Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Ymchwiliad i Cynhwysiant Ariannol ac effaith Addysg Ariannol
Cylch gorchwyl
ystyried a yw pobl o bob oedran mewn cymunedau trwy Gymru’n cael y cyfleoedd y maent eu hangen i ennill a datblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder sy’n ofynnol i wneud penderfyniadau doeth ynghylch cyllidebu, benthyca, yswiriant, cynilo a chynhyrchion ariannol eraill;
dynodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth addysg ariannol a dynodi enghreifftiau o arferion da a fyddai modd eu gwneud yn batrwm trwy Gymru;
edrych yn ofalus ar rôl y sectorau statudol, preifat a’r trydydd sector sy’n gweithio fel unigolion ac ar y cyd i ddarparu a hybu addysg ariannol yn ein cymunedau;
ymchwilio a yw’r addysg ariannol a gaiff ei darparu yn briodol i anghenion ac amgylchiadau unigolion;
asesu a wneir cysylltiadau effeithiol rhwng darparu addysg ariannol a darparu mynediad at wasanaethau ariannol.
edrych sut y gall addysg ariannol effeithiol gyfrannu tuag at sicrhau cymaint â phosib o incwm a lleihau cymaint â phosib dyledion;
asesu pa mor effeithiol a phriodol yw polisi Llywodraeth Cymru ar allu ariannol a sicrhau cymaint â phosib o incwm fel y nodir yn ei Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.
