Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

Ymchwiliad i Gwneud yn fawr o Ddigwyddiadau Chwaraeon Mawr

Cylch gorchwyl

Archwilio gwaith Llywodraeth Cymru, ei chyrff cyflenwi a sefydliadau cenedlaethol eraill mewn perthynas â digwyddiadau chwaraeon mawr, yn arbennig:

  • gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Chwpan Ryder, y gwersi a ddysgwyd hyd yma, a sut y gellir eu defnyddio i wneud y mwyaf o fanteision gweithgareddau etifeddol y Gemau Olympaidd;

  • strwythur, prosesau cynllunio, cydlyniant a threfniadaeth gweithgareddau ar draws holl feysydd portffolio Llywodraeth Cymru a chysylltiad â’r gymuned ehangach o rhanddeiliaid;

  • y cyfyngiadau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth wneud y mwyaf o fanteision digwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd pan gynhelir y digwyddiadau yn y DU, lle y gall unrhyw ddylanwad uniongyrchol gan bolisïau Llywodraeth Cymru fod yn gyfyngedig;

  • sut y gallai gwaith Llywodraeth Cymru ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr effeithio ar newid cadarnhaol parhaol mewn cymunedau, fel ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn enwedig yn y sectorau hynny sydd fel arfer yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at chwaraeon;

  • sut y gall Llywodraeth Cymru annog digwyddiadau chwaraeon mawr i ddod i Gymru.

Statws : Cyhoeddir yr adroddiad ar 4 Mehefin 2010

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar Tachwedd 2009. Caeodd hwn ar 15 Ionawr 2010

Llythyr ymgynghori(PDF,103KB)

Ymatebion a gafwyd

Gwybodaeth ychwanegol

Tystiolaeth

Mae’r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 4 Mehefin 2010 (PDF, 785KB)

Cyhoeddwyd ymateb y Gweinidog i'r adroddiad ar 24 Tachwedd 2010 (PDF 64KB)

Partneriaid a Help