Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Social Justice and Regeneration Committee
Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd · Cardiff
CF99 1NA
Eich cyf / Your ref
Ein cyf / Our ref
Dyddiad / Date Chwefror 2004
Annwyl Gydweithiwr
Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Ailstrwythuro'r Heddlu – Strwythurau Democrataidd
Cefndir
Fel y gwyddoch, cwblhaodd y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ei adolygiad ym mis Tachwedd 2005. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref mai'r dewis a ffafrir yw uno Heddluoedd presennol Cymru i ffurfio un Heddlu Strategol i Gymru. Mae'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i'r diben hwnnw.
Fodd bynnag, awgrymodd y Swyddfa Gartref y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru effeithio ar faterion y dyfodol sy'n gysylltiedig ag atebolrwydd rhanbarthol a lleol a fydd yn sail i'r heddlu newydd. Gofynnodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i'r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ystyried y mater hwn o ddifrif a chyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar ei gasgliadau o ran y trefniadau democrataidd ar gyfer Heddlu Strategol newydd yng Nghymru.
Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyfrannu at y gwaith hwn drwy nodi barn eich sefydliad ar y materion a'r dewisiadau o ran sicrhau atebolrwydd rhanbarthol a lleol a fydd yn sail i Heddlu Strategol newydd yng Nghymru, yn cynnwys unrhyw wybodaeth ffeithiol, fanwl a allai fod yn berthnasol. Nid oes angen i chi gyflwyno eich sylwadau ar unrhyw ffurf benodol. Yn ogystal â'r dystiolaeth ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gofyn i nifer o sefydliadau allweddol fod yn bresennol mewn sesiynau llafar. Unwaith eto, bydd yr amserlen ar gyfer hyn yn un fer iawn; gofynnwyd i'r Pwyllgor adrodd yn ôl erbyn diwedd mis Mai 2006.
Yr amserlen
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon unrhyw gyflwyniadau ataf erbyn dydd Gwener 31 Mawrth 2006.
Cyhoeddi Ymatebion
Os na fydd cyfranwyr yn gofyn i ni gadw eu cyflwyniadau'n gyfrinachol, mae'r Pwyllgor yn bwriadu cyhoeddi'r holl ymatebion i'r cyhoedd graffu arnynt.
Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd cyflwyniadau oddi wrth y rheini sydd ar y rhestr amgaeëdig. Yn ogystal, rhoddwyd copi o'r llythyr hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, gyda gwahoddiad agored i'r cyhoedd gyflwyno'u barn.
Yn gywir
Roger Chaffey
Clerc y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio