Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Ymchwiliad i Adolygiadau'r GIG a Chanllawiau'r Llywodraeth ar Ymgysylltiad ac Ymgynghori ar Newidiadau i Wasanaethau Iechyd
Ystyried sut y caiff adolygiadau’r GIG eu cynnal yng Nghymru, gan gynnwys ystyried:
a yw canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynnal adolygiadau yn briodol;
a yw canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu dilyn gan fyrddau iechyd lleol; a
bydd y Pwyllgor yn rhoi sylw penodol i’r adolygiadau sy’n cael eu cynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd, ond yn canolbwyntio ar y broses yn unig ac nid ar ganlyniadau posibl yr adolygiadau.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Rydym yn gwahodd y sawl sydd â diddordeb yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig erbyn 20 Rhagfy 2010r.
Gellir anfon y dystiolaeth at Health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gov.uk neu drwy’r post at:
Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Ty Hywel
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
