Bae Caerdydd / Cardiff Bay

Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

Eich cyf / Your ref

Ein cyf / Our ref

27 Gorffennaf 2005

Annwyl Gyfaill

Polisi Gwyddoniaeth

  1. Mae'r Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth wedi dewis ystyried polisi gwyddoniaeth yng Nghymru yn ei adolygiad polisi arfaethedig. Yn ystod ei gyfarfod ar 10 Tachwedd bu'r Pwyllgor yn trafod papur (EDT2 15-04 (p4)), sy'n amlinellu'r cefndir ac yn trafod rhai i'r ffactorau sydd wrth wraidd ystyriaethau polisi.
  2. Dyma Gylch Gorchwyl yr Adolygiad:
Ystyried polisi gwyddoniaeth yng Nghymru sy'n fwy effeithiol o ran hybu'r gwaith o ddatblygu economi sy'n seiliedig ar wybodaeth:
  1. cwmpas y gwaith ymchwil a datblygu a gynhaliwyd yng Nghymru yn y sector cyhoeddus a phreifat.
  2. sut y gellid ei gryfhau a'i wneud yn fwy effeithiol.
  3. ymdrin â blaenoriaethau tebygol ar gyfer meithrin ymwybyddiaeth o wyddoniaeth, darparu sgiliau, rhagoriaeth Addysg Uwch, trosglwyddo technoleg ac arloesedd
a gwneud argymhellion ar gyfer datblygu polisi yn y maes hwn.3. Byddai'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau dan sylw. Ar ôl iddo ystyried y rhain, mae'n bosibl i bydd y Pwyllgor yn estyn gwahoddiad i rai roi tystiolaeth ar lafar. 4. Os hoffech gyfrannu, dylech anfon sylwadau ysgrifenedig naill ai drwy e-bost at Economic.comm@Wales.gsi.gov.uk neu ar ffurf copi caled at: Meriel Singleton
Y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NAi gyrraedd erbyn 30 Medi 2005. Byddem yn croesawu sylwadau yn Gymraeg neu Saesneg.5. Fel rhan o ymrwymiad y Cynulliad Cenedlaethol i weithredu'n agored, byddwn yn rhoi copïau o unrhyw ymatebion ysgrifenedig yn llyfrgelloedd y Cynulliad Cenedlaethol a byddant ar gael i'r cyhoedd eu gweld os gofynnant amdanynt. A fyddech cystal â nodi os nad ydych am i'ch ymateb, neu unrhyw ran ohono, fod ar gael i'r cyhoedd ei weld. 6.    Mae croeso ichi anfon y gwahoddiad hwn ymlaen at unrhyw un arall a all fod â diddordeb. 7. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor, Sian Wilkins, ar 029 2089 8224 neu'r Dirprwy Glerc, Sarah Bartlett, ar 029 8029 8153. Edrychaf ymlaen at glywed gennych.Yn gywirChristine Gwyther ACChair, Economic Development and Transport Committee
Cadeirydd, Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

Partneriaid a Help