Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Gwasanaethau Orthodontig yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r gofal orthodontig a ddarperir yng Nghymru.
Cylch gorchwyl
Cynnal ymchwiliad i’r gofal orthodontig priodol a ddarperir yng Nghymru gan gynnwys:
Effaith y contract deintyddol newydd ar y gofal orthodontig a ddarperir, gan sicrhau ei fod ar gael ar draws ardal ddaearyddol ddigonol a bod gan gleifion fynediad at y gofal mwyaf priodol.
Ystyried pa mor effeithiol a chadarn yw’r gwaith o gydgysylltu triniaeth orthodontig ar draws yr amryw ddarparwyr orthodontig yng Nghymru; gan gynnwys adrannau orthodontig mewn ysbytai, practisau orthodontig arbenigol, deintyddfeydd cyffredinol a chlinigau deintyddol cyffredinol.
Pa mor effeithiol yw’r berthynas waith rhwng practisau orthodontig a Byrddau Iechyd Lleol o ran rheoli darpariaeth orthodontig lleol, yn enwedig yng nghyd-destun ailstrwythuro’r GIG.
Ystyried rôl adrannau addysgu Prifysgolion lleol er mwyn sicrhau bod y safon uchaf bosibl o ofal orthodontig yn cael ei ddarparu gan y gweithlu orthodontig lleol.
Strategaethau tymor byr, tymor canolig a thymor hir Llywodraeth Cymru o ran cynnal a datblygu darpariaeth orthodontig, gan ymdrin yn benodol â’r cleifion sy’n aros am driniaeth yn y system ar hyn o bryd, a diwallu anghenion cleifion yn y dyfodol.
Trefniadau ar gyfer monitro safonau’r ffordd y caiff gofal ei ddarparu a’i ganlyniadau o fewn y GIG a’r sector annibynnol.
