Yr Is-bwyllgor Darlledu

BSC(3)-03-09 : Papur 1: 5 Mawrth 2009

Casglu tystiolaeth ynghylch cyflwr presennol y diwydiant papurau newydd yng Nghymru - y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfeirio’n gyson at bwysigrwydd  lluosogrwydd gwasanaethau yng Nghymru mewn perthynas â darlledu. Mae lluosogrwydd hefyd yn hollbwysig yng nghyd-destun y diwydiant papurau newydd yng Nghymru.

Croesawaf y ffaith bod yr is-bwyllgor hwn yn ymchwilio i’r materion hyn. Mae hefyd yn amserol iawn wrth ystyried y cyhoeddiad diweddar gan Trinity Mirror ynglŷn ag  ail-strwythuro’r sefydliad  yng Nghymru. Yr oedd yn destun pryder i Lywodraeth Cynulliad Cymru glywed am y newidiadau a argymhellwyd gan Trinity Mirror. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y rhai a gyflogir yn Media Wales, yn 2003 yr oedd 826 o weithwyr, erbyn 2007 yr oedd y nifer hwn wedi gostwng i 553. Mae’r sefyllfa hon yn debygol o barhau yn dilyn cyhoeddiadau diweddar.

Nid yw dinasyddion Cymru wedi eu gwasanaethu’n dda gan gyfryngau argraffedig cenedlaethol y DU. Mae’n rhaid edrych yn fanwl iawn i ddod o hyd i newyddion am wleidyddiaeth Cymru ym mhrif bapurau newydd y DU. Nid yw  hyn ddim ond yn tanlinellu rôl allweddol y gwasanaethau newyddion rhanbarthol. Mewn cyd-destun Cymreig, mae’r Western Mail, y Daily Post a theitlau eraill Trinity Mirror yng Nghymru wedi gwneud cyfraniad hollbwysig ers tro byd o ran sicrhau bod dinasyddion Cymru yn gallu darllen yn y papurau newydd am y prosesau gwleidyddol sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Sianelir cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cylchgronau a phapurau cyfrwng Cymraeg trwy Gyngor Llyfrau Cymru.

Fel rhan o’i gefnogaeth i gylchgronau Cymraeg (£360,000 y flwyddyn ar gyfer cefnogi 16 o gylchgronau) mae’r Cyngor Llyfrau yn darparu grantiau gwerth £173,000 (yn 2008/09) tuag at dri chyhoeddiad ym maes newyddion a materion cyfoes.

bsc(3)-03-09-p1 | nafw

Barn

£80,000

10 rhifyn y flwyddyn

Golwg

£75,000

50 rhifyn y flwyddyn

Y Cymro

£18,000

52 rhifyn y flwyddyn

£173,000

Mae’r trwyddedau ar gyfer cylchgronau yn cael eu hysbysebu bob tair blynedd, ac fe addewir cefnogaeth am gyfnod o dair blynedd, fel arfer. Mae’r broses ar gyfer y cylch ariannu nesaf (2009/10-2011/12) wedi’i chwblhau yn ddiweddar.

Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn gweinyddu’r grant newydd a ddarparwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i sefydlu a chynnal gwasanaeth newyddion Cymraeg ar y we.  Mae hyn yn gwireddu’r ymrwymiad yn y ddogfen Cymru’n Un. I’r perwyl hwn, mae £200,000 y flwyddyn wedi’i ddyfarnu i gwmni Golwg Newydd dros y cyfnod 2008-11 i’r pwrpas hwn, a bwriedir lansio’r gwasanaeth yn y gwanwyn eleni. Mae hyn yn ychwanegol i’r £173,000 sy’n cael ei wario ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gyngor Llyfrau Cymru ar gyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes cyfrwng Cymraeg.  

Mae cynlluniau Golwg ar gyfer sefydlu gwasanaeth newyddion ar-lein yn hynod o gyffrous a bydd yn hwb sylweddol i’r cyfryngau print Cymraeg ac yn cryfhau ac yn ymestyn y ddarpariaeth bresennol. Rwyf yn hyderus y bydd y datblygiad hwn yn arwain at fwy o ddarllenwyr Cymraeg, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, hefyd yn ariannu’r papurau bro, sy’n gyhoeddiadau hynod boblogaidd, a byddant yn derbyn £72,420 yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Y mae hefyd yn rhan o gylch gwaith y Cyngor Llyfrau i gefnogi Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.  I’r perwyl hwn, mae’n dyrannu grant blynyddol o oddeutu £175,000 tuag at ariannu tri chylchgrawn llenyddol/diwylliannol (Poetry Wales, New Welsh Review a Planet) ac atodiad llenyddol yn Cambria).

bsc(3)-03-09-p1 | nafw

Poetry Wales

£25,150

4 rhifyn yn flynyddol

New Welsh Review

£54,440

4 rhifyn yn flynyddol

Planet

£90,170

6 rhifyn yn flynyddol

Cambria

£  6,000

6 rhifyn yn flynyddol

£175,760

Mae’r trwyddedau ar gyfer cylchgronau yn cael eu hysbysebu bob tair blynedd, ac fe addewir cefnogaeth am gyfnod o dair blynedd, fel arfer.  Mae’r ceisiadau ar gyfer cylch ariannu 2009/10-2011/12  yn cael eu hasesu ar hyn o bryd.

Yn hydref y llynedd, sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Grŵp Cynghori ar Ddarlledu er mwyn ystyried amrywiaeth o opsiynau i sicrhau bod rhaglenni teledu cyfrwng Saesneg o Gymru yn parhau i gynnig nifer o wahanol raglenni newyddion a materion cyfoes a rhaglenni o ddiddordeb cyffredinol i wylwyr.

Roedd y sefyllfa o ran newyddiaduraeth brint yng Nghymru yn estun pryder i’r y Grŵp Cynghori ar Ddarlledu a chymeradwyodd Llywodraeth Cynulliad Cymru adroddiad y grŵp. Mae dyfyniadau perthnasol isod o’r adroddiad mewn perthynas â newyddiaduraeth brint:

Arwydd o’r diffyg yn y cyfryngau yng Nghymru yw’r ffaith bod y cyfryngau print cynhenid eisoes yn gyfyngedig iawn a than fygythiad oherwydd newid strwythurol. Nid oes unrhyw un o bapurau newydd Llundain yn argraffu rhifyn i Gymru. Mae bron 90% o ddarllenwyr papurau newydd Cymru yn darllen papurau heb unrhyw gynnwys Cymreig.

Wrth ystyried anghenion democrataidd a diwylliannol cynyddol gwlad sy’n profi llywodraeth ddatganoledig newydd, rhaid i’r ddarpariaeth gyfryngol gyfan yng Nghymru gyfrannu at y canlynol, a rhoi adlewyrchiad llawn ohonynt:

i. democratiaeth sydd wedi’i goleuo’n briodol, ac sy’n gallu cael at gronicladau, dadansoddiadau ac ymchwiliadau o ansawdd da o amrywiaeth o ffynonellau proffesiynol ii. cymdeithas sy’n grwn o safbwynt diwylliannol, ac y bydd y cyfryngau yn darparu digon o le i fynegiant llawn ac amrywiol ar ei chyfer iii. economi sy’n amlwg greadigol lle mae’r cyfryngau’n torri tir newydd ac yn sbarduno’r diwydiannau creadigol.

Am y rhesymau hyn, mae’r angen i’r Cynulliad, fel sefydliad cymharol newydd a gwahanol o hyd, ddatblygu lefel ddofn o gyswllt â’r cyhoedd wedi bod yn her fawr ac anodd. Yn ei ddegawd cyntaf, mae wedi wynebu’r her o sefydlu ei hun yn naratif bywydau pobl ac yntau’n dechrau o ddim, a hynny yng nghyd-destun yr ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth sy’n nodwedd o’r rhan fwyaf o ddemocratiaethau yn y byd datblygedig.

Nid yw absenoldeb llwyr bron cyfeiriadau at Gymru ar dudalennau newyddion papurau newydd Llundain ac ar wasanaethau newyddion canolog y BBC, Sky, ITV a Channel 4 wedi helpu yn hyn o beth. Dim ond yn 2008 y gwnaeth y BBC ddechrau ymateb i’r gwagle golygyddol enfawr hwn, yn dilyn yr adroddiad gan yr Athro Tony King ar gyfer Ymddiriedolaeth y BBC. Ni fu unrhyw ymateb cymharol gan unrhyw un o’r cyfryngau Llundeinig eraill.

Nid yw hyn ond wedi dyblu’r angen am ymateb gweithredol parhaus gan gyfryngau Llundain, ac am lefel uwch o newyddiaduraeth yng Nghymru. Ni fu hyn yn hawdd i’w wireddu mewn oes pan fu’r pwysau economaidd a thechnolegol ar wleidyddiaeth wreiddiol yn ddifrifol, wedi’i gyfuno’n aml â gostyngiadau staff ynghyd â gofyniad am fwy o gynnyrch amlgyfrwng. Yn wir, mae rhai sylwebyddion wedi cyffelybu datblygu cyfansoddiadol, ar yr un llaw, a newyddiaduraeth a datblygu’r cyfryngau, ar y llaw arall, i ddau gerbyd ar draffordd yn teithio i gyfeiriadau gwahanol i’w gilydd. Yr amcan polisi hollbwysig, o reidrwydd, yw alinio’r naill a’r llall â’i gilydd.

Mae’r posibilrwydd o ostyngiadau mor fawr, y gellid eu hosgoi, yn y cynulleidfaoedd ar gyfer newyddion a materion cyfoes yn fwy brawychus fyth o ystyried diffyg unrhyw gystadleuaeth radio lleferydd i’r BBC ar lefel Cymru gyfan a natur dra chyfyngedig cyfryngau print Cymru. Disgrifiodd archwiliad y Sefydliad Materion Cymreig yn gynharach eleni sefyllfa lle mae "each day only 100,000 readers in Scotland read newspapers with almost no Scottish content, whereas in Wales 1,760,000 are reading papers with virtually no Welsh content.” Deuai ei adroddiad i’r casgliad: "It seems to us impossible to argue that those figures do not have serious consequences for informed democracy in Wales.”

Mae’n bwysig fod y pwrpas cyhoeddus hwn yn parhau’n flaenllaw, fel bod dinasyddiaeth a chymdeithas sifil yn cael eu cynnal. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gan newyddiaduraeth ddarlledu a phrint gryn ffordd i fynd eto yng Nghymru cyn y bydd yn alluog, o ran ansawdd, i ymateb ym mhob ffordd i’r her a achosir gan fodolaeth deddfwrfeydd a llywodraethau newydd. Hoffem bwysleisio bod y sefydliadau newydd hyn, er eu bod yn gwasanaethau’r tair gwlad, hefyd yn rhan annatod o gyfansoddiad Prydain. Am y rheswm hwnnw, mae eu hanghenion o ran ymgysylltu â’r cyhoedd, a’u llwyddiant yn y pen draw, yn faterion nid yn unig i Gymru ond hefyd i’r DU gyfan.

Partneriaid a Help