Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Darparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl (Ionawr 2004 - Ionawr 2007)
Mae'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn cynnal adolygiad polisi o Ddarparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl yng Nghymru. Efallai yr hoffech ddarllen
cylch gorchwyl a
chwmpas llawn yr adolygiad.
Fel rhan o'r adolygiad, byddwn yn ystyried y materion sy'n deillio o 'Rights into Action', y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar gyfer Pobl Ifanc Anabl. Trefnwyd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn Abertawe yn 2003, gan bobl ifanc anabl.
Creodd y bobl ifanc anabl oedd yn rhan o'r Gynhadledd Ryngwladol slogan - 'nothing about us without us', ac felly, bydd grwp cyfeirio o bobl ifanc anabl o Gymru yn cynghori ac yn arwain y Pwyllgor yn ystod yr adolygiad.
Mae cwmpas posibl yr adolygiad yn enfawr, felly er mwyn sicrhau y bydd modd i'r Pwyllgor gyflawni'r gwaith, bydd yn canolbwyntio ar y problemau mwyaf sylweddol neu sylfaenol, a'r rhai hynny lle gall Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wneud gwahaniaeth.
Bydd 3 thema allweddol yn ategu'r adolygiad:
- Hyrwyddo a chynnal annibyniaeth a hunan gynhaliaeth pobl ifanc.
- Darparu gwasanaethau ymatebol, cydlynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Cymorth a gwasanaethau sy'n briodol i oedran.
O fewn y themâu trosfwaol hyn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yn benodol yr wyth maes canlynol:
- addysg, hyfforddiant a gwaith
- hamdden
- tai
- cludiant
- cyfarpar
- trosglwyddo i fod yn oedolyn
- mynediad i wybodaeth
- tlodi
Nod yr Adolygiad yw gwneud argymhellion ynghylch yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl yng Nghymru. Oherwydd bod nifer fawr o feysydd pwysig wedi eu nodi, rydym y disgwyl y bydd yr adolygiad yn para tua dwy flynedd, (tan Tachwedd 2006) cyn adroddi.
Dogfennau Pwysig