Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: Cyfiawnder Ieuenctid – Profiad Plant o Gymru yn yr Ystad Ddiogel.
Argymhelliad 1.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth ystyried ceisio datganoli’r cyfrifoldeb am sefydliadau diogel ar gyfer pobl dan 18, a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn wrth adolygu a ddylid datganoli’r cyfrifoldeb am y system cyfiawnder ieuenctid i Weinidogion Cymru Tudalen 38
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Gwnaeth y ddogfen “Cymru'n Un” nodi y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried y dystiolaeth o blaid datganoli'r system cyfiawnder a chafwyd cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (a oedd yn gyfrifol am y portffolio cyfiawnder ieuenctid ar y pryd), ym mis Gorffennaf 2009, bod yr Athro Rod Morgan wedi cytuno i lunio adroddiad ar beryglon a manteision datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried yr adroddiad hwn ar hyn o bryd, a hyd nes y gwneir hyn, nid yw'n bosibl cadarnhau a fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio sicrhau cyfrifoldeb datganoledig am y system cyfiawnder ieuenctid.
Goblygiadau Ariannol
Hyd nes y daw'r Cabinet i benderfyniad ar y mater hwn, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol o ran y cynnig i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru. Wrth gwrs, byddai unrhyw benderfyniad o'r fath yn rhoi ystyriaeth lawn i'r costau pendant cysylltiedig a chostau posibl a allai godi.
Argymhelliad 2.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymhle y gellid gwella pethau eto i gynorthwyo asiantaethau i adnabod pobl ifanc y mae risg iddynt droseddu yn y dyfodol, yn unol â’r agenda ataliol Tudalen 41
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Caiff yr argymhelliad hwn ei ddatblygu yn ystod 2010-11 drwy'r gweithdrefnau a'r rhaglenni sy'n bodoli eisoes.
Mae Llywodraeth y Cynulliad a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (BCI) wedi cymeradwyo ac wedi ariannu paneli cynhwysiant a chymorth ieuenctid a rhaglenni cynhwysiant ieuenctid ledled Cymru. Mae'r rhaglenni atal hyn, sydd wedi'u targedu, yn seiliedig ar broses gadarn aml-asiantaeth o adnabod y plant a phobl ifanc sy'n wynebu'r risg fwyaf o droseddu. Maent wedi cyfrannu at leihad sylweddol yn y niferoedd sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid. Mae gweithdrefnau presennol y BCI a gwaith Llywodraeth y Cynulliad o fonitro'r Gronfa Cymunedau Diogelach yn golygu y rhoddir ystyriaeth yn rheolaidd i ffyrdd o gefnogi gwell gweithdrefnau adnabod sy'n rhan o'r rhaglenni hyn.
Rydym yn cymryd y camau canlynol, yn unol â Chynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan ac Is-bwyllgor Atal Pwyllgor Cyfiawnder Ieuenctid Cymru:
cydweithio ag ardaloedd lleol i sicrhau gwell dealltwriaeth o'r garfan bresennol o blant a phobl ifanc sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf a fydd yn arwain at lunio argymhellion ar gyfer asiantaethau lleol wrth iddynt adnabod y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o droseddu;
cefnogi amrywiaeth o fentrau i alluogi cydweithrediad agosach rhwng yr Heddlu a thimau troseddau ieuenctid i sicrhau y gellir defnyddio cyfiawnder adferol fel dull amgen i gyhuddo wrth ymdrin â throseddwyr llai difrifol a'i gwneud yn bosibl i wybodaeth gael ei rhannu ag asiantaethau lle gellir lleihau'r tebygolrwydd y bydd plant a phobl ifanc yn dod i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid ffurfiol;
sicrhau bod y rhyngwyneb â'r system cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ystyried yn llawn wrth gynllunio Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd a'u gweithredu ac yr ystyrir y cyfleoedd i gyfrannu i broses o adnabod y rhai sy'n wynebu risg o droseddu ar gam cynnar.
Goblygiadau Ariannol
Caiff gwaith Llywodraeth y Cynulliad o dan Gynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan ei ariannu o fewn y llinellau sylfaen presennol yn ystod 2010-11. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol.
Argymhelliad 3.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o herio’r delweddau yn y cyfryngau a’r darlun sydd gan y cyhoedd o blant a phobl ifanc er mwyn creu amgylchedd lle ceir 'ffocws positif ar gyflawniad cyffredinol ac ar yr hyn sydd gan bobl ifanc i’w gyfrannu' (Ymestyn Hawliau, 2004) Tudalen 44
Ymateb: Derbyn
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i herio canfyddiadau negyddol o blant a phobl ifanc drwy gefnogi prosiect y BCI yng Nghymru i annog asiantaethau lleol i herio canfyddiadau pobl ynghylch plant a phobl ifanc sy'n troseddu a mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i'r canlynol:
Y gwaith ardderchog a wneir yng Nghymru i atal plant a phobl ifanc rhag troseddu a sicrhau dechrau da iddynt mewn bywyd;
y gwaith presennol i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd wedi troseddu yn integreiddio yn ôl i'r gymdeithas yn llwyddiannus â gwell rhagolygon ar gyfer y dyfodol a'u bod yn llai tebygol o aildroseddu;
gweithio gyda dioddefwyr i sicrhau bod y cyfiawnder a wneir yn amlwg a bod gwneud iawn yn digwydd;
sgil ac ymroddiad y gweithlu a'r gwirfoddolwyr yng Nghymru sy'n ymdrechu i sicrhau y gall pobl ifanc wneud eu cyfraniad gorau i'r gymdeithas;
Eir i'r afael â'r mesurau hyn yn unol â Chynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan.
Goblygiadau Ariannol
Telir y costau o gyllidebau presennol y BCI. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi cymorth i'r BCI drwy drefniadau presennol Cynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan ac Is-bwyllgor Cadwraeth ac Adsefydlu Pwyllgor Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Argymhelliad 4.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, awdurdodau lleol a Dedfrydwyr i adolygu dedfrydau cadw dan glo, er mwyn sefydlu na ddylid ond eu defnyddio o dan amgylchiadau priodol, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’r egwyddorion a geir yn Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan........ Tudalen 47
Ymateb: Derbyn
Dylid nodi nad yw polisi dedfrydu yn fater sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, awdurdodau lleol a dedfrydwyr i sicrhau newid ymddygiad yn y polisi dedfrydu cyfredol.
Mae gan Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth y DU bolisïau sy'n unol ag erthyglau 37 a 40 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o ran cadw pobl ifanc o dan glo. Tra bod y gwaith o ddedfrydu yn fater i ddisgresiwn y llys o hyd, mae'r canllawiau presennol ar ddeddfwriaeth a dedfrydu yn nodi nad oes modd cyrraedd y trothwy ar gyfer rhoi dedfryd o garchar hyd nes bydd y llys wedi'i fodloni bod y drosedd neu gyfuniad o droseddau mor ddifrifol na ellir cyfiawnhau dedfryd gymunedol.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf cafwyd lleihad sylweddol yn nifer a chyfran y bobl ifanc o Gymru a gafodd eu cadw yn y ddalfa ar ôl troseddu. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gallai llywodraeth ganolog a'r ardaloedd lleol gydweithio mwy er mwyn sicrhau bod pob llys ledled Cymru yn deall yr holl ddewisiadau amgen sydd ar gael yn lle cadw yn y ddalfa, yn cynnig y dewisiadau hynny ac yn eu defnyddio. Rydym yn dilyn y camau canlynol yn unol â Chynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn:
Cynnal astudiaeth fanwl o ddwy ardal yng Nghymru â'r cyfraddau uchaf o ran cadw yn y ddalfa er mwyn pennu sut y gellid gwella arferion a lleihau'r cyfraddau o gadw yn y ddalfa;
cynorthwyo cynllun peilot Paneli Cymorth Adsefydlu yn y naw awdurdod lleol â'r cyfraddau uchaf o ran cadw yn y ddalfa. Mentrau aml-asiantaeth yw'r rhain sy'n rhoi cymorth ychwanegol i'r rheini sy'n dod allan o'r ddalfa er mwyn lleihau nifer y bobl ifanc sy'n dychwelyd i sefydliadau diogel ar ôl torri amodau eu trwyddedau.
Caiff yr hyn a ddysgir o'r gweithgareddau hyn ei ddefnyddio i herio a chynorthwyo ardaloedd lleol ymhellach wrth iddynt ymdrechu i sicrhau mai dim ond yn niffyg popeth arall y caiff pobl ifanc a ddyfarnwyd yn euog o droseddau difrifol eu cadw yn y ddalfa.
Goblygiadau Ariannol
Caiff yr astudiaeth o gyfraddau cadw yn y ddalfa ei hariannu o linellau sylfaen presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod 2010-11. Ariennir Cynlluniau Peilot y Paneli Cymorth Adsefydlu gan y BCI, gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad drwy drefniadau presennol Cynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan ac Is-bwyllgor Cadwraeth ac Adsefydlu Pwyllgor Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Argymhelliad 5.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gwasanaeth Llysoedd EM i sicrhau nad oes yr un plentyn neu berson ifanc o Gymru’n mynd drwy’r llys oedolion, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a bod pob plentyn a pherson ifanc a ddaw gerbron y llys yn cael ei dreialu gan ynadon ieuenctid a’r rheini wedi’u hyfforddi’n drwyadl i ymdrin â phobl ifanc Tudalen 48
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae'r gwaith o ddedfrydu a gweithrediad y llysoedd troseddol yn faterion a gadwyd yn ôl. Rhaid anfon achosion difrifol i Lys y Goron o dan y ddeddfwriaeth bresennol oherwydd ei bwerau dwysach o ran dedfrydu ac fel y cyfryw, ni all yr ynadon ieuenctid ymdrin â'r achosion hynny. Fodd bynnag, yn yr achosion hyn, bydd y llys yn gwneud pob ymdrech i addasu'r gweithdrefnau i sicrhau bod anghenion y diffynnydd ifanc yn cael eu diwallu'n briodol.
Bydd Is-bwyllgor Lleihau Aildroseddu Pwyllgor Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn ystyried yr argymhelliad hwn er mwyn pennu pa gamau y gall Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi a thimau troseddau ieuenctid eu datblygu wrth symud ymlaen i sicrhau, lle bynnag y bo'n bosibl, na fydd unrhyw blant na phobl ifanc yng Nghymru yn sefyll prawf mewn llys oedolion.
Goblygiadau Ariannol
Caiff costau staff Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y gwaith hwn eu hariannu o fewn y llinellau sylfaen presennol yn ystod 2010-11. Byddai unrhyw newidiadau i arferion y llys o ran y dull o ymdrin ag achosion ieuenctid yn gyfrifoldeb ariannol i Wasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi.
Argymhelliad 6.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, weithio gyda’r timau troseddau ieuenctid i sicrhau bod pobl ifanc yn cydymffurfio’n well â gofynion goruchwyliaeth -
y rheini sydd o dan ddedfryd gymunedol neu’r rheini sy’n cael eu rhyddhau ar ôl cyfnod dan glo, gan gynorthwyo i leihau nifer y plant a’r bobl ifanc o Gymru a gedwir dan glo a sicrhau bod y ddedfryd honno’n cael ei defnyddio ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol yn unig Tudalen 50
Ymateb: Derbyn
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio â'r BCI, i gynorthwyo timau troseddau ieuenctid i wella cydymffurfiaeth pobl ifanc.
Mae Canllawiau Safonau Cenedlaethol a Rheoli Achosion y BCI yn rhoi fframwaith eglur y gall timau troseddau ieuenctid ei ddefnyddio i alluogi cydymffurfiaeth. Fodd bynnag, fel y nodwyd yng nghyhoeddiad y BCI, Key Elements of Effective Practice: Engaging young people who offend, mae llwyddiant o ran cyflawni ymyriadau cyfiawnder ieuenctid yn dibynnu hefyd ar gyfranogiad ystyrlon gan blant a phobl ifanc wrth gynllunio ymyriadau a'u rhoi ar waith.
Rydym wrthi'n gweithio gyda'r BCI, Comisiynydd Plant Cymru a'r Consortiwm Cyfranogiad i sefydlu'r arfer o ymgynghori â phlant a phobl ifanc sydd wedi troseddu a'u hannog i gymryd rhan weithredol, fel rhan o ymarfer prif ffrwd timau troseddau ieuenctid. Mantais y gwaith a wneir i wella cyfranogiad y rheini sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid yw arwain y bobl ifanc hynny i ymgysylltu fwy ag ymyriadau a chymryd mwy o berchnogaeth ohonynt. Drwy wella ymgysylltu, gall ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid gydweithio â'r rhai y maent yn eu goruchwylio i wella cydymffurfiaeth â dedfrydau cymunedol; lleihau'r posibilrwydd o aildroseddu a'r risg o gyfnod yn y ddalfa yn y dyfodol hefyd.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gefnogi'r mesurau hyn drwy ymrwymiadau sy'n bodoli eisoes o dan Gynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan.
Goblygiadau Ariannol
Caiff costau staff sy'n ymwneud â'r gwaith hwn eu talu gan y BCI a Llywodraeth y Cynulliad o'r llinellau sylfaen presennol yn ystod 2010-11.
Argymhelliad 7.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o’r llety mechnïaeth sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru ac o addasrwydd y llety hwnnw, gyda’r nod o leihau nifer y troseddwyr ifanc sy’n cael eu cadw dan glo ar remand oherwydd nad oes llety addas ar gael..Tudalen 51
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn comisiynu adolygiad o'r llety mechnïaeth sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru a'i addasrwydd. Mae hyn yn briodol gan fod llety mechnïaeth yn aml yn gysylltiedig â maethu plant a phobl ifanc. Caiff hyn ei amseru i gyd-fynd â gwaith BCI i fapio'r cymorth mechnïaeth a ddarperir ledled Cymru a Lloegr er mwyn nodi arferion sy'n dod i'r amlwg a'u hyrwyddo.
Goblygiadau Ariannol
Caiff cost yr adolygiad ei thalu o fewn llinell sylfaen bresennol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Byddai'n rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ystyried unrhyw oblygiadau cost sy'n codi yn sgîl yr adolygiad yn unol â'r cyllidebau sydd ar gael ar y pryd.
Argymhelliad 8.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru drafod â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid sut y gellid defnyddio mwy ar gyfleusterau cynadledda fideo ar gyfer ymddangos yn y llys. Rhagwelwn y byddai hyn yn golygu bod llai o angen i blant a phobl ifanc deithio ymhell i’r llys, a hynny gydag oedolion sy’n droseddwyr....Tudalen 52
Ymateb: Derbyn
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio â'r BCI a Gwasanaeth Llysoedd EM i ystyried ffyrdd priodol o ddefnyddio cyfleusterau fideo-gynadledda yng ngweithdrefnau'r llys.
Mae'r BCI wedi cefnogi'r defnydd o dechnoleg fideo-gynadledda rhwng timau troseddau ieuenctid a sefydliadau diogel. Mae wedi ystyried y posibilrwydd o hyrwyddo ei ddefnydd rhwng llysoedd ieuenctid a sefydliadau diogel hefyd.
Goblygiadau Ariannol
Caiff y gwaith cychwynnol o bennu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r dechnoleg hon ei dalu gan y BCI, Llywodraeth y Cynulliad a Gwasanaeth Llysoedd EM o'u costau rhedeg presennol yn ystod 2010-11. Byddai angen i'r BCI a/neu Wasanaeth Llysoedd EM ddod o hyd i arian ychwanegol er mwyn gweithredu i'r argymhelliad hwn.
Argymhelliad 9.
Credwn ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru ystyried y potensial ar gyfer codi oedran cyfrifoldeb troseddol, wrth iddi adolygu’r potensial ar gyfer datganoli’r cyfrifoldeb am gyfiawnder ieuenctid i Weinidogion Cymru. Rhagwelwn y byddai hyn yn digwydd cyn i Lywodraeth Cymru gychwyn ar unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglyn â hyn Tudalen 53
Ymateb: Mater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU
Mae hwn yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU. Mae wedi cadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i adolygu'r oedran cyfrifoldeb troseddol.
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried hyn yn sgîl y drafodaeth ehangach ynghylch datganoli.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol mewn perthynas â'r mater penodol hwn. Gallai fod goblygiadau yn y dyfodol gan ddibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglyn â'r posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid. Wrth gwrs, byddai'n rhaid i unrhyw benderfyniad o'r fath rhoi ystyriaeth lawn i'r holl gostau cysylltiedig.
Argymhelliad 10.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau eraill addas ac effeithiol ar gyfer troseddwyr dan 18 yn hytrach na’u cadw dan glo, a bod hynny’n cynnwys gwerthuso rhaglenni o’r fath yn drwyadl Tudalen 58
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod bod dulliau cadarn ac effeithiol yn lle cadw yn y ddalfa, megis Goruchwylio ac Arolygu Dwys, yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod modd ymateb i ymddygiad troseddol gan blant a phobl ifanc yn y ffyrdd mwyaf priodol.
Er bod datblygu mesurau dedfrydu pellach yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gydweithio â'r BCI a'i gefnogi wrth roi fframwaith dedfrydu newydd ar waith o dan y Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid ac unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol sy'n cynnig ffyrdd o leihau'r defnydd o gadw yn y ddalfa. Cyflawnir hyn fel rhan o'r trefniadau presennol i gyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan a'r gwaith o ddarparu cymorth i wella arfer ymhlith timau troseddau ieuenctid yng Nghymru.
Goblygiadau Ariannol
Darperir cymorth i dimau troseddau ieuenctid drwy Nacro Cymru o dan eu cytundeb ariannu presennol â Llywodraeth y Cynulliad. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol.
Byddai angen i Lywodraeth y DU dalu'r costau o ddatblygu unrhyw fesurau pellach. Byddai gofyn i Lywodraeth y Cynulliad a phartneriaid cyflenwi lleol ddod o hyd i gyllid cyn y gellid rhoi cymorth ychwanegol i ddedfrydau cymunedol drwy wasanaethau datganoledig megis gofal cymdeithasol neu addysg.
Argymhelliad 11.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cadw gwell cysylltiad â’u teulu a’u gofalwyr drwy ofalu ei bod yn haws iddynt gael gafael ar lein ffôn fforddiadwy yn ystod eu cyfnod dan glo Tudalen 65
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Byddwn yn cydweithio â'r BCI i sicrhau ei fod yn haws i blant a phobl ifanc mewn sefydliadau diogel gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd er mwyn ystyried sut y gellir sicrhau bod mwy o linellau ffôn fforddiadwy ar gael. Byddwn yn cydweithio â'r BCI i hyrwyddo'r defnydd o fideo-gynadledda hefyd. Drwy fenter ddiweddar o dan arweiniad y BCI, cafodd nifer o dimau troseddau ieuenctid ledled Cymru a Lloegr gymorth i gynyddu'r defnydd o fideo-gynadledda gan weithwyr proffesiynol a theuluoedd y rhai mewn sefydliadau diogel ar gyfer ieuenctid. Byddwn yn cynorthwyo â'r gwaith o weithredu'r argymhellion sy'n deillio o'r gwaith hwn.
Goblygiadau Ariannol
Ariennir gwaith y BCI i archwilio'r mater hwn o fewn y llinellau sylfaen presennol yn ystod 2010-11. Byddai angen gwneud ceisiadau pellach ar gyfer 2011-12 ymlaen. Byddai angen i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ystyried unrhyw oblygiadau ariannol newydd sy'n codi yn sgîl yr argymhelliad hwn.
Argymhelliad 12.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ddal i drafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda golwg ar alluogi datblygu lleoliadau newydd mewn sefydliadau diogel yng Nghymru, gan ddefnyddio uned ddiogel Hillside yn fodel, a chan gynnwys datblygu darpariaeth mewn lleoliad priodol yn y gogledd Tudalen 70
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal trafodaeth barhaus â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r BCI ynghylch darparu rhagor o leoedd mewn cartrefi diogel i blant yng Nghymru, ar yr un sail â'r rhai a geir yn Hillside. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau'n ymrwymedig i gydweithio â'r BCI i nodi safleoedd addas yng Ngogledd Cymru, y caiff eu hystyried yn sgîl lefel y galw a'r adnoddau sydd ar gael.
Goblygiadau Ariannol
Byddai angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddod o hyd i arian cyfalaf i ddarparu rhagor o leoedd diogel i blant yng Ngogledd Cymru a byddai angen gwneud ceisiadau pellach yn y dyfodol. Byddai hefyd angen i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ystyried faint o arian refeniw sydd ar gael i gefnogi'r lleoedd ychwanegol.
Argymhelliad 13.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr i adolygu pa mor addas yw Sefydliadau Troseddwyr Ifanc ar gyfer cadw troseddwyr dan 18 o Gymru, yn unol â Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan Tudalen 72
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae'r BCI yn gyfrifol am adolygu'n barhaus a yw sefydliadau diogel ar gyfer ieuenctid yn addas drwy fonitro rheolaidd ac ymgysylltu â darparwyr drwy gontractau a chytundebau lefel gwasanaeth. Yn achos pobl ifanc dros ddeunaw oed, NOMS sy'n gyfrifol am y gwaith hwn o nodi a yw llety'n addas. Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn cynnal arolygon o Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yn rheolaidd.
Yn sgîl y gweithgareddau parhaus hyn, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i weithio gyda'r BCI a'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) o dan Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan i hyrwyddo'r cyfundrefnau mwyaf effeithiol ar gyfer pobl ifanc mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yng Nghymru.
Goblygiadau Ariannol
Bydd y BCI a NOMS yn parhau i dalu'r costau.
Argymhelliad 14.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda byrddau lleol diogelu plant awdurdodau lleol, a chyda Thimau Integredig Cymorth i Deuluoedd i gyflwyno gwelliannau ymarferol i’r drefn cynllunio gofal ac i wella gwaith amlddisgyblaeth yng nghyswllt troseddwyr dan 18. Mae angen i fyrddau lleol diogelu plant, gan weithio gyda thimau troseddau ieuenctid, a darparwyr sefydliadau diogel, gael polisïau a gweithdrefnau clir, ar gyfer asesu a rheoli’r bobl ifanc hynny sydd, o bosibl, yn agored i niwed, o ran niweidio’u hunain, cyflawni hunanladdiad neu niweidio eraill Tudalen 78
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio â'r BCI ar hyn o bryd i sicrhau bod datblygiad Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (TICID) yn rhoi ystyriaeth lawn i'r rhyngwyneb â gwasanaethau eraill a gynigir i blant a phobl ifanc; gan gynnwys timau troseddau ieuenctid. Rydym yn cynorthwyo pedair ardal arloesi a fydd yn dechrau rhoi'r trefniadau newydd ar waith erbyn diwedd y gwanwyn. Rydym yn creu'r cysylltiadau angenrheidiol er mwyn sicrhau llwybrau clir ar gyfer atgyfeirio i TICID drwy amrywiaeth o asiantaethau sy'n cyfrannu at wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys timau troseddau ieuenctid, yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol plant.
Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad Diogelu Plant: Gweithio Gyda'n Gilydd o Dan Ddeddf Plant 2004
yn nodi'n glir sut y dylai partneriaid drwy'r Byrddau Lleol Diogelu Plant ymgysylltu er mwyn diogelu plant yn eu hardaloedd. Penodir Timau Troseddau Ieuenctid yn bartneriaid statudol ar BLlDPau.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu Fforwm Diogelu Plant yng Nghymru a fydd yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud ag arweiniad strategol y gwaith o ddiogelu a'r effaith y caiff hwn yn lleol ar arferion amddiffyn plant. Mae gan y BCI gynrychiolaeth ar y Fforwm a bydd yn ystyried pa ganllawiau ychwanegol y gallai fod eu hangen i atgyfnerthu trefniadau diogelu yng Nghymru.
Goblygiadau Ariannol
Ariennir gwaith gyda'r BCI o ran TICID a diogelu o fewn llinellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol.
Argymhelliad 15.
Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i sicrhau nad oes oedi wrth i droseddwyr dan 18 o Gymru geisio cael gafael ar driniaeth oherwydd gwahanol drefniadau comisiynu’r GIG yng Nghymru ac yn Lloegr Tudalen 79
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Fel rhan o waith parhaus Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu Gwasanaeth Ymgynghori a Thrin Fforensig Haen 4 ar gyfer Pobl Ifanc yng Nghymru byddwn yn ystyried i ba raddau y mae'r trefniadau gwahanol yng Nghymru a Lloegr o ran comisiynu gwasanaethau yn peri oedi wrth gael gafael ar driniaeth iechyd meddwl.
O ran iechyd corfforol, yn yr un modd ag anghenion iechyd meddwl, mae gan bob person ifanc mewn sefydliad diogel yn Lloegr yr hawl i'r un ddarpariaeth a mynediad i wasanaethau, waeth o ble y daw. Mae Adran Iechyd Llywodraeth y DU yn parhau'n ymrwymedig i gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i leihau unrhyw oedi.
Goblygiadau ariannol
Caiff ei ariannu o fewn llinellau sylfaen presennol Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol.
Argymhelliad 16.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru warantu’n gyhoeddus y bydd cymorth haen 2 a 3 Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ar gael i bob plentyn mewn sefydliad diogel Tudalen 83
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn y dylai Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Haen 2 fod ar gael ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ar sail yr angen a aseswyd, waeth ble mae wedi'i leoli neu ei statws cyfreithiol. Disgwyliwn i'r sefydliadau perthnasol ddarparu gwasanaethau ar y sail hon ac rydym yn gweithio ar hyn o bryd i sicrhau y bydd hynny yn digwydd.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) Fforensig Haen 3 ledled Cymru erbyn mis Mawrth 2011.
Goblygiadau Ariannol
Caiff hwn ei ariannu o fewn llinellau sylfaen presennol Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol.
Argymhelliad 17.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru drafod ag awdurdodau lleol er mwyn galluogi cysondeb o ran cymorth nyrsys seiciatrig iechyd meddwl ar gyfer Timau Troseddau Ieuenctid (TTIau). Dylid ystyried hefyd sicrhau bod pobl ifanc sy’n ymadael â sefydliad diogel ac nad oes cysylltiad rhyngddynt â’r Timau Troseddau Ieuenctid, yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl.......Tudalen 83
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno â'r argymhelliad y dylai cymorth nyrsys seiciatrig fod ar gael i bob Tîm Troseddau Ieuenctid (TTIau). Drwy greu'r swyddi Ymgynghorydd Iechyd Meddwl y gofynnwyd amdanynt yn Fframwaith Gweithredu Blynyddol GIG Cymru, caiff y drefn bresennol o ran sut mae gweithwyr iechyd meddwl yn cyfrannu i'r TTIau ei hatgyfnerthu a bydd yn sicrhau y gall plant a phobl ifanc o dan reolaeth y TTIau gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn ôl yr angen a aseswyd. Ers sefydlu'r TTIau disgwylid y byddai gweithiwr iechyd proffesiynol yn rhan o'r tîm TTI. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i benodi nyrs seiciatrig i'r rôl hon i gydlynu a datblygu llwybrau gofal ar y cyd â'r gwasanaethau Fforensig Haen 3 CAMH sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd i sicrhau bod plant mewn timau Troseddau Ieuenctid yn cael gofal priodol gan wasanaethau Haen 2 a Haen 3.
Bydd mynd ati i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng nyrsys seiciatrig y timau troseddau ieuenctid ac Ymgynghorwyr Iechyd Meddwl fel rhan o wasanaethau Haen 1-4 yn cyfrannu'n sylweddol o ran gwella'r gwaith o gynllunio i ryddhau plant a phobl ifanc o'r ddalfa. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr gwasanaethau ymwneud yn llawn â'r gwaith cynllunio aml-asiantaeth i sicrhau bod gofal priodol ar gael i'r rhai sy'n gadael sefydliadau diogel.
Goblygiadau Ariannol
Caiff y gwaith o ddatblygu gwasanaethau CAMH ei ariannu o fewn llinellau sylfaen Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol. Y byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ariannu gweithwyr proffesiynol y timau troseddau ieuenctid.
Argymhelliad 18.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl blant a'r bobl ifanc o Gymru sydd dan glo yn gallu manteisio ar yr addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, yn yr un modd â phob plentyn neu berson ifanc arall yng Nghymru. Er mwyn gofalu bod hyn yn digwydd, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau strategol ar gyfer awdurdodau lleol i wneud yn siwr eu bod yn gwneud rhagor i sicrhau addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth amser llawn i blant a phobl ifanc a ddedfrydir i gyfnod dan glo......Tudalen 92
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y dylai pobl ifanc sydd o dan glo gael yr un hawl i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth â'r holl blant a phobl ifanc eraill yng Nghymru.
Mae canllawiau drafft yn cael eu llunio ar hyn o bryd fel rhan o weithredu Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant pobl ifanc yn y ddalfa yng Nghymru. Prif ddiben hyn yw sicrhau bod yr addysg a gaiff pobl ifanc yn y ddalfa yn unol â'r ddarpariaeth a'r fframwaith brif ffrwd a geir yn y gymuned a'i fod, i raddau mwy helaeth, yn unol â'r ddeddfwriaeth addysg gynradd am y tro cyntaf.
Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i bobl ifanc a nodwyd yn wreiddiol yn Ymestyn Hawliau: Cynorthwyo Pobl Ifanc 11-25 oed yng Nghymru yn 2000 a 2002.
O dan Ddeddf 2009, caiff addysg a hyfforddiant eu darparu i'r rhai sydd mewn sefydliadau diogel yn Lloegr gan awdurdod lleol yr ardal lle y lleolir y sefydliad er mwyn sicrhau bod awdurdodau addysg yn Lloegr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran darparu cwricwlwm Cymreig.
Goblygiadau Ariannol
Mae'r costau staff sy'n gysylltiedig â darparu'r canllawiau a gwaith gyda'r BCI er mwyn dylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir i'r rhai sydd mewn sefydliadau diogel yn Lloegr yn cael eu hariannu ar hyn o bryd o fewn llinellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol.
Argymhelliad 19.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl blant a'r bobl ifanc o Gymru sydd dan glo'n cael yr un hawl i gael addysg, hyfforddiant a chyflogaeth â’r rheini sydd ar y tu allan, gan sicrhau bod safon addysgol pawb sy'n cael ei roi dan glo'n cael ei hasesu ac yn cael sylw. Er mwyn sicrhau hyn, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid perthnasol i sicrhau bod pob person ifanc sydd dan glo'n cael cynllun dysgu unigol a bod hwn yn cael ei fonitro'n rheolaidd yn unol â gofynion Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan (STICG) Tudalen 95
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Yn achos plant a phobl ifanc sydd yn y ddalfa yng Nghymru, bydd mesurau i weithredu Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 drwy ganllawiau yn rhoi pwerau i Lywodraeth y Cynulliad fynd i'r afael â gweithgaredd i asesu safonau addysg y rhai sy'n cael eu rhoi dan glo ac ymateb iddynt. Bydd y canllawiau'n mynd i'r afael â'r defnydd o gynlluniau dysgu unigol.
Yn achos y rhai sydd mewn sefydliadau yn Lloegr byddwn yn parhau i weithio gyda'r BCI ac Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd Llywodraeth y DU o ran gweithredu gofynion y Ddeddf yn Lloegr. Wrth wneud hyn byddwn yn ceisio sicrhau bod awdurdodau addysg yn Lloegr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â darparu cwricwlwm Cymreig.
Goblygiadau Ariannol
Gellir talu'r costau staff sy'n deillio o weithredu hyn o linellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-11. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol.
Argymhelliad 20.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru drafod gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, gyda’r nod o alluogi adolygiad o'r ddarpariaeth eiriolaeth ac o effeithiolrwydd y trefniadau ar ei chyfer mewn sefydliadau diogel i bobl dan 18 Tudalen 97
Ymateb: Derbyn
Y BCI sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth yn y sefydliadau diogel. Ym mis Gorffennaf 2008 ymrwymodd y BCI i gyfres newydd o gytundebau â darparwyr y gwasanaethau eiriolaeth yn ddiweddar. Mae wedi cadarnhau y bydd yn parhau i fonitro'r gwaith o wella'r gwasanaethau hyn, gan reoli perfformiad ac annog gwelliant parhaus.
Yn ogystal â hyn mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno i ddechrau trafod â'r BCI er mwyn ystyried sut i wella ac addasu'r gwasanaethau eiriolaeth a geir mewn sefydliadau diogel ar gyfer ieuenctid er mwyn cydnabod y Model Newydd ar gyfer Cyflwyno Gwasanaethau Eiriolaeth i Blant a Phobl Ifanc a gaiff ei weithredu'n fuan yng Nghymru gan Lywodraeth y Cynulliad.
Goblygiadau Ariannol
Caiff trafodaethau â'r BCI ynghylch y materion hyn eu hariannu o fewn llinellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Os tybir bod angen cynnal adolygiad yn sgîl trafodaethau â'r BCI, byddai angen i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid dalu'r costau.
Argymhelliad 21.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru alluogi gwaith peilot yng Nghymru ynglyn â manteision posibl therapi iaith a lleferydd i droseddwyr dan 18: pan fyddant dan glo ac wrth eu rhyddhau Tudalen 101
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio â'r BCI, timau troseddau ieuenctid a therapyddion iaith a lleferydd i gynorthwyo a galluogi gwaith peilot sy'n ystyried y manteision posibl o roi therapi iaith a lleferydd i blant a phobl ifanc sydd wedi troseddu. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes yn sgîl cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan i wella arfer o ran cyfranogaeth yn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae'r gwaith hwn wedi nodi bod anawsterau cyfathrebu yn peri rhwystr sylweddol i bobl ifanc gan eu hatal rhag cyfranogi ac ymgysylltu ag ymyriadau cyfiawnder ieuenctid.
Byddwn yn gweithio gyda gwasanaethau troseddau ieuenctid, megis Wrecsam, sy'n arwain y ffordd yn y maes hwn, i ddatblygu a threialu ffyrdd o ddefnyddio'r gwaith hwn wrth ymdrin â'r rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys y rhai mewn sefydliadau diogel.
Goblygiadau Ariannol
Caiff costau'r gwaith cychwynnol o adolygu'r arfer presennol eu talu o fewn llinellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad a'r BCI yn ystod 2010-11. Byddai angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ddod o hyd i'r adnoddau i ymestyn y cynllun peilot a'i ehangu i ardaloedd eraill.
Argymhelliad 22.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gysylltu â'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i sicrhau hyfforddiant digonol i bob gweithiwr proffesiynol a phob aelod o'r staff ategol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn sefydliadau diogel, gan sicrhau bod y gwasanaethau'n canolbwyntio ar y plentyn ac yn cael eu teilwra i'w hanghenion unigol Tudalen 108
Ymateb: Derbyn
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydgysylltu'n agos â'r BCI i sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael. Bydd y BCI yn cyhoeddi dogfen yn fuan yn nodi'r cymwyseddau craidd y disgwylir i staff sy'n gweithio mewn sefydliadau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc feddu arnynt. Bydd y BCI yn cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod y ddogfen hon yn briodol i Gymru. Bydd y ddogfen yn nodi pa gymwyseddau y bydd eu hangen ar staff Hillside a Parc er mwyn iddynt weithio’n effeithiol â phobl ifanc yng Nghymru. Wedyn bydd y BCI yn gweithio gyda'r darparwyr i fapio eu rhaglenni recriwtio a hyfforddi presennol yn erbyn y cymwyseddau craidd hyn i nodi unrhyw fylchau. Yna bydd gofyn i'r darparwyr ddatblygu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael â'r bylchau hynny.
Mae'r BCI wedi treialu pecynnau hyfforddiant ehangach i staff sy'n gweithio mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc a bydd yn rhannu ei ganfyddiadau â Llywodraeth y Cynulliad pan fydd y gwerthusiad wedi'i gwblhau.
Mae'r BCI hefyd yn ystyried cyfleoedd posibl i ddefnyddio llwyfan dysgu ar-lein (Gofod Dysgu Rhyngweithiol Cyfiawnder Ieuenctid) i ddarparu hyfforddiant i staff sy'n gweithio mewn sefydliadau diogel. Bydd y BCI yn cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu hyn.
Goblygiadau Ariannol
Caiff y costau staff o ran cydgysylltu â'r BCI eu hariannu o fewn llinellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Byddai'r BCI yn talu unrhyw gostau sy'n deillio o'r broses gydgysylltu hon o ran newidiadau i'r rhaglenni hyfforddi y mae'n eu darparu.
Argymhelliad 23.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi hwyluso rhannu arferion da mewn sefydliadau diogel, drwy gyfrwng seminar blynyddol a gynhelir gan Estyn Tudalen 108
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio ag Estyn a'r BCI i gynnal seminar i ledaenu arfer da mewn sefydliadau diogel yn ystod 2010-11. Os bydd y seminar yn llwyddiant a'r cyfranogwyr yn cytuno bod angen parhaus am ddigwyddiad o'r fath byddwn yn ystyried cynnal seminar blynyddol.
Goblygiadau Ariannol: Dim
Caiff costau eu talu o gyllideb Cronfa Cymunedau Diogelach Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11.
Argymhelliad 24.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gysylltu â'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i adolygu'r system targedau, y dangosyddion perfformiad a’r dulliau a ddefnyddir i fesur aildroseddu ar hyn o bryd er mwyn cynhyrchu set data gadarn o ganlyniadau llwyddiannus. Teimlwn y dylai hyn gynnwys dulliau mesur ’meddal’ ar gyfer y grwp hwn sy’n cydnabod y pellter y maent wedi’i deithio, nid dim ond mewnbynnau (e.e. nifer yr oriau y mynychir). Argymhellwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i roi canllawiau i awdurdodau lleol, i ddarparwyr sefydliadau diogel ac i bartneriaid perthnasol er mwyn egluro pa ddata y dylent fod yn eu casglu a'u rhannu yng nghyswllt troseddwyr dan 18 ac i sicrhau bod y rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd a'u storio'n briodol Tudalen 111
Ymateb: Gwrthod
Er bod gosod dangosyddion perfformiad ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yn fater a gadwyd yn ôl, mae Llywodraeth y Cynulliad a'r BCI wedi mynd ati'n ddiweddar i gynnal adolygiad eang ar y cyd o'r fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys archwiliad manwl o ddata a gasglwyd ar ôl i dimau troseddau ieuenctid yng Nghymru ei gofnodi ac roedd yn cynnwys ymgynghoriad eang â'r holl wahanol rhanddeiliaid. O ganlyniad, sefydlwyd Set Dangosyddion Cyfiawnder Ieuenctid Cymru sy'n sail i'r fframwaith cyflenwi diwygiedig ar gyfer Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan ac yn rhan o ofynion llywodraeth leol o ran cyflwyno adroddiadau ar berfformiad. Mae'r fframwaith newydd wedi bod yn weithredol ers mis Ebrill 2009 ac fe'i hategir gan gyfres gynhwysfawr o ganllawiau ar gyfer timau troseddau ieuenctid ac awdurdodau lleol sy'n nodi'r gofynion o ran casglu data.
Yn ystod y broses o adolygu'r fframwaith, ystyriwyd y potensial o ran cofnodi 'canlyniadau sylfaenol' gan wasanaethau troseddau ieuenctid. Yr adeg honno, yn seiliedig ar ymchwil ac ymatebion i'r ymgynghoriad, nid oedd hyn yn ymarferol. Ymrwymodd Llywodraeth y Cynulliad a'r BCI i barhau i adolygu'r fframwaith er mwyn ystyried sut y gellid ei wella a'i addasu yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud cynnydd sylweddol ers hynny o ran datblygu methodoleg 'Dangos Llwyddiant' ar gyfer asesu a chofnodi sgiliau cymdeithasol ac emosiynol. Bydd Pwyllgor Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, sy'n cynnwys nifer o wahanol rhanddeiliaid, yn parhau i fonitro cynnydd.
Mae'r broses o roi fframwaith perfformiad newydd ar waith yn rhoi baich sylweddol ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid wrth iddynt addasu i weithdrefnau cyfrif a chofnodi newydd. Tra bod Llywodraeth y Cynulliad a'r BCI yn ymrwymedig i'r nod hirdymor o integreiddio modelau megis Dangos Llwyddiant i'r fframwaith perfformiad ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, rydym o'r farn, yn dilyn adolygiad cynhwysfawr, ei fod yn rhy fuan ar hyn o bryd i roi mwy o faich ar ddarparwyr gwasanaethau drwy gyflwyno mwy o gyfrifoldebau casglu data.
Goblygiadau Ariannol
Dim.
Argymhelliad 25.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru drafod gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda golwg ar gael swyddog adsefydlu cyswllt yn Lloegr mewn sefydliadau i weithio gyda throseddwyr dan 18 o Gymru yn ystod eu dedfryd a’u paratoi ar gyfer eu rhyddhau Tudalen 113
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae'r gwaith o ddarparu cymorth tra bod pobl ifanc yn y ddalfa yn fater a gadwyd yn ôl a ariennir gan Lywodraeth y DU ac a gomisiynir gan y BCI. Byddai cyflwyno swyddog adsefydlu cyswllt mewn sefydliadau diogel yn Lloegr yn ffordd o roi darpariaeth ehangach i blant a phobl ifanc o Gymru a byddai angen i'r BCI gytuno â hyn. Mae'r BCI wedi pwysleisio y byddai darpariaeth ehangach o'r fath yn arwain at gostau ychwanegol na fyddai Llywodraeth y DU yn barod i'w talu.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r egwyddor y dylai plant a phobl ifanc o Gymru mewn Sefydliadau Diogel yn Lloegr gynnal cyswllt cryf â'u teuluoedd a chyda gwasanaethau cymdeithasol, addysg a thai. Byddwn yn trafod â'r BCI pa un a fyddai cyflwyno swyddog adsefydlu cyswllt yn ffordd o wella'r broses adsefydlu ynghyd â thrafod yr opsiynau o ran ymestyn y trefniadau presennol.
Goblygiadau Ariannol
Caiff costau trafod â'r BCI eu hariannu o fewn llinellau synfen presennol Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol. Byddai darparu gweithwyr cyswllt yn arwain at oblygiadau ariannol. Byddai angen cadarnhau costau manwl gywir a dod o hyd i gyllid cyn datblygu hyn ymhellach.
Argymhelliad 26.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol, gan sicrhau bod Timau Troseddau Ieuenctid ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru'n cydweithio mor effeithiol ag y bo modd i ddarparu gwasanaeth integredig ar gyfer pobl pan gânt eu rhyddhau ar ôl cyfnod dan glo. Credwn y dylai Timau Troseddau Ieuenctid adrodd yn uniongyrchol i brif weithredwr awdurdod, ac y dylai yntau fod yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn ei awdurdod lleol yn cael eu cydlynu'n effeithiol yn unol â Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan Tudalen 116
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
O dan y ddeddfwriaeth bresennol, prif weithredwr yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ymgynnull tîm troseddau ieuenctid a'i gynnal.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dechrau cydweithio â'r BCI yn ddiweddar i gyhoeddi canllawiau ar wahân i dimau troseddau ieuenctid yng Nghymru a'u byrddau rheoli sy'n cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y gwasanaeth prawf a'r heddlu. Bydd hyn yn cwmpasu'r holl weithrediadau a chyfrifoldebau cyfiawnder ieuenctid a geir yn lleol, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â chymorth adsefydlu yn dilyn cyfnod yn y ddalfa.
Drwy gydweithio ar y canllawiau hyn, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau â'i gwaith gyda Llywodraeth y DU o ran gweithredu cymal 31 o'r Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd sy'n cyflwyno pwerau newydd i gyfarwyddo timau troseddau ieuenctid neu'r awdurdod lleol perthnasol os bydd tîm troseddau ieuenctid yn methu â chyflawni. Bydd y pwerau hyn yn canolbwyntio ar rôl y prif weithredwr a'i gyfrifoldeb i sicrhau bod y tîm troseddau ieuenctid yn cyflawni ei weithrediadau i safon dderbyniol.
Goblygiadau Ariannol
Mae'r gost o gydweithio â'r BCI a Llywodraeth y DU ar ganllawiau i fyrddau rheoli'r timau troseddau ieuenctid yn cael ei thalu o fewn llinellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad.
Argymhelliad 27. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i awdurdodau lleol er mwyn i wasanaethau tai fod yn bartner statudol ar fwrdd rheoli’r timau troseddau ieuenctid Tudalen 119
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r egwyddor o sicrhau y caiff adrannau tai yr awdurdodau lleol eu cynrychioli ar fyrddau rheoli'r timau troseddau ieuenctid. Mae darparu llety addas ar gyfer pobl ifanc sy'n wynebu risg o gael eu cadw yn y ddalfa yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dedfrydau cymunedol yn cael eu defnyddio lle bynnag y bo'n bosibl. Yn yr un modd, byddai'r rhai sy'n dychwelyd o sefydliadau diogel yn cael y budd mwyaf o symud ymlaen i lety sefydlog, a lle y bo'n briodol, llety â chefnogaeth, er mwyn helpu i atal aildroseddu a sicrhau nad ydynt yn dychwelyd i'r ddalfa.
Fodd bynnag, byddai angen i Lywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau statudol i roi dyletswydd ar awdurdodau tai i fod yn aelodau byrddau rheoli y timau troseddau ieuenctid yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn (1998).
Fel rhan o'n gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU i gyhoeddi canllawiau cyffredinol i dimau troseddau ieuenctid a'u byrddau rheoli, byddwn yn ystyried beth yw'r ffordd orau o annog awdurdodau tai lleol i ymwneud yn fwy ag arweiniad strategol y timau troseddau ieuenctid.
Goblygiadau Ariannol
Telir y costau staff sy'n deillio o lunio'r canllawiau cyffredinol o linellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad.
Argymhelliad 28.
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, cyrff cyflogaeth a chyrff y trydydd sector, ystyried sut y gellid cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc sy’n cwblhau cyfnod dan glo gael gwaith.....Tudalen 121
Ymateb: Derbyn o ran Egwyddor
Fel rhan o'n gwaith o gyflawni Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan, mae Llywodraeth y Cynulliad a'r BCI yn gweithio gyda Gyrfa Cymru a thimau troseddau ieuenctid i ystyried y prosesau presennol, o ran darparu hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n dod allan o'r ddalfa, a'u gwella.
Byddwn yn ymestyn ar y gwaith hwn er mwyn ystyried rôl yr awdurdodau lleol, sefydliadau cyflogaeth a chyrff yn y trydydd sector. Byddwn hefyd yn cydweithio â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ystyried y gwaith y mae'n ei gyflawni i fynd i'r afael â'r mater a'r ffordd orau o ymestyn y gwaith hwn yng Nghymru.
Goblygiadau Ariannol
Caiff costau staff y gwaith presennol o ran Cynllun Cyflenwi Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan ei ariannu o fewn llinellau sylfaen presennol Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2010-11. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol o 2011-12 ymlaen, gallai lefelau'r cyllidebau y cytunir arnynt effeithio ar weithredu'r ymateb hwn yn y dyfodol
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant
