Cylch gorchwyl
Rydym wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ein hymchwiliad:
Archwilio’r gwasanaethau cyfredol a ddarperir ar gyfer rhai sy’n dioddef strôc yng Nghymru ac effeithiolrwydd polisïau llywodraeth Cymru i roi sylw i unrhyw wendidau yn y gwasanaethau hynny, yn cynnwys:
a oes unedau strôc arbenigol ar gael mewn ysbytai trwy Gymru a’r gwahaniaethau daearyddol sy’n bodoli yn y gwasanaethau hyn;
yr adnoddau a neilltuir i wasanaethau strôc yng Nghymru;
a oes staff arbenigol ar gael mewn canolfannau aciwt, yn cynnwys edrych ar recriwtio a hyfforddi;
a oes cyfarpar arbenigol ar gael, fel sganwyr, i benderfynu ar y math o strôc a ddioddefwyd;
a oes gwasanaethau ôl-ofal a gwasanaethau adferiad ar gael, yn cynnwys therapi lleferydd ac iaith, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a gwasanaethau eraill a ddarperir yn y gymuned;
dynodi arferion da o ran trin a rheoli strôc yng Nghymru, y DU a gwledydd eraill a’r modd y gellid lledaenu arferion da o’r fath;
rhaglenni ar gyfer atal strôc a hybu ffyrdd o fyw sy’n lleihau’r perygl o gael strôc;
effeithiolrwydd dangosyddion a dulliau mesur perfformiad sy’n berthnasol i wasanaethau strôc;
effaith ailstrwythuro’r GIG ar wasanaethau strôc yng Nghymru; a
materion cydraddoldeb o ran darparu gwasanaethau strôc, yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig.”
