CC(3) PWA2

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

Ymchwiliad Craffu :
Hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd


Ymateb oddi wrth: Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Ymchwiliad Craffu: Hyrwyddo Celfyddydau a Diwylliant Cymru ar lwyfan y Byd Papur Gwybodaeth Gefndir ar gyfer Cymunedau a’r Pwyllgor Diwylliant

Mae’r papur hwn wedi cael ei baratoi gan Eluned Hâf, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac mae’n tynnu ar y cytundeb partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig a gwaith WAI.

Sefydlwyd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRhC) ym 1997 fel partneriaeth strategol rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig, ar sail y cred fod gweithio ar y cyd ac integreiddio gweithgarwch cyflenwol yn gwella cyfleoedd ac effaith.

Fel Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad, mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC o hyn ymlaen) yn atebol i Lywodraeth Cynulliad Cymru am gyllido a datblygu’r Celfyddydau yng Nghymru. Y Cyngor Prydeinig yw sefydliad Cysylltiadau Diwylliannol rhyngwladol blaenllaw'r DU, a’i ddiben yw adeiladu perthnasoedd diwylliannol ac addysgol cydfuddiannol rhwng pobl yn y DU ac mewn gwledydd eraill.

Fel llywodraeth Cymru ddatganoledig yn y DU ac Ewrop ehangedig, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod, ac yn datblygu perthnasoedd yn rhyngwladol. Mae WAI yn gweithio’n agos â nifer o adrannau Llywodraeth y Cynulliad i alluogi Cymru i gysylltu’n rhyngwladol ar faterion sy’n ymwneud â’r celfyddydau, gan gynnwys yr Adran Diwylliant a Threftadaeth, Busnes Creadigol Cymru, Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau, Materion Ewropeaidd ac Allanol a Busnes Rhyngwladol Cymru.

Polisi Rhyngwladol CCC

Mabwysiadodd CCC bolisi rhyngwladol yn hwyr yn 2007 sy’n ceisio datblygu, cefnogi a hyrwyddo gwaith artistiaid a sefydliadau creadigol yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol.

Gweledigaeth Cyngor y Celfyddydau yw

  • Rhoi grym a chefnogi artistiaid a’r sector celfyddydau ehangach yng Nghymru i weithio’n rhyngwladol - fel bod artistiaid yn gallu datblygu eu hymarfer a bod celfyddydau o Gymru yn fwy gweledol a chydnabyddedig yn rhyngwladol.

  • Denu gwaith i’r wlad er mwyn ysgogi’r celfyddydau yma a darparu meincnod ar gyfer sector y celfyddydau cynhenid.

  • Datblygu gallu ein hunain a’n partneriaid i gyflawni gwaith rhyngwladol trwy fuddsoddi yng Nghelfyddydau Rhyngwladol Cymru.  

  • Cyfrannu tuag at godi proffil Cymru yn y byd.

Mae cylch gwaith rhyngwladol CCC yn cael ei gategoreiddio mewn pedair blaenoriaeth allweddol:

  1. Datblygu uchelgais a rhagoriaeth ryngwladol - gwella gallu artistiaid a sefydliadau celfyddydol i adeiladu proffil rhyngwladol.

  2. Creu cyfleoedd a phosibiliadau ar gyfer y celfyddydau sy’n perthyn i’r prosiectau strategol a blaenoriaethau daearyddol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

  3. Cryfhau gallu CCC a’r sector i nodi a datblygu cyfleoedd y tu hwnt i Gymru trwy bartneriaethau a rhwydweithiau.

  4. Hyrwyddo nodwedd unigryw a diwylliant nodedig Cymru trwy eiriolaeth artistig a diplomyddiaeth ddiwylliannol.

Creu 2013: Strategaeth 5 mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chytundeb Partneriaeth CCC gyda’r Cyngor Prydeinig

Mae strategaeth 5 mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn seiliedig ar gytundeb partneriaeth newydd a lofnodwyd ym mis Ebrill 2008, rhwng CCC a’r Cyngor Prydeinig, ac fe’i datblygwyd mewn ymgynghoriad â sector y celfyddydau a chyrff llywodraethol perthnasol yng Nghymru.  

Nôd CRhC yw gosod y celfyddydau a diwylliant cyfoes Cymru ar lwyfan y byd a darparu cyd-destun rhyngwladol i’r celfyddydau yng Nghymru.

Mae WAI yn bodoli i ddarparu seilwaith sy’n creu, hyrwyddo a chyflwyno rhaglen o weithgareddau a phrosiectau sy’n buddsoddi mewn celfyddydau o ansawdd yng Nghymru, a’u datblygu yn rhyngwladol.

Mae CRhC nid yn unig yn sicrhau fod cynnyrch artistig a diwylliannol Cymru’n cael ei werthfawrogi gan gynulleidfa eang, ond mae hefyd yn chwarae ei ran wrth ddatblygu dealltwriaeth gynyddol rhwng pobl yn y DU a’r rheiny mewn gwledydd eraill trwy drafod rhyngddiwylliannol, cyfnewidiadau artistig a chydweithio.

Gweledigaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yw i gelfyddydau Cymru gysylltu a datblygu’n rhyngwladol, er mwyn i raglen o brosiectau a gweithgareddau WAI, erbyn diwedd 2013:

  • drawsnewid cyfleoedd ar gyfer ymarferwyr artistig rhyngwladol yng Nghymru

  • buddsoddi mewn ymarfer artistig ac arweinyddiaeth ddiwylliannol yng Nghymru trwy gysylltu â rhwydweithiau byd-eang a lleol

  • dod â buddsoddiadau ariannol i’r celfyddydau ac economi creadigol yng Nghymru

  • ffurfio perthnasoedd gyda diwylliannau gwahanol trwy’r celfyddydau

  • meithrin rhagoriaeth artistig ryngwladol yng Nghymru

  • hybu effaith a chydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant Cymru.

Mae strategaeth WAI yn cael ei gyrru gan y gyfres ganlynol o ganlyniadau:
  • mwy o artistiaid a sefydliadau diwylliannol yn gallu gweithio’n rhyngwladol gyda gwelededd a chydnabyddiaeth gynyddol

  • Cymru’n cyfrannu at hyrwyddo economi creadigol a gwybodaeth y DU, ac yn cael budd ohono

  • mwy o waith yn cael ei ddenu i Gymru sy’n ysgogi’r celfyddydau fan hyn ac yn darparu meincnod ar gyfer sector y celfyddydau cynhenid

  • gallu cynyddol gan sector y celfyddydau yng Nghymru i weithredu’n rhyngwladol

  • mwy o fuddsoddiad a chysylltiad yn yr UE

  • mwy o ddealltwriaeth rhyngddiwylliannol sy’n arwain at newid cymdeithasol cadarnhaol

  • proffil cynyddol ar gyfer Cymru a diwylliant Cymru yn y byd.

Er mwyn bodloni’r canlyniadau uchod a chyflwyno ein gweledigaeth, nodir amcanion strategaeth CRhC mewn tair blaenoriaeth:

  1. Gwneud y gorau o gyfleoedd rhyngwladol:

  2. Cyfathrebu: y tu mewn a thu allan i Gymru, pwynt cyswllt, taflenni newyddion a gwefan

  3. Rhwydweithiau: cymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol a chael cefnogaeth ganddynt

  4. Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol: cronfa deithio fach i gynorthwyo artistiaid i weithio’n rhyngwladol i ymchwilio i a chymryd rhan mewn prosiectau rhyngwladol.

  5. Codi buddsoddiadau newydd ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru i weithio’n rhyngwladol:

  6. Rhaglenni a chyllid yr UE: creu Desg Ddiwylliannol Ewropeaidd a cheisiadau am gyllid e.e. PRACTICS, Toolquiz, Twristiaeth Ddiwylliannol

  7. Prosiectau byd-eang Cyngor Prydeinig (gweler papur partneriaeth ar wahân)

  8. Adrannau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru, Sefydliadau a busnes preifat (e.e. Lorient, Smithsonian)

  9. Effaith a chydnabyddiaeth ryngwladol:

  10. Cymryd rhan mewn arddangosiadau rhyngwladol - e.e. WOMEX, CINARS, BDE

  11. Prosiectau celfyddydol sy’n datblygu perthnasoedd diwylliannol - e.e. In Search of the Red Dragon, Tsieina

  12. Preswyliadau a chyfarfodydd: Meduse (Quebec) Clay (Philadelphia) Cyfarfodydd Dawns (Cymru) Llangollen 2009

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
27 Tachwedd 2008

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help