Ymateb ysgrifenedig gan Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i Ganiatâd Tybiedig i Roi Organau
Medi 2008
Crynodeb Gweithredol
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried nad yw adroddiad y Pwyllgor yn adlewyrchu’n ddigonol y dystiolaeth a dderbyniodd o ran cryfder y farn a fynegwyd mewn perthynas â chaniatâd tybiedig ac yn ogystal nid yw’r adroddiad yn cydnabod rhai o’r camau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â rhoi a thrawsblannu organau.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i weld gwelliannau i’r gwasanaethau a’r seilweithiau sy’n cefnogi rhoi a thrawsblannu organau er budd pobl Cymru. Y mae eisoes wedi dangos cefnogaeth i argymhellion Tasglu Rhoi Organau’r DU ac mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu Grŵp Gweithredu Rhoi Organau Cymru er mwyn cadw llygad ar y broses o roi’r argymhellion hynny ar waith ac mae wedi penodi Dr George Findlay, ymgynghorydd mewn meddyginiaeth gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, yn Gadeirydd ar y grŵp.
Isod y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi ei hymateb i argymhellion unigol yr Adroddiad.
Mae ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad wedi’u nodi isod:
Caniatâd Tybiedig
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Na ddylai’r Cynulliad, ar hyn o bryd, geisio Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol er mwyn cyflwyno system, o ganiatâd tybiedig yng Nghymru.
Ymateb: Gwrthod
Sylw:
Cred Llywodraeth Cynulliad Cymru ei bod hi’n rhy gynnar i benderfynu peidio â cheisio Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar hyn o bryd. Nid oedd y Pwyllgor yn gwrthod caniatâd tybiedig mewn egwyddor ac i’r perwyl hwn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu parhau i ystyried Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.
Bydd yn gwneud hynny yn unol â’r ddadl gyhoeddus barhaus ar y mater yng Nghymru ac mae’n edrych yn ofalus ar y ffordd orau o fynd ati i ddarganfod barn y cyhoedd a chodi hyd yn oed mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am roi organau. Bydd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn ystyried yn ofalus cyngor ac argymhellion Tasglu’r DU, yn dilyn ei ymchwiliad i ganiatâd tybiedig. Bydd yr argymhellion yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.
Pan ddaw dealltwriaeth glir am farn y cyhoedd yng Nghymru am ganiatâd tybiedig, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried yr angen i newid y ddeddfwriaeth.
Goblygiadau ariannol:
Byddai’n rhaid datrys goblygiadau ariannol unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig a allai godi yn y dyfodol ar yr adeg honno.
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Dylid defnyddio system "feddal”, lle yr ymgynghorir ag anwyliaid ac ystyrir eu barn, mewn unrhyw ystyriaeth fanwl o ddeddfwriaeth i gyflwyno caniatâd tybiedig yng Nghymru neu yn y DU.
Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Sylw:
Pan ddaw dealltwriaeth glir am farn y cyhoedd yng Nghymru am ganiatâd tybiedig, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried yr angen i newid y ddeddfwriaeth.
Goblygiadau ariannol:
Byddai’n rhaid datrys goblygiadau ariannol unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig a allai godi yn y dyfodol ar yr adeg honno.
Materion yn ymwneud â chapasiti
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Mewn disgwyliad am ragor o organau’n cael eu rhoi yn sgil argymhellion Tasglu Rhoi Organau’r DU, y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu capasiti trawsblaniadau yng Nghymru i weld a oes modd cyfiawnhau ehangiad pellach. Dylai unrhyw adolygiad ystyried hyfywedd posibl cyfleusterau sydd wedi’u lleoli’n rhanbarthol yn ogystal â Chaerdydd.
Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Sylw:
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi bod yr adroddiad yn cydnabod y cyllid canolog a ddaw ar gyfer uned benodedig ar gyfer trawsblannu arennau yn Ne Cymru. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i adolygu’r capasiti trawsblannu ac mae’n ystyried, fel rhan o’r broses o gynllunio’r gyllideb, y posibilrwydd o roi mwy o arian ar gyfer y seilwaith yn ogystal ag ymateb i bwysau o gyfeiriadau eraill.
Disgwylir y bydd y defnydd a wneir o’r uned benodedig newydd ar gyfer trawsblannu arennau yng Nghaerdydd a pharhad y defnydd a wneir o Lerpwl a Manceinion ar gyfer trawsblannu arennau i gleifion yng Ngogledd Cymru, yn cynnig y capasiti i drawsblannu arennau i oedolion gan sicrhau’r cynnydd o 50% yn nifer y trawsblaniadau a ragwelir gan Dasglu Rhoi Organau’r DU.
Bydd cleifion o Gymru sydd angen trawsblaniad organau heblaw'r arennau (sef y galon, yr ysgyfaint a’r afu) a phlant sydd angen trawsblaniad arennau yn parhau i gael eu trawsblaniadau mewn canolfannau arbenigol yn Lloegr hyd y gellir rhagweld. Y rheswm dros hyn yw’r mas critigol sydd ei angen o ran niferoedd y triniaethau trawsblannu er mwyn sicrhau diogelwch arferion clinigol. Mae hyn hefyd yn cyfyngu ar y posibilrwydd o ehangu gwasanaethau trawsblannu arennau i ganolfannau eraill yng Nghymru. Dengys tystiolaeth glinigol bod cynnydd yn nifer y trawsblaniadau fel arfer yn arwain at ganlyniadau gwell yn ogystal â’r ffaith bod y galw yn lleol am drawsblaniadau yn debygol o fod yn fach. Mae’n fwriad hefyd ehangu’r seilwaith ar gyfer y trawsblaniadau hyn y tu allan i Gymru er mwyn gallu sicrhau’r cynnydd o 50% yn nifer y trawsblaniadau a ragwelir gan Dasglu Rhoi Organau’r DU.
Goblygiadau ariannol:
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried cynyddu nifer y gwelyau uned gofal dwys yng Nghymru er mwyn helpu i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael ar gyfer trawsblaniadau ochr yn ochr â goblygiadau ehangach gwneud hyn.
Ymateb: Gwrthod
Sylw:
Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cydnabod bod yna faterion y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy mewn perthynas â Gofal Critigol yng Nghymru. Mewn llythyr diweddar gan y Gweinidog (EH/ML/008/08), y mae wedi amlinellu rhaglen weithredu er mwyn i’r GIG ei rhoi ar waith dros y tair blynedd nesaf.
Er efallai y bydd angen cynyddu nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru, mater sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, nid yw’r Gweinidog yn credu mai cynyddu nifer y gwely mewn Unedau Gofal Dwys yw’r ateb ar gyfer cynyddu nifer y rhai sy’n rhoi organau. Yn hytrach, codi ymwybyddiaeth ymhlith clinigwyr yw’r cam allweddol fel ag a nodwyd yn adroddiad Tasglu’r DU. Mae tystiolaeth yn bodoli sy’n dangos bod nifer fawr o roddwyr organau posibl yn cael eu diystyru ar hyn o bryd. Dylai codi ymwybyddiaeth glinigol a chynyddu camau gweithredu cefnogol sicrhau bod nifer presennol y bobl sy’n rhoi organau yn codi.
Goblygiadau ariannol:
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol. Y mae’r Pwyllgor yn argymell:I’r graddau y mae’n gyfrifol am hynny, y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithredu argymhellion y Tasglu yn llawn yng Nghymru fel mater o frys.
Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Sylw:
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi dangos ei chefnogaeth i argymhellion Tasglu’r DU ac mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu Grŵp Gweithredu Rhoi Organau Cymru er mwyn cadw llygad ar y broses o roi’r argymhellion hynny ar waith ac mae wedi penodi Dr George Findlay, ymgynghorydd mewn meddyginiaeth gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, yn Gadeirydd ar y grŵp. Mae’r Gweinidog eisiau sicrhau bod y broses weithredu yn cael ei harwain gan glinigwr a bod safbwyntiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar roi organau yn cael eu cynrychioli’n llawn ac yn dylanwadu’n briodol ar yr agenda rhoi a thrawsblannu organau ar lefel y DU gyfan.
Goblygiadau ariannol:
Amcangyfrifir mai cost y broses o roi argymhellion Tasglu’r DU ar waith yng Nghymru yn 2009-10 fydd £1.8miliwn. Bydd angen ystyried y costau hyn yn ogystal â phwysau o gyfeiriadau eraill wrth bennu’r gyllideb iechyd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Y mae’r Pwyllgor yn argymell: Bod Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau bod rhaglen hyfforddi gynhwysfawr yn cael ei datblygu i wneud y gwelliannau y mae eu hangen i’r hyfforddiant fel bod gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn sicrhau bod argymhellion y Tasglu yn cael eu gweithredu’n gywir.Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Sylw:
Bydd angen i’r Grŵp Gweithredu Rhoi Organau Cymru, sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn arwain a chadw llygad ar y gwaith o roi argymhellion Tasglu’r DU ar waith, ystyried anghenion hyfforddi y gweithwyr iechyd proffesiynol.
Goblygiadau ariannol:
Amcangyfrifir mai cost y broses o roi argymhellion Tasglu’r DU ar waith yng Nghymru yn 2009-10 fydd £1.8miliwn. Bydd angen ystyried y costau hyn yn ogystal â phwysau o gyfeiriadau eraill wrth bennu’r gyllideb iechyd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Materion gweithredol
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Bod Llywodraeth y Cynulliad yn enwi UK Transplant (UKT) fel corff y mae’n ofynnol iddo baratoi Cynllun Iaith Gymraeg o dan Ddeddf Iaith Gymraeg 1993.
Ymateb: Derbyn
Sylw:
Mae hyn eisoes yn digwydd. Mae Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, y mae UK Transplant yn is-adran weithredol ohono, wedi’i restru fel corff cyhoeddus o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 drwy rinwedd y ffaith ei fod yn un o Awdurdodau Iechyd Arbenigol Cymru a Lloegr. Mae ganddo Gynllun Iaith Gymraeg a luniwyd mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith.
Goblygiadau ariannol:
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu, gyda UKT, sut y mae’n gweithredu er mwyn sicrhau bod ganddi ganolbwynt amlwg yng Nghymru ac ar faterion sy’n benodol i Gymru.
Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Sylw:
Byddwn yn cynnal trafodaethau gyda UK Transplant i drafod sut y mae’n gweithredu mewn perthynas â Chymru yng nghyd-destun ad-drefnu’r GIG, ynghyd â’r ffordd y mae’n rhyngweithio gyda’r Grŵp Gweithredu Rhoi Organau Cymru. Mae’r broses o sefydlu’r grŵp Gweithredu yn mynd rhagddi gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn arwain a chadw llygad ar y gwaith o roi argymhellion Tasglu’r DU ar waith .
Goblygiadau ariannol:
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Dylai Llywodraeth y Cynulliad adolygu ei chyfraniad ariannol i UKT er mwyn sicrhau bod cyllid wedi’i alinio â gwasanaethau a ddarperir i ddiwallu anghenion Cymru.
Ymateb: Derbyn
Sylw:
Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i swyddogion adolygu’r arian y mae Cymru eisoes yn ei roi i UK Transplant. Bydd canlyniadau’r adolygiad hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer y trafodaethau fydd yn cael eu cynnal gyda UK Transplant o ran sut y mae’n gweithredu mewn perthynas â Chymru â’r rôl y dylai ei chwarae wrth gefnogi’r gwaith o roi argymhellion Tasglu’r DU ar waith yng Nghymru.
Goblygiadau ariannol:
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.
Codi Ymwybyddiaeth y Cyhoedd
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Bod Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal gwerthusiad llawn o’r ymgyrch cyhoeddusrwydd Dywed wrth rywun agos g
yda’r nod o naill ai ehangu’r ymgyrch neu ei datblygu drwy raglen gyson o ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Sylw:
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn pa mor bwysig yw cynnal gwerthusiad o’r ymgyrch Dywed
wrth rywun
agos
. Serch hynny, mater yw hwn i Sefydliad Arennau Cymru a’r elusennau eraill sydd wedi arwain yr ymgyrch. Ymddengys bod yr ymgyrch Dywed wrth rywun agos wedi bod yn llwyddiant mawr yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y materion sy’n gysylltiedig â rhoi organau. Caiff yr ymgyrch ei gwerthuso er mwyn ystyried yr effaith ar nifer y rhai sydd wedi cofrestru i roi organau a nifer y teuluoedd sy’n gwrthod rhoi organau anwyliaid ar ôl iddynt farw. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio’n agos gyda’r sector elusennol yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn cynnal momentwm yr ymgyrch ynghyd â’i datblygu. Yn ogystal, nod y ddadl gyhoeddus a gynlluniwyd er mwyn trafod mater caniatâd tybiedig bydd cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth am nifer o faterion sy’n ymwneud â rhoi organau.
Goblygiadau ariannol:
Caiff unrhyw gyfraniadau ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad i ymgyrchoedd yn y dyfodol eu hystyried ar yr adeg honno.
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Dylid rhoi sylw penodol i anghenion cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd yn y dyfodol a sut y gellir gwella’r gyfradd rhoi organau ymhlith lleiafrifoedd ethnig.
Ymateb: Derbyn
Sylw:
Yn sgil y gwerthusiad o’r ymgyrch bresennol, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydweithio’n agos â’r sector elusennol er mwyn sicrhau bod unrhyw ymgyrchoedd yn y dyfodol yn gwneud y mwyaf o bob cyfle i gynnwys grwpiau sydd fel arfer yn anodd eu cyrraedd, megis grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc. Mae gan UK Transplant gynlluniau yn eu lle yn barod sy’n targedu’n benodol grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc ledled y DU.
Goblygiadau ariannol:
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol ar hyn o bryd, ond efallai y bydd goblygiadau ariannol yn codi pan gaiff ymgyrchoedd eu hystyried ar gyfer y dyfodol.
Y mae’r Pwyllgor yn argymell:Bod Llywodraeth y Cynulliad yn archwilio sut y gall cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru roi cyhoeddusrwydd i’r Gofrestr Rhoi Organau a Chardiau Rhoddwyr yn eu gwaith pob dydd, yn cynnwys y posibilrwydd o ychwanegu linc amlwg i wefan y Gofrestr Rhoi Organau ar eu gwefannau.
Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Sylw:
Mae’r ymgyrch Dywed
wrth rywun agos eisoes wedi targedu’r sector cyhoeddus. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i adolygu’n rheolaidd pa gamau gweithredu pellach y gellir eu cymryd er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth am y Gofrestr Rhoi Organau. Gallai camau o’r fath gynnwys gweithio gyda’r undebau llafur i hyrwyddo ymgyrchoedd yn y gweithle ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â defnyddio gwefannau yn effeithiol.
Goblygiadau ariannol:
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol ar hyn o bryd, ond efallai y bydd goblygiadau ariannol yn codi pan gaiff ymgyrchoedd eu hystyried ar gyfer y dyfodol.
