Y Pwyllgor Menter a Dysgu
Ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)
Gylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu wedi cytuno i gynnal ymchwiliad newydd ac mae am ystyried:
A yw’r ddarpariaeth ar gyfer sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn ddigonol mewn ysgolion, colegau addysg bellach, addysg uwch, a’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu seiliedig ar waith (gan gynnwys prentisiaethau).
Yr arian ychwanegol sydd ar gael i hybu a hyrwyddo sgiliau STEM ac a yw’r sgiliau STEM sydd ar gael ar hyn o bryd yn diwallu anghenion marchnad lafur Cymru, gan gymharu’r sefyllfa yng Nghymru â gwledydd a rhanbarthau perthnasol eraill.
Y cyflenwad o bobl proffesiynol ym myd addysg sy’n gallu dysgu pynciau STEM ac effaith y Grantiau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon a’r Rhaglen Athrawon Graddedig ar recriwtio’r bobl hyn.
Pa mor effeithiol yw cysylltiadau addysg a busnes rhwng sefydliadau addysgol a chyflogwyr ym maes STEM.
Gweithredu polisïau strategol a mentrau’r llywodraeth i feithrin sgiliau STEM, ac effaith hynny, gan gynnwys rôl y Prif Gynghorwr Gwyddonol, yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol a strategaethau (addysg uwch) Llywodraeth Cymru, sef 'Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru ac Er mwyn ein Dyfodol a’r Polisi Gwyddoniaeth i Gymru (Tachwedd 2006)'.
Dylid anfon sylwadau ysgrifenedig drwy’r post neu drwy e-bost at Glerc y Pwyllgor erbyn 3 Tachwedd 2010.
Siân Phipps
Clerc y Pwyllgor Menter a Dysgu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd CF99 1NA
sian.phipps@wales.gov.uk
