Ymchwiliad Pwyllgor:
Cynllunio Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
I gychwyn hoffem ddiolch i’r pwyllgor am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’w ymchwiliad ac am eu bod nhw wedi cynnwys yr iaith Gymraeg fel maes penodol ar gyfer sylw.
Heb ddogfen benodol rydym wedi ymgeisio cadw’r dystiolaeth mor fyr ac sy’n bosibl ond fe groesawn gyfle i drafod unrhyw elfen o’n tystiolaeth yn fwy manwl ac, yn wir i gynnig cyngor pellach ar ddyddiad hwyrach pe byddai’r Pwyllgor yn teimlo byddai hwn o werth.
Cred y Bwrdd fod gwasanaeth sydd wedi canoli ar y defnyddiwr yn golygu, ymhlith pethau eraill, gwasanaeth dwyieithog; ac wrth ddarparu gwasanaeth o’r fath, fod darparwyr yn parchu egwyddor cydraddoldeb iaith wrth gynnig dewis o iaith i’r defnyddiwr/wyr.
Heb y sgiliau ieithyddol perthnasol, ni fydd modd yn y byd cyflwyno gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn cyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy’r Gymraeg mae’n hanfodol i gynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog yng Nghymru, ac mae’n bleser felly cael cyfle i gynnig y dystiolaeth isod i gefnogi’r amcan hwnnw.
Ynglŷn â Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Y Bwrdd) fel corff statudol trwy Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (Y Ddeddf) i hybu a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Y mae’r Ddeddf yn sefydlu’r egwyddor y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal. Y mae gan y Bwrdd swyddogaethau a phwerau statudol sydd yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn paratoi Cynlluniau Iaith, i roi manylion sut y byddant yn gweithredu’r egwyddor uchod yn ymarferol. Y mae’r cyfryw gyrff yn cynnwys yr holl Awdurdodau Lleol, pob Ymddiriedolaeth Iechyd yng Nghymru, yn ogystal â Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol.
Gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer yr Iaith yn Iechyd a Gofal
Cyfeiria dogfen bolisi allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru Iaith Pawb
- Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog yn benodol at iechyd a gofal cymdeithasol: "Y mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o bwysleisio pwysigrwydd gallu cyflwyno gwasanaethau yn dewis iaith defnyddiwr y gwasanaeth mewn meysydd gwasanaeth allweddol megis iechyd a gofal cymdeithasol, ac yr ydym yn gweithio gyda’r sefydliadau cyflwyno gwasanaeth yn y meysydd hyn i’w helpu i gyrraedd y nod hwn.” (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2003: 47)
Mae Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol dros y Degawd Nesaf: Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol yn datgan "Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o ddiwylliant a bywyd Cymru. Rhaid adlewyrchu hyn wrth wneud strategaethau gofal cymdeithasol lleol effeithiol yn ogystal ag wrth gynllunio, cyflwyno a gwella gwasanaethau i unigolion y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt. ” (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007: 21)
Mae Cynllun Oes : strategaeth y Llywodraeth ar gyfer creu Iechyd a gofal Cymdeithasol o’r radd flaenaf i Gymru yn yr 21ain ganrif yn datgan "mae'n hanfodol cael gwasanaethau dwyieithog effeithiol yn Gymraeg a Saesneg er mwyn darparu gofal o ansawdd”. (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2005: 13)
Pwysigrwydd yr iaith yn iechyd a gofal cymdeithasol
Mae tystiolaeth am bwysigrwydd darparu gofal iechyd dwyieithog mewn adroddiad gan Gyngor Defnyddwyr Cymru, a ddaeth i’r casgliad "yn achos cleifion Cymraeg eu hiaith, fod enghreifftiau lle nad oes modd eu trin yn effeithiol ac eithrio trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf neu eu dwy iaith. Y mae hyn yn arbennig o wir yn achos y sawl sydd yn derbyn therapi iaith a lleferydd, ac i’r grwpiau allweddol a ganlyn: pobl â phroblemau iechyd meddwl; pobl ag anableddau dysgu ac anghenion arbennig eraill; pobl hŷn a phlant ifanc.” (Misel 2000: 5).
Mae cynnig darpariaeth cyfrwng y Gymraeg o wasanaethau cymdeithasol yn fater o gydymffurfiaeth â Siarter Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop. Fel rhan o’u gwaith monitro beirniadodd Adroddiad Pwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop (2003), y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru am fethu sicrhau gwasanaeth digonol drwy gyfrwng y Gymraeg. "For the Welsh language, there appear to be serious shortcomings in implementing the undertaking in relation to the health and social care services.” Yn 2007 fe’i casglwyd "a Welsh Language service continues to be a matter of chance rather than design, in general it seems to be reactive rather than proactive and it is still varied whether Welsh was used at care facilities or whether this was promoted”.
Siaradwyr Cymraeg fel hapddalwyr
Mae gwella mynediad a datblygu sgiliau yn faterion cyd-ddibynnol a chysylltiedig mewn perthynas ag iaith. Yn hyn o beth, bydd gwella ystod y gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn gwneud llawer i ymdrin â materion mynediad.
Erys llawer i’w wneud eto, serch hynny, er mwyn gwella ansawdd ac ystod gwasanaethau yn y Gymraeg. Y maes allweddol lle mae angen gwella mynediad at wasanaethau yn Gymraeg yw cyfathrebu personol uniongyrchol (dros y ffôn neu wyneb yn wyneb). Yr hyn sy’n digwydd yn aml yw na all unigolion dderbyn gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg, neu fod yn rhaid iddynt wneud trefniadau arbennig i dderbyn gwasanaeth yn y Gymraeg. Y rheswm am hyn yw naill ai prinder siaradwyr Cymraeg neu oherwydd nad yw’r gweithlu wedi ei gynllunio yn y modd mwyaf effeithiol.
Cynllunio Gweithlu a’r Iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi pwyslais ar gyflwyno gwasanaeth. Mae’n briodol i unrhyw agweddau newydd tuag at gyflwyno gwasanaeth a all ddeillio o’r adolygiad hwn roi’r pwys mwyaf ar yr egwyddor, wrth gyflwyno gwasanaethau i’r cyhoedd, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dylid dwys ystyried sawl maes allweddol yn hyn o beth:
recriwtio sgiliau iaith newydd i’r gweithlu;
hyfforddi a datblygu staff a darpar-staff
datblygu’r sgiliau a’r lefelau hyder sydd yn bodoli eisoes;
trefnu gwasanaethau gan gadw anghenion ieithyddol mewn cof.
I’r perwyl hwn, y mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg, trwy adolygu a datblygu cynlluniau iaith Gymraeg statudol, yn annog cyrff cyhoeddus i ymdrin â materion y gweithlu fel rhan o weithredu eu cynlluniau. Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau eisoes yn cynnwys cryn ymrwymiad yn y cyd-destun hwn a bydd angen bod yn ofalus i wneud yn siŵr na fydd unrhyw newidiadau i’r gweithlu sy’n deillio o’r adolygiad hwn yn andwyol i gynlluniau sydd yn bodoli eisoes nac i lefel cyflwyno gwasanaeth dwyieithog.
Recriwtio
Mae’n rhaid i gyflwynwyr gwasanaeth fynd i’r afael â materion recriwtio. Rhaid iddynt ofalu bod asesiad priodol yn cael ei wneud o swyddi er mwyn gweld pa rai sydd yn gofyn am sgiliau yn y Gymraeg, a recriwtio yn unol â hynny i gwrdd ag anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Mae cyswllt agos rhwng hyn a’r hyfforddiant a’r gefnogaeth a roddir gan sefydliadau. Rhaid darparu hyfforddiant priodol er mwyn gwneud yn siŵr fod unigolion sydd am wella eu sgiliau iaith, neu angen datblygu sgiliau yn y Gymraeg er mwyn cwrdd â gofynion eu swydd, yn gallu gwneud hynny yn rhwydd a chyda chefnogaeth lawn y sefydliad.
O gadw hyn mewn cof, dyma’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwneud yn siŵr fod gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg a bod modd eu cyrchu:
Codi lefel sgiliau yn y Gymraeg a sicrhau twf cyson yn nifer y staff dwyieithog a all gyflwyno gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg
Cynllunio gweithlu yn briodol a nodi anghenion sgiliau, a sefydliadau i ddarparu’r hyfforddiant a’r sgiliau priodol
Sicrhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg o safon, pwy bynnag sydd yn gyfrifol am eu cyflwyno
Canoli yn erbyn Cynllunio Leol
Tra bod cyfleoedd wrth ganoli’r gwaith cynllunio’r gweithlu, mae hefyd yn cynnig her ar ran cynllunio sgiliau ieithyddol. Er y gall dulliau mwy canolog cynnig safon fwy cyson o recriwtio a datblygu sgiliau ieithyddol, gellir hefyd herio capasiti lleol sefydliadau i ddatblygu cynllunio’r gweithlu ar lefel lleol ac i ystyried natur ieithyddol eu cymunedau. Cred y Bwrdd tra bod yn hollbwysig i osod, a hyrwyddo safonau a mentrau ar lefel cenedlaethol nid yw’r dull 'one-size-fits-all’ yn addas ar gyfer cynllunio’r gweithlu ar ran sgiliau ieithyddol.
Boed gwasanaethau yn lleol, canolog, neu yn arbenigol, dylai iaith fod yn ystyriaeth graidd ac wedi ei ymgorffori yn y broses o gynllunio’r gweithlu gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar gyflwyno gwasanaethau. Wrth greu unrhyw wasanaethau neu gynlluniau canolog bydd yn rhaid ystyried defnydd iaith a capasiti cyfredol, yn ogystal â’r angen am bwynt cyswllt lleol.
Defnyddio darparwyr trydydd parti a staff o asiantaethau
Buddsoddodd y sector cyhoeddus er mwyn gwella gwasanaethau yn y Gymraeg ers cyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg ym 1993. Rhaid i addasiadau fyddai yn gosod mwy o wasanaethau rheng-flaen yn nwylo’r sector gwirfoddol neu breifat ystyried yr effaith y gallai hyn ei gael ar ystod ac ansawdd y gwasanaethau Cymraeg presennol. Ni ddylid gwaethygu ansawdd y gwasanaeth dwyieithog o gwbl trwy unrhyw is-gontractio ar drefniadau cyflwyno gwasanaeth. Y nod yw peri bod mwy o wasanaethau ar gael yn y Gymraeg, a rhaid rhoi neges glir i sectorau ar wahân i’r sector cyhoeddus y dylent ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol lle mae diffyg yn y gallu i gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cynlluniau Iaith yn cynnwys mesurau yn ymwneud â chontractau a threfniadau 3ydd parti neu gytundebau a wneir gyda 3ydd partïon. Y mae gan sefydliadau sydd yn is-gontractio cyflwyno gwasanaethau lleol, er enghraifft i’r sectorau preifat a gwirfoddol, gyfrifoldeb dros wneud yn siŵr y cyflwynir y gwasanaethau hynny yn unol â’u cynlluniau iaith statudol. Bydd gweithredu cymal contract 3ydd parti cynlluniau iaith yn llawn yn gwella ansawdd gwasanaethau lleol.
Gweithio yn effeithiol ar y cyd ac mewn partneriaeth
Gall sefydliadau elwa o rannu gwasanaethau, cydgynllunio cyflwyno gwasanaethau a gweld y berthynas rhwng eu gwaith. Nid oes digon o weithio ar y cyd ar hyn o bryd rhwng cyrff sydd yn cyflwyno gwasanaethau ac yn gweithredu cynlluniau iaith. Dengys nifer o’r enghreifftiau sut y gall agwedd cytûn rhwng darparwyr gwasanaethau a gwahanol sectorau wella ansawdd y gwasanaethau dwyieithog y mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn eu derbyn.
Mae’n bwysig bod y safonau sydd ymhlyg yng nghynlluniau iaith cyrff cyhoeddus hefyd yn gymwys i bartneriaethau sydd yn cynllunio a/neu yn cyflwyno gwasanaethau mewn meysydd penodol. Nid yw’n glir beth yw sgôp Deddf yr Iaith Gymraeg mewn perthynas â phartneriaethau. O gofio hyn, mae’n bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad, sydd yn aml yn ysgogi gweithio mewn partneriaeth, yn gosod canllawiau clir ar sut y dylai partneriaethau weithredu egwyddor cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn eu gwaith.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn codi her benodol i’r iaith Gymraeg. Nid yw’n glir pa mor gymwys yw Deddf yr Iaith Gymraeg mewn perthynas â phartneriaethau. Canoli ar 'gyrff cyhoeddus’ yn bennaf y mae Deddf 1993 ac nid oedd sefydliadau unigol fel partneriaethau mor amlwg yn niwylliant y gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau’r nawdegau. Er y gall y Bwrdd gynnwys cymalau penodol (gweler 2.1) yng nghynlluniau iaith cyrff cyhoeddus a monitro eu gweithredu, erys y ffaith fod mewn partneriaethau yn gynyddol gynrychiolwyr o’r sectorau preifat a gwirfoddol. Tra bod rheidrwydd statudol ar gyrff cyhoeddus i weithredu yn unol â chynlluniau iaith statudol, nid yw’r rheidrwydd ar gyrff o sectorau eraill yn ddigonol i symbylu’r cyrff hyn i ystyried materion iaith.
Dylai unrhyw ailddiffinio rolau fydd yn deillio o’r adolygiad hwn gynnwys ystyriaeth ofalus o’r potensial i bylu ffiniau a’r ffordd orau i sicrhau fod gwell cyflwyno gwasanaeth yn cael ei gynllunio a’i weithredu gan gadw mewn cof y defnyddiwr Cymraeg ei iaith.
Casgliad
Pe byddai sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol trwy’r Gymraeg bydd rhaid iddynt gael staff yn y llefydd iawn sy’n medru a sgiliau gweithio dwyieithog. Er mwyn cyrraedd y nod yma bydd angen iddynt weithio’n bwrpasol i gynllunio a rheoli gweithlu sy’n meithrin a denu’r sgiliau dwyieithog sydd eu hangen er mwyn gwneud y gwaith.
Atodiad 1
Enghreifftiau Arfer Da
Datblygu Sgiliau - Heddlu Gogledd Cymru
Gellir cyfeirio at Heddlu Gogledd Cymru fel esiampl o arfer da o ran camau staffio. Ymysg y camau hyn mae:-
Cynllun Iaith Gymraeg blaengar
mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn busnes
gofyniad am sgiliau Cymraeg sylfaenol (lefel 1) i bawb sy’n ymuno, a graddolwyd dysgu hyd at lefel 5
recriwtio a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg
cyfle i bawb fynychu’r ddarpariaeth hyfforddi fewnol yn y Gymraeg
nifer cynyddol o swyddi "Cymraeg yn Hanfodol”
gwarant o ddewis iaith yn y Ddalfa a’r Ystafell Reoli
dangosyddion perfformiad i gyrraedd sgiliau iaith a recriwtio
Meistrolodd y Prif Gwnstabl y Gymraeg, ac y mae’n rhoi arweiniad clir i’r sefydliad; penodwyd Ymgynghorydd Iaith unswydd, Swyddog Hybu Dwyieithrwydd a Swyddog Recriwtio; buddsoddwyd hefyd mewn hyfforddiant i’r heddlu a’r staff fel ei gilydd. Yn ychwanegol at hyn, y mae aelod o’r Awdurdod Heddlu yn gyfrifol am gadw trosolwg o ddatblygiadau ieithyddol yn y gwasanaeth.
Datblygu Sgiliau - Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Datblygodd y Cyngor gynllun addysgedau mewn ymateb i’r prinder graddedigion cymwys Cymraeg eu hiaith gyda graddau mewn gwyddoniaeth neu bynciau perthnasol eraill. Mae’r Cyngor yn cyfrannu at gost graddedigion sydd yn dilyn cyrsiau gradd benodol, a ddysgir yn ddwyieithog, mewn 2 Brifysgol benodol yng Nghymru. Y mae’r cyfraniad ariannol yn ddiamod, ac nid yw wedi ei gysylltu â swydd yn y dyfodol gyda’r Cyngor.
Datblygu Sgiliau - Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Mae’r ymddiriedolaeth yn gweithio i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ei gweithlu trwy ddatblygu Cynllun Cadét. Cynllun mentora ac ysgoloriaeth yw hon i ddarpar-nyrsys Cymraeg eu hiaith a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sydd eisiau astudio meddygaeth.
Gweithio ar y cyd - Byrddau Iechyd Lleol Gogledd Cymru
Mae 6 BILl gogledd Cymru ar y cyd wedi penodi swyddog iaith a gweinyddwr. Y mae rôl a chyfrifoldebau’r Uned Iaith Gymraeg hon yn cynnwys gwasanaeth cyfieithu i 6 BILl gogledd Cymru, cyfieithu ar y pryd, rhwydweithio a rhannu arferion da, a chynnig cefnogaeth a hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i staff yn y BILl.
Gosod Strwythur mewn lle - Cymraeg i Oedolion
Y mae dysgu Cymraeg i Oedolion yn cael ei ail-strwythuro ar hyn o bryd yng Nghymru. O Ebrill 2006 ymlaen, bydd gan 6 chanolfan iaith mewn gwahanol rannau o Gymru gyfrifoldeb dros drefnu a darparu Cymraeg i Oedolion, gyda’r cyfrifoldeb strategol yn gorwedd gyda Llywodraeth y Cynulliad. Er ei bod yn rhy gynnar eto i weld a fydd y trefniant hwn yn llwyddo ai peidio, y mae ail-strwythuro’r ddarpariaeth yn arwydd o agwedd fwy strategol ac unedig tuag at y ddarpariaeth Gymraeg. Bydd gan y canolfannau hyn ran bwysig o ran datblygu sylfaen sgiliau’r gweithlu yn eu hardaloedd penodol, ac fe allant ddod yn ganolfannau rhagoriaeth o ran ennill sgiliau yn yr iaith Gymraeg.
Fforymau Rhannu Arfer Da
Ym maes Llywodraeth Leol, sefydlwyd Rhwydiaith, pwyllgor dan weinyddiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn awdurdodau lleol. Yn wreiddiol, crëwyd swydd benodol hwylusydd Rhwydiaith, ond ers hynny, bu newid yn y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei thrin yn y Gymdeithas. Y mae llawer o fforymau yn bodoli yn y sector iechyd, gan gynnwys Grŵp Pwyntiau Cyswllt Iaith Gymraeg y GIG, sydd yn cyfarfod ar lefel swyddogion i drafod a rhannu arferion da, a Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg grŵp Ymddiriedolaethau’r GIG sydd yn trafod pynciau ar y lefel uwch lle gwneir penderfyniadau.
