Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Adolygiad polisi: Cyfraniad y celfyddydau a chwaraeon at adfywio cymunedol
yr
Academi
Mae gan yr Academi, yr Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol, strategaethau yn eu lle sy’n rhoi blaenoriaeth i weithgaredd llenyddol mewn ardaloedd sy’n ddifreintiedig
yn economaidd a diwylliannol. Mae’r Academi hefyd yn anelu adnoddau at gymunedau gwasgaredig yn ddaearyddol yn ogystal ag at rai dan anfantais.Cysylltiadau
rhwng Polisi Celfyddydau a Pholisi Adfywio EconomaiddMae ymchwil genedlaethol ers degawdau wedi gweld cyd-berthynas gadarnhaol gref rhwng lles economaidd
a chymdeithasol a buddsoddiad cyhoeddus mewn chwaraeon ac yn y celfyddydau. Mae’r gwaith, yn arbennig gan sylwebyddion cymdeithasol fel John Pick, ers tro byd wedi dangos y budd economaidd sy’n deillio o gyllido hamdden ag arian cyhoeddus.
Yn wir, un o elfennau sylfaenol cais Llundain i groesawu’r gemau Olympaidd yw adfywio’r seilwaith a’r economi. Ym marn yr Academi, mae’r cysylltiadau felly’n rhai cadarnhaol. Sut
y gall Prosiectau Celfyddydau a Chwaraeon Lleol Gyfrannu at Adfywio Cymunedol.Y tu hwnt i ganlyniadau mesuradwy buddsoddiad cyhoeddus mewn
hamdden, byddai’r Academi yn dadlau’n gryf dros bwysigrwydd y manteision llai diriaethol a llai mesuradwy sy’n deillio o brosiectau cymunedol cyffrous. Mae cyflawni pethau mewn meysydd a oedd cyn hynny fel petaent yn eiddo bob amser
i rywun arall yn rhoi hyder i unigolion ac i grwpiau cymunedol. Roedd y prosiect Write for Cynon yn niwedd y 1990au yn targedu pobl ifanc a oedd yn tangyflawni a rhieni ifanc yng Nghwm Cynon. Cafwyd hyd i un person ifanc, Jolene Sibley, a oedd mor ddawnus nes
iddi ei chael ei hun cyn pen dim mewn dosbarth meistr ar ysgrifennu yn y Gelli a’i gwaith wedi ei gyhoeddi yn Poetry Wales. Doedd neb erioed o’r blaen wedi dweud wrthi bod modd cyflawni hyn nac wedi dangos iddi sut i wneud. Mae prosiect Hyrwyddo
Llenyddiaeth Gwynedd, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, yn bartneriaeth rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd, ac wedi helpu i gynyddu gweithgareddau diwylliannol a chyfrannu at greu cymuned fywiog yn y ddwy iaith. Mae prosiectau Barddoniaeth i Bawb yr Academi
ym Mlaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf wedi arddangos mewn mannau cyhoeddus nid yn unig gerddi adnabyddus gorau ond hefyd gerddi cyfoes gorau’r gymuned ei hun. Sicrhaodd yr Academi gyllid sylweddol gan Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn ar gyfer ei brosiect
tair-blynedd All Lit Up! (eto yn RhCT) - sydd bellach ar fin dod i ben. Mae All Lit Up! wedi cyrraedd plant yng ngofal Barnardos, plant sydd wedi eu gwahardd o’r ysgol, plant â doniau cyffredin yn ogystal â’r gymuned ehangach
o oedolion. Rhoddwyd cyflwyniad un dydd Sadwrn gan grwp o ofalwyr ifanc yn eu harddegau a chafodd y rhan fwyaf o aelodau’r gynulleidfa eu cyffwrdd gan waith y plant hyn y byddech wedi disgwyl iddynt fod yn lluddedig gan ofal, ond nad oeddent. Mae’r
Academi ar hyn o bryd yn ceisio sefydlu prosiectau tebyg mewn mannau eraill yng Nghymru.
Mecanweithiau
CymorthMae cynlluniau ariannu llenyddiaeth yr Academi yn hyblyg iawn a gallant gynorthwyo digwyddiadau pwysig ag awduron o fri rhyngwladol neu grwpiau bychain
sy’n gweithio gyda llenorion lleol mewn canolfannau cymunedol. Mae’r cynlluniau ariannu hyn yn gweithio ar sail partneriaeth ac mae partneriaid yr Academi yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, tafarnau, gwasanaethau cymdeithasol, elusennau
plant, grwpiau ysgrifennu amatur, cymdeithasau gwerthfawrogi llenyddiaeth, grwpiau amgylcheddol, gwasanaethau amgueddfa ac, yn wir, gall unrhyw grwp gynnwys llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol yn ei raglen o weithgareddau. Mae’r Academi yn cefnogi
tua mil o ddigwyddiadau partneriaeth y flwyddyn ac yn ddiweddar anrhegwyd ein 500,000
fed cyfranogwr.Trwy
eiriolaeth gref a defnyddio’r mecanweithiau cyllido sydd ar gael iddi, mae’r Academi yn gobeithio llenwi’r bylchau yn y ddarpariaeth lle mae’r gweithgarwch llenyddol mewn ardal economaidd neu faes diwylliannol arbennig
- am ba reswm bynnag - ar ei hôl hi o gymharu â’r arferion da yn genedlaethol. Roedd y prosiect All Lit Up! yn Rhondda Cynon Taf yn enghraifft o’r targedu hwn ac mae’n debyg mai ar ardaloedd Wrecsam a Glannau Dyfrdwy
y bydd gwaith yn canolbwyntio yn y dyfodol - ardaloedd lle mae diflaniad swyddi glo a dur traddodiadol wedi gadael amddifadedd difrifol mewn mannau.
Yr
Arferion GorauMae’r arferion gorau mewn adfywio cymunedol yn golygu cyswllt cyson rhwng asiantaethau a all ymddangos yn ddigyswllt ond sydd, mewn gwirionedd,
yn rhannu’r un amcanion, sef estyn gorwelion a datblygu hyder. Un enghraifft bendant oedd y cydweithredu rhwng yr Academi a Hybu Iechyd Powys Ceredigion. Datblygu ysgrifennu creadigol yn yr ardal hon sy’n un wledig yn bennaf oedd ein diddordeb
ni. Eu pryder nhw oedd bod llawer o blant yn byw bywyd rhy lonydd. Yn y prosiect bu artist rap yn dyfeisio rhigymau sgipio a chaneuon buarth modern yr oedd y plant ar dân i roi cynnig arnynt yn ystod yr egwyl ac ar ôl yr ysgol. Nid ysgrifennu
cynlluniau gweithredu sy’n arwain at ddim gweithredu yw’r arfer orau yma. Mae’r arfer orau yn dod â staff llawn cymhelliant o wahanol asiantaethau at ei gilydd i gynhyrchu cynlluniau cyffrous.
ArgymhellionY
Cynulliad i geisio penodi Tsar Adfywio i sicrhau ffrwd gyson o brosiectau cydweithredol rhwng asiantaethau pwysig (Awdurdodau’r Rheilffyrdd, Heddluoedd, Mentrau Iaith, etc) yng Nghymru.Y
Cynulliad i helpu’r Academi i geisio cyllid ar gyfer swyddog prosiectau amser-llawn a fyddai’n gweithio i greu cysylltiadau rhwng rhaglennu’r Academi ac asiantaethau priodol yng Nghymru.18/11/2003