Y Pwyllgor Deddfau
Sefydlwyd y Pwyllgor Deddfau trwy rym Adran 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn archwilio is-ddeddfwriaeth Cymru. Mae Adrannau 58 a 59 o’r Ddeddf yn cynnwys y darpariaethau statudol sy’n berthnasol i swyddogaethau ac aelodaeth y Pwyllgor Deddfau. Mae
Rheol Sefydlog 11 yn amlinellu cyfrifoldebau’r Pwyllgor, a nodir y drefn ar gyfer pasio Deddfwriaeth y Cynulliad yn
Rheol Sefydlog 24.
Swyddogaeth y Pwyllgor Deddfau oedd gwneud yn siwr nad oedd yr is-ddeddfwriaeth a ddaeth gerbron y Cynulliad yn ddiffygiol ac y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion perthnasol. Mae’r seiliau lle gall y Pwyllgor dynnu sylw arbennig y Cynulliad at is-ddeddfwriaeth wedi eu hamlinellu yn
Rheol Sefydlog 11.7.