Yr Is-bwyllgor Darlledu
Cofnodion (BSC(3)-03-09)
Dyddiad: 5 Mawrth 2009
Amser: 9.30am - 11.32am
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol
Dai Lloyd, Gorllewin De Cymru (Cadeirydd)
Eleanor Burnham, Gogledd Cymru
Alun Cairns, Gorllewin De Cymru
Joyce Watson, Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Stefan Sanchez, Clerc
Annette Millett, Dirprwy Glerc
Eraill yn bresennol:
John Howells, Cyfarwyddwr Diwylliant, Llywodraeth Cymru
Yr Athro Bob Franklin, Prifysgol Caerdydd
Brian Doel, Tindle Newspapers Limited
Aled Eirug, Cynghorydd y Pwyllgor
1: Ethol Cadeirydd (9.30am)
1.1 Etholwyd Dai Lloyd yn Gadeirydd.
2: Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon (9.30am - 9.35am)
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 2.2 Mae Paul Davies wedi gadael yr Is-bwyllgor Darlledu.3: Casglu tystiolaeth ar gyflwr presennol y diwydiant papurau newydd yng Nghymru (9.35am - 10.10am)
Tystiolaeth gan: Llywodraeth Cymru
Papur: BSC(3)-03-09 (Papur 1)
3.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan y Pwyllgor.
Camau i’w cymryd
Cytunodd John Howells i roi adroddiad llawn i’r Pwyllgor am:
y camau sydd wedi’u cymryd i helpu anghenion hyfforddiant y diwydiant papurau newydd, sef un o argymhellion adroddiad Pwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon y Cynulliad blaenorol;
paratoi nodyn ar wariant tebyg a fyddai o ddiddordeb i’r Pwyllgor, gan gyfeirio at faint mae’r Llywodraeth yn ei wario ar hysbysebu swyddi, datganiadau cyhoeddus ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau;
dull y Llywodraeth o ymestyn ystod y papurau y mae’n hysbysebu ynddynt;
nifer y ceisiadau ar-lein a ddaw i law’r Llywodraeth o’i gymharu â’r ceisiadau copi caled;
sut mae’r Llywodraeth yn hysbysebu drwy’r cyfryngau print a’r cyfryngau ar-lein;
polisi’r Llywodraeth ynghylch cyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus a sut mae hynny’n gweithio o fewn y Llywodraeth.
Prifysgol Caerdydd
Papurau: BSC(3)-03-09 (Papur 2); BSC(3)-03-09 (Papur 2a)
3.2 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan y Pwyllgor.
Tystiolaeth gan: Tindle Newspapers Limited
Papur: BSC(3)-03-09 (Papur 3)
3.3 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan y Pwyllgor.
Papur i’w nodi:
Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Papur: BSC(3)-02-09
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2009
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Mawrth 2009
