Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig

Ymchwiliad i les anifeiliaid a hylendid cig

Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal ymchwiliad i les anifeiliaid a hylendid cig mewn lladd-dai yng Nghymru.

Bwriad ymchwiliad y Pwyllgor yw asesu effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer sicrhau safonau o ran hylendid cig a lles anifeiliaid mewn lladd-dai, ac ystyried pa gamau pellach, os o gwbl, y gellid eu cymryd i sicrhau y caiff y ddeddfwriaeth berthnasol ei gweithredu’n iawn.

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn cynifer o bobl sydd â diddordeb yn y pwnc â phosibl a hoffai eich gwahodd i gyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau a geir yn yr atodiad sydd ynghlwm.

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r dystiolaeth ysgrifenedig a’r dystiolaeth lafar a roddir mewn cyfres o gyfarfodydd a gynhelir ar ddechrau 2010, er mwyn craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â’r mater hwn, a chyflwyno argymhellion iddi. Cynhelir y cyfarfodydd yn gyhoeddus a byddant hefyd i’w gweld ar Senedd TV, sydd ar gael drwy ein gwefan. Hefyd, cyhoeddir trawsgrifiad gair am air o bob gwrandawiad. Caiff yr holl dystiolaeth ysgrifenedig ei chyhoeddi ar ein gwefan (yn amodol ar yr ymwadiad ar ddiwedd yr atodiad sydd ynghlwm).

Gan ein bod yn awyddus i glywed barn cynifer o bobl a sefydliadau â phosibl, a fyddech cystal ag anfon y llythyr hwn ymlaen at unrhyw un y credwch a hoffai ymateb. Gellir gweld copi electronig o’r llythyr hefyd ar ein gwefan yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-rd-home.htm  

Rydym yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynwch eich tystiolaeth ar ffurf electronig, os yw hynny’n bosibl.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Gwener, 8 Ionawr 2010 drwy ei hanfon at Aled Elwyn Jones, Clerc y Pwyllgor, yn:

ruraldev.comm@wales.gsi.gov.uk

Dylid anfon copïau caled i’r cyfeiriad sydd ar frig tudalen gyntaf y llythyr hwn.

Cwestiynau ymgynghori i’r ymchwiliad i les anifeiliaid a hylendid cig:

  • Pa mor effeithiol yw’r strwythurau gorfodi presennol ar gyfer safonau hylendid cig a lles anifeiliaid mewn lladd-dai?

  • Sut y dylid darparu trefniadau goruchwyliaeth filfeddygol mewn lladd-dai yng Nghymru?

  • Pa mor effeithiol yw’r berthynas rhwng y Gwasanaeth Hylendid Cig a’r diwydiant?

  • A allai Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd unrhyw gamau pellach i sicrhau y caiff y ddeddfwriaeth berthnasol ar hylendid cig a lles anifeiliaid ei gweithredu’n iawn mewn lladd-dai yng Nghymru?

Sylwer:

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help