Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Prosiect craffu ar drefniadau etholiadol

Cynllun y Prosiect

Cam 1 - Pennu'r materion perthnasol
  • Cytuno ar gylch gorchwyl - 9 Mawrth
  • Derbyn tystiolaeth oddi wrth y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau llywodraeth leol 2004. - 9 Mawrth
  • Derbyn tystiolaeth oddi wrth Roger Morris (cyn brif swyddog canlyniadau Lloegr ac arbenigwr ar weinyddiaeth etholiadau) - Tymor yr Haf
  • Derbyn tystiolaeth oddi wrth D Bryn Parry Jones - Prif Swyddog Canlyniadau Cymru - Tymor yr Haf
  • Cytuno ar y prif faterion - Tymor yr Haf
Cam 2 - Archwilio'r dulliau a ddefnyddir gan weinyddiaethau eraill
  • Papur ar faterion etholiadol ac ar drefniadau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill - 20 Ebrill
  • Ymweliad casglu ffeithiau â gwledydd Ewropeaidd er mwyn archwilio'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir ar gyfer mynd i'r afael â materion a bennwyd yng ngham 1 - 30 Mai - 3 Mehefin
  • Derbyn tystiolaeth oddi wrth wledydd eraill fel y bo angen (ysgrifenedig neu lafar) - Tymor yr Haf/Tymor yr Hydref
  • Archwilio'r dulliau a ddefnyddir yng Nghymru ar hyn o bryd - Tymor yr Hydref
  • Adrodd ar y dulliau a ddefnyddir gan wledydd eraill ar gyfer mynd i'r afael â'r materion a bennwyd yng ngham 1 - Tachwedd 2005 (defnydd posibl o fforwm trafod electronig fel rhan o'r ymarfer ymgynghori er mwyn annog pobl ifanc i fynegi barn?)
Cam 3 - Ymgynghori ynghylch y dulliau a bennwyd yng ngham 2.
  • Adrodd ar ddulliau a bennwyd yng ngham 2 at ddiben ymgynghori - Mai 2006.
  • Sesiynau casglu tystiolaeth - ymweliadau rapporteur a sesiynau casglu tystiolaeth lafar ffurfiol - Hydref 2006.
  • Adroddiad terfynol ac argymhellion - Hydref 2006.

Partneriaid a Help