Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn un o bedwar Pwyllgor craffu ar bynciau a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Gall y Pwyllgor wahodd unigolion a sefydliadau i ymddangos ger ei fron i roi tystiolaeth, yn arbennig wrth wneud Ymchwiliadau Craffu. Mae’r nodyn hwn yn cynnig gwybodaeth gefndir bellach i’r rhai a wahoddir i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor.  

Aelodau’r Pwyllgor  

hwlg-guidance-for-inquiry-witnesses

Enw  

Plaid Wleidyddol

Etholaeth /Rhanbarth

Lorraine Barrett

Y Blaid Lafur

De Caerdydd a Phenarth

Peter Black

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Gorllewin De Cymru

Andrew R T Davies

Plaid Geidwadol Cymru

Canol De Cymru

Irene James

Y Blaid Lafur

Islwyn

Ann Jones

Y Blaid Lafur

Dyffryn Clwyd

Helen Mary Jones

Plaid Cymru

Llanelli

Dai Lloyd

Plaid Cymru

Gorllewin De Cymru

Val Lloyd

Y Blaid Lafur

Dwyrain Abertawe

Darren Millar (Cadeirydd)

Plaid Geidwadol Cymru

Gorllewin Clwyd

Enwau i Gysylltu â Hwy yn y Gwasanaeth Pwyllgorau

Marc Wyn Jones, Clerc Pwyllgor  - 029 2089 8505
Sarita Marshall, Dirprwy Glerc Pwyllgor - 029 2089 8146
Karl Gomila - 029 2089 8617

I gael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor ewch i hafan y Pwyllgor os gwelwch yn dda.

Cyfarwyddyd i baratoi papur Pwyllgor

Dylid defnyddio’r templed ynghlwm i gynhyrchu papur Pwyllgor. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chanllawiau cyhoeddi’r rhyngrwyd.

Dylech

  • Ddefnyddio cyn lleied ag sy’n bosibl o acronymau, talfyriadau a byrfoddau. Pan fo’n rhaid eu defnyddio dylech eu sillafu’n llawn y tro cyntaf y defnyddir hwy.

  • Cyflwyno un ddogfen Word, gyda phob tabl, taenlen ac atodiad wedi’u corffori yn y papur.

  • Cyflwyno papurau yn Gymraeg a Saesneg.

  • Gosod y testun ar fargin ochr chwith y dudalen

  • Defnyddio ffont Arial, maint 12

  • Defnyddio tablau i roi testun mewn colofnau nid tabs

  • Sicrhau fod rhifau’r paragraffau mor syml ag sy’n bosibl a nodwch hwy â llaw

  • Sicrhau nad yw rhifo awtomatig yn digwydd yn ddiofyn

  • Defnyddio cyn lleied ag sy’n bosibl o eiriau mewn print trwm neu italeg

  • Defnyddio papur maint A4

Ni ddylech

  • Ddefnyddio testun wedi’i unioni ar y dde

  • Defnyddio tabiau

  • Defnyddio penynnau a throedynnau

  • Defnyddio rhifo awtomatig

  • Defnyddio rhifau tudalennau

  • Defnyddio newidiadau wedi’u tracio

  • Cynnwys troednodiadau, marciau diwygio na sylwadau

  • Anfon atodiadau ar wahân

  • Cyflwyno dogfennau ar ffurf A3

Templed

Enw’r Pwyllgor  - (Defnyddiwch Bennawd 1)  

Diben - (defnyddiwch bennawd 3)

[Dylai’r adran hon gynnwys esboniad pam fod y papur yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod arbennig hwn a dywedwch beth mae gofyn i’r Pwyllgor ei wneud]

Cefndir  - (defnyddiwch bennawd 3)

[Y cyfle i ddarparu mwy o wybodaeth fanwl y gall y pwyllgor fod ei angen er mwyn deall y pwnc yn llwyr, gyda chyfeiriadau at atodiadau ble bo’n briodol. Er y dylai papurau pwyllgor gael eu cadw’n fyr bob amser, dylent fod yn ddogfennau hunan-esboniadol, sy’n sefyll ar eu pennau’u hunain pan fo’n bosibl.  Dylid osgoi cyfeirio at ddogfennau eraill nad ydynt yn rhwydd i’w cael gan y Pwyllgor na’r cyhoedd yn gyffredinol trwy’r fewnrwyd na’r rhyngrwyd.]

Crynodeb / Argymhellion - (defnyddiwch bennawd 3)

[Dylai’r adran hon gynnwys crynodeb byr o gynnwys y papur, neu argymhellion ar gyfer gweithredu a ddylai ddigwydd gan y Pwyllgor, neu’r ddau. Os yw’n berthnasol rhowch ddyddiad terfyn ar gyfer derbyn penderfyniad gan y Pwyllgor. Dylech nodi amseriad unrhyw ymgynghoriad neu ddigwyddiadau allanol ble y byddai hynny’n berthnasol]

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help