Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Adolygiadau Polisi: Y berthynas rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Manyldeb y Swydd Cynghorydd Arbenigol

1. Mae Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu penodi cynghorydd arbenigol i'w helpu gyda'r gwaith o adolygu'r berthynas rhwng y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 2. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn un o saith pwyllgor pwnc y Cynulliad Cenedlaethol. Ymhlith y swyddogaethau y maent yn eu cyflawni mae datblygu polisi'r Cynulliad ac adolygu'n rheolaidd y ffordd y mae cyrff cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.3. Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr adolygiad. Bydd yn ystyried yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ym mis Ionawr ac yn gwrando ar ragor o dystiolaeth lafar ym mis Chwefror a Mawrth. Bydd yn cyflwyno'i ganfyddiadau gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf y flwyddyn nesaf.4. Dyma nodau a chylch gorchwyl yr adolygiad:AmcanionPwyso a mesur pa mor effeithiol yw'r ffordd y mae'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio a chydweithredu â'i gilydd; nodi arferion da a chynnig argymhellion er mwyn annog y prif asiantaethau i wella'r broses o gydweithio a chydweithredu.Y Cylch Gorchwyli. Adolygu'r dulliau o gydgynllunio a darparu gwasanaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac ansawdd y sylfaen dystiolaeth; ii. gweld pa mor atebol yw'r trefniadau ar gyfer cydgynllunio a darparu gwasanaethau;iii. cloriannu'r effeithiau (cadarnhaol a negyddol) y gall y penderfyniadau a wneir mewn un gwasanaeth eu cael ar wasanaeth arall;iv. edrych ar faterion allweddol sy'n effeithio ar ansawdd gwasanaeth cydgysylltiedig a'r ffordd y caiff ei ddarparu, yn benodol:
  • trefniadau ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty
  • gofal canolraddol
  • gwasanaethau preswyl a gwasanaethau cartrefi nyrsio
  • gwasanaethau gofal yn y cartref
  • y rhan y mae'r sectorau annibynnol a phreifat yn ei chwarae
  • cymorth i ofalwyr.
v. adolygu'r rhan y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chwarae wrth annog cleifion i fod yn annibynnol ac wrth eu hatal rhag cael eu derbyn neu eu derbyn drachefn i'r ysbyty yn ddi-angen.MANYLDEB Y SWYDD5. Mae testun yr adolygiad yn berthnasol i waith y GIG, gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol a'r sectorau gofal gwirfoddol ac annibynnol o safbwynt cynllunio a darparu gofal. Mae'r berthynas rhyngddynt yn gymhleth iawn a dyna pam fod angen cynnal adolygiad, ac wrth gasglu tystiolaeth gan y rheini sy'n gweithio yn y gwahanol sectorau, bydd angen i'r Pwyllgor gael cyngor ar ddilysrwydd y dystiolaeth y mae'n ei chasglu ac ar ba mor arwyddocaol yw'r dystiolaeth honno.6. Wrth i'r adolygiad fynd rhagddo, efallai y bydd angen i'r Pwyllgor gael cyngor ynghylch a ddylai ganolbwyntio'n fanylach ar unrhyw un o'r materion sy'n codi. 7. Efallai hefyd y bydd y Pwyllgor am ofyn cyngor ynghylch y sefydliadau a'r unigolion y dylent ofyn iddynt roi tystiolaeth ac ynghylch y math o gwestiynau y dylent eu holi.8. Gofynnir hefyd i'r Cynghorydd roi cyngor i'r Pwyllgor ar y dull o gyflwyno'i ganfyddiadau a'i gasgliadau.9. Bydd y Pwyllgor yn gofyn am arbenigedd
  • yn y gwaith strategol a gweithredol o gynllunio gwasanaethau gofal ar draws y sector;
  • yn y strategaethau a'r polisïau sy'n sail i'r broses o ddarparu gwasanaethau;
  • ran gwerthuso a chydnabod arferion da;
  • ran deall y materion sy'n hwyluso'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ar draws y sector neu'n cyfyngu arno; a
  • ran deall anghenion y claf/cleient a'u teuluoedd a'u gofalwyr.
10. Bydd angen i'r person a benodir ddangos bod ganddo/ganddi
  • y gallu i fod yn wrthrychol ynghylch y materion sydd i'w hystyried;
  • sgiliau dadansoddol da a'r gallu i feddwl mewn ffordd strategol;
  • y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig;
  • y gallu i weithio'n agos â'r Pwyllgor ac â chyrff eraill.
11. Byddai'n ofynnol i'r cynghorydd arbenigol weithio am hyd at 15 o ddiwrnodau (yn seiliedig ar ddiwrnod gwaith wyth awr) rhwng mis Ionawr a Mai 2004. Bydd hyn yn cynnwys bod yn bresennol mewn rhyw bedwar cyfarfod pwyllgor. Cynigir uchafswm tâl o £150 y dydd, ynghyd ag unrhyw gostau teithio a chynhaliaeth rhesymol. Caiff y rhain eu had-dalu yn unol â'r raddfa arferol a delir i staff y Cynulliad Cenedlaethol. 12 Mae gofyn i'r ymgeiswyr ddarparu:
  • curriculum vitae;
  • datganiad byr (dim mwy na dwy ochr o dudalen A4 wedi'u teipio) yn rhoi eu barn ynghylch y prif faterion yr ymdrinnir â hwy yn yr adolygiad;
  • Cadarnhad y gallant gyflawni'r gwaith o fewn yr amser a bennwyd.
13. Dylid anfon ceisiadau at Glerc y Pwyllgor a fydd hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi, os bydd angen:Jane Westlake
Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NQRhif ffôn 029 2089 8149
e-bost Jane.Westlake@Wales.gsi.gov.uk .14. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 14 Tachwedd 2003.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help