlyn.
  1. Mae’r Urdd yn cytuno y dylai fod cysylltiadau rhwng y polisïau ym meysydd y Celfyddydau, Chwaraeon ac Adfywio Cymunedol. Mae’r Urdd yn fudiad gwirfoddol sydd yn ceisio gweithredu yn yr holl feysydd hyn. Mae’r Urdd yn hyrwyddo chwaraeon a’r celfyddydau fel dull o gyflawni ei nod o "Sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol".
    Os ydym yn llwyddo i ddatblygu ein pobl ifanc, bydd datblygu ein cymunedau yn dilyn yn naturiol. Mae dros 50,000 yn aelodau o’r Urdd, gyda 25% o blant 10 oed, a 30% o’r siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 oed yn aelodau, felly mae gan yr Urdd rhwydwaith gref, a chysylltiadau ar draws Cymru.
  2. Er mai mudiad cenedlaethol yw’r Urdd, ar lefel leol y mae’n gweithredu, ac mae wedi blaenoriaethu targedau ardaloedd difreintiedig yn ei gynllun corfforaethol, fel ardaloedd i gynyddu ein gweithgaredd. Serch hynny, yr ydym yn ddibynnol ar ddod o hyd i gyllid ychwanegol er mwyn cyflawni gwaith ychwanegol. Rydym wedi profi, er enghraifft, trwy brosiect chwaraeon yng Nghaerffili, ein bod yn gallu cael dylanwad pellgwlaeddol ar ddatblygu cymunedol drwy ddarparu hyfforddiant a sefydlu clybiau chwaraeon wythnosol sy’n hyrwyddo’r ymdeimlad o gymuned, am gost gymharol fach.
  3. Rydym yn teimlo y byddai’n well buddsoddiad buddsoddi mewn strwythurau sydd yn eu lle yn barod er mwyn cefnogi prosiectau celfyddydol a chwaraeon sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol. Mae gan yr urdd, er enghraifft, strwythur ganolog i hyfforddi a chefnogi gweithwyr sy’n gweithio ar lefel leol, sy’n gallu harnesu cymorth gwirfoddolwyr lleol, tra’n darparu gwasanaeth proffesiynol.
  4. Mae’r arferion gorau yn ymwneud â chydweithio â chymunedau i ddarganfod atebion lleol i broblemau lleol. Trwy ynghyd-destun yr Urdd, mae’n golygu gwrando ar farn pobl ifanc, a darparu’r hyn maent yn dymuno ei gael.
Rydym yn nodi nad oeddem ar y rhestr ymgynghori wreiddiol, ond yn gobeithio mai camgymeriad oedd hyn, gan fod cymaint o’r gwaith yn ymwneud yn uniongyrchol â chylch gorchwyl yr adolygiad polisi.Os hoffech wybodaeth bellach, croeso i chi gysylltu â ni.Yn gywirJIM O’ROURKE
Prif Weithredwr

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help