Adolygiad Polisi: Ysgrifennu Cyfrwng Saesneg yng Nghymru
Pwyllgor Diwylliant , y Gymraeg a Chwaraeon
Sylwadau
Adran Addysg Diwylliant a Hamdden Cyngor Gwynedd
1.Cyfraniad llyfrau ac ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru at ddiwylliant Cymru.Mae
gan Cymru un o’r traddodiadau llenyddol cyfoethogaf yn Ewrop ac mae’n fwy o genedl y gair llafar a’r gair ysgrifenedig na’r darlun ystrydebol o 'wlad y gân’. Er gwaetha’r ffaith y bu Cymry
yn ysgrifennu trwy gyfrwng yr iaith Saesneg ers dros pum can mlynedd nid oedd ymwybyddiaeth o lenyddiaeth Cymreig yn yr iaith Saesneg hyd dechrau’r ganrif diwethaf . Hyn mewn ymateb i bolisïau ac agweddau gwrth - Gymreig ac yn arbennig yn
dilyn y mewnlifiad i ardaloedd y diwydiannau trymion . Llais
gymharol newydd i gymharu a’r traddodiad Cymraeg yw ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru felly ond gyda’r iaith hynny bellach yn iaith y mwyafrif llethol mae cyfraniad llenyddiaeth cyfrwng Saesneg yn hanfodol i ddiwylliant y genedl. Rhydd
llenyddiaeth gymorth i bobl datblygu sgiliau allweddol - llythrennedd, mynegiant, ac annibyniaeth meddwl a menter .Cyfoethoga llenyddiaeth hunanhyder cenedl trwy hyrwyddo ymdeimlad o hunaniaeth a’i diwylliannau amrywiol. Cryfder a gwendid Cymru yw’r
amrywiaeth hyn ac oherwydd yr rhwystrau amlwg mae angen cymorth a chefnogaeth sefydliad fel y Cynulliad cenedlaethol i sicrhau dyfodol llewyrchus iddynt. 2.
Dulliau o gefnogi llenorion yng nghymru gan gynnwys dramodwyr ac awduron sgriptiau Mae sefyllfa ysgrifenwyr yng Nghymru yn y ddwy iaith
yn debyg iawn i rhai eraill mewn gwledydd bychain a/neu diwylliannau lleiafrifol. Tra bod eu cyfraniad yn enfawr i sefydliadau diwylliannol cenedlaethol ychydig ohonynt sydd yn gallu gwneud bywoliaeth o ysgrifennu.Eto yn debyg i’r sefyllfa gydag ysgrifennu
yn yr iaith Gymraeg - mae rhai yn ennill yn bywoliaeth trwy’r ysgrifennu sgriptiau cyfryngau’r ond i’r mwyafrif mae ysgrifennu yn gwaith gwirfoddol ac os oes tal mae’r tal hynny yn gymharol isel . Mae’r
dulliau o gefnogi llenorion eisoes wedi ei sefydlu yng Nghymru trwy cynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Academi ee :-Ysgoloriaethau
i ysgrifenwyr newydd a rhai sydd wedi cyhoedd eu gwaith Gwasanaeth beirniadol i ysgrifenwyr newyddCyfleoedd
mentora gyda ysgrifenwyr profiadol Gweithdai arbennig mewn meysydd arbenigol Yr hyn sydd angen
yw sicrhau cyllid digonol i gynnal y gweithgareddau cefnogol hyn.3. Dulliau cefnogi ar gyfer cynhyrchu a marchnata ysgrifennu newydd gan
gynnwys y sector preifat Mae angen parhau y gefnogaeth i’r cylchgronau hynny sydd yn cyhoeddi gwaith ysgrifenwyr
newydd gan fod hyn yn cynnig cyfle gwerthfawr iddynt cyrraedd cynulleidfa ac ar gyfer gwaith arbrofol.Mae
angen sefydlu cynllun cyhoeddi tebyg i’r hyn sydd eisoes wedi ei sefydlu ar gyfer llenyddiaeth yn y Cymraeg trwy gyllido ychwanegol hy heb leihau y gefnogaeth i’r iaith Gymraeg er mwyn cefnogi cyhoeddi yn y iaith Saesneg. Mae
angen annog cyhoeddwyr i fentro cyhoeddi mwy yn yr iaith saesneg sydd ddim yn bennaf wedi ei dargedu at ymwelwyr a 'rhai sydd yn diddori yn y maes chwedlau Arthuraidd.Mae
angen sicrhau rhaglen gyson o gyfieithu cynnyrch Cymraeg i’r iaith Saesneg i ehangu y gynulleidfa ond hefyd i sicrhau ffenest i’r di-Gymraeg i ddiwylliant y Cymry Cymraeg.4.
Dulliau o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lenyddiaeth a llenorion cyfrwng Saesneg yng NghymruMae asiantaeth i hyrwyddo llenyddiaeth
eisoes yn bodoli yng Nghymru sef yr Academi ac mae angen sicrhau bodolaeth yr asiantaeth o’r fath a’r gwaith cefnogol ym mhob rhan o Gymru . Bu Cyngor Gwynedd yn cydweithredu gyda’r Academi ers 1997 i gynnal Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth
llwyddiannus iawn gan gynnwys gweithgareddau i hybu llenyddiaeth yn yr iaith saesneg ac i hybu llenyddiaeth yn arbennig ymysg pobl ifanc .Cyniga
llyfrgelloedd cyhoeddus cyfrwng i gynnig mynediad at lenyddiaeth yn rhad ac am ddim gan gynnig y cyfle i ddarllenwyr arbrofi gydag awduron a llyfrau am Gymru cyn ystyried eu prynu os yw’r gallu ganddynt i wneud hynny .Mae cynlluniau hyrwyddo megis
Estyn Allan yn cynnig cyfle gwych i gyrraedd cynulleidfa ehangach ac un o amcanion y cynllun hwnnw yw dwyn sylw at y darpariaeth llyfrau Cymreig sydd ar gael trwy gyfrwng y Saesneg.Mae angen sicrhau fod cyllidebau adnoddau llyfrgelloedd cyhoeddus yn ddigonol
i gynnwys copïau digonol o lyfrau cyfrwng Saesneg gan gynnwys copïau o’r 'clasuron ' fel rhan o’u casgliadau craidd.Mae
rhan ysgolion yn y maes allweddol i feithrin darllenwyr y dyfodol yn hyn o beth mae gan ACCAC a CBAC swyddogaeth pwysig wrth lunio meysydd cwricwlaidd ac arholi ochr yn ochr a phob ysgol ac awdurdod addysg yng Nghymru. Mae cynnig y cyfle i blant cyfarfod ac
awdur yn bwysig iawn ac mae angen sicrhau cyllid digonol o’r cynllun Awduron ar Daith .Mae’n
angenrheidiol i ddyfodol llenyddiaeth o bob math i feithrin ysgrifennu newydd ac mae angen rhoi blaenoriaeth i’r maes .Ail flaenoriaeth i’w cefnogaeth i’r clasuron a gellid wneud hynny yn bennaf trwy’r llyfrgelloedd ac
ysgolion i sicrhau gwerthiant sylfaenol iddynt fel eu bod ar gael i’r cyhoedd trwy siopau lyfrau .