CC(3) VS11
Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
CC(3) 06-07 (p1): 14 Tachwedd 2007
Ymchwiliad i Ariannu Sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Nod
Cynnig trosolwg o’r modd y caiff y sector gwirfoddol yng Nghymru ei ariannu gan y pedwar corff sy’n dosbarthu arian o’r Loteri: Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Loteri Fawr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Cefndir
O dan delerau Deddf y Loteri Genedlaethol Etc
1993 (Deddf 1993), fel y’i diwygiwyd, mae pum achos da yn cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol; ychwanegwyd y pumed trwy Ddeddf y Loteri Genedlaethol 1998. Cafodd pob un o’r achosion da hyn gyfran o’r cyllid a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, a chafodd Cymru gyfran o’r arian hwnnw. Gweler y tabl isod:
Achos Da |
Cyfran o’r Cyllid - y DU |
Cyfran o’r Cyllid - Cymru |
|---|---|---|
Y Celfyddydau |
16.3% |
5% |
Chwaraeon |
16.3% |
4.5% |
Treftadaeth Genedlaethol |
16.3% |
4.5% |
Gwariant Elusennol |
16.3% |
6.5% |
Iechyd, Addysg a’r Amgylchedd |
33.6% |
6.5% |
Yn wreiddiol roedd rhaniad y cyllid rhwng gwledydd Prydain yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth cyfrifiad 1991. Golygai hynny fod Cymru i gael 5%, er na ragnodwyd hynny’n ffurfiol. Mae’r amrywiadau yn y cyllid yn ganlyniad i arferion ariannu gwahanol ymysg yr achosion da, a chyflwynir yr arferion hynny yn Atodiad 1.
Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol
Nid yw materion yn ymwneud â’r Loteri Genedlaethol wedi’u datganoli’n llawn. Sefydliad DU-gyfan yw’r Loteri Genedlaethol o hyd, a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am bob mater nas datganolwyd. Mae hyn yn cynnwys enwi achosion da a dosbarthwyr, rhannu’r arian rhwng yr achosion da a rheoli Cronfa Ddosbarthu’r Loteri Genedlaethol.
Mae’r grym i gyhoeddi cyfarwyddiadau polisi sy’n gosod y fframwaith strategol ar gyfer gweithrediadau’r dosbarthwyr wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am bennu canlyniadau strategol a blaenoriaethau ar gyfer pob un o’r pedwar dosbarthwr sy’n gweithredu yng Nghymru, a gwnânt hynny gan ystyried anghenion pobl Cymru.
Rhoddodd Gweinidogion Cymru gyfarwyddiadau i’r Gronfa Loteri Fawr yn Nhachwedd 2005. Yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau hynny datblygodd y Gronfa borffolio o raglenni yn cynnwys y rhaglen hynod lwyddiannus, Pobl a Lleoedd. Gyda’i chronfa o £66 miliwn dros dair blynedd, nod y rhaglen yw gwella cymunedau a’u hamgylchedd. Bydd y cyfarwyddiadau hyn yn cael eu hadolygu yn 2008.
Mae’r cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Cyngor Chwaraeon Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri yn cael eu diwygio ar hyn o bryd. Bydd cyfarwyddiadau ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru yn cael eu hystyried yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwbl ymrwymedig i egwyddor ychwanegolrwydd sy’n sylfaen i arian Loteri. Er ei bod yn ofynnol alinio cyllid i sicrhau cyfatebolrwydd a’r canlyniadau gorau i bobl Cymru, mae arian o’r Loteri yn wahanol i gyllid gan y Llywodraeth. Ni ddylai’r naill ddisodli’r llall, er y gall arian Loteri ychwanegu gwerth at fuddsoddiadau’r Llywodraeth lle y bo’n briodol.
Yr egwyddor hon yw sylfaen polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar arian Loteri yng Nghymru.
Gêmau Olympaidd a Gêmau Paralympaidd 2012
Mae’n ofynnol i’r Loteri Genedlaethol gyfrannu £2.2 biliwn tuag at gostau Gêmau Olympaidd a Gêmau Paralympaidd 2012. Bydd hyn yn help i dalu’r costau adeiladu, y disgwylir iddynt fod yn £9.3 biliwn gan gynnwys:
£6.1 biliwn oddi wrth Lywodraeth y DU;
£2.2 biliwn oddi wrth y Loteri Genedlaethol; ac
£1 biliwn oddi wrth Faer Llundain.
Pwyllgor Trefnu Llundain fydd yn gyfrifol am gostau cynnal y Gêmau Olympaidd. Nid yw Cymru’n cyfrannu at gostau cynnal y Gêmau, ond bydd y dosbarthwyr yng Nghymru yn cael llai o arian o ganlyniad i’r cyfraniad at y costau adeiladu.
Ni fydd unrhyw gyfraniad at y Gêmau yn cael ei wneud cyn Chwefror 2009. Ac ni fydd y cyfraniad yn cael ei wneud mewn un taliad chwaith. Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi dweud mai mewn cyfres o daliadau rhwng 2009 a 2012 y caiff y cyfraniad ei wneud, a bydd hynny’n rhoi amser i ddosbarthwyr gynllunio ymrwymiadau ariannu’r dyfodol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda dosbarthwyr i leihau effaith y gostyngiad. Mae Llywodraeth y DU wedi addo na fydd y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn cael llai o arian. Ac ni ddylai unrhyw ymrwymiad presennol ddioddef. Bydd dosbarthwyr y Loteri yn cael cyfran o’r arian a enillir o werthu’r tir ar ôl y Gêmau. Dylai hyn ddarparu swm sylweddol o arian i’w ailfuddsoddi mewn prosiectau cymunedol.
Y Cynllun Cyfrifon Segur
Nod y Cynllun Cyfrifon Segur, a amlinellwyd yn Adroddiad Cyn-gyllideb 2005, yw ailfuddsoddi yn y gymuned arian a gedwir mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu segur. Cynhaliodd Trysorlys EM ymgynghoriad ynghylch sefydlu cynllun o’r fath ym Mawrth 2007 ac ym Mai 2007 cyhoeddodd ymgynghoriad arall yn amlinellu sut y byddai unrhyw arian a allai fod ar gael o dan gynllun yn cael ei ddosbarthu.
Ni ddylid drysu rhwng arian sydd ar gael o dan Gynllun Cyfrifon Segur ac arian o’r Loteri. Fodd bynnag, y Gronfa Loteri Fawr yw’r dosbarthwr penodedig ac mae yna ymrwymiad i sicrhau bod unrhyw arian sydd ar gael yn cael ei neilltuo ar gyfer y trydydd sector.
Fel yn achos arian o’r Loteri, Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn gosod y fframwaith strategol ar gyfer gweithrediadau’r cynllun yng Nghymru. Bydd y Cabinet yn ystyried cynigion yn Rhagfyr 2007 a bwriedir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y Flwyddyn Newydd.
Atodiad 1
Arferion Ariannu
Mae Arferion Ariannu’r gwledydd yn amrywio o achos da i achos da. Ar hyn o bryd mae 13 dosbarthwr Loteri yn gweithredu ar draws y pum achos da fel a ganlyn:
Achos Da |
Dosbarthwr |
|---|---|
Y Celfyddydau |
Cyngor Celfyddydau Lloegr |
Chwaraeon |
UK Sport |
Treftadaeth Genedlaethol |
Cronfa Dreftadaeth y Loteri |
Gwariant Elusennol |
Y Gronfa Loteri Fawr |
Iechyd, Addysg a’r Amgylchedd |
Y Gronfa Loteri Fawr |
Adeg lansio’r Loteri Genedlaethol, roedd y gyfran o’r cyllid ar gyfer pob un o’r achosion da a delid i bob un o’r gwledydd yn cael ei chyfrifo yn ôl fformiwla a oedd yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth cyfrifiad 1991. Nodir y cyfrannau a bennwyd yn y tabl hwn:
Gwlad |
Cyfran (%) |
|---|---|
Lloegr |
83.3 |
Gogledd Iwerddon |
2.8 |
Yr Alban |
8.9 |
Cymru |
5 |
Dim ond lle ceir dosbarthwyr penodedig ym mhob un o’r gwledydd y rhagnodwyd dyraniadau ar gyfer y celfyddydau a chwaraeon. Ar gyfer y Celfyddydau, cafodd Cymru 5%. Cafodd Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau yr Alban ddyraniadau llai er mwyn sybsideiddio Cyngor Ffilm y DU a Scottish Screen, heb effaith o gwbl ar gyllidebau Cymru na Gogledd Iwerddon.
O ran Chwaraeon, cafodd pob un o’r gwledydd ddyraniadau llai er mwyn sybsideiddio UK Sport, sy’n gweinyddu cyllid ar gyfer athletwyr o’r DU sy’n cystadlu mewn digwyddiadau rhyngwladol. O ganlyniad i hyn gostyngodd cyfran Cymru o’r cyllid ar gyfer chwaraeon i 4.5%.
Am na ragnodwyd y dyraniadau ar gyfer yr achosion da eraill oedd â dosbarthwyr DU-gyfan, roedd yr arferion a fabwysiadwyd yn amrywio. Mae gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ddyraniadau ar gyfer pob un o’r gwledydd yn ogystal â chyllideb ar wahân ar gyfer y DU. Derbyniodd Cymru 4.5% o gyllideb Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn uniongyrchol, ond gall elwa ar ddyraniad y DU hefyd. O ganlyniad rydym wedi cael mwy na’r 5% sylfaenol mewn ambell flwyddyn a llai mewn eraill.
Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio fformiwla addasedig sy’n cynnwys ffigur pwysoli amddifadedd. Mae hyn yn cynyddu cyfran Cymru o’r cyllid o 1.5% ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dadlau y dylai’r holl ddosbarthwyr ddefnyddio’r fformiwla hon. Caiff hyn ei drafod yn aml â Llywodraeth y DU, sy’n dal yn gyfrifol am amrywio dyraniadau’r gwledydd.
