Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Triniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i ba mor briodol yw gwasanaethau iechyd meddwl wrth ddiwallu anghenion cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma.
Cylch gorchwyl
Rydym wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ein hymchwiliad:
Ystyried pa mor ddigonol ac addas yw’r gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog, gan gynnwys y Fyddin Diriogaethol, sy’n dioddoef o Anhwylder Straen Wedi Trawma, ac yn arbennig:
y trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch PTSD ac ar gyfer cyfeirio cyn-filwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr at y driniaeth a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael;
canfod y cyn-filwyr sy’n dioddef o PTSD a chasglu data ar nifer y bobl sy’n dioddef o’r cyflwr a’r angen am wasanaethau i fynd i’r afael ag ef;
pa mor ddigonol ac addas yw’r driniaeth a’r gwasanaethau cymorth ar gyfer cyn-filwyr sy’n dioddef o PTSD a lle y maent yn byw yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth y GIG mewn gofal sylfaenol ac eilaidd a darpariaeth arbenigol ar gyfer cyn-filwyr yn y GIG a’r trydydd sector;
pa mor ddigonol ac addas yw’r driniaeth a’r gwasanaethau cymorth i fynd i’r afael â chyflyrau ychwanegol cyn-filwyr sydd â PTSD, fel iselder a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau;
y trefniadau ariannol ar gyfer y gwasanaethau sy’n rhoi gofal a thriniaeth i gyn-filwyr sydd â PTSD, gan gynnwys trefniadau partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r sector gwirfoddol, er enghraifft.
