Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Ymchwiliad y pwyllgor i hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd
Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd.
Cylch gorchwyl
Bydd y pwyllgor yn adolygu:
polisi cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei strategaeth/strategaethau a’i chynlluniau gweithredu cysylltiedig i hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru dramor; sut y mae Gweinidogion ac adrannau Cymru’n cydweithio a chydgysylltu ar y pwnc; a sut y caiff llwyddiant ei fesur;
sut mae’r strategaethau gwahanol yng Nghymru ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, gan gynnwys Strategaeth Celfyddydau’r Cyngor Prydeinig a strategaethau eraill drwy’r DU sy’n berthnasol i Gymru, yn cael eu cydlynu a’u hariannu;
y cyfleoedd sydd ar gael i bobl gyfrannu at gelfyddydau Cymru a’u defnyddio ar lwyfan y byd.
