Cylch gorchwyl

Rydym wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ein hymchwiliad:

Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion y grŵp arbenigol ar Wasanaethau Newyddenedigol a chyflawni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan; gan gynnwys:

  • Trefniadau ar gyfer monitro’r gwaith o weithredu Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, yn unol â safonau staffio Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain ac adolygiad Comisiwn Iechyd Cymru.  

  • Strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal newyddenedigol ac a yw’r strategaeth honno’n cael ei hystyried yn rhan integredig o wasanaethau mamolaeth.

  • Ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y nyrsys newyddenedigol, bydwragedd ac ymgynghorwyr newyddenedigol.

  • Trefniadau ariannu ar gyfer datblygu gwasanaethau cludiant pwrpasol ar gyfer gofal newyddenedigol a rheini ar gael i’r holl unedau yng Nghymru 24 awr y dydd.

  • Mwy o gefnogaeth i rieni.

  • Effaith diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar wasanaethau newyddenedigol yng Nghymru.

  • Sgrinio am fyddardod.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help