Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid ar y Gyllideb Ddrafft
Cefndir
Mae Rheol Sefydlog 27.3 yn nodi:
"Caiff pwyllgorau heblaw’r Pwyllgor Cyllid ystyried cyllideb ddrafft y llywodraeth a chyflwyno argymhellion i’r Pwyllgor Cyllid yn ei chylch heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl iddi gael ei gosod gerbron y Cynulliad.”
Ar 14 Tachwedd 2007, bu’r Pwyllgor yn holi’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas AC, am y rhan honno o’r gyllideb ddrafft sy’n dod o fewn ei bortffolio ef. Nid oedd y Gweinidogion perthnasol eraill ar gael ar yr adeg honno ond mae’r Pwyllgor yn bwriadu holi’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons AC, a’r Dirprwy Weinidog - Tai, Jocelyn Davies AC, ar 28 Tachwedd a gosod adroddiad gerbron y Cynulliad.
Mae’r adroddiad hwn yn unol â Rheol Sefydlog 27.3 ac mae’n canolbwyntio ar adrannau Treftadaeth (Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon) y gyllideb ddrafft. .
Pwyntiau Allweddol
Mae’r Pwyllgor:
Yn croesawu’r £36 miliwn ychwanegol ar gyfer diwylliant, y Gymraeg a chwaraeon dros y tair blynedd nesaf.
Yn nodi nad arian ychwanegol yn y gyllideb yw’r £13.5 miliwn i dalu dyledion Canolfan Mileniwm Cymru fel y cyhoeddwyd yn natganiad y Gweinidog ar 7 Tachwedd ond daw o ganlyniad i danwario yn y blynyddoedd blaenorol.
Yn croesawu’r £2.5 miliwn bob blwyddyn ar gyfer gwariant refeniw ar Ganolfan Mileniwm Cymru.
Yn croesawu’r £2.5 miliwn ar gyfer gweithgareddau y tu allan i Gaerdydd a nododd ei fod yn cynnwys £1.5 miliwn i weithredu argymhellion Adolygiad Stephens a £1.0 miliwn ychwanegol ar gyfer theatr genedlaethol Saesneg - ond mae’n nodi mai i flynyddoedd 2 a 3 yn unig y mae’r elfen ddiwethaf hon yn berthnasol. Ym mlwyddyn 1 dim ond £250,000 fydd ar gyfer theatr Saesneg; i adlewyrchu’r ffaith na fydd y sefydliad mewn sefyllfa i dynnu’r swm llawn i lawr, gan fod aelodau allweddol o staff eto i’w penodi.
Yn nodi bod y Gweinidog yn aros am ganlyniad adolygiad o’r diwydiant argraffu Cymraeg a’i fod yn edrych ymlaen at drafod argymhellion yr adolygiad hwn gyda’r Gweinidog.
Yn croesawu’r arian a ddyrannwyd ar gyfer ailwampio llyfrgelloedd, sydd i’w ddosbarthu trwy CyMAL.
Yn nodi sicrwydd y Gweinidog y bydd digon o arian yn y gyllideb, dros y pedair blynedd nesaf, i ariannu’r ymrwymiadau diwylliant a threftadaeth yn nogfen 'Cymru’n Un’.
Yn nodi nad oedd y Gweinidog eto mewn sefyllfa i ddweud faint o arian a fyddai ar gael ar gyfer yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a’i fod yn edrych ymlaen at gyhoeddiad ar y mater yn y dyfodol agos.
Yn nodi’r ymrwymiad i sefydlu casgliad Cymru gyfan o hanes pobl a bod CyMAL yn aros am ymatebion i ymgynghoriad ar y mater hwn. Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at gyhoeddiad ar y mater hwn maes o law.
Yn croesawu’r £13.5 miliwn i annog chwaraeon elitaidd yng Nghymru a hefyd y bwriad i groesawu gemau ysgolion y DU i Gymru yn 2009.
Yn nodi pwysigrwydd darparu digon o arian, tua £12 miliwn yng nghyllideb Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ar gyfer cyfieithu a meithrin dwyieithrwydd y tu allan i’r Cynulliad (er enghraifft, yn amrywiol sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd) ac mae’n bwriadu ymchwilio i’r mater hwn ymhellach gyda’r Gweinidog mewn cyfarfod dilynol.
Casgliad
Mae’r Pwyllgor yn weddol fodlon â’r arian a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer gweithgareddau o fewn portffolio’r Gweinidog dros Dreftadaeth.
