Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Adroddiad ar Gyllideb Ddrafft yr Adran Materion Gwledig

Rhagfyr 2010

1. Cyfarfu’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar 25 Tachwedd i ystyried cyllideb ddrafft yr Adran Materion Gwledig, a gyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 2010.

2. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig; Rory O’Sullivan, Cyfarwyddwr Materion Gwledig; a Dean Medcraft, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid y grwp Dyfodol Cynaliadwy.

3. Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad a rhagor o wybodaeth am y pwyntiau a ganlyn yn ystod ei sesiwn graffu â’r Gweinidog:

  • Prif flaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer arian refeniw a chyfalaf yn y gyllideb;

  • Meysydd lle mae’r Gweinidog wedi gwneud toriadau neu arbedion effeithlonrwydd yn y gyllideb Materion Gwledig;

  • Arbedion posibl y gellid eu gwneud drwy’r adolygiad o gyrff sy’n darparu gwasanaethau amgylcheddol;  

  • Yr ystyriaeth a roddwyd i sicrhau bod y gyllideb yn darparu cyfleoedd i bawb;

  • Ceisiadau gan yr Adran Materion Gwledig i’r rhaglenni Buddsoddi i Arbed ac Effeithlonrwydd ac Arloesi;

  • Cyllido taliadau iawndal ar gyfer TB;

  • Rheoli adnoddau yn y gyllideb Glastir;

  • Cyllido’r gwaith o hybu bwyd a diod yng Nghymru.

4. Yn dilyn y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog, mynegwyd pryder gan y Pwyllgor ynghylch y meysydd a ganlyn. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog a llywodraethau’r dyfodol yn ceisio mynd i’r afael â’r pwyntiau hyn:

  • Dywedodd y Gweinidog ei bod yn debygol y bydd gorwariant yn y gyllideb hon, gan fod taliadau iawndal ar gyfer TB yn seiliedig ar alw. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn addasu’r gyllideb hon, yn unol ag amcangyfrifon gorau a gwariant mewn blynyddoedd blaenorol, er mwyn adlewyrchu lefelau gwirioneddol taliadau iawndal ar gyfer TB. Cred y Pwyllgor y bydd hyn yn tynnu sylw at wir natur y broblem TB yng Nghymru, yn ogystal â chaniatáu craffu mwy manwl gywir ar y gyllideb.

  • Er bod y Gweinidog wedi ymroddi i ddiogelu cyllid ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig, ni wnaeth ymroddi i gynnal cyllideb Glastir ar y lefel bresennol. Hoffai’r Pwyllgor gael sicrwydd gan y Gweinidog y bydd yr arian ar gael ar gyfer Glastir yn y tymor hwy.

  • Roedd y Pwyllgor yn bryderus iawn bod y Gweinidog wedi penderfynu gwneud toriadau i’r gyllideb ar gyfer marchnata bwyd a diod, ond roedd yn galonogol i’r Pwyllgor glywed bod y Gweinidog yn ystyried rôl y grant  prosesu a marchnata o fewn y Cynllun Datblygu Gwledig. Mae’r Pwyllgor yn annog y Gweinidog i symud ymlaen yn y broses o dderbyn ceisiadau newydd i’r grant hwn, er mwyn lleihau effaith toriadau yn y maes.

  • Er bod y Gweinidog yn teimlo’n hyderus y gellid canfod goblygiadau ariannol y ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch bridio cwn o fewn ei chyllideb, dywedodd ei bod yn bosibl y daw rhagor o oblygiadau o ran adnoddau i’r amlwg drwy’r broses o ymgynghori ar y ddeddfwriaeth.  Byddai’r Pwyllgor yn croesawu rhagor o wybodaeth ar oblygiadau’r ddeddfwriaeth hon o ran adnoddau fel y maent yn dod i’r amlwg. Mae’r Pwyllgor yn annog y Gweinidog i ystyried hyn yn rowndiau cyllideb y dyfodol.

  • Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor y byddai arian cyfatebol ar gyfer Cronfa Pysgodfeydd Ewrop - sy’n rhoi grantiau i unigolion yn y diwydiant pysgota - yn cael ei ddiogelu er gwaethaf y toriadau i’r gyllideb fwyd a physgodfeydd. Fodd bynnag, ni roddodd y Gweinidog wybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch sut y mae’r gyllideb wedi cynnwys y cyfrifoldebau ychwanegol am bysgodfeydd, a roddwyd i’r Gweinidog gan y Ddeddf Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Mae’r Pwyllgor yn annog y Gweinidog i amlinellu’n fanylach sut y bydd cyfrifoldebau ychwanegol hyn yn cael eu cynnwys yn y gyllideb.

5. Yn ychwanegol at y pwyntiau uchod ar gyllideb yr Adran Materion Gwledig, roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu - o safbwynt ehangach - ynghylch y defnydd o danwario o fewn cyllidebau i dalu taliadau iawndal, a’r effaith y gallai hyn ei gael ar y broses o graffu ar y gyllideb yn effeithiol. Mae’r Pwyllgor yn deall ac yn cefnogi’r angen am hyblygrwydd mewn cyllidebau, ond mae’r posibilrwydd o newid blaenoriaethau gwleidyddol drwy gynllunio tanwario mewn rhai meysydd i wrthbwyso rhai eraill yn peri pryder iddo. Mae’r arfer hwn yn ei gwneud yn anodd craffu ar flaenoriaethau gwariant o fewn adrannau, gan ei bod yn bosibl na fydd y pwyslais ar wariant yn y gyllideb yn adlewyrchu gwir flaenoriaethau’r adran.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help