Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i’r Defnydd o Welyau Haul a’u Rheoleiddio - Tachwedd 2009 (PDF, 1.21MB)

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru

Tystiolaeth Ysgrifenedig

Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Y Defnydd O Welyau Haul Yng Nghymru A’u Rheoleiddio

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r defnydd o welyau haul yng Nghymru a’u rheoleiddio, ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Mae peryglon posibl i iechyd o ddefnyddio gwelyau haul ac yn arbennig y defnydd o salonau lliw haul heb oruchwyliaeth gan blant yn faterion sydd wedi peri pryder yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf.

Felly, mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i archwilio’r defnydd o welyau haul yng Nghymru a’u rheoleiddio.

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno’r cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ei ymchwiliad:

"Edrych ar effeithiau gwelyau haul ar iechyd pobl, y dulliau o reoleiddio cyfleusterau gwelyau haul a chymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu er mwyn rheoleiddio yn y maes".

Dyma rai materion allweddol eraill y bydd yr ymchwiliad am eu hystyried:

  • Y defnydd o welyau haul gan blant   

  • Y gor-ddefnydd o welyau haul

  • Goruchwylio defnyddwyr gwelyau haul

  • Y defnydd o beiriannau a weithredir gan ddarnau arian     

  • Monitro a chyfyngu ar sesiynau gwelyau haul   

  • Darparu gwybodaeth am berygl posibl i iechyd mewn canolfannau gwelyau haul

  • Archwilio canolfannau

Nid oes rhaid i gyflwyniadau roi sylw i'r holl feysydd uchod a bydd y Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan unigolion a sefydliadau, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddefnyddio gwelyau haul. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau lle bydd cyfle i roi tystiolaeth lafar.

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor drwy ei hanfon i’r cyfeiriad isod erbyn Dydd Gwener, 21 Awst 2009. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, un ai ar neges e-bost i health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhannu’r cais hwn am dystiolaeth ag eraill sydd â diddordeb neu, os yw hynny’n briodol, gydag unrhyw un o’ch aelod sefydliadau.

Gall y Pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad.  

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Mehefin 2009

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help