Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Health, Wellbeing and Local Government Committee
Angela Burns AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Ein cyfeirnod ni: HWLG(3)23-08
21 Hydref 2008
Annwyl Angela
Y GYLLIDEB DDRAFFT – ARGYMHELLION GAN Y PWYLLGOR IECHYD, LLES A LLYWODRAETH LEOL
Cyflwyniad
Trafododd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y gyllideb ddrafft yn ei gyfarfod ar 15 Hydref yn unol â Rheol Sefydlog 27.3. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Pwyllgor Cyllid ystyried y materion a nodwyd gennym isod yn eich adroddiad i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 27.4.
Roeddem yn ddiolchgar i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus am fod yn bresennol yn ein cyfarfod ar 15 Hydref er mwyn ateb cwestiynau am y gyllideb ddrafft gan Aelodau’r pwyllgor.
Roedd disgwyl i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol fod yn bresennol hefyd, ond bu’n cynrychioli Llywodraeth y Cynulliad mewn cyfarfod â’r Trysorlys i drafod problemau awdurdodau lleol Cymru sydd wedi buddsoddi asedau mewn sefydliadau ariannol yng Ngwlad yr Iâ. Deallwn yn llwyr pam ei fod yn absennol ac roeddem yn ddiolchgar bod modd i swyddogion y Gweinidog fod yn bresennol er mwyn ateb cwestiynau yn ei le.
Sylwadau cyffredinol
Gwariant sy’n berthnasol i gylch gwaith y pwyllgor
Cyfanswm y gwariant arfaethedig o fewn y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (£6.0 biliwn), Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (£4.4 biliwn) a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (£59.5 miliwn) yw tua £10.5 biliwn. Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant hwn yn berthnasol i gylch gwaith y pwyllgor, ac mae’n agos at fod yn 70 y cant o gyfanswm cyllideb Llywodraeth y Cynulliad o £15.2 biliwn yn 2009-10.
Cyfnodau amser
Mae Rheol Sefydlog 27.3 yn rhoi pythefnos yn unig i bwyllgorau ystyried y gyllideb ddrafft. I bob pwrpas, mae hyn yn cyfyngu’r gwaith craffu i ddim ond un cyfarfod o’r pwyllgor. Cyn holi’r Gweinidogion, ychydig iawn o amser sydd gan y pwyllgorau i ymchwilio i oblygiadau’r gyllideb a’u deall yn llawn. Nid yw’n rhoi dim amser i bwyllgorau gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid na phobl eraill sydd ag arbenigedd perthnasol neu arbenigedd ehangach yn y maes.
Ar yr achlysur hwn, nid oedd modd i ni glywed tystiolaeth gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol o gwbl, er ei fod yn gyfrifol am bron i 30 y cant o gyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Er ei fod wedi cytuno i fod yn bresennol yn ein cyfarfod ar 22 Hydref er mwyn ateb cwestiynau, bydd yn rhy hwyr i ni gyflwyno adroddiad i’ch pwyllgor er mwyn i chi ystyried ein sylwadau cyn cyflwyno eich adroddiad i’r Cynulliad. Er ein bod yn deall pam na allai’r Gweinidog fod yn bresennol, mae hyn unwaith eto yn amlygu’r broblem a nodwyd gennym wrth drafod cyllideb ddrafft y llynedd.
Ym marn y pwyllgor, prin fod yr amser sydd ar gael i drafod y gyllideb ddrafft yn ddigon i wneud mwy na’i hystyried yn frysiog. Mae’r pwyllgor yn argymell
bod y Pwyllgor Cyllid yn ystyried a oes digon o amser ar gael i’r pwyllgorau craffu drafod y gyllideb.
Meysydd gwariant
Wedi’u nodi isod y mae’r meysydd a oedd yn destun pryder i Aelodau’r pwyllgor, neu feysydd lle gofynnwyd am eglurhad ar ddarpariaethau penodol yn y gyllideb. Mae angen darllen y rhain yng nghyd-destun ein sylwadau cyffredinol ynghylch y ffaith na chafodd y pwyllgor lawer o amser i drafod y gyllideb.
Dylwn hefyd bwysleisio nad yw’r materion a amlygwyd o anghenraid yn achosi pryder neu’r un faint o bryder i holl Aelodau’r pwyllgor, ond rydym yn argymell
bod y Pwyllgor Cyllid yn tynnu sylw’r Cynulliad at y materion hyn wrth gyflwyno’i adroddiad ar y gyllideb ddrafft.
Portffolio’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cyffredinol
Atebodd y Gweinidog gwestiynau mewn perthynas â’i gyfrifoldebau dros y portffolio cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, yn hytrach nag yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog dros Gyllid.
Maes rhaglenni gwariant - Creu’r Cysylltiadau
Byrddau gwasanaethau lleol
Cynllun Gofodol Cymru
Llywodraethu yng Nghymru
Gofynnodd Aelodau’r pwyllgor sut y byddai’r cyllid ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru’n cael ei ddefnyddio ac a oedd y £0.49 miliwn a neilltuwyd yn ddigonol. Teimlai’r Gweinidog fod y swm a gynigiwyd yn ddigonol, yn enwedig o gofio’r sefyllfa ariannol ehangach.
Gofynnodd Aelodau’r pwyllgor am esboniad ynghylch y gostyngiad mewn cyllid ym maes rhaglenni gwariant Creu’r Cysylltiadau. Roedd gostyngiad cyffredinol o 14 y cant o gymharu â’r llynedd, a gostyngiad o £2.4 miliwn yng Nghronfa Wella Creu’r Cysylltiadau. Esboniodd y Gweinidog a’i swyddogion mai darparu arian sefydlu oedd prif nod y Gronfa Wella ac mai’r bwriad erioed oedd cael rhaglen dair blynedd, sydd bellach yn dod i ben.
Esboniodd y Gweinidog hefyd y berthynas rhwng y Cynllun Gofodol a rhai o’i gyfrifoldebau eraill, gan gynnwys byrddau gwasanaethau lleol a gweithio mewn partneriaeth. Cytunodd y byddai’n ystyried a oedd angen cymryd camau pellach i sicrhau bod themâu cydraddoldeb trawsbynciol yn rhan o waith prif-ffrwd byrddau gwasanaethau lleol a phartneriaethau eraill.
Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, esboniodd y Gweinidog y byddai £50,000 yn ychwanegol ar gael i bob bwrdd gwasanaethau lleol, a hynny o’r llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer datblygu Creu’r Cysylltiadau, er mwyn cynorthwyo i dalu costau datblygu. Ers hynny, mae swyddogion y Gweinidog wedi cadarnhau bod hyn yn ychwanegol at y £50,000 a gynigiwyd i’r chwe bwrdd gwasanaethau lleol a sefydlwyd ar ffurf peilot yn 2007-08, ac yn ychwanegol hefyd at y £50,000 sydd ar gael i bob un o’r 22 ardal bwrdd gwasanaethau lleol yn 2008-09.
Ariannu’r arolygiaethau
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Arolygiaeth Gofal Iechyd
Estyn
Roedd yr Aelodau’n pryderu mai ychydig o gynnydd, os o gwbl mewn termau real, oedd i’w weld yng nghyllidebau’r arolygiaethau. Mae gwaith arolygu da yn gymorth i gynnal a chodi safonau, ac mae angen cyllid digonol ar gyfer hynny. Roedd y Gweinidog yn hyderus bod y cyllid a gynigiwyd yn ddigonol i alluogi’r gwahanol arolygiaethau i wneud eu gwaith yn dda. Fodd bynnag, roedd hefyd yn ymwybodol bod llywodraeth leol yn galw’n benodol am leihau’r baich o reoleiddio, a hynny drwy lai o ddyblygu gwaith a thrwy gydlynu pethau’n well.
Mynegwyd pryder hefyd fod bwriad i leihau’r arian sydd ar gael o’r llinellau gwariant yn y gyllideb ar gyfer datblygu gweithlu’r gwasanaethau cymdeithasol ac ansawdd a’r rhaglen cymorth hyfforddiant (cyfeirnodau 0780 a 0800). Esboniodd y Gweinidog a’i swyddogion fod tanwario wedi bod ar y cyllidebau hyn yn y gorffennol a bod y cyllid a gynigiwyd yn rhannol seiliedig ar hyn. Ers hynny, mae’r Gweinidog wedi rhoi esboniad pellach o’r cefndir hwn:
“Historically both of these budget lines have returned an under spend year on year. What appears to be a baseline reduction in the draft budget is not intended as a real terms reduction in resources available. It reflects management action to encourage these programmes to make more use of the resources available by eliminating the pattern of under spending whilst retaining the scope to increase activity and deliver more outputs. The amount of under spend in previous years far exceeds the baseline reduction in 2009-10 and 2010-2011 so by reducing the historical under spend it should be possible to increase investment in these areas.”
Nododd Aelodau’r pwyllgor hefyd mai cyfrifoldeb y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus oedd ariannu’r arolygiaethau hyn, yn hytrach na Gweinidogion unigol yn y gwahanol adrannau, ac y gellid ystyried hyn yn afreolaidd. Esboniodd y Gweinidog ei fod yn teimlo bod y llwybr ariannu hwn yn adlewyrchiad gwell o’r ffaith bod yr arolygiaethau’n broffesiynol annibynnol ar y sefydliadau y mae disgwyl iddynt eu harolygu – sef sefydliadau y mae gan y Gweinidogion yn y gwahanol adrannau gyfrifoldeb drostynt.
Y cyfrifiad
Nododd Aelodau’r pwyllgor y sicrwydd a gafwyd gan y Gweinidog na fyddai’r trefniadau ar gyfer y cyfrifiad nesaf yn effeithio ar adnoddau Llywodraeth y Cynulliad. Roedd y Gweinidog hefyd yn fodlon bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sylw i flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y cyfrifiad.
Portffolio’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Y setliad refeniw a chyfalaf dros dro i lywodraeth leol
Nid oedd modd i’r pwyllgor drafod manylion y setliad dros dro i lywodraeth leol gan na chafodd ei gyhoeddi tan ar ôl i’r pwyllgor drafod y gyllideb ddrafft. Fel y dywedwyd eisoes, bydd cyfle i’r pwyllgor holi’r Gweinidog ar 22 Hydref ond ni fydd hyn yn rhoi digon o amser i’r Pwyllgor Cyllid ystyried yr argymhellion a wneir yn dilyn y sesiwn graffu honno.
Amlinellodd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad rai o brif nodweddion y setliad dros dro, ac mae’r rhain wedi’u nodi yn y datganiad ysgrifenedig a wnaeth y Gweinidog ar 15 Hydref ac yn y wybodaeth ategol a gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad. Tynnodd y swyddogion ein sylw at y pwyntiau penodol hyn:
Cyfanswm y cynnydd mewn cymorth refeniw i awdurdodau lleol yn 2009-10 fydd 2.9 y cant o gymharu â’r flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys trefniant “terfyn isaf” sy’n golygu mai’r cynnydd lleiaf i unrhyw awdurdod lleol fydd 1.5 y cant;
mae’r setliad dros dro yn cynnwys y £12.6 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd fel rhan o gynigion y gyllideb ddrafft, £3.7 miliwn ychwanegol er mwyn ehangu cludiant i’r ysgol am ddim fel rhan o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr, £250,000 ar gyfer camau i gynorthwyo pobl i hawlio budd-dal plant, a’r symiau canlyniadol llawn ar gyfer ariannu cynllun awdurdodau lleol i gymell grantiau busnes;
yn ogystal â’r cymorth heb ei neilltuo, mae’r setliad yn cynnwys cyfanswm o £676 miliwn mewn grantiau penodol heb eu neilltuo;
cynigiwyd rhoi £636 miliwn ar gyfer rhaglenni cyfalaf awdurdodau lleol.
Cynllun awdurdodau lleol i gymell grantiau busnes
Gofynnodd yr Aelodau a ellid ystyried y cyllid canlyniadol ar gyfer y cynllun i gymell grantiau busnes yn gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol. Dywedodd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad bod yr adnoddau dan sylw (tua £3 miliwn) wedi cael eu trosglwyddo i floc Cymru a bod Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu cynnwys y cyllid hwnnw yn y setliad i lywodraeth leol, er nad oedd yn rhaid iddi wneud hynny.
Prisio’r costau ychwanegol a gwaith yr is-grwp gwariant
Wrth benderfynu ar y setliad dros dro, gofynnodd yr Aelodau pa ystyriaeth a roddwyd i’r pwysau sydd ar lywodraeth leol wrth i gostau gynyddu. Yn benodol, mae costau ynni wedi cynyddu’n sylweddol yn ogystal â’r pwysau ehangach o ganlyniad i chwyddiant. Gofynnodd yr Aelodau hefyd faint o gytundeb a gafwyd rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r awdurdodau lleol wrth ddilyn proses yr is-grwp gwariant.
Eglurodd y swyddogion fod y £10 miliwn ychwanegol yn ymateb rhannol i bwysau ehangach o ganlyniad i chwyddiant. Roeddent yn derbyn bod costau ynni wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, ond roedd natur ansefydlog y sefyllfa yn ei gwneud yn anodd rhagweld yr effaith gyffredinol ar gyllidebau. Bu’n weddol anodd hefyd cael ffigur pendant ar gyfer cynnydd safonol mewn prisiau tanwydd. Mae’r awdurdodau’n cytuno ar gontractau tanwydd yn barhaol, weithiau am ddeuddeng mis neu ragor. Roedd yn anodd canfod effaith lawn costau ynni heb wybod yn union pryd fyddai’r contractau’n cael eu hadnewyddu. O ganlyniad, efallai y bydd goblygiadau hyn yn dod i’r amlwg rywbryd yn y dyfodol.
Nodwyd hefyd fod costau cyflogau yn elfen sylweddol o wariant awdurdodau lleol, a bod y pwysau o ganlyniad i chwyddiant yn haws i’w ragweld. Roedd yr is-grwp gwariant yn fodd i’r ddwy ochr ddeall ar ba sail y câi amcangyfrifon eu gwneud, ond derbyniwyd bod gwahaniaeth barn rhwng Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol ac y byddai adnoddau bob amser yn gyfyngedig.
Targedau perfformiad ac arbedion effeithlonrwydd
Gofynnodd yr Aelodau i ba raddau roedd yr awdurdodau yn cyrraedd targedau perfformiad ac arbedion effeithlonrwydd Llywodraeth y Cynulliad, ac a oedd lle i wneud rhagor o arbedion effeithlonrwydd o ystyried y setliad cymharol dynn a gynigir eleni.
Eglurodd y swyddogion nad oedd yn fwriad newid y ffigur presennol sy’n gofyn am arbedion effeithlonrwydd o 1 y cant. Swyddfa Archwilio Cymru sy’n gyfrifol am archwilio’r arbedion hyn, ac ar y cyfan, mae’n fodlon bod yr arbedion yn cael eu gwneud. Mater rhwng adrannau unigol Llywodraeth y Cynulliad a’r awdurdodau lleol yw’r targedau perfformiad, er bod rhywfaint o waith monitro canolog yn cael ei wneud.
Targedau tlodi plant
Gofynnodd Aelodau’r pwyllgor sut roedd y gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i haneru tlodi plant erbyn 2010 a chael gwared arno’n llwyr erbyn 2020. Roedd yr Aelodau hefyd yn awyddus bod cyllid penodol ar gael i fynd i’r afael ag amddifadedd, gan roi sylw i fynegeion fel y mynegai amddifadedd lluosog.
Eglurodd y swyddogion bod tua 25 y cant o’r grantiau cynnal refeniw sy’n cael eu pwysoli yn gysylltiedig ag amddifadedd, a bod nifer o grantiau penodol sy’n gysylltiedig ag amddifadedd yn bodoli. At hynny, ceir cronfa amddifadedd o £22 miliwn. Darparwyd cyllid penodol hefyd i annog teuluoedd sydd â phlant anabl i hawlio budd-daliadau yn ogystal ag i annog pobl i hawlio budd-dal treth gyngor. Yn fwy cyffredinol, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno Mesur Cynulliad a fydd yn ceisio rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i fynd i’r afael â thlodi plant. Roedd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chronfa Achub y Plant i ddatblygu pecyn ymarferol a fyddai’n helpu awdurdodau lleol i roi sylw i’r mater.
Prif-ffrydio cydraddoldeb
Gofynnodd yr Aelodau sut roedd themâu cydraddoldeb trawsbynciol yn cael eu prif-ffrydio yn y gyllideb. Tynnodd y swyddogion sylw at amryw o ddulliau cyllido sy’n cefnogi materion cydraddoldeb. Fodd bynnag, roedd Aelodau’r pwyllgor yn pryderu nad oedd yn ymddangos bod y cysyniad o brif-ffrydio wedi cael ei ystyried mewn ffordd gydlynol wrth benderfynu ar y gyllideb. Dywedodd yr Aelodau eu bod yn bwriadu holi’r Gweinidog ymhellach am hyn ar 22 Hydref.
Mae’r pwyllgor yn argymell
bod y Pwyllgor Cyllid yn ystyried y ffordd orau o roi sylw i’r broses o brif-ffrydio materion cydraddoldeb wrth benderfynu ar y gyllideb.
Cyflog cyfartal
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth a manylion am y cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol wrth roi ymrwymiadau cyflog cyfartal ar waith. Dywedodd y swyddogion bod y cyllid yn rhan o’r setliad dros dro ar ffurf grantiau cefnogi refeniw heb eu neilltuo, a hynny am nifer o flynyddoedd. Cytunodd swyddogion i roi rhagor o wybodaeth fanwl i’r pwyllgor yn nodi’r swm o arian a gafodd ei dalu i mewn i’r system dros gyfnod o amser. Amgaeaf lythyr a anfonwyd ers hynny gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol sy’n rhoi rhagor o wybodaeth.
Sipsiwn-teithwyr
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am y defnydd a fyddai’n cael ei wneud o’r £200,000 ar gyfer sipsiwn-teithwyr yn y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer cynhwysiant. Esboniodd y swyddogion mai gwariant cyfalaf oedd y rhan fwyaf o’r cyllid yn y gorffennol, a hynny ar safleoedd sipsiwn-teithwyr. Roedd y £200,000 yn newydd a byddai’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i gynorthwyo grwpiau sy’n gweithio gyda sipsiwn-teithwyr. Cytunodd y swyddogion i roi rhagor o wybodaeth am y cyllid cyfalaf a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Amgaeaf lythyr a anfonwyd ers hynny gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol sy’n rhoi’r wybodaeth hon.
Effaith colli cyllid posibl a oedd wedi’i fuddsoddi ym manciau Gwlad yr Iâ
Gofynnodd yr Aelodau pa gymorth a fyddai’n cael ei roi i awdurdodau lleol er mwyn lleddfu effaith colli cyllid posibl oedd wedi’i fuddsoddi ym manciau Gwlad yr Iâ.
Esboniodd y swyddogion bod y Gweinidog wrthi’n trafod hynny gyda’r Trysorlys. Roedd yn rhy gynnar i allu dweud a fyddai’r awdurdodau yn cael ad-daliad am eu colledion yn y pen draw, ond yn amlwg, dyna oedd y gobaith.
Pe bai unrhyw awdurdod yn wynebu anawsterau penodol, byddai Llywodraeth y Cynulliad yn edrych ar bob achos unigol i weld beth y gellid ei wneud i helpu’r awdurdod i ymdopi â’r sefyllfa. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cyfarwyddiadau cyfalafu, ond nid oedd Llywodraeth y Cynulliad yn gallu rhoi ymrwymiad sicr y byddai’n gwarantu unrhyw golledion posibl.
Teimlai’r swyddogion ei bod yn bwysig rhoi’r symiau dan sylw yn eu cyd-destun. Cyfanswm yr arian sydd wedi’i fuddsoddi gan awdurdodau lleol Cymru yng Ngwlad yr Iâ yw tua £60 miliwn, allan o gyfanswm cyllid o tua £4 biliwn. Nid oedd ychwaith unrhyw reswm dros gredu bod gwasanaethau dan fygythiad ar hyn o bryd, gan fod y rhan fwyaf o’r cyllid dan sylw yn arian wrth gefn neu’n arian mewn cyfrif cadw am gyfnod cymharol ganolig neu hir.
Mynegodd yr Aelodau bryder hefyd am yr effaith ar lywodraeth leol pe bai cyrff yn y sector preifat, a’r rheini’n gweithio o dan gontract neu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yn gwneud colledion. Er bod achosion o’r fath wedi digwydd yn Lloegr, nid oedd yn glir a oedd y broblem hon yn effeithio ar awdurdodau Cymru ai peidio. Cytunodd y swyddogion y byddent yn trafod y mater â’r Gweinidog ac yn gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ragor o wybodaeth am y sefyllfa.
Materion eraill
Cododd yr Aelodau gwestiynau am y gostyngiad o £12.0 miliwn i £1.5 miliwn yn y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer Cyfalaf Gwasanaethau Cymdeithasol (sy’n rhan o bortffolio’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol). Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod rhaglen a gynlluniwyd i brynu offer teleofal yn dod i ben.
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am y gostyngiad sylweddol yn y Rhaglen Adfywio Canol Trefi
. Dywedodd y swyddogion fod y cyllid wedi’i drosglwyddo i gyllid buddsoddi’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer cronfa drosglwyddo asedau, ac y byddai’n cael ei ddefnyddio ym maes adfywio strategol.
Mae’r Grant Cyfalaf Tywydd Garw
wedi’i leihau o £1.5 miliwn i ddim. Nid oedd y grant wedi cael ei ddefnyddio am nifer o flynyddoedd a dyna’r rheswm dros hyn. Nid oedd y gostyngiad yn y cyllid yn effeithio ar reolau Cynllun Bellwin a fyddai’n dal i fodoli ac ar gael mewn amgylchiadau eithriadol.
Portffolio’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Prif nodweddion y gyllideb ddrafft
Amlinellodd y Gweinidog rai o brif nodweddion y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft. Tynnodd sylw’r pwyllgor at y pwyntiau penodol hyn:
Cynnydd o 5.3 y cant yn y prif grwp gwariant ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n cynnwys £63 miliwn i gyrraedd targedau amseroedd aros mis Rhagfyr 2009 a chadw’r safon honno;
Ers cyhoeddi’r gyllideb, mae’r Gweinidog dros Gyllid hefyd wedi cytuno i roi £31 miliwn ychwanegol o gyllid diwedd blwyddyn. Byddai £21 miliwn o’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gyrraedd y targedau amseroedd aros a £10 miliwn ohono’n cael ei roi i’r GIG. Yng nghyllideb ddrafft 2010-11, dangoswyd bod hwn yn gyllid rheolaidd;
Byddai £41 miliwn ar gael i baratoi at ffliw pandemig;
Fodd bynnag, mae’r gyllideb o dan bwysau mawr iawn, a byddai tua £80 miliwn yn cael ei ailgyfeirio o fewn y prif grwp gwariant er mwyn cynorthwyo’r gwasanaethau sy’n wynebu’r pwysau mwyaf. Golyga hyn na fydd arian ar gael mewn meysydd eraill sydd hefyd o dan bwysau;
Ar wahân i gostau cyflogau, roedd chwyddiant yn y gwasanaeth iechyd tua 9.75 y cant. Roedd gofyn i’r GIG wneud arbedion effeithlonrwydd o 3 y cant hefyd.
Pwysau o ganlyniad i chwyddiant
Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnydd sylweddol mewn pwysau o ganlyniad i chwyddiant, gan gynnwys costau ynni, y gyfradd chwyddiant o 9.75 y cant y cyfeiriodd y Gweinidog ati, a ffactorau megis cyfraddau milltiroedd uwch. Gofynnwyd i’r Gweinidog a oedd hi’n fodlon y byddai modd cynnwys y rhain o fewn y gyllideb ddrafft.
Teimlai’r Gweinidog y byddai’r cyllid ychwanegol a blaenoriaethu o’r newydd yn ddigonol er mwyn ymdopi â’r pwysau hwn, yn enwedig gan fod chwyddiant yn uchel iawn ar hyn o bryd a'i bod yn debygol y bydd yn gostwng dros y flwyddyn nesaf. Teimlai hefyd fod record y GIG o ran arbed ynni yn dda ac y byddai hynny’n gymorth wrth ymdopi â’r pwysau presennol. Fodd bynnag, roedd costau ynni’n peri pryder, yn enwedig yn y gwasanaeth ambiwlans. Roedd y Gweinidog yn bwriadu edrych ar hyn eto yn ystod y flwyddyn.
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o fanylion ar y meysydd lle nad oedd cyllid ar gael er bod rhagor o bwysau yn y meysydd hynny. Cyfeiriodd y Gweinidog at ofal cymdeithasol, y gwasanaethau cadair olwyn sydd ar gael, gyrfaoedd clinigol academaidd, gwasanaethau cymdeithasol i oedolion, gwella amseroedd ymateb ambiwlansys a gwasanaethau cardiaidd fel meysydd y byddai’n edrych arnynt eto er mwyn gweld a fyddai’n bosibl darparu rhagor o gyllid ar ôl 2010.
Gofal cartref
Gofynnwyd i’r Gweinidog am y cyllid a oedd ar gael ar gyfer ymrwymiad “Cymru’n Un” i wasanaethau gofal cartref. Dywedodd y byddai’n rhaid darparu cyllid maes o law ar gyfer y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Gofal Cartref.
Targedau amseroedd aros a chapasiti’r GIG
Cyfeiriodd Aelodau’r pwyllgor at y dystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd gan Gyfarwyddwyr Cyllid y GIG yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 16 Hydref. Yn y dystiolaeth, gofynnwyd a oedd yr adnoddau a oedd ar gael a chapasiti presennol y GIG yn golygu y byddai modd cyrraedd targed Llywodraeth y Cynulliad erbyn mis Rhagfyr 2009 (sef amser aros o ddim mwy na 26 wythnos rhwng cyfeirio a thriniaeth).
Teimlai’r Gweinidog bod amheuaeth yn y GIG bob amser ynghylch cyrraedd targedau a gwneud arbedion effeithlonrwydd. Mynegwyd pryderon tebyg y llynedd er bod cyllideb y GIG wedi’i mantoli. Roedd y Gweinidog yn derbyn bod hwn yn darged heriol iawn, ond roedd yn hyderus y byddai’r £63 miliwn ychwanegol yng nghyllideb eleni ynghyd â’r £21 miliwn o gyllid diwedd blwyddyn yn ddigonol i gyrraedd y targed hwn. Roedd y trafodaethau’n parhau â’r GIG ynghylch capasiti, gan gynnwys sut y gellid darparu rhagor o gapasiti fel y digwyddodd yn ddiweddar gydag AMD Gwlyb.
Gwasanaethau damweiniau ac achosion brys
Nid oedd y targed o 4 awr ar gyfer trin cleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2008 fel oedd y bwriad. Roedd rhai adroddiadau’n awgrymu bod y sefyllfa’n gwaethygu. Gofynnodd yr Aelodau pa gyllid penodol a oedd ar gael er mwyn cyrraedd y targed hwn. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn teimlo y dylai bod yn bosibl cyrraedd y targedau hyn gan ddefnyddio’r cyllidebau presennol ac mai rheolaeth wael o fewn yr ymddiriedolaethau sy’n rhannol gyfrifol pam eu bod yn methu â chyrraedd y targedau.
Wrth ymateb i ragor o gwestiynau, nid oedd y Gweinidog yn teimlo y dylid cael darpariaeth benodol yn y cyllidebau ar gyfer materion sy’n effeithio’n benodol ar ardaloedd trefol neu ddinesig. Roedd materion penodol yn rhoi pwysau ar ardaloedd gwledig hefyd a’r peth pwysicaf oedd sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu rheoli cystal â phosibl.
Gofal parhaus
Mae dyfarniadau diweddar yn y llysoedd ar ofal parhaus yn debygol o gynyddu’r pwysau o ran cost sydd ar y cyllidebau perthnasol. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Gweinidog yn fodlon bod hyn wedi cael sylw wrth neilltuo cyllid yn gyffredinol. Dywedodd y Gweinidog bod ganddi rywfaint o bryderon ynghylch ariannu gwasanaethau cymdeithasol ac y byddai’n edrych ar hyn yn fanylach er mwyn sicrhau bod y cyllidebau yn addas i’r anghenion.
Cyllideb presgripsiynu
Nid oes llinell ar wahân yn y gyllideb ar gyfer presgripsiynu. Gofynnodd yr Aelodau faint o arian a oedd ar gael ar gyfer presgripsiynu ac a fu cynnydd yn y swm sydd ar gael er mwyn sicrhau bod system deg yn bodoli ar gyfer rhoi triniaethau. Dywedodd y Gweinidog fod presgripsiynu wedi’i gynnwys yn y ffigurau sylfaenol ar gyfer byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau. Roedd adnoddau wedi cael eu blaenoriaethu o’r newydd er mwyn darparu £30 miliwn ychwanegol ar gyfer y cyllidebau er mwyn ymateb i’r pwysau wrth bresgripsiynu dros y flwyddyn nesaf, ac roedd £10 miliwn wedi ei roi hefyd i Gomisiwn Iechyd Cymru. Fodd bynnag, roedd amryw o faterion anodd yn ymwneud â chostau uwch cyffuriau, perthynas y Llywodraeth â chwmnïau cyffuriau a’r defnydd o gyffuriau heb eu trwyddedu a allai fod yn rhatach na thriniaethau cydnabyddedig.
Wrth ymateb i ragor o gwestiynau, addawodd y Gweinidog y byddai’n rhoi mwy o wybodaeth i’r pwyllgor maes o law am gostau presgripsiynu ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd ac yn benodol am sut oedd yr arbedion o ran cost drwy ddefnyddio meddyginiaethau “heb batent” yn cael eu hailgyfeirio gan sefydliadau’r GIG.
Maes rhaglenni gwariant - gofal sylfaenol
Byddai maes rhaglenni gwariant gofal sylfaenol yn lleihau o £21.1 miliwn yn 2008-09 i £16.6 miliwn yn 2009-10. Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch beth fyddai’n cael ei ariannu drwy’r maes rhaglenni gwariant hwn. Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog y byddai amryw o gynlluniau’n cael eu hariannu, gan gynnwys y fenter gofal llygaid, cymhorthion i bobl prin eu golwg, gwasanaethau diabetig a materion fferyllol a phresgripsiynu.
Canolfannau lles
Gofynnodd yr Aelodau hefyd am wybodaeth ynghylch y ffynonellau cyllid ar gyfer agor canolfannau lles ar ffurf peilot. Dywedodd y Gweinidog y byddai’r peilot cyntaf ym Mharc Iechyd Merthyr. Prosiect cyfalaf fyddai hwn yn wreiddiol ond byddai’r refeniw canlyniadol yn cael ei reoli ar draws nifer o linellau gwahanol yn y gyllideb.
Ailstrwythuro’r GIG
Costau ailstrwythuro
Gofynnodd yr Aelodau pa ddarpariaeth oedd yn y gyllideb ddrafft er mwyn talu am y costau ychwanegol ymlaen llaw a fyddai’n deillio o’r bwriad i ailstrwythuro’r GIG. Roedd y Gweinidog yn disgwyl gweld arbedion yn y tymor hir yn dilyn ailstrwythuro gan y byddai hynny’n ad-drefnu’r gwasanaeth, ond nid oedd yn disgwyl y byddai hyn yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar gyllideb y flwyddyn nesaf.
Dyled a fformiwla Townsend
Gan mai’r bwriad yw dileu dyledion Ymddiriedolaeth Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth newydd Gogledd Cymru, gofynnwyd i’r Gweinidog beth fyddai sefyllfa ddyled sefydliadau newydd y GIG a Chomisiwn Iechyd Cymru ar ôl ailstrwythuro. Gofynnwyd iddi hefyd a oedd yn bwriadu adolygu fformiwla Townsend er mwyn sicrhau nad oedd dyledion yn bodoli o ganlyniad i unrhyw annhegwch strwythurol yn y modd y mae’r fformiwla’n gweithio.
Nid oedd y Gweinidog wedi penderfynu eto sut i ymdrin â dyled hanesyddol. Roedd dadl o blaid rhoi llechen lân i’r sefydliadau newydd, ond wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen, roedd angen ystyried hefyd pam bod y dyledion yn bodoli yn y lle cyntaf ym mhob achos, yn enwedig os oedd hynny o ganlyniad i reolaeth wael neu reswm arall. Teimlai’r Gweinidog bod fformiwla Townsend ar y cyfan yn cael ei dderbyn, ond roedd hefyd yn ymwybodol o anghysonderau ac roedd ganddi feddwl agored o ran a oedd angen newid y fformiwla ai peidio.
Costau diswyddo
O ganlyniad i gael llai o sefydliadau yn y GIG, gofynnodd yr Aelodau a fyddai nifer sylweddol o ddiswyddiadau ymysg staff uwch yr ymddiriedolaethau a’r byrddau iechyd lleol presennol, beth fyddai’r amcangyfrif o gostau’r diswyddiadau hynny, ac ym mha flwyddyn ariannol oedd y costau’n debygol o ostwng. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn awyddus i gael cyn lleied o ddiswyddiadau â phosibl, a’i bod yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod staff sy’n cael eu dadleoli yn dal i weithio er budd y GIG.
Maes rhaglenni gwariant - canser
Nododd yr Aelodau y cynnydd o £2 filiwn yn y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer hosbisau o gymharu ag eleni, a bod disgwyl rhagor o gynnydd yn 2010-11. Fodd bynnag, gofynnwyd am gadarnhad a oedd cyllid ar gael i hosbisau plant a phobl ifanc, megis Ty Hafan, neu a oedd y cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer gofal hosbis i oedolion.
Dywedodd y Gweinidog y byddai cyllid ar gael ar gyfer pob math o ofal. Fodd bynnag, byddai cyllid Llywodraeth y Cynulliad ar gael i wasanaethau gofal lliniarol a ddarperir gan hosbisau. Byddai elfennau eraill o ofal yn dal i gael eu darparu gan yr hosbisau, a hynny wrth iddynt godi eu harian eu hunain.
Maes rhaglenni gwariant – iechyd meddwl
Nododd yr Aelodau y cynnydd o £1.4 miliwn yn y maes rhaglenni gwariant iechyd meddwl o gymharu â 2008-09, ond gofynnwyd faint o gyfanswm y maes rhaglenni gwariant o £16.1 a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS).
Dywedodd y Gweinidog fod y cyllid ar gyfer CAMHS yn rhan o’r llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer gwasanaethau i blant. O fewn y llinell wariant hon, byddai CAMHS yn cael £2.3 miliwn yn ychwanegol yn 2009-10. Roedd y maes rhaglenni gwariant iechyd meddwl yn cynnwys cyllid ar gyfer gwell gwasanaethau i oedolion, goblygiadau’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Iechyd Meddwl, a gwaith yn ymwneud ag anhwylderau bwyta. O ran anhwylderau bwyta, byddai’r cyllid yn canolbwyntio ar roi cyngor am ddiet a deieteg, yn ogystal â chynorthwyo gwasanaethau seiciatrig a seicolegol clinigol lle’r oedd hynny’n addas.
Gwasanaethau cyfiawnder plant a phobl ifanc
Mae £2.3 miliwn ychwanegol yn y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer gwasanaethau i blant, a hynny er mwyn cynorthwyo strategaethau i blant sy’n agored i niwed a strategaethau awtistiaeth. Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch sut y byddai’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio. Addawodd y Gweinidog roi ymateb ysgrifenedig manylach ar y mater hwn maes o law.
Gofynnodd yr Aelodau hefyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwaith o nodi’r gwahanol ffynonellau cyllid ar gyfer plant a materion plant drwy’r holl gyllideb. Dywedodd y Gweinidog y byddai’r ffigur hwnnw ar gael erbyn i’r gyllideb derfynol gael ei chyhoeddi.
Cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
Roedd yr Aelodau yn ymwybodol bod cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol o dan bwysau ychwanegol sylweddol, a bod gorwariant o gymaint â £50 miliwn dros y symiau a neilltuwyd. Oherwydd hyn, gofynnwyd i’r Gweinidog pa drafodaethau a gynhaliwyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru neu’r cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol er mwyn canfod pwysau penodol. Gofynnwyd hefyd a ellid darparu adnoddau ychwanegol er mwyn cynorthwyo i ateb y galw.
Roedd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod yn rheolaidd gyda chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol i drafod y pwysau. Fodd bynnag, byddai angen rhagor o wybodaeth ar y Gweinidog gan lywodraeth leol er mwyn cefnogi’r achos dros roi rhagor o adnoddau. Yn benodol, roedd prinder gwybodaeth i ddangos bod llywodraeth leol yn gwneud y math o arbedion effeithlonrwydd a fyddai’n arwydd o werth gorau.
Meysydd rhaglenni gwariant eraill – gofal cymdeithasol i oedolion
Gofynnodd yr Aelodau a oedd ymrwymiad “Cymru’n Un”, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gofal di-dâl gan deulu a chyfeillion, wedi’i adlewyrchu yn y gyllideb ddrafft a pha ddulliau a allai fod ar gael i wneud yr ymrwymiad hwn yn fwy ystyrlon. Yn benodol, gofynnwyd a fyddai dyletswyddau deddfwriaethol posibl, a fyddai’n rhoi dyletswyddau statudol ar awdurdodau i gynorthwyo gofalwyr, yn cynyddu’r pwysau o ran cyllid yn y maes hwn.
Roedd y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yn pryderu nad oedd anghenion gofalwyr di-dâl yn cael sylw ac roeddent yn ystyried rhoi dyletswydd statudol bosibl ar awdurdodau lleol. Yn sicr, gallai fod goblygiadau ariannol i hyn. Yn gyffredinol, nid yw gofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi ddigon am y gwaith y maent yn ei wneud, ac mae sut i ddangos mwy o werthfawrogiad o’r gwaith hwn yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas.
Maes rhaglenni gwariant – datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol
Dywedodd y Gweinidog y byddai £0.5 miliwn ar gael i Gyngor Gofal Cymru (sef y Cyngor Sgiliau Sector yn y maes hwn) er mwyn cofrestru mwy o’r gweithlu gofal cymdeithasol. Roedd y Gweinidog yn cydnabod bod y cyllidebau’n dynn yn y maes hwn ac nad oedd hyn yn un o’r blaenoriaethau pwysicaf.
Paratoi at ffliw pandemig
Gofynnodd y pwyllgor am gadarnhad ynghylch yr anghysondeb ymddangosiadol o £19.4 miliwn rhwng y £66.3 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer y rhaglen i baratoi at ffliw pandemig (IPPP) a’r £46.9 miliwn ymddangosiadol a neilltuwyd at y diben hwn yn y gyllideb dros y ddwy flynedd nesaf. Gofynnodd y pwyllgor hefyd a ddylid defnyddio’r cyllidebau cyfalaf er mwyn talu am y brechlyn ffliw, sef y dull priodol o wneud hynny.
Esboniodd swyddogion y Gweinidog ei bod yn ymddangos bod anghysondeb gan y byddai dyraniadau 2008-09 yn talu am y diffyg, a hynny drwy gyflwyno cynnig ar gyfer y gyllideb yn ystod y flwyddyn, tua diwedd eleni neu ddechrau’r flwyddyn nesaf. Fel stoc yr ystyrid yr eitemau a fyddai’n cael eu prynu, ac o ganlyniad, roedd yr arian wedi’i ddyrannu’n briodol fel arian cyfalaf yn hytrach na gwariant refeniw.
Casgliad
Fel y dywedwyd eisoes, bydd y pwyllgor yn clywed rhagor o dystiolaeth gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar 22 Hydref. Rwy’n cydnabod bod hyn y tu allan i’r cyfnod o amser a ganiateir yn Rheol Sefydlog 27.3 a’i bod yn annhebygol y bydd gan y Pwyllgor Cyllid amser i ystyried unrhyw gasgliadau y deuwn iddynt cyn bod yn rhaid i chi gyflwyno’ch adroddiad o dan Reol Sefydlog 27.4. Fodd bynnag, byddaf yn ysgrifennu atoch eto os bydd unrhyw faterion eraill yn deillio o dystiolaeth y Gweinidog, rhag ofn y bydd modd i chi ychwanegu unrhyw dystiolaeth bellach at eich adroddiad terfynol.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech dynnu sylw Aelodau’r Pwyllgor Cyllid at y llythyr hwn. Anfonir copi o’r llythyr at Edwina Hart, Andrew Davies a Brian Gibbons er eu gwybodaeth.
Yn gywir
Jonathan Morgan
Cadeirydd
