Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant:

Ymchwiliad i ‘hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru’

Cylch Gorchwyl

Cynnal ymchwiliad i hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru, archwilio pa mor wasgaredig yw lleoliadau yn ddaearyddol, y gweithgareddau a gynhelir yn y canolfannau hynny, a materion yn ymwneud â mynediad ac arian. Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlynol:

  • effaith buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yng nghyd-destun darparu mynediad at weithgareddau diwylliannol;

  • effaith Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2010, ar bob gweithgaredd a lleoliad diwylliannol yng Nghymru;

  • effaith bosibl cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-12 ar bob gweithgaredd a lleoliad diwylliannol yng Nghymru;

  • y radd y caiff lleoliadau a gweithgareddau eu gwasgaru yn ddaearyddol a sut y caiff mynediad ei hyrwyddo ledled Cymru;

  • yr amrywiaeth demograffig o ran lefelau mynychu a chyfranogi, yn enwedig yng nghyd-destun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;

  • y rôl allweddol a chwaraeir gan awdurdodau lleol o ran darparu mynediad at weithgareddau celfyddydol a diwylliannol.

Cyhoeddwyd yr adroddiad

Ymgynghori

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar 21 Gorffennaf 2010 Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 24 Medi 2010

Llythyr Ymgynghori (PDF, 168KB)

Ymatebion a Gafwyd

Gwybodaeth ychwanegol

Tystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth gan amrywiaeth o dystion mewn perthynas â’r ymchwilliad hwn

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 3 Chwefror 2011 (PDF, 948KB)

Partneriaid a Help