Yr Is-bwyllgor Darlledu
Cofnodion (BSC(3)-04-09)
Dyddiad: 19 Mawrth 2009
Amser: 09.30 – 11.30
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol
Dai Lloyd, Gorllewin De Cymru (Cadeirydd)
Eleanor Burnham, Gogledd Cymru
Alun Cairns, Gorllewin De Cymru
Joyce Watson, Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Stefan Sanchez, Clerc
Annette Millett, Diprwy Glerc
Eraill yn bresennol:
Gavin Steacy, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Newsquest
Gerry Keighley, Rheolwr Golygyddol Rhanbarthol, Newsquest
Spencer Feeney, Prif Olygydd, South West Wales Media Limited
Sara Wilde, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Media Wales, Trinity Mirror
Aled Eirug, Cynghorwr y Pwyllgor
1: Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon (9.30am – 09.35am)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
2: Casglu tystiolaeth ar gyflwr presennol y diwydiant papur newydd yng Nghymru (9.35am – 11.30am)
Tystiolaeth gan:
Newsquest
2.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.
South West Wales Media Limited
2.2 Bu’r tyst yn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.
Trinity Mirror
Paper
BSC(3)-04-09 (Paper 1)
2.3 Bu’r tyst yn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.
3. Adroddiad yr Is-bwyllgor
3.1 Cytunodd yr Is-bwyllgor y byddai’r adroddiad ar ei ymchwiliad i gyflwr y diwydiant papur newydd yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau er mwyn cytuno arno, gan mai hwn oedd cyfarfod ffurfiol olaf yr Is-bwyllgor.
Papur i’w nodi:
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Papur: BSC(3)-03-09
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2009
