Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Darparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl
Cwmpas yr Adolygiad
Nodir
isod y rhesymau dros ddewis y themâu a'r wyth maes allweddol:
Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Y
rheswm dros gynnwys y maes hwn:
- Yn ôl gwaith ymchwil, mae pobl ifanc anabl yn teimlo bod eraill yn gwahaniaethu yn eu herbyn yn yr ysgol, a'u bod yn cael eu digalonni yno ac weithiau
eu bwlio.
- Gall diffyg cyfleoedd eu rhwystro rhag
manteisio ar addysg bellach ac uwch, ac yn y pen draw rhag cael gwaith.
- Gan nad yw athrawon ac eraill yn disgwyl llawer
gan bobl ifanc anabl, mae hyn yn effeithio ar eu hunan-barch ac yn aml, yn golygu eu bod yn cael llai o gyfleoedd yn ystod eu bywydau.
Mae'r
Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes wrthi ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'r gwasanaethau a ddarperir er mwyn diwallu Anghenion Addysgol Arbennig ac mae'n bwysig nad ydym yn dyblygu'r gwaith hwn. Yn ystod yr adolygiad hwn, byddwn yn canolbwyntio ar faterion
ehangach mewn ysgolion ac ym maes addysg uwch, er enghraifft:
- Cyfleoedd
i fanteisio ar yr holl brofiadau a gynigir yn yr ysgol - dim ond cyfeirio at y profiad addysgol y mae datganiadau
- Profiadau
pobl ifanc anabl o ran y cyfleoedd a gânt i fanteisio ar addysg uwch ac ar hyfforddiant.
- Paratoi pobl ifanc
anabl ar gyfer byd gwaith - cyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o brofiad gwaith, cyngor am yrfaoedd a chyngor am eu hawliau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
- Yr
un hawl i'r un ystod o ddewisiadau â phobl ifanc eraill.
Hamdden
Y rheswm
dros gynnwys y maes hwn:
- Mae ffactorau sylweddol yn rhwystro pobl ifanc anabl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Yn eu plith y mae bylchau o ran y gwasanaethau a ddarperir, diffyg
dewis o ran y gweithgareddau sydd ar gael, anawsterau wrth fynd ar ymweliadau ac ar wyliau, llai ohonynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
- Diben
gofal seibiant a chyfnodau byr o seibiant yw rhoi seibiant i rieni, ond mae hyn yn golygu nad rhoi mwynhad i'r plentyn sy'n cael y prif sylw yn ystod y cyfnodau hyn. (Mae hon yn broblem benodol os nad oes gan yr awdurdod lleol ond ychydig o ddewisiadau).
Tai
Y
rheswm dros gynnwys y maes hwn:
- Mae cael symud i mewn i'ch cartref eich hun yn un o'r camau allweddol os ydych am fod yn annibynnol.
- Mae
gan bobl ifanc anabl amrywiaeth eang o anghenion yn hyn o beth, a gall fod yn anodd cynnig dewis go iawn iddynt mewn sawl rhan o'r Gymru wledig.
- Mae
diffyg tai addas ar gyfer pob grw^p.
- Gall fod yn anodd i bobl ifanc anabl gael gafael ar dai a ddarperir gan yr awdurdodau lleol drwy'r system bwyntiau, ac yn aml, nid yw tai preifat yn
addas ar eu cyfer.
- Gan mai prin yw'r ddarpariaeth addas ym
maes tai cymdeithasol, gall hyn olygu bod pobl ifanc anabl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar y cyrion.
- Mae
cost tai a phecynnau gofal yn rhwystr iddynt yn hyn o beth.
Trafnidiaeth
Y rheswm
dros gynnwys y maes hwn:
- Mae hwn yn fater o bwys aruthrol gan fod trafnidiaeth yn rhoi annibyniaeth i bobl.
- Os
ceir problemau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu os nad yw'r gwasanaethau a ddarperir yn hyblyg, gall hyn olygu bod pobl yn cael anawsterau wrth fanteisio ar addysg, wrth gael gwaith ac yn eu bywydau cymdeithasol.
Cyfarpar
Y
rheswm dros gynnwys y maes hwn:
- Gwelir oedi yn aml wrth ddarparu cyfarpar addas (megis cadeiriau olwynion) ar gyfer pobl ifanc anabl.
Cael
Gafael ar Wybodaeth
Y rheswm dros gynnwys y maes hwn:
- Mae pobl ifanc anabl a'u cynorthwywyr,
ynghyd â gweithwyr proffesiynol yn y maes, yn wynebu problemau wrth geisio cael gafael ar wybodaeth. Gallai hyn effeithio ar y penderfyniadau y maent yn eu gwneud. Dichon fod pobl ifanc anabl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu hyd
yn oed mwy o anfanteision yn hyn o beth.
- Yn
aml, mae pobl yn rhoi'r wybodaeth y maent yn meddwl sydd ei hangen arnynt i bobl ifanc anabl yn hytrach na'r wybodaeth y maent am ei chael.
- Mae'n
bosibl na fydd unrhyw wybodaeth ar ffurf briodol.
Camu o fyd plentyn i fyd oedolyn
Y
rheswm dros gynnwys y maes hwn:
- Yn aml, nid yw'r gwasanaeth addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cydgysylltu'u gwaith ac yn cynllunio ar gyfer y cyfnod hwn.
- Mae
darparu gofal drwy gwasanaethau'r awdurdodau lleol yn lle drwy rieni, sy'n rhoi'r gofal hwnnw'n ddi-dâl, yn golygu y bydd y bobl anabl yn cael llai o incwm.
Tlodi
Y
rheswm dros gynnwys y maes hwn:
- Mae rhieni plant anabl yn debygol o fod yn dlotach na rhieni plant sydd heb fod yn anabl, er enghraifft, am fod dyletswyddau gofal yn golygu eu bod yn llawer
llai tebygol o fod mewn gwaith llawnamser.
- Bydd
tlodi ymhlith pobl ifanc yn cael ei ystyried, yn ogystal â thlodi ymhlith plant a theuluoedd, gan fod hyn yn effeithio ar allu pobl ifanc i fforddio byw yn annibynnol.