CC(3) PWA37
Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Ymchwiliad Craffu :
Hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd
Ymateb oddi wrth: Sefydliad Mercator
Cefndir
1. Mae Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn rhan o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n ganolfan ymchwil sydd yn gweithio’n strategol a rhwydweithiol gyda chyrff a sefydliadau ar draws Ewrop a thu hwnt ym meysydd y cyfryngau a’r celfyddydau. Mae arbenigedd penodol Mercator ar gyd-destunau dwyieithog ac amlieithog.
2. Sefydlwyd Mercator yn 1988 o dan nawdd y Comisiwn Ewropeaidd mewn ymateb i argymhellion Adroddiadau Arfé (1981 ac 1983) ac Adroddiad Kuijpers (1987) yn Senedd Ewrop. Oddi ar hynny, mae Mercator wedi ennill nifer o gytundebau a thendrau cystadleuol i weithio ym meysydd cyhoeddi a’r cyfryngau creadigol.
3 .Ymysg y prosiectau a reolir gan Sefydliad Mercator sydd yn berthnasol i’r ymchwliad hwn mae:
3.1 Cyfnewidfa Lên Cymru / Wales Literature Exchange:
Sefydlwyd yn 2000 wedi prosiect peilot o dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyngor Celfyddydau Cymru yw prif noddwr Cyfnewidfa Lên Cymru (www.cyfnewidfalen.org), a oedd hyd 2008 yn gweithredu o dan yr enw Llenyddiaeth Cymru Dramor. Mae dros 200 o gyfieithiadau o lenyddiaeth Cymru (o’r Gymraeg a’r Saesneg) wedi eu cyhoeddi mewn ieithoedd eraill (e.e. mewn Almaeneg, Twrceg, Arabeg, Eidaleg etc) yn sgil gwaith y Gyfnewidfa Lên.
3.2 Llenyddiaeth ar draws ffiniau / Literature across Frontiers:
Rhwydwaith a sefydlwyd yn 2001 yw Llenyddiaeth ar draws ffiniau, i hyrwyddo llenyddiaeth a chelfyddyd mewn cyfieithiad ar draws gwledydd Ewrop. Mae’r rhwydwaith wedi ennill tri chytundeb cystadleuol olynol drwy raglenni 'Culture’ yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r diweddaraf ar gyfer 2008-20131. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad o €2 miliwn gan y Comisiwn Ewropeaidd rhwng 2005 a 2013 yng ngweithgaredd Llenyddiaeth ar draws ffiniau, gyda chyfraniad cyfartal gan gyrff a sefydliadau ar draws Ewrop. Mae cytundeb Llenyddiaeth ar draws ffiniau ar gyfer 2008-2013 yn €2.7miliwn, gyda Chymru yn arwain y rhywdwaith Ewropeaidd yma o 41 o bartneriaid sydd yn cynnwys prifysgolion, cyhoeddwyr, cyfnewidfaoedd llenyddiaeth, tai cyfieithu, cymdeithasau a gwyliau celfyddydol a llenyddol.
3.3 Rhwydwaith Mercator ar gyfer Canolfannau Amrywiaeth Ieithyddol / The Mercator Network of Language Diversity Centres
Dros gyfnod o 20 mlynedd mae Mercator wedi datblygu partneriaethau sefydlog gyda phrifysgolion a chyrff eraill sydd yn arbenigo y maes ieithoedd lleiafrifol yr Undeb Ewropeaidd. Rhwng 2009 a 2012 bydd yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda 4 canolfan arall yn yr Iseldiroedd (Fryslân), Sbaen (Catalonia), Hwngari a Sweden ar brosiect a gefnogir gan y Comisiwn Ewropeaidd gyda buddosddiad o €600,000 i ddatblygu partneriaethau ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol ym meysydd addysg, deddfwriaeth a’r cyfryngau.
4. Drwy’r prosectiau uchod mae Mercator yn gweithio’n gyson gyda nifer fawr o gyrff a sefydliadau yn Ewrop ac yn gynyddol drwy’r byd. Mae’r rhain yn rwydweithiau real a sefydlog, sydd wedi arwain at gydnabyddiaeth ar y lefel Ewropeaidd i ennill buddsoddiad sylweddol. Fodd bynnag mae’r buddsoddiad cartref a roddir i’r gwaith yma yn sylweddol is na’r hyn a roddir mewn gwledydd eraill, fel a welir isod yn y ddogfen hon.
Ymateb i’r ymchwiliad
5. Mae’r uchelgais a nodir yn nogfen lywodraethol Cymru’n Un, 'Rhoi Cymru ar Lwyfan y Byd’2 ac y bydd y llywodraeth glymbleidiol yn '...cefnogi cyfleoedd i gynhyrchwyr artistig o Gymru gymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol'3 yn uchelgais cadarnhaol sydd yn cael ei groesawu’n fawr gennym. Fel corff sydd â’i bwyslais a’i arbenigedd wedi bod yn y cyd-destun rhyngwladol ers dau ddegawd bellach, mae Sefydliad Mercator a’i phrosiectau (Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws ffiniau) yn croesawu’r ymchwiliad hwn.
6. Yn greiddiol i weledigaeth Sefydliad Mercator mae’r ddealltwriaeth fod ieithoedd yn rhan allweddol o’r celfyddydau creadigol ac o gyfnewid rhyng-ddiwylliannol. Nid drwy ddefnyddio un iaith ryngwladol (Saesneg) y mae gwledydd a chymunedau yn cynnal a datblygu cyd-ddealltwriaeth ar lefel lwyddiannus. Mae ieithoedd yn allweddol i gyd-ddealltwriaeth ac i gyfnewid rhyng-ddiwylliannol ac i weithredu hyn yn ymarferol mae’n rhaid rhoi lle canolog i gyfieithu ac i ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithyddol wrth hyrwyddo celfyddyd greadigol ar draws ffiniau.
7. O’n profiad ni, nid rhethreg wag yw pwysleisio dwyieithrwydd Cymru a’r modd y gall y profiad hwnnw arwain at ddealltwriaeth eang o bwysigrwydd ieithoedd i gymunedau ar draws y byd ac i gyfnewid rhyngddiwylliannol yn benodol.
Wedi darllen y ddogfen a ddaeth o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn rhestru materion perthnasol yr ymchwiliad, rydym wedi ymateb i’r pwyntiau sydd fwyaf priodol i waith a phrofiad Sefydliad Mercator a’i phrosiectau.
Sut y darperir strategaethau cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran hyrwyddo celfyddydau a diwylliant ar lwyfan y byd a sut y’u cydgysylltir?
Beth yw prif flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cyngor Prydeinig o ran hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru’n rhyngwladol hy lle y mae ymdrechion ac arian yn cael eu targedu er mwyn creu’r effaith fwyaf?
A oes digon o waith ymchwil wedi’i wneud i feysydd unigryw a’r meysydd twf yng nghelfyddydau a diwylliant Cymru? Sut y caiff y rhain eu cefnogi? A yw’r cydbwysedd presennol yn gywir?
Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n sicrhau bod ymdrechion i hyrwyddo’r celfyddydau a diwylliant yn rhyngwladol yn cael eu cydgysylltu rhwng portffolio’r Gweinidog a phortffolio’r Adran (ee ym meysydd addysg a sgiliau, datblygu economaidd, twristiaeth, treftadaeth, y celfyddydau a diwylliant, cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol, materion Ewropeaidd ac allanol)?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n datblygu dyletswydd ddiwylliannol statudol o ran awdurdodau lleol yng Nghymru. Sut y gall hyn gydweddu â’r gwaith o hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru’n rhyngwladol?
A yw canlyniadau neilltuo arian a gwaith hyrwyddo yn cael eu mesur a’u gwerthuso er mwyn sicrhau gwerth am arian i bwrs y wlad?
Pa mor effeithiol yw trefniadau partneriaeth rhwng cyrff celfyddydol a chyrff diwylliannol, y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cefnogi strategaeth gyffredinol?
Pa mor llwyddiannus yw cyrff celfyddydol a chyrff diwylliannol o ran hyrwyddo’u gwaith ar lwyfan y byd a sut y maent yn cael eu cefnogi i wneud hyn?
Sut y mae polisïau a strategaethau Llywodraeth y Cynulliad yn cydweddu â pholisïau a strategaethau Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, ee yn yr ymdrechion i sicrhau bod y DU yn 'ganolbwynt creadigol y byd’, yn enwedig yng nghyd-destun yr Olympiad Diwylliannol 2012?
Pa ystyriaeth a roddir i gyfle cyfartal wrth hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd?
8. Cyfnewidfa Lên Cymru (gynt Llenyddiaeth Cymru Dramor) yw’r unig sefydliad llenyddol yng Nghymru gyda’r briff i hyrwyddo cyfnewid llenyddol yn rhyngwladol.
9. Seiliwyd strwythur y Gyfnewidfa ar fodelau gweithredol yr asianteithau llywodraethol hynny sydd yn bodoli yn y rhan fwyaf o wledydd a rhanbarthau yn Ewrop. Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio wrth wraidd cyfnewid llenyddol rhyngwladol. Maent yn gweithio gyda chyhoeddwyr tramor er mwyn cyhoeddi cyfieithiadau o’u llenyddiaeth cenedlaethol neu ranbarthol; gwneir hyn fel rhan o strategaeth ehangach i hyrwyddo cyfieithu llenyddol. Mae’r gefnogaeth holistig hon yn cynnwys sawl mesur sydd yn cydnabod rôl allweddol y cyfieithydd wrth hwyluso taith llenyddiaeth ar draws ffiniau ieithyddol.
10. Er mwyn cyflawni’r amcanion a nodwyd uchod o ddogfen Cymru’n Un, yn ein barn ni mae’n rhaid i gyfieithu a chyfieithwyr fod yn ganolbwynt i’r strategaeth lenyddol yn hytrach nac ar gyrion y polisi hwnnw. O fyw yn y byd Saesneg yn unig, mae hi’n hawdd anghofio fod cyfieithu yn rhan hanfodol ac annatod o gyfnewid lleynddol rhyngwladol ac o ddatblygiad ysgrifennwyr. Fodd bynnag, nid gwlad uniaith Saesneg yw Cymru fel y gwyddom, ac mae ein profiad a’n dealltwriaeth o ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd yn cael ei adlewyrchu drwy’r byd. Dylid felly, sicrhau fod cydnabyddiaeth briodol i ieithoedd ac felly i gyfieithu mewn polisi sydd yn anelu at roi 'celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd’.
11. Yn ogystal ag arbenigrwydd eang mewn ieithoedd, mae gan gyfnewidfaoedd llên ar draws Ewrop arbenigedd mewn gwerthiant hawliau cyfieithu, marchnadoedd cyhoeddi, hyfforddiant cyfieithu llenyddol, yn ogystal â gwybodaeth ddofn o wahanol draddodiadau llenyddol ar draws y byd - mae hyn oll yn angenrheidiol er mwyn medru deall y ffordd orau o hyrwyddo llenyddiaeth dramor.
12. Mae sawl corff yn bodoli yng Nghymru sydd yn delio gyda materion llenyddol, ond dim ond Cyfnewidfa Lên Cymru sydd â’r briff i hyrwyddo llenyddiaeth yn rhyngwladol. Mae annibyniaeth y sefydliadau hyn a’r gwahanol arbenigedd sy’n bodoli yn fantais ac yn cryfhau’r maes ond byddai mwy o gydweithio a chydlynnu rhwng yr Academi, y Cyngor Llyfrau a Chyfnewidfa Lên Cymru yn sicr yn cryfhau ac yn hwyluso’r gwaith a wneir gan y Gyfnewidfa ar hyn o bryd i hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru dramor.
13. Yn ogystal â chydweithio mwy effeithiol rhwng y sefydliadau llenyddol yng Nghymru, mae angen pwysleisio pwysigrwydd y strategaeth lenyddiaeth ryngwladol. Prin oedd y pwyslais ar yr ochr rhyngwladol yn strategaeth ddrafft Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer llenyddiaeth, a ryddhawyd ar gyfer ymgynghoriad yn 2008. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y lefel o nawdd sydd ar gael i’w wario ar gyfnewid llenyddol. Mae’r hyn sydd ar gael yng Nghymru yn bell y tu ôl i’r hyn sy’n arferol yn y rhan fwyaf o ranbarthau eraill Ewrop.
14. Ar hyn o bryd, nid yw pwysigrwydd llenyddiaeth fel celfyddyd par excellence, a ffurf ar gelfyddyd sydd yn bwydo nifer o gelfyddydau a chyfryngau eraill (megis ffilmiau, teledu ac ati) yn cael cydnabyddiaeth ddigonol. A yw adnoddau presennol yn ffafrio ffurfiau eraill ar gelfyddyd ar draul llenyddiaeth yn ormodol?
15. Rydym yn croesawu nifer o bwyntiau yn Adroddiad Devlin4 gan gynnwys y gydnabyddiaeth i ddatganoli o fewn y Deyrnas Gyfunol, y pwyslais ar gynaliadwyedd a bod yno ar gyfer 'long haul’. Mae rhwydweithiau real, sefydlog a chynaliadwy yn allweddol i gydweithio llwyddiannus. Rydym hefyd yn croesawu’r pwyslais ar gydweithio fel partner gyda sefydliadau a chyrff eraill sydd ag arbenigedd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant.
16. O ran mater gwledydd blaenoriaeth y Cyngor Prydeinig, byddai’n ddefnyddiol iawn ystyried hyn mewn perthynas â gwledydd blaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Adroddiad Devlin yn cyfeirio at y cwymp o 65% a fu yng ngweithgaredd y Cyngor Prydeinig yng ngorllewin Ewrop rhwng 2003 a 2007, wrth i’r Cyngor droi tuag at India a China yn benodol. Mae’r enghraifft yma yn codi cwestiwn a yw rhesymeg y Cyngor Prydeinig dros wneud hyn yn trosglwyddo’n uniongyrchol i gyd-destun hyrwyddo diwylliant a chelfyddydau Cymru yn benodol. A oes lle i Lywodraeth Cynulliad Cymru bennu rhestr o wledydd/rhanbarthau i gael blaenoriaeth wrth hyrwyddo Cymru dramor. Nid ydym yn awgrymu mai dim ond yn Ewrop y dylid gwneud y gwaith hwn. Yn wir rydym yn rhan o gynllun llwyddiannus Cadwyn Awduron / Writers’ Chain (Cyngor Prydeinig/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn India ac hefyd yn cynnal digwyddiadau eraill y tu allan i Ewrop drwy raglenni Llenyddiaeth ar draws ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru. Nodwn, fodd bynnag, fod llawer yn gyffredin rhwng Cymru a rhannau eraill o Ewrop ac fod ymwybyddiaeth o Gymru yn dal i fod yn gyfyngedig. Dylid ystyried y ffyrdd y mae sefydliadau eraill tebyg i’r Cyngor Prydeinig (e.e. Goethe-Institut, Alliance Française, Instituto Cervantes) yn gweithredu wrth negodi eu perthynas ag Ewrop - gan ein bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, wedi’r cyfan - a gweddill y byd.
17. Mae llwyddiant Mercator dros y blynyddoedd fel cenhadwr Cymreig yn ddyledus i weledigaeth a chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Celfyddydau Cymru ond ni fyddem wedi cyflawni’n agos i'r hyn a wnaethom heb i ni adeiladu rhwydweithiau Ewropeaidd, a hynny yn y rôl arweiniol, a cheisio'n llwyddiannus am grantiau Ewropeaidd sylweddol.
18. Fodd bynnag, er fod rhagoriaeth amlwg y gwaith yn cael ei adnabod ar lefel Ewropeaidd, dydy’r gydnabyddiaeth honno ddim yn cael ei hadlewyrchu yn y gefnogaeth ariannol Gymreig bresennol. Gyda phwyslais mwy eglur ar waith hyrwyddo y tu allan i Gymru, daw cyfle i unioni hyn. Ond ar hyn o bryd, mae’n ymddangos nad oes gwobr gartref am lwyddo ar y platfform Ewropeaidd. Y mwyaf yw’r cais at raglen Culture yr Undeb Ewropeaidd, y mwyaf yw’r swm o arian cyfatebol sydd yn rhaid ei ganfod. Fe ellid ystyried creu cronfa benodol i annog ceisiadau o Gymru i arwain prosiectau Ewropeaidd naill ai drwy gynnig arian datblygu ceisiadau neu, efallai’n fwy radical, drwy addo cyfraniad at yr arian cyfatebol sydd ei angen ac felly dim ond y ceisiadau sydd yn llwyddiannus i ddenu arian Ewropeaidd fyddai’n cael y buddsoddiad yma.
19. Wrth ymwneud â phartneriaid mewn nifer o wladwriaethau a rhanbarthau dros y blynyddoedd, daethom yn ymwybodol o nifer o gynlluniau a fabwysiadwyd gan y wledydd a rhanbarthau i gryfhau eu delwedd ar y llwyfan byd-eang. Gallai’r pwyllgor hwn gomisiynu arolwg o’r hyn a wneir mewn rhanbarthau eraill o Ewrop neu mewn gwladwriaethau sydd â phoblogaeth debyg i Gymru.
20. Os yw’r sector lenyddol a chyhoeddi yng Nghymru yn mynd i ffynnu mae’n rhaid iddo fod mewn cysylltiad parhaol a’r farchnad gyhoeddi y tu hwnt i Brydain. Gall digwyddiadau sydd yn hyrwyddo awdur unigol dramor fod yn gyfleoedd coll os nad ydynt yn cael eu cysylltu â’r diwydiant cyhoeddi, ac mae gwerthuso digwyddiadau o’r fath yn aml yn annigonol. Drwy’r Gronfa Grantiau Cyfieithu mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn ymddwyn fel dolen gyswllt rhwng yr hyn sydd yn digwydd yn y byd cyhoeddi yng Nghymru a’r maes ehangach yn Ewrop a thu hwnt. Ers sefydlu’r Gyfnewidfa yn 2000 y swm sydd ar gael yn y gronfa yn flynyddol yw £20,000. Ni chynyddwyd y swm hwn o gwbl mewn naw mlynedd ac mae’r galw dros bedair gwaith yn fwy na’r hyn y gellir ei gyllido. Hynny yw, rydym yn gyson yn gorfod gwrthod ceisiadau gan gyhoeddwyr tramor sydd eisiau cyhoeddi gwaith llenyddol o Gymru mewn cyfieithiad5.
21. Mewn cymhariaeth, y cyllid sydd ar gael i Gyfnewidfa Lên y Ffindir yw 1.3 miliwn ewro gyda 450,000 ewro wedi ei glustnodi ar gyfer grantiau cyfieithu. Y cyllid ar gyfer Cyfnewidfa Lên Iwerddon yw 525,000 ewro gyda 212,000 ewro wedi ei glustnodi ar gyfer grantiau cyfieithu. Y cyllid sydd ar gael i’r Dutch Foundation for the Translation and Promotion of Literature yw 2.3 miliwn ewro gyda 700,00 ewro ar gael i’w wario ar grantiau cyfieithu. Mae’r sefydliadau yma yn eu troy n cyflogi 7, 3 and 12 aelod o staff llawn amser. (Yng Nghymru, nid yw’r gyllideb yn caniatau i ni gynnal un swydd llawn amser).
22. Isod, gwelir y symiau a wariwyd mewn ewro ar grantiau cyfieithu i gyhoeddwyr tramor ar sail prosiectau tebyg i Gyfnewidfa Lên Cymru mewn gwledydd a rhanbarthau eraill yn Ewrop:
Catalwnia - €272,000
Fflandrys - €101,000
Slofenia - €78,300
Cymru - £20,000
23. Mae’r Alban yn ddiweddar wedi edrych ar eu sefyllfa hwy ac wedi awgrymu y dylid cynyddu eu cronfa grantiau i £75,000 yn y flwyddyn gyntaf a chynyddu i £100,000 o fewn tair mlynedd. Yn ogystal, maent yn argymell y dylid creu cronfa a fyddai’n galluogi chwe chyfieithydd i dreulio hyd ar fis o’u hamser yn yr Alban.
24. Mae’r argymhelliad diwethaf, i greu cronfa a fyddai’n galluogi cyfieithwyr i ymweld â’r Alban, yn ddatblygiad y mae Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn awyddus i’w weld yn digwydd o fewn Cymru, yn benodol ar ffurf Tŷ Cyfieithu. Gallai cyfieithwyr dreulio amser sylweddol yn dod i adnabod Cymru, ei llenyddiaethau a’i ffurfiau eraill ar gelfyddyd ac y gallem ar yr un pryd groesawu llenyddiaethau’r byd i Gymru tra’n parhau i hyrwddo llenyddiaeth o Gymru dramor. Mae cyfnewid llenyddiaeth y ddwy ffordd yn batrwm y mae sefydliadau yn Ewrop yn ei ddisgwyl erbyn hyn wrth adeiladu partneriaethau sefydlog a ffrwythlon sydd yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth.
25. Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn awyddus i ddatblygu ei chartref presennol yn Sefydliad Mercator ac i gydweithio gyda Tŷ Newydd i greu Tŷ Cyfieithu Cenedlaethol i Gymru. Mae camau tuag at hyn wedi dechrau gyda sefydlu partneriaeth newydd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Tŷ Newydd wrth iddynt ymuno ar y cyd â’r rhwydwaith Ewropeaidd HALMA6.
Casgliad
26. Rydym wedi ceisio dangos y sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd wrth hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru yn rhyngwladol a’r modd yr hoffem weld y sector yn datblygu. Mae llawer o gryfderau i’r maes llenyddol yng Nghymru a gallem yn sicr adeiladu ar y sylfaen gadarnhaol hon er mwyn symud y tu hwnt i’r ffiniau strategaethol ac ariannol sydd yn ein rhwystro ar hyn o bryd.
Elin Haf Gruffydd Jones, Sioned Puw Rowlands, Ned Thomas, Alexandra Buchler, Catrin Ashton ar ran Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau Ieithoedd a Diwylliant.
1
h
ttp://eacea.ec.europa.eu/culture/calls2007/results/call_23_2007/documents/results_strand_1_1.pdf
t.4
2 Cymru’n Un t.35
3 Cymru’n Un t.37
4 http://www.britishcouncil.org/arts-in-cultural-relations
5 Mae’r grantiau yma ar gael tuag at y costau cyfieithu, nid gostau cyhoeddi eraill fel argraffu, cysodi, marchnata ac ati.
6 http://www.halma-network.eu