Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Ymchwiliad i Wasanaethau Strôc - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent
Galwad Am Dystiolaeth
Ymchwiliad Pwyllgor - Gwasanaethau Strôc yng Nghymru
Gwasanaethau Strôc yng Ngwent
Cyflwyniad
Mae Cymuned Iechyd Gwent wedi llunio rhaglen waith i wella gwasanaethau gofal strôc ar draws y gymuned ac i ddarparu cyfle clir i sicrhau cyflawni’r prif amcanion o fewn Cynllun Gweithredol yr Ymddiriedolaeth 2008/09, LDP Strôc Gwent a Chynlluniau Moderneiddio Gwent.
Bydd y gwaith hwn fydd yn cael ei wneud o fewn Bwrdd Cynllunio Strôc Cymuned Gwent a’i Gynllun Gweithredu cysylltiol, yn sicrhau cysylltiadau clir gydag amcanion strategol BILlau Gwent, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Rhaglen Gwella Gwasanaethau Strôc rhwng NHPS, NLIAH a Chanolfan Iechyd Cymru. Mae Awdurdodau Lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen hefyd â rôl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod parhad gofal i’r cleient yn cynnwys gofal cymdeithasol/cymuned/cartref priodol a bod hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yng nghynlluniau Awdurdodau Lleol.
Ysbyty Brenhinol Gwent (RGH)
Mae uned strôc benodol yn RGH (ward B6) gyda 22 gwely. Mae’r nyrsys yn y ward wedi’u hyfforddi’n benodol mewn sgiliau strôc ac mae ffisiotherapydd, OT a SALT penodol yn cyfrannu at y gofal. Mae cynlluniau i wneud 4-8 gwely’n hyperaciwt fydd yn cefnogi thrombolysis. Mae’r monitorau cleifion sydd eu hangen ar gyfer hyn wedi’u prynu a byddan nhw’n cael eu gosod erbyn diwedd Awst 2009. Yr adeg honno, bydd y staff yn cael eu hyfforddi ar y cyfarpar fydd yn hanfodol i sicrhau bod y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio’n gywir ac yn ddiogel.
Datblygwyd cynllun hyfforddi a datblygu ar gyfer staff sy’n ymwneud â gwasanaethau strôc a bob prynhawn Mercher cynhelir sesiynau hyfforddi yn yr uned strôc. Bydd y cynllun hwn yn gweithio ar y cyd gyda’r cynllun Cymru gyfan pan fydd hwn yn cael ei ryddhau.
Mae 3 Nyrs Glinigol Strôc Arbenigol yn RGH (2 band 7 ac 1 band 6). Mae un o’r band 7 a’r band 6 wedi’u lleoli’n llawn amser yn RGH, mae’r band 7 arall wedi’i lleoli’n rhannol yn y gymuned ac yn rhannol yn RGH. Hefyd, mae swydd gweithiwr cefnogi band 2 yn wag ar hyn o bryd. Nid oedd y cyfweliadau cyntaf wedi llwyddo i recriwtio ac mae dyddiad cau’r ail hysbyseb newydd gau.
Derbynnir cleifion strôc i’r uned strôc drwy’r D&A a’r MAU. Hefyd, mae pob strôc o ardal Caerffili’n awr yn cael eu dargyfeirio i RGH yn hytrach na mynd i Ysbyty Glowyr Caerffili. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r un ystod o wasanaethau â chleifion eraill yn Ne Gwent. Mae sganio CT ar gael yn yr holl wardiau yn ystod oriau gwaith arferol ac ar gael y tu allan i oriau drwy’r D&A.
Mae hyn yn sicrhau bod sganio CT brys ar gael ar y safle bob amser.
Ar hyn o bryd, mae 3 chlinig TIA yr wythnos yn Ysbyty Gwynllyw. Ym mis Awst 2009, bydd y gwasanaeth hwn yn symud i’r uned strôc a bydd yn cael ei gynnal o ddydd Llun I ddydd Gwener gan weld hyd at 5 claf bob dydd. Mae darpariaeth wedi’i gwneud i gynnal sganio fasgwlar a CT ar gyfer y cleifion hyn.
Mae nifer y cleifion strôc yn cael eu monitro’n fisol o safbwynt perfformiad gan un o’r CNS strôc. Cynhelir cyfarfod deufisol i drafod hyn ac mae cynllun gwaith yn cael ei ddatblygu i ddelio ag unrhyw faes lle nad oes cydymffurfiant gyda’r targedau.
Sefydlwyd grŵp thrombolysis ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ac mae wedi cyfarfod sawl gwaith er mwyn gweithredu model gwasanaeth erbyn mis Ebrill 2010. Ffurfiwyd grŵp lleol erbyn hyn yn RGH i drafod gofynion penodol y safle. Mae angen penderfynu ar fodel gwasanaeth pendant ar gyfer Gwent a De Ddwyrain Cymru eto a bydd hwn yn pennu i raddau helaeth y gwasanaeth sydd ei angen yn RGH a NHH.
Y prif ddatblygiadau sy’n cael eu cynllunio ar gyfer y gwasanaeth strôc yn RGH yw cyflwyno gwelyau hyperaciwt yn y ward strôc a chyflwyno gwasanaeth thrombolysis. Fel y trafodwyd uchod, mae grwpiau wedi’u sefydlu i ddatblygu’r gwaith hwn ac mae’r rhain yn y pen draw yn bwydo i mewn i Fwrdd Strôc yr Ymddiriedolaeth sy’n gosod yr agenda ar gyfer gwasanaeth strôc ar draws Gwent yn y lleoliadau aciwt a chymuned ac yn rheoli perfformiad.
Ysbyty Neuadd Nevill (NHH)
Mae 4 gwely penodedig yn Ysbyty Neuadd Nevill ar gyfer strôc ac mae’r rhain wedi’u lleoli mewn ward 22 gwely sy’n rhannu rhwng cleifion strôc a rhai ar gyfer adsefydlu. Mae monitor claf ar bob un o’r 4 gwely hyn fydd yn cefnogi datblygiadau’r dyfodol fel thrombolysis. Fodd bynnag, mae’r rhain ar hyn o bryd yn rhai sy’n sefyll ar eu pen eu hunain heb eu rhwydweithio. Mae hyn oherwydd bod angen gosod cebl diwifr a gan fod posibilrwydd y bydd y ward yn symud yn y dyfodol; disgwylir penderfyniad ar hyn cyn gwneud unrhyw waith pellach. Mae siawns y bydd y ward strôc/adsefydlu yn symud i uned 30 gwely a fydd yn cael ei rannu’n 50% ar gyfer strôc a 50% ar gyfer adsefydlu yn lle’r model rhannu gwelyau presennol, fel rhan o ail-gyflunio’r ysbyty.
Mae Meddyg Strôc llawn amser wedi’i leoli yn NHH sy’n cefnogi’r wardiau ynghyd â TIA a chlinigau cleifion allanol eraill. Hefyd, mae 2 Nyrs Glinigol Strôc Arbenigol a 2 Weithiwr Cefnogi Band 3 sy’n cefnogi’r gwasanaeth strôc. Mae’r nyrsys yn y ward strôc/adsefydlu i gyd yn cael hyfforddiant strôc penodol a chynhelir sesiynau hyfforddi’n rheolaidd. Hefyd, mae ffisiotherapydd, SALT ac OT yn cyfrannu ar y wardiau a gweithredwyd model newydd o adsefydlu 7 diwrnod yr wythnos yn ddiweddar.
Mae sganio CT ar gael yn ystod oriau gwaith 7 diwrnod yr wythnos ond nid yw ar gael y tu allan i oriau.
Sefydlwyd clinigau TIA ac fe’u cynhelir 5 diwrnod yr wythnos yn yr Ysbyty Dydd yn NHH. Mae’r rhain yn cael eu harwain gan Ymgynghorydd gyda chyfraniad CNS ac mae’n gweld hyd at 5 claf y dydd.
Mae grŵp thrombolysis wedi’i sefydlu yn NHH i gynllunio gweithredu gwasanaeth 9 - 5 dydd Llun i ddydd Gwener i ddechrau. Mae hyn yn bwydo i mewn i grŵp thrombolysis Gwent yn gyffredinol fydd yn penderfynu ar y model cyffredinol ar gyfer Gwent ac ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau. Ar hyn o bryd, mae staff yn cael eu hyfforddi ar y cyfarpar monitro y cyfeiriwyd ato uchod gan y bydd hwn yn rhan hanfodol o’r gwasanaeth thrombolysis.
Y datblygiadau mwyaf arwyddocaol a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf yw’r potensial o adleoli’r ward a goblygiadau staffio a hyfforddi sy’n gysylltiedig â hyn, ynghyd â chyflwyno thrombolysis erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Blaenau Gwent
Mae ward 10 gwely ar gyfer cleifion adsefydlu strôc yn Ysbyty Blaina. Hefyd, mae therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd gyda sgiliau newro hefyd yn cyfrannu. Mae therapydd Iaith a Lleferydd yn ymweld dwywaith yr wythnos. Mae gweithiwr cefnogi o’r gymdeithas strôc yn mynychu cyfarfod aml-ddisgyblaeth unwaith yr wythnos. Mae’r BILl yn cyflogi nyrs ymgynghorol Strôc a bydd yn cael ei defnyddio/ddefnyddio fel adnodd weithiau. Caewyd y clinig strôc ym Mlaina oherwydd diffyg gwasanaeth Doppler ar gyfer y grŵp cleient ieuengaf.
Mae tîm Ail-alluogi Blaenau Gwent (ddim yn benodol ar gyfer strôc) yn cynnig adsefydlu yng nghartref y claf ei hun pan fydd hynny’n briodol.
Caerffili
O fewn Caerffili, mae ward adsefydlu strôc penodol yn Ystrad Mynach. Mae’n cynnwys 24 gwely ac mae’n cael ei arwain gan feddyg gofal yr henoed sy’n arbenigwr strôc.
Mae tîm o nyrsys gyda chefnogaeth therapïau’n darparu gofal strôc penodol. Maean nhw’n canolbwyntio ar adsefydlu a mwyhau annibyniaeth. Mae ffisiotherapydd strôc gyda sgiliau arbenigol, gyda chefnogaeth therapi iaith a lleferydd yn y ward. Ceir cyfraniad gan OT hefyd sydd wedi hyfforddi mewn gwybodaeth a sgiliau strôc arbenigol.
Ar hyn o bryd, nid oes nyrs strôc arbenigol benodol yn y ward ond gellir cael cyngor dros y ffôn gan arbenigwyr strôc Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae angen nyrs strôc arbenigol benodol.
Mae perthynas waith agos gyda’r gymdeithas strôc sy’n gwneud cyfraniad i’r ward ac mae cleifion yn cael cynnig cefnogaeth gan y mudiad yn ystod ac yn dilyn eu rhyddhau.
O fewn y gymuned, mae ffisiotherapydd y gymuned yn sicrhau dilyniant. Bydd rhai cleifion yn mynd adref gydag Ail-alluogi. Fodd bynnag, nid oes gan y tîm hwn sgiliau arbenigol yn y maes hwn ac maen nhw’n gweithio’n agos gyda’r timau ffisiotherapi.
Mae’r tîm aml-ddisgyblaeth wedi darparu hyfforddiant arbenigol i’r staff ond mae’n rhaid darparu hyfforddiant pellach a pharhaus. Un maes o bwysigrwydd arbennig yw hyfforddi nyrsys cofrestredig mewn asesu llyncu gan fod y therapyddion iaith a lleferydd yn ei chael hi’n anodd ymdopi ac mae’n sgil y mae’n rhaid i nyrs gofrestredig ei gael.
Hefyd, mae clinig strôc cleifion allanol ôl rhyddhau yn cael ei gynnal gan yr arbenigwr cysylltiol sydd wedi’i leoli yn Ystrad Mynach.
Mae grŵp gweithredu strôc dan gadeiryddiaeth y ffisiotherapydd strôc arbenigol. Mae’n archwilio cynnydd yn erbyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau strôc gan gynnwys blaenoriaethau hyfforddi a chyfarpar.
Casnewydd
Mae uned adsefydlu strôc yn Ysbyty Gwynllyw (ward Ruperra) sy’n cynnwys 18 gwely gyda thîm aml-ddisgyblaeth penodol; mae’r gwasanaeth yn darparu ystafelloedd ffisiotherapi a therapi galwedigaethol sydd wedi’u lleoli yn y ward.
Derbynnir cleifion strôc i’r uned strôc drwy RGH; datblygwyd maen prawf derbyn ar y cyd gyda RGH.
Mae’r gwasanaeth yn darparu gweithgareddau Therapiwtig ar gyfer cleifion preswyl sy’n cynnwys:
Grŵp Uwch Aelodau- bob dydd Mercher
Sesiynau gweithgareddau- bob dydd Mawrth
Clybiau brecwast - bob dydd Gwener a dydd Mercher
Anogir cleifion i ddefnyddio dyddiaduron tra yn y ward i ddarparu adlewyrchiad o’u profiadau bob dydd. Ochr yn ochr â hyn, cynhelir clinig gofalwyr yn wythnosol sy’n caniatáu i gleifion a pherthnasau drafod eu gofal a mynegi unrhyw bryderon neu awgrymiadau sydd ganddyn nhw. Mae hyn yn galluogi’r tîm i wneud gwelliannau ansawdd ac ychwanegu gwerth at brofiad cleifion.
Mae cynrychiolydd o’r Gymdeithas Strôc yn mynychu holl gyfarfodydd y Tîm Amlddisgyblaeth i gefnogi cleifion a’u teuluoedd.
Mae grŵp Adsefydlu Strôc yn cyfarfod bob mis yn SWH; mae’r grŵp yn cynnwys aelodau allweddol y tîm aml-ddisgyblaeth gyda chynrychiolwyr tîm strôc Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae hwn yn fforwm delfrydol i rannu syniadau ac i barhau i wella’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp hwn yn datblygu cynllun hyfforddi a datblygu ar gyfer staff sy’n ymwneud â gwasanaethau strôc er mwyn gwella sgiliau penodol sy’n berthnasol i’r arbenigedd hwn.
Torfaen
Mae uned adsefydlu strôc pwrpasol 11 gwely yn ysbyty’r Sir sy’n cynnig gofal i drigolion Torfaen. Mae’n cael ei harwain gan feddyg gofal yr henoed sydd â diddordeb arbenigol mewn gwasanaethau strôc. Mae’r uned yn ganolfan sy’n enwog am ofal safonol gyda thîm o nyrsys arbenigol a chefnogaeth therapïau priodol.
Mae Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Gwasanaethau Strôc yn y Fwrdeistref sy’n cysylltu â chleifion o’r lleoliad aciwt drwy’r uned strôc ac allan i’r gymuned. Mae hefyd yn cynnal sesiynau addysg ar gyfer staff clinigol yn y Fwrdeistref.
Sir Fynwy
Mae ward adsefydlu 22 gwely yn Ysbyty Cymuned Cas-gwent sy’n cynnig adsefydlu strôc i gleifion Sir Fynwy a De Sir Gaerloyw gyda Meddygon Teulu Sir Fynwy.
Mae’r ward yn cael ei arwain gan Ymgynghorydd gofal Meddygaeth yr Henoed gyda chefnogaeth meddyg gradd staff penodol. Mae tîm o nyrsys gyda chefnogaeth therapïau yn darparu gofal strôc penodol ac yn canolbwyntio ar adsefydlu a mwyhau annibyniaeth. Mae ffisiotherapydd strôc gyda sgiliau newro-arbenigol gyda chefnogaeth staff ffisiotherapi iau a chynorthwy-wyr. Mae cyfraniad Therapi Galwedigaethol yn hynod actif yn y ward ac mae’r Tîm ail-alluogi sydd wedi’i leoli o fewn gwaith yr ysbyty yn rhan o’r tîm aml-ddisgyblaeth i reoli’n rhagweithiol a chefnogi rhyddhau’n gynnar. Cynigir cefnogaeth Therapi Lleferydd a Dieteteg fesul sesiwn.
Mae trafodaethau wedi dechrau gyda’r Arweinydd Gwasanaethau Strôc cenedlaethol i drafod sefydlu clinigau cleifion allanol dilynol yng Nghas-gwent. Bydd hwn yn cael ei gynnal gan feddyg gradd staff. Y bwriad yw cysylltu’r clinig hwn gydag adolygiad aml-ddisgyblaeth fel bod cleifion nad sydd wedi derbyn gofal cleifion preswyl mewn ysbyty cymuned yn cael eu cysylltu gyda gweithgareddau a chefnogaeth leol.
Ar hyn o bryd, nid oes cyfraniad nyrs strôc arbenigol yn y ward ond gellir cael cyngor dros y ffôn oddi wrth arbenigwyr yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Neuadd Nevill. Bydd nyrs arbenigol yn rhan o’r clinig a drefnwyd a’r adolygiad aml-ddisgyblaeth. Mae angen nyrs strôc arbenigol benodedig.
Mae Cas-gwent yn cynnal Prosiect Adsefydlu ar y cyd sy’n galluogi’r gwasanaeth i ymateb i ddiffyg a nodwyd yn y gwasanaeth. Mae is-grwpiau amgylchedd, hyfforddiant staff, dogfennu a chyfathrebu/cynnwys cleifion. Mae’r llwyddiannau pwysig hyd yn hyn yn cynnwys gweithredu dogfennau asesu unol gyda goliau clir, ffolderi cyfathrebu ar gyfer cleifion a theuluoedd, cwtogi hyd arhosiad oherwydd cyfranogiad y tîm Ail-alluogi i mewn i’r tîm aml-ddisgyblaeth, a rhaglen hyfforddiant ar gyfer cynorthwy-wyr nyrsio yn y ward i hybu’r broses adsefydlu 24 awr.
Darpariaeth Gwasanaeth Ffisiotherapi ar gyfer Cleifion Strôc
Gwybodaeth fanwl Cymru gyfan a ddarparwyd yn flaenorol ar gyfer Ymchwiliad Strôc LlCC Gorffennaf 2009 - ar gael eto os bydd angen
Gwasanaeth
Yng Ngwent, mae newroffisiotherapyddion arbenigol sy’n gweithio yn holl safleoedd ysbytai cleifion preswyl lle derbynnir cleifion strôc. Nid oes un yn benodol ar gyfer cleifion strôc yn unig ond byddan nhw’n trin amrywiaeth o gyflyrau newrolegol eraill fel rhan o’u baich achosion. Cefnogir yr arbenigwyr hyn gan ffisiotherapyddion cylchdroadol, technegwyr ffisiotherapi Band 5 a 6 ac, ar rai safleoedd, cynorthwy-wyr adsefydlu.
Mae buddsoddiad diweddar LlCC ar gyfer gofal strôc wedi darparu un Band 6 ychwanegol ar gyfer Ysbyty Brenhinol Gwent ac wedi ariannu gwasanaethau ffisiotherapi 7 diwrnod ar gyfer cleifion strôc yn Ysbyty Neuadd Nevill.
Mae newroffisiotherapyddion yn gweithio mewn saith safle yng Ngwent ac maen nhw’n gweithio mewn adrannau cleifion allanol ffisiotherapi sydd â chysylltiadau gwaith agos gyda’r newroffisiotherapyddion cleifion preswyl, timau yn y gymuned a’r timau ail-alluogi.
Hyfforddiant
Mae unarddeg newroffisiotherapydd wedi cwblhau’r cwrs Bobath sy’n gwrs ôl radd arbenigol i atgyfnerthu a datblygu ymhellach eu hasesiad clinigol a’u sgiliau trafod â llaw wrth drin oedolion â chyflyrau newrolegol. Bydd chwech arall yn mynychu’r cwrs hwn yn 2010 pan fydd Gwent yn lletya’r cwrs. Mae pedwar ffisiotherapydd wedi cwblhau cwrs uwch Bobath ac mae un o’n ffisiotherapyddion wedi’i hyfforddi fel tiwtor Bobath ac mae’n cynnal hyfforddiant mewn swydd yn rheolaidd ac yn parhau i wella sgiliau a gwybodaeth rhesymu clinigol y gweithlu newroffisiotherapi.
Mae staff ffisiotherapi cylchdroadol Band 5 yn mynychu saith sesiwn hyfforddiant craidd newroleg ar ddechrau eu cylchdro. Mae’r hyfforddiant hwn yn cynnig addysgu damcaniaethol ac ymarferol sy’n sicrhau bod safon ymarfer craidd ar gael ar gyfer cleifion strôc a rhai â diffyg newrolegol ar draws yr Ymddiriedolaeth.
Cynhelir sesiwn hyfforddiant uwch ar gyfer staff cylchdroadol Band 6 i ddiwygio a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau newroleg.
Datblygwyd a chyflenwyd pecyn hyfforddi ar draws yr Ymddiriedolaeth i atal poen ysgwydd ar ôl strôc ar gyfer technegwyr ffisiotherapi a staff cefnogi ac, yn ddiweddar, cwblhawyd cylch archwilio mewn gwybodaeth poen ysgwydd strôc.
Mae tîm newroffisiotherapi Gwent wedi datblygu tudalen we ar safle mewnrwyd yr Ymddiriedolaeth. Mae hon yn hyrwyddo dosbarthu gwybodaeth i’r timau ffisiotherapi ac yn cysylltu ag adnoddau cyffredin.
Mae’r tîm newroffisiotherapi wedi bod yn defnyddio mesur deilliant safonedig ar gyfer strôc, graddfa asesu symud, am dros 10 mlynedd ac mae’n defnyddio sawl mesur deilliant safonedig arall.
Mae pob uwch newroffisiotherapydd yn aelod o Gymdeithas Ffisiotherapyddion Strôc Cymru ac mae gennym ddau gynrychiolydd rhanbarthol ar y pwyllgor.
Mae dau newroffisiotherapydd o’r safleoedd aciwt wedi bod yn rhan o’r Grwpiau Gwaith Cydweithredol Gwasanaethau Strôc Cymru gyfan yn ystod 2008-09.
Mae’r ddau safle aciwt yn ymwneud â’r treial AVERT mewn symudiad strôc a bydd sawl newroffisiotherapydd yn ymwneud ag elfen ymyrraeth ac asesiad y gwaith ymchwil.
Gwasanaethau Arbenigol Eraill
Mae deg newroffisiotherapydd yn cael eu hyfforddi i asesu ar gyfer uned Symbyliad Trydanol Gweithredol (FES) a rhagnodi a monitro. Defnyddir yr unedau hyn i hyrwyddo cerdded mewn rhai cleifion strôc. Roedd cleifion cyn hyn yn gorfod teithio i Salisbury i gael y gwasanaeth hwn.
Mae’r tîm newroffisiotherapi’n cynnig gwasanaeth sblint i leihau’r cyfyngu ar feinwe meddal ar ôl strôc ac mae’n gweithio gyda’r gwasanaeth therapi galwedigaethol i ehangu’r gwasanaeth hwn.
Mae dau safle’n cynnig hyfforddiant uwch aelod biometrig ac mae cefnogaeth newroffisiotherapi ar gyfer Clinig Rheoli Sbastismaeth misol Dr Alam. Mae Hydrotherapi clinigol ar gael ar ddau safle ar gyfer cleifion strôc.
Darpariaeth Therapi Galwedigaethol ar gyfer Cleifion Strôc ar draws Gwent
Yng Ngwent, mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda cleifion sydd wedi’u derbyn i ysbyty ar ôl cael strôc. Mae’r gwasanaeth ar draws dwy uned strôc aciwt a chwe ysbyty adsefydlu ymylol. Yn y mwyafrif o achosion, mae gan staff faich achosion amrywiol nad sy’n benodol i strôc yn unig.
Mae un Uwch Ymarferwr OT (Band 7) sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ddarparu a datblygu’r gwasanaeth.
Mae naw OT Arbenigol (Band 6) sy’n cario baich achosion strôc a phum Ymarferwr OT cylchdroadol (Band 5).
Mae amrywiaeth o staff cefnogi o raddfeydd gwahanol ar draws y safleoedd wedi’u dosbarthu ar draws meysydd clinigol.
Mae buddsoddiad diweddar gan LlCC ar gyfer gofal strôc wedi darparu OT Band 6 ychwanegol ar gyfer Ysbyty Brenhinol Gwent. Yn fewnol, mae’r gwasanaeth wedi buddsoddi mewn swydd strôc Band 6 benodol ar gyfer adsefydlu Gwynllyw.
Mae’r staffio uchod yn cynnwys swyddi rhan amser a llawn amser.
Nodau ac Amcanion gwasanaeth OT strôc Gwent
I ddarparu gwasanaeth prydlon, effeithiol ar sail tystiolaeth i drigolion Gwent a De Powys sydd wedi cael strôc. Mae ymyrraeth o fewn y cyd-destun o safonau a chanllawiau proffesiynol (Canllaw Cryno OT ar gyfer strôc 2008) (Coleg safonau OT ar gyfer strôc).
Mae’r gwasanaeth yn parhau i ddatblygu yn unol â gyrwyr lleol a chenedlaethol.
Mae ymyrraeth wedi’i seilio ar asesiadau unigol i benderfynu ar raddfa cyfyngiadau mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Gosod gôl gyda’r claf a’r gofalwr i ddatblygu rhaglen o driniaeth benodol i’r claf.
Triniaeth i helpu’r claf i fwyhau ei allu a’i safon byw mewn meysydd hunanofal, cynhyrchiant a hamdden.
Rhyddhau diogel, amserol gyda dilyniant priodol e.e. ail-alluogi.
Addysg a chefnogaeth i’r claf, y teulu a’r gofalwyr.
Yr holl staff OT i ymarfer ar lefel medr diffiniedig.
Hyfforddiant
Ar hyn o bryd, mae gan staff raddfeydd amrywiol o wybodaeth a sgiliau strôc - o sylfaenol i uwch reoli cleifion strôc, gan gynnwys elfennau corfforol a chanfyddiadol / gwybyddol.
Oherwydd cyflwyno’r Uwch Ymarferwr, mae fframwaith hyfforddiant ffurfiol yn y broses o gael ei ddatblygu.
Bydd hyn yn sicrhau y bydd yr holl staff sy’n gweithio gyda chleifion strôc yn gweithio i gyfres ddiffiniedig o fedrau yn unol ag argymhellion yr Adran Iechyd - Fframwaith Addysg penodol i Strôc ac wedi’i thanategu gan: Canllaw Cryno OT ar gyfer Strôc 2008 a Chanllawiau Clinigol Cenedlaethol ar gyfer strôc - 3ydd Argraffiad (RCP 2008).
Bydd yr hyfforddiant hwn hefyd yn unol â’r gwaith parhaus sy’n cael ei wneud gan grŵp cynghrair addysg Strôc Cymru. Mae’r uwch ymarferwr yn cyfrannu at hwn drwy’r gynghrair OT Strôc Cymru.
Mae nifer o OTs yn aelodau o Adran Arbenigol Arfer Newrolegol Coleg Therapyddion Galwedigaethol.
Mae’r Uwch Ymarferwr yn gweithio’n agos gydag arweinwyr proffesiynol therapiau eraill ar gyfer strôc gan sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu datblygu o bersbectif aml-ddisgyblaeth. Mae’r grŵp hwn hefyd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’r llwybr strôc ar Fap Meddygaeth.
Mae rhwydweithiau hefyd yn cael eu datblygu i hybu gweithio integredig ar draws y rhyngwyneb gofal iechyd a chymdeithasol.
Maeth a Darpariaeth Diet ar gyfer Cleifion Strôc yng Ngwent
Darpariaeth Gwasanaeth
Yn ddiweddar, penodwyd un Uwch Ymarferwr Band 7 yn dilyn buddsoddiad gan y LlCC i ofal strôc. Mae gan yr Uwch Ymarferwr gyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau ymagwedd cydlynol a chyson at ofal strôc yn unol â strategaeth LlCC a chanllawiau RCP.
Band 7 yw’r unig ddietegydd a benodwyd yn benodol ar gyfer gofal strôc. Mae dietegwyr band 5 a 6 ar draws y safleoedd aciwt ac adsefydlu yn delio â wardiau strôc fel rhan o’u baich achosion meddygol cyffredinol.
Hyfforddiant
Ar hyn o bryd, nid oes cyrsiau arbenigol mewn gofal strôc ar gyfer dietegwyr ond mae’r uwch ddietegydd yn gweithio gyda’r arweinwyr therapiau eraill ar fframwaith Addysg a Hyfforddiant ar gyfer pob lefel o staff. Hefyd, mae’r band 7 yn rhan o’r Grŵp Addysg Strôc Cymru gyfan, is grŵp o’r Grŵp Cydweithredol Gwelliannau i’r Gwasanaeth Strôc Cymru gyfan. Mae’n gweithio ar fedrau strôc i’r holl staff sy’n gweithio o fewn gofal strôc ac sy’n disgwyl achrediad OCN o raglen ddeuddydd addysg strôc aml-ddisgyblaeth i’w defnyddio yng Nghymru.
Sefydlwyd cyfarfodydd deufisol rhwng yr holl ddietegwyr gofal strôc hefyd er mwyn dosbarthu gwybodaeth am lwybrau Map Meddygaeth yn rheolaidd. Mae cyfraniad dieteteg i’r rhain ynghyd â gwybodaeth oddi wrth ddyddiau dysgu NLIAH.
Archwilio
Ar hyn o bryd, mae dietegwyr yn ymwneud ag archwiliadau Offer Sgrinio Diffyg Maeth yn unol â chanllawiau RCP ac mae offeryn archwilio wedi’i ddatblygu i archwilio arfer dietegol cleifion strôc sydd â diffyg archwaeth/ yn colli pwysau, y rhai sy’n derbyn dietau wedi’u haddasu’n gyson a’r rhai sy’n cael eu bwydo o hyd yn unol â Chanllawiau Penodol Proffesiwn RCP diweddar a chanllawiau bwydo â thiwb yr ymddiriedolaeth.
Datblygwyd safle mewnrwyd yr ymddiriedolaeth fel pwynt canolog ar gyfer dosbarthu canllawiau, ymchwil, cyrsiau a manylion cyswllt ar gyfer dietegwyr o fewn gofal strôc.
