Yr Is-bwyllgor Darlledu

Cofnodion (BSC(3)-01-09)

Dyddiad: 22 Ionawr 2009
Amser: 09.30 – 11:38
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol

Nerys Evans, Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cadeirydd)
Eleanor Burnham, Gogledd Cymru
Paul Davies, Preseli Sir Benfro

Gwasanaeth y Pwyllgorau

Stefan Sanchez, Clerc
Annette Millett, Diprwy Glerc

Eraill yn bresennol:

Martin Shipton, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr
Dr Andy Williams, Prifysgol Caerdydd
Alan Edmunds, Cyfarwyddwr Golygyddol, Media Wales, Trinity Mirror
Geraint Talfan Davies, Cadeirydd, y Sefydliad Materion Cymreig
Aled Eirug – Cynghorydd y Pwyllgor

1: Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson

1.3 Croesawodd y Cadeirydd Eleanor Burnham i’r Pwyllgor a diolchodd i Peter Black am ei gyfraniad.

2: Casglu tystiolaeth ar gyflwr y diwydiant papurau newydd yng Nghymru ar hyn o bryd (9.35am – 11.30am)

Papurau:
BSC(3)-01-09 (Papur 1)
BSC(3)-01-09 (Papur 2)

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan y Pwyllgor

Cam i’w gymryd:

  • Cytunodd Alan Edmunds y byddai’n darparu’r ffigurau a gyhoeddwyd ac a gofnodwyd ar gyfer y refeniw hysbysebu y mae’r Western Mail a’r Daily Post yn ei gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a faint yw hynny fel canran o’r holl refeniw hysbysebu a ddaw o’r sector cyhoeddus.

3:  Ymchwiliad darlledu (11.30 – 11.38)

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ymchwiliad darlledu at y prif bwyllgor, sef y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant.

Papur i’w nodi:

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Papur: BSC(3)-02-08

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2008

Gwasanaeth y Pwyllgorau
Ionawr 2009

Partneriaid a Help