Trefniadau Etholiadol yng Nghymru

Dogfen Drafod

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mehefin 2006Pennod 1 - CyflwyniadY Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus 1.1 Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn un o Bwyllgorau Pwnc Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 1.2 Rôl y Pwyllgorau Pwnc yw craffu ar waith y Cynulliad a'i gynghori ar faterion yn ymwneud â deddfwriaeth, cyllidebau a pholisïau.1.3 Mae cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn cynnwys rhan o bortffolio'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rôl y Pwyllgor yw edrych ar y materion ehangach sy'n effeithio ar lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru (yn hytrach na meysydd penodol fel iechyd neu addysg).1.4 Cadeirydd y Pwyllgor yw Ann Jones ac ar hyn o bryd, mae yna wyth Aelod ar y Pwyllgor yn cynrychioli holl bleidiau'r Cynulliad.Prosiect craffu'r Pwyllgor1.5 Bu cryn ddadlau yng Nghymru a Lloegr yn ddiweddar ynghylch y trefniadau etholiadol. Roedd y ddadl yn amrywio o sut i fynd i'r afael â lleihad yn nifer y bobl sy'n pleidleisio a chofrestru i faterion yn ymwneud â phleidleisio drwy'r post a diogelwch y bleidlais yn gyffredinol.1.6 Ym mis Rhagfyr 2004, cytunodd y Pwyllgor i edrych ar drefniadau etholiadol yng Nghymru. Er nad yw llawer o'r pwerau i newid trefniadau etholiadol yng Nghymru yn ddatganoledig, credai'r Pwyllgor bod modd gwneud llawer o fewn pwerau'r Cynulliad i ddelio â'r materion a oedd yn cael eu trafod.1.7 Ym mis Mawrth 2005, cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl canlynol:
  • Ystyried materion yn ymwneud â threfniadau etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, ac yn arbennig, cofrestru pleidleiswyr, canran y bobl sy'n pleidleisio, y bobl ifanc sy'n pleidleisio a phleidleisio dwyieithog.
  • Ystyried gwahanol fesurau a ddefnyddir o fewn systemau gwleidyddol eraill ar gyfer gwella'r ganran sy'n pleidleisio, cofrestru pobl ifanc a'u hannog i bleidleisio, ac i ba raddau y gallent gael eu cymhwyso i etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.
  • Ystyried a oes unrhyw fesurau ychwanegol yn ofynnol er mwyn sicrhau bod y trefniadau pleidleisio yng Nghymru yn gwbl gynhwysol.
Cyflwyno argymhellion.1.8 Ers mis Mai 2005, rydym wedi casglu tystiolaeth gan bobl a sefydliadau o'r DU a gwledydd eraill Ewrop. Ceir rhestr lawn o'r sawl a roddodd tystiolaeth yn Atodiad A.1.9 Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion y dystiolaeth a gasglwyd hyd yn hyn a'n barn arni. Gofynnwn gwestiynau amrywiol yn yr adroddiad ac rydym yn croesawu eich atebion i unrhyw un neu i bob un ohonynt. Nid yw'r cwestiynau hyn yn cynnwys yr holl faterion a godir yn yr adroddiad a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych ar unrhyw fater a godir yn yr adroddiad (neu unrhyw beth rydym wedi'i hepgor yn eich barn chi).1.10 Rydym wedi osgoi trafod materion fel cynrychiolaeth gyfrannol, sy'n wleidyddol iawn, yn fwriadol. Byddai'n well trafod y pethau hyn ar wahân i'r prosiect hwn yn ein barn ni.Sut i fynegi barn1.11 Gan fod pawb yng Nghymru yn rhan o'r broses etholiadol, rydym yn croesawu barn pawb. Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn. Byddem yn gwerthfawrogi eich barn ar unrhyw fater yn yr adroddiad.1.12 Cyhoeddir yr holl wybodaeth a anfonwyd atom fel rhan o'n hadroddiad terfynol ar y fewnrwyd.1.13 Byddai'n well gennym pe byddech yn anfon eich ymatebion atom yn electronig dros yr e-bost. Y cyfeiriad yw:Local-Govn.comm@wales.gsi.gov.ukFel arall, gallwch anfon eich ymatebion drwy'r post i'r cyfeiriad canlynol:Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (Trefniadau etholiadol)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Swyddfa'r Cynulliad
Bae Caerdydd
CF99 1NAY dyddiad cau yw dydd Llun 4 Medi.1.14 Os hoffech gael rhagor o gopïau o'r adroddiad hwn, cysylltwch â:Spencer McGarry ar 02920 898505.Gallwch ei lawrlwytho o'n gwefan hefyd yn:http://www.cymru.gov.uk/keypubassemlocgovpubsvs/index-w.htmlle y gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor. 1.15 Ceir ymgynghoriad ar-lein ar ein gwefan hefyd a'i nod yw darganfod beth yw barn pobl ifanc ar bleidleisio.Pennod 2 - Cofrestru pleidleiswyr2.1 Mae'n hanfodol bod pawb ym Mhrydain sy'n 18 oed ac yn hy^n (neu a fydd yn 18 oed yn y 12 mis nesaf) ac sy'n gymwys i bleidleisio, yn cofrestru ar y Gofrestr Etholwyr. 2.2 Mae ffigurau gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod nifer y bobl sy'n cofrestru ar y Gofrestr Etholwyr yng Nghymru yn lleihau. Amcangyfrifir nad oedd 6% o'r bobl a oedd yn gymwys wedi'u cofrestru i bleidleisio yng Nghymru yn 2000 o gymharu â 4.8% ym 1991. Er bod y ffigur hwn yn is nag yn Lloegr (lle amcangyfrifir nad yw 6.9% o'r boblogaeth wedi'u cofrestru), mae'n destun pryder o hyd.2.3 Ceir llawer o resymau dros beidio â chofrestru i bleidleisio, ond roedd ychydig dros hanner y bobl nad oedd wedi'u cofrestru naill ai'n byw gartref gyda'u rhieni, wedi symud yn y 6 mis diwethaf neu'n rhentu gan landlord preifat. Mae llawer o bobl ifanc a'r rheini sy'n gymwys i bleidleisio am y tro cyntaf wedi'u cynnwys yn y tri chategori hyn.2.4 Yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor, nododd Bryn Parry Jones, Prif Swyddog Canlyniadau Cymru:The system of voter registration is the keystone for running a good election. I know that I and my colleagues spend a lot of time seeking to ensure that we have as good an electoral register as possible. The canvass undertaken every year is extensive. The forms of information used by local authorities are available for this purpose, such as when new houses are completed, and we take account of the registers of deaths and so forth. We seek to use other sources of information to keep that register in good order. However, there are limitations in our capacity, due to data protection, to be able to achieve the sort of information sharing that might be useful, in terms of ensuring that the register is as close to complete as possible, and also to avoid the possibilities of fraud.2.5 Mewn sawl gwlad yn Ewrop, caiff pobl eu cofrestru'n awtomatig, ac ychwanegir pawb i'r gofrestr pan fyddant yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed. Fel arfer, fe'i cysylltir â chofrestr sifil neu gofrestr dinasyddion genedlaethol y wlad.2.6 Ceir cynigion yn y Mesur Gweinyddu Etholiadol newydd sy'n mynd trwy Senedd San Steffan y dylid newid y system bresennol ar gyfer cofrestru cartrefi. Mae'r cynigion yn cynnwys cynlluniau peilot ar gyfer cofrestru unigolion lle y bydd yn rhaid i bawb sydd am gofrestru ddarparu dull adnabod unigol (fel llofnod neu rif yswiriant). Defnyddir system debyg yng Ngogledd Iwerddon.2.7 Mewn adroddiad ar gyfer Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, awgrymodd Dr Jonathan Bradley o Brifysgol Abertawe efallai nad oes cymaint â 10% o'r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ar y Gofrestr Etholwyr. Mae yna sawl rheswm dros hyn, yn cynnwys:
  • Diffyg dealltwriaeth o ganlyniad i anawsterau iaith a'r broses wleidyddol yng Nghymru;
  • Diffyg cynrychiolwyr pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn sefyll mewn etholiadau;
  • Mae'n fwy anodd i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru deimlo'n Gymreig na'n Brydeinig.
Cwestiwn 1Er ei fod yn orfodol cofrestru yng Nghymru, anaml iawn y caiff unrhyw un ei gosbi am beidio â gwneud hyn.A ddylid cosbi pobl am beidio â chofrestru, ac a fyddai hyn yn annog mwy o bobl i gofrestru?Cwestiwn 2Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i sicrhau bod mwy o bobl sy'n byw gyda'u rhieni, sydd wedi symud yn ddiweddar neu sy'n byw mewn tai rhent yn cofrestru?Cwestiwn 3A fydd cofrestru unigolion gyda dull adnabod personol yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n cofrestru?A fydd cynhyrchu dull adnabod personol cyn pleidleisio yn helpu i wneud y broses bleidleisio'n fwy diogel?Cwestiwn 4A ddylai fod gennym ddull cofrestru awtomatig fel sydd gan wledydd eraill?Os felly,Pa ffynonellau gwybodaeth y gellir eu defnyddio i sicrhau y caiff pawb eu cofrestru'n awtomatig?Cwestiwn 5Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i annog mwy o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gofrestru?Pennod 3 - Dulliau pleidleisio3.1 Nid yw'r ffordd rydym wedi bod yn pleidleisio ym Mhrydain wedi newid llawer ers degawdau. Yn yr unfed ganrif ar hugain, teimlwn efallai y bydd achos dros gyflwyno ffyrdd eraill o bleidleisio.3.2 Pleidleisio drwy'r post yw'r dull amgen mwyaf poblogaidd yn y DU. Cafwyd rhai achosion llys cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys twyll mewn cysylltiad â phleidleisio drwy'r post. Ni fu treialu'r broses o bleidleisio drwy'r post yn unig yn Lloegr yn llwyddiannus.3.3 Nod rhai o'r cynigion yn y Mesur Gweinyddu Etholiadol yw diogelu'r bleidlais, fel cofrestru unigolion a dulliau adnabod pleidleiswyr.3.4 Cafwyd sawl awgrym ar gyfer ffyrdd gwahanol o bleidleisio, yn cynnwys dros y rhyngrwyd, dros y ffôn a thrwy anfon neges testun. Credir y bydd llawer o'r rhain yn apelio at bleidleiswyr ifanc sy'n gyfarwydd â phleidleisio ar gyfer rhaglenni teledu realaeth drwy anfon neges testun neu drwy anfon e-bost.3.5 Mae gwledydd eraill ledled y byd wedi treialu ffyrdd gwahanol o bleidleisio. Yn Ewrop, pleidleisio'n electronig yw'r dull mwyaf poblogaidd ac mae'n canolbwyntio ar ddefnyddio terfynell gyfrifiadurol mewn gorsaf bleidleisio.3.6 Roedd yr enghreifftiau o orsafoedd pleidleisio cyfrifiadurol gwahanol a welwyd yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg yn gyflym ac yn ddibynadwy ym marn y swyddogion a'r etholwyr. Dywedwyd wrthym na fu llawer o wrthwynebiad iddynt a'u bod yn hawdd eu defnyddio yn gyffredinol.Cwestiwn 6A fyddai system pleidleisio drwy'r post yn unig yn ymarferol yng Nghymru?Rhowch resymau dros eich ateb.Cwestiwn 7Pa ddulliau electronig o bleidleisio (e.e. rhyngrwyd, testun, gorsafoedd pleidleisio) y gellir eu defnyddio yng Nghymru?Beth yw manteision/problemau posibl defnyddio'r dulliau a awgrymwyd gennych?Cwestiwn 8A fyddai modd defnyddio lleoliadau eraill fel gorsafoedd pleidleisio? (e.e. uwchfarchnadoedd, swyddfeydd post ac ati)Pennod 4 - Y ganran a bleidleisiodd4.1 Dim ond canran isel o bobl sy'n pleidleisio yng Nghymru a bu'r canran hwn yn gostwng yn ystod y degawdau diwethaf. Mae'r tabl isod yn dangos canran y bobl a bleidleisiodd yn ystod yr wyth etholiad diwethaf yng Nghymru.
Dogfen Ymgynghorol | CCC

Etholiad

Blwyddyn

Y ganran a bleidleisiodd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1999

46

Llywodraeth Leol Cymru

1999

49

Etholiadau Ewrop yng Nghymru

1999

28

Etholiadau Senedd y DU yng Nghymru

2001

59

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2003

38

Llywodraeth Leol Cymru*

2004

42

Etholiadau Ewrop yng Nghymru*

2004

42

Etholiadau Senedd y DU yng Nghymru

2005

63

*Wedi'u cynnal ar yr un diwrnod.Mae'r patrwm hwn yn debyg i weddill y DU a llawer o wledydd eraill Ewrop.4.2 Os caiff y ffigurau eu dadansoddi ymhellach, daw tueddiadau sy'n achosi mwy o bryder i'r amlwg. Canran y bobl iau na 25 oed a bleidleisiodd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2003 oedd 16% - un o'r canrannau isaf gan bobl ifanc yn Ewrop.4.3 Cynigir sawl rheswm pam nad yw pobl ifanc yn pleidleisio ond awgryma ymchwil a gynhaliwyd gan y Sefydliad ar gyfer Democratiaeth a Chymorth Etholiadol (IDEA) os nad yw person wedi pleidleisio erbyn y trydydd etholiad ar ôl yr adeg y mae'n gymwys i wneud hynny, mae'n annhebygol y bydd yn pleidleisio unrhyw bryd yn y dyfodol.4.4 Casglwyd tystiolaeth hefyd gan IDEA bod adnoddau a anelir at annog pobl yn y grwp oedran 14-25 i bleidleisio yn llawer mwy costeffeithiol na'r rhai a anelir at grwpiau oedran hy^n.4.5 Yn Sweden, ceir canran uchel o bobl yn pleidleisio (tua 90% ym mhob etholiad) a'r ganran o bobl ifanc sy'n pleidleisio yw tua 85%.4.6 Dywedwyd wrthym mai un o'r rhesymau dros hyn yw'r ffordd y caiff plant eu haddysgu am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth yn yr ysgolion. Gwahoddir canghennau ieuenctid y prif bleidiau gwleidyddol (a ariennir gan y wladwriaeth) i ysgolion yn aml i ddechrau trafodaethau ynghylch pynciau gwahanol, i gymryd rhan ynddynt ac i addysgu athrawon ynghylch gwleidyddiaeth eu pleidiau. Anogir myfyrwyr hefyd i drafod materion sy'n effeithio ar eu haddysg ac mae cynghorau ysgolion yn uchel iawn eu parch a gwrandewir arnynt. Mae llawer o bobl ifanc yn Sweden hefyd yn aelodau o grwpiau neu glybiau anwleidyddol y tu allan i'r ysgol sydd hefyd yn annog pobl i drafod a chymryd rhan mewn democratiaeth yn lleol.4.7 Roedd sawl person ifanc y siaradwyd â hwy yn Sweden yn rhyfeddu na chaiff ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth plaid ei haddysgu mewn ysgolion ac nad yw'r pleidiau gwleidyddol yn ymweld ag ysgolion yn rheolaidd. Gofynnwyd sut y mae pobl ifanc yng Nghymru yn gwybod i bwy y dylent bleidleisio os nad oes ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.4.8 Gwyddwn fod rhai enghreifftiau o arfer da ym maes addysgu democratiaeth a gwleidyddiaeth y tu mewn i'r cwricwlwm ABCh yng Nghymru a'r tu allan iddo. Byddai'n dda gweld yr arfer da hwn yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru. 4.9 Credwn fod annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth a phleidleisio ar bob lefel yn allweddol o ran cynyddu canran y bobl sy'n pleidleisio a sicrhau bod yr etholwyr yn fwy hyddysg.Cwestiwn 9Pam bod cyn lleied o bobl yn pleidleisio yng Nghymru?Rhowch unrhyw enghreifftiau rydych wedi dod ar eu traws (gan hepgor unrhyw fanylion personol)Cwestiwn 10A yw ysgolion yn rhoi digon o wybodaeth i ddisgyblion i'w helpu i wneud penderfyniad hyddysg o ran sut y maent yn mynd i bleidleisio?Cwestiwn 11 A ddylid dysgu gwleidyddiaeth plaid mewn ysgolion?Os felly, pam?Os na, pam?Cwestiwn 12A ddylai pleidiau gwleidyddol fod yn rhan o'r broses o addysgu pobl ifanc am wleidyddiaeth mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid eraill?Cwestiwn 13A oes enghreifftiau o arfer da o ran addysgu pobl ifanc am wleidyddiaeth yn eich ardal chi?Rhowch wybod i ni amdanynt (gan hepgor unrhyw fanylion personol).Pennod 5 - Cofrestru a phleidleisio; mynediad5.1 Yn etholiadau 2003 y Cynulliad, ' Etholiadau'n Eithrio - Cymru’ cynhaliwyd arolwg o tua 150 o orsafoedd pleidleisio yng Nghymru a chanfuwyd nad oedd 77% ohonynt yn bodloni'r meini prawf o ran hygyrchedd.5.2 Yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor, nododd Bryn Parry Jones:On accessibility for disabled people, there are practical issues, which will remain the case despite the Disability Discrimination Act 1995. I suspect that a number of buildings that must be used for polling stations, particularly in rural areas where there is little choice, do not have ideal facilities for welcoming disabled people.5.3 Er bod gweinyddwyr etholiadol a swyddogion canlyniadau yn ceisio cynnwys amrywiaeth o anghenion ar gyfer cofrestru a phleidleisio, clywsom dystiolaeth nad oes safonau statudol yn bodoli o ran mynediad at ddogfennau cofrestru a phleidleisio na gorsafoedd pleidleisio. 5.4 Ar hyn o bryd, mae sawl grwp yn lobïo Llywodraeth y DU i gynnwys darpariaethau gwell o ran mynediad yn y Mesur Gweinyddu Etholiadol.5.5 Er bod gan yr Iseldiroedd a Denmarc broblemau tebyg i Gymru o ran mynediad i orsafoedd pleidleisio, defnyddir blychau pleidleisio symudol yn y ddwy wlad ar gyfer pobl sy'n cael anhawster i gyrraedd yr orsaf bleidleisio.5.6 Dywedwyd wrthym hefyd ei fod yn ofynnol i reolwyr ym mhob gorsaf bleidleisio gynhyrchu adroddiad ar ddiwedd pob etholiad, yn amlinellu unrhyw anawsterau y daethant ar eu traws yn ystod cyfnod yr etholiad. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys materion yn ymwneud â mynediad ond hefyd unrhyw broblemau eraill y mae pleidleiswyr wedi dod ar eu traws yn y gorsafoedd pleidleisio. Cyflwynir y rhain i'r swyddog canlyniadau, a disgwylir iddo ef/iddi hi gyflwyno adroddiad ar faterion a godwyd i Gyngor Etholiadol yr Iseldiroedd.Cwestiwn 14A oes yna ddigon o ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau i'w helpu gyda'r broses gofrestru?Os na, pa fathau o bethau ymarferol y gellir eu gwneud?Cwestiwn 15A oes digon o ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau i'w helpu i bleidleisio?Os na, pa fathau o bethau ymarferol y gellir eu gwneud?Cwestiwn 16A ddylai fod safonau statudol yn bodoli o ran hygyrchedd deunydd cofrestru a phleidleisio a gorsafoedd pleidleisio?Cwestiwn 17Beth yw eich barn ar ddefnyddio blychau pleidleisio symudol ar gyfer pobl sy'n cael anawsterau i gyrraedd gorsafoedd pleidleisio?Cwestiwn 18A ddylai fod yn ofynnol i reolwyr gorsafoedd pleidleisio gynhyrchu adroddiad tebyg i'r un sydd gan yr Iseldiroedd? Pennod 6 - Iaith6.1 Mae'n bwysig bod y bobl hynny sydd am bleidleisio'n gallu darllen a deall y dogfennau a'r cyngor a ddefnyddir ar gyfer cofrestru a phleidleisio.6.2 Yng Nghymru, mae'r holl ffurflenni swyddogol a llawer o'r cyngor ysgrifenedig ar gael yn ddwyieithog. Fodd bynnag, mae dal yn aneglur faint o gymorth a chyngor sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn arbennig mewn gorsafoedd pleidleisio.6.3 Yng Nghanada, mae'n ofynnol i bawb sy'n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio fod yn gwbl ddwyieithog. Lle'r oedd problem yn bodoli o ran recriwtio gweithwyr dwyieithog, roedd cardiau dwyieithog ar gael yn egluro sut i gael cyngor ac roedd rhif ffôn am ddim ar gael i roi cyngor yn Saesneg neu'n Ffrangeg.6.4 Dosberthir canllawiau ar ba mor hawdd ydyw i gael ffurflenni a chyngor mewn ieithoedd ac eithrio Cymraeg a Saesneg gan y Comisiwn Etholiadol. Yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor, nododd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) mai diffyg dealltwriaeth pobl o ddogfennau a chyngor sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn unig yw un o'r rhesymau pam nad yw pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cofrestru ac yn cymryd rhan mewn etholiadau.6.5 Nid oedd llawer o dystiolaeth am unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer cynorthwyo grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig â'r broses bleidleisio yn unrhyw un o'r gwledydd yn Ewrop y cymerwyd tystiolaeth ganddynt. Cymerwyd yn ganiataol y dylai fod person sy'n ddinesydd o'r wlad honno yn deall yr iaith a'r broses wleidyddol.6.6 Cawsom dystiolaeth gan Roger Morris mai un o'r problemau gyda threialu'r broses o bleidleisio drwy'r post yn unig yn Lloegr oedd bod y dogfennau a oedd wedi'u cynnwys gyda'r papurau pleidleisio drwy'r post yn hir ac yn gymhleth iawn. When you are confronted with a slab of instructions, you think to yourself, 'Oh my goodness, there is a lot to this, I do not have time, and I will do it later’. In fact, all it really needed to say was, 'Put a cross like you always do, put it in the envelope and shove it in the box’. Cwestiwn 19Beth yw eich barn ar yr help a'r cyngor sydd ar gael yn ddwyieithog mewn etholiadau yng Nghymru?Cwestiwn 20Beth ellir ei wneud o ran dogfennau a chyngor i annog mwy o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gofrestru a phleidleisio?Cwestiwn 21A yw'r ffurflenni a'r wybodaeth a roddir ynghylch cofrestru a phleidleisio yn syml ac yn hawdd eu deall yn eich barn chi?Crynodeb o gwestiynauCwestiwn 1Er ei fod yn orfodol cofrestru yng Nghymru, anaml iawn y caiff unrhyw un ei gosbi am beidio â gwneud hyn. A ddylid cosbi pobl am beidio â chofrestru, ac a fyddai hyn yn annog mwy o bobl i gofrestru? Cwestiwn 2Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i sicrhau bod mwy o bobl sy'n byw gyda'u rhieni, sydd wedi symud yn ddiweddar neu sy'n byw mewn tai rhent yn cofrestru?Cwestiwn 3A fydd cofrestru unigolion gyda dull adnabod personol yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n cofrestru?A fydd cynhyrchu dull adnabod personol cyn pleidleisio yn helpu i wneud y broses bleidleisio'n fwy diogel?Cwestiwn 4A ddylai fod gennym ddull cofrestru awtomatig fel sydd gan wledydd eraill? Os felly,Pa ffynonellau gwybodaeth y gellir eu defnyddio i sicrhau y caiff pawb eu cofrestru'n awtomatig?Cwestiwn 5Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i annog mwy o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gofrestru?Cwestiwn 6A fyddai system pleidleisio drwy'r post yn unig yn ymarferol yng Nghymru?Rhowch resymau dros eich ateb.Cwestiwn 7Pa ddulliau electronig o bleidleisio (e.e. rhyngrwyd, testun, gorsafoedd pleidleisio) y gellir eu defnyddio yng Nghymru?Beth yw manteision/problemau posibl defnyddio'r dulliau a awgrymwyd gennych?Cwestiwn 8A fyddai modd defnyddio lleoliadau eraill fel gorsafoedd pleidleisio? (e.e. uwchfarchnadoedd, swyddfeydd post ac ati)Cwestiwn 9Pam bod cyn lleied o bobl yn pleidleisio yng Nghymru?Rhowch unrhyw enghreifftiau rydych wedi dod ar eu traws (gan hepgor unrhyw fanylion personol)Cwestiwn 10A yw ysgolion yn rhoi digon o wybodaeth i ddisgyblion i'w helpu i wneud penderfyniad hyddysg o ran sut y maent yn mynd i bleidleisio?Cwestiwn 11 A ddylid dysgu gwleidyddiaeth plaid mewn ysgolion?Os felly, pam?Os na, pam?Cwestiwn 12A ddylai pleidiau gwleidyddol fod yn rhan o'r broses o addysgu pobl ifanc am wleidyddiaeth mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid eraill? Cwestiwn 13A oes enghreifftiau o arfer da o ran addysgu pobl ifanc am wleidyddiaeth yn eich ardal chi?Rhowch wybod i ni amdanynt (gan hepgor unrhyw fanylion personol).Cwestiwn 14A oes digon o ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau i helpu gyda'r broses gofrestru?Os na, pa fathau o bethau ymarferol y gellir eu gwneud?Cwestiwn 15A oes yna ddigon o ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau i'w helpu i bleidleisio?Os na, pa fathau o bethau ymarferol y gellir eu gwneud?Cwestiwn 16A ddylai fod safonau statudol yn bodoli o ran hygyrchedd deunydd cofrestru a phleidleisio a gorsafoedd pleidleisio?Cwestiwn 17Beth yw eich barn ar ddefnyddio blychau pleidleisio symudol ar gyfer pobl sy'n cael anawsterau i gyrraedd gorsafoedd pleidleisio?Cwestiwn 18A ddylai fod yn ofynnol i reolwyr gorsafoedd pleidleisio gynhyrchu adroddiad tebyg i'r un sydd gan yr Iseldiroedd? Cwestiwn 19Beth yw eich barn ar yr help a'r cyngor sydd ar gael yn ddwyieithog mewn etholiadau yng Nghymru?Cwestiwn 20Beth ellir ei wneud o ran dogfennau a chyngor i annog mwy o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gofrestru a phleidleisio?Cwestiwn 21A yw'r ffurflenni a'r wybodaeth a roddir ynghylch cofrestru a phleidleisio yn syml ac yn hawdd eu deall yn eich barn chi?Atodiad AList of evidenceEvidence for the inquiry was received from:Welsh Assembly GovernmentRoger MorrisSOLACEAssociation of Electoral AdministratorsScope CymruAssociation of Electoral Administrators WalesAll Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)Council for Education in World Citizenship CymruBryn Parry Jones - Returning Officer for Wales in the European elections.Institute for Democracy and Electoral Assistance (IDEA)In the Netherlands:The Electoral CouncilSDU (suppliers of electronic voting machines in the Netherlands)In Denmark:The Council for Ethnic MinoritiesKonservative Ungdom (Young Conservatives)The Election Unit, Ministry of the Interior and HealthCopenhagen’s Mayor for Education and YouthVenstres Ungdom Landorganisation Secondary School students from Falkonergaarden and Oregaard GymnasiumIn Belgium:Directorate for Elections - Federal Ministry for Internal AffairsPopulation Department - Ixelles, Brussels

Partneriaid a Help