Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig
Ymchwiliad i Ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn bwriadu cynnal ymchwiliad i Ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
Mae gan y Pwyllgor dri nod yn hyn o beth:
asesu effaith bosibl diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar Gymru a pha ganlyniadau fyddai'n fwyaf buddiol i Gymru;
cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch pa bolisïau y dylai alw amdanynt yn ystod y trafodaethau; a
dylanwadu ar y trafodaethau ar ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn sefydliadau Ewrop.
