Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Fyrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i weld a yw Byrddau Lleol Diogelu Plant yn perfformio’n effeithiol ac yn gyson ledled Cymru o ran cryfhau trefniadau ar gyfer gwarchod a hybu lles plant.

Cylch gorchwyl

Ymchwiliad i weld a yw Byrddau Lleol Diogelu Plant yn perfformio’n effeithiol ac yn gyson ledled Cymru o ran cryfhau trefniadau ar gyfer gwarchod a hybu lles plant, gan ganolbwyntio ar:

  • ba mor briodol yw polisi a chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Byrddau Lleol Diogelu Plant;

  • pa mor briodol yw cwmpas a ffocws cyfrifoldebau Byrddau Lleol Diogelu Plant;

  • aelodaeth o Fyrddau Lleol Diogelu Plant o ran rôl partneriaethau statudol a hefyd y sector gwirfoddol a sefydliadau llai / arbenigol;

  • trefniadau ar gyfer ariannu Byrddau Lleol Diogelu Plant;

  • perthynas Byrddau Lleol Diogelu Plant â phartneriaethau lleol eraill, gan gynnwys Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc; Partneriaethau Diogelwch Cymunedol; Byrddau Gwasanaeth Lleol; y Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd arfaethedig.

  • effeithiolrwydd y Byrddau Lleol Diogelu Plant o ran hybu lles a’r gwaith o warchod grwpiau penodol o blant sy’n agored i niwed, fel plant ag anableddau, plant sy’n geiswyr lloches, plant sydd wedi cael eu masnachu a phlant o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig;

  • effeithiolrwydd Byrddau Lleol Diogelu Plant yn eu rôl benodol o ran hybu dyletswyddau a chyfrifoldebau rhannu gwybodaeth asiantaethau partner Byrddau Lleol Diogelu Plant;

  • effeithiolrwydd Byrddau Lleol Diogelu Plant o ran cynnwys plant a phobl ifanc yn eu gwaith.

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar 18 Chwefror 2010. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 9 Ebrill 2010.

Llythyr Ymgynghori

Cyfarwyddyd i baratoi papur Pwyllgor

Ymatebion a gafwyd

Tystiolaeth

Bu i'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn.

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ei Ymchwiliad i Fyrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru ar 30 Tachwedd 2010.

The Deputy Minister has responded to the report. (PDF, 244KB)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help