Y Pwyllgor Menter a Dysgu
Grŵp Rapporteur ar Ddwyieithrwydd Yng nghyfarfod y Pwyllgor Menter a Dysgu ar 15 Ionawr 2009, cafodd Grŵp Rapporteur trawsbleidiol ei ethol gan y Pwyllgor i ystyried gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru ac adrodd ar ei ganfyddiadau. Roedd aelodau’r grŵp fel a ganlyn: Jeff Cuthbert AC; Gareth Jones AC; David Melding AC; a Jenny Randerson AC.
Bu’r Grŵp Rapporteur ar Ddwyieithrwydd yn trafod ei flaenoriaethau yn ei gyfarfod anffurfiol cyntaf ar 5 Chwefror 2009. Penderfynodd y byddai’n canolbwyntio ar y tri maes strategol canlynol: •
Dysgu ac addysgu Cymraeg fel ail iaith;
Hyfforddiant a sgiliau dwyieithog yn y gweithle; a
Rhyngwyneb busnes â’r cyhoedd.
